Gwaith Samuel Roberts - 5

Total number of words is 5407
Total number of unique words is 1466
45.0 of words are in the 2000 most common words
62.9 of words are in the 5000 most common words
72.6 of words are in the 8000 most common words
Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
ofidus gennyf golli y fath denantiaid."
"Yr wyf yn ofni, my lord, os gwnawn blygu i ostwng y rhent iddynt hwy, y
deuwn ni i ddyryswch diderfyn gyda thenantiaid eraill."
"Wel, dichon y dylem ni adystyried achos yr holl denantiaid, ac y dylem
gymeryd rhyw sylw neillduol o'r rhai sydd wedi gwario a llafurio fwyaf
mewn gwelliantau."
"Na, yn wir, nid yn awr, my lord, os gallwn mewn modd yn y byd osgoi
hynny. Buasai yn dda iawn pe buasai mwy o ystyriaeth ac o bwyll yn bod
yn yr amser a aeth heibio, a phe buasai mwy o ymchwiliad yn cael ei wneyd
i draul a llafur tenantiaid mewn gwelliantau yn amserau rhai o'r
prisiadau a wnaethpwyd yn y blynyddoedd a aethant heibio,--ond nis gallwn
ni ddim galw yn ol yn awr yr adegau hynny. Y mae'r camgymeriadau a
wnaethpwyd yn awr yn hen. Y maent yn hen bethau wedi myned heibio. Nid
ellir dim eu galw yn ol yn awr. Y mae yn rhy ddiweddar yn awr i feddwl
am eu hadystyried. Y mae yr ymwthio am ffermydd yn parhau o hyd, yn
enwedig yr ymwthio am y ffermydd ag ydynt mewn trefn weddol o dda; ac yn
wir, nid wyf fi ddim yn meddwl, pe baem ni yn gostwng, ac yn gostwng
llawer i'r Carefuls, y gofynnent byth eto am Gilhaul Uchaf. Y mae cryn
ysbryd ymsymud ac ymfudo yn awr yn y wlad. Nis gwn yn sicr beth ddaw o
honi. Mae rhai tenantiaid yn dechreu myned braidd yn ystyfnig, ac yn wir
weithiau yn dafodog."
"Ydych chwi wedi addaw Cilhaul i ryw un?"
"Na, nac ydwyf, my lord, ddim wedi ei haddaw; ond yr ydwyf, my lord, bron
cystal a bod wedi ei haddaw i Mr. a Mrs. Jacob Highmind. Y maent yn bobl
ieuainc bywiog, boneddigaidd, gwetlhgar, diolchgar, yn geraint i
deuluoedd Eglwysig, o egwyddorion ystwyth, plygadwy, conserva-toriaidd. Y
mae ganddynt ddigon o arian at eu llaw, ac y maent yn debyg o drin yn dda
ragorol, mewn dull fydd yn enw ac yn elw i'r estate: a'r hyn sydd o
braidd fwy pwys na dim ydyw, y cawn ni glywed yn ddistaw o bryd i bryd yr
oll fydd yn cael ei ddweyd a'i wneyd yn yr ardal. Gallaf sicrhau i chwi,
my lord, fod yr Highminds yn bobl barchus iawn. Y maent yn perthyn dipyn
i deulu dylanwadol y Sliminds. Yr wyf yn addef fod y Carefuls yn bobl
ddiwyd, geirwir, ymdrechgar, cymydogol; ond y maent yn GAPELWYR pur
dynion."
"Wel, beth er hynny, yr oedd eu hynafiaid yn gapelwyr tynion, ond yr
oeddynt yn denantiaid rhagotol."
"Ie, dichon eu bod, my lord, ond nid oedd y tadau ddim mor ystyfnig, ddim
yn agos mor dynion, a'r bobl yma. Nid yw y bobl yma ddim yn myned i'r
Eglwys hyd yn nod a'r wyl y Groglith, nac ar Sul y Pasg, nac ar ddydd lau
y Dyrchafael, nac ar ddydd Nadolig ein Harglwydd, na dydd puredigaeth y
fendigedig; forwyn, na dydd y santeiddlan wirioniaid, na dydd cydfrad y
Papistiaid, na dydd merthyrolaeth y brenin Siarles, na dydd adferiad y
brenhinol deulu, na dydd St. Bartholomeus, na dydd St. Andreas, nac un
dydd gwyl arall."
"Da iawn genyf eich bod chwi a'm stewardiaid eraill yn meddwl mor barchus
am ordinhadau crefydd, ac yn dwyn y fath sel dros yr Eglwys. Diau eich
bod yn cael ymgeledd gwerthfawr i'ch cyflwr ar ei gwyliau santaidd.
Attolwg, a fuoch chwi yn yr Eglwys ar y gwyliau a enwasoch?"
"Beth, my lord, ddarfu i chwi ofyn yn awr?"
"Gofyn a fuoch chwi yn yr Eglwys ar wyl y Groglith, ac ar wyl y Pasg?"
"Y Groglith a'r Pasg ydych chwi yn ddweyd, my lord?"
"Wel, ie, y Groglith a'r Pasg. A fuoch chwi yn yr Eglwys y dyddiau
hynny?"
"Y Groglith a'r Pasg! jaist,--gadewch i mi gofio? Yn--yn--yn yr
Eglwys;--naddo, jaist, my lord, darfu i mi ddarllen y llithiau a'r
gweddiau gartref foreu Sul y Pasg; ac yr oedd acw dipyn o'r tannau ac o'r
dawns gan y bobl ieuainc acw ddydd y Groglith; ac yr oedd eu mam am i mi
aros gartref gyda hwy."
"Wel, fuoch chwi yn yr Eglwys wyl y Dyrchafael?"
"Yn wir, my lord, y mae hynny yn rhy anhawdd i mi gofio yn awr."
"Wel, fuoch chwi yn yr Eglwys y Sul diweddaf?"
"Y Sul diweddaf--aroswch chwi, pryd yr oedd hynny hefyd;--na, jaist, my
lord, yr oeddwn i yn bur gwla gan gur yn fy mhen ar ol cinio lled hwyr y
dydd Sadwrn o'r blaen. Yn wir-ionedd-i, my lord, yr oeddwn i wedi hollol
fwriadu myned i'r biegeth fore gwyl merthyrolaeth Sant Siarles, oblegid
yr oeddwn i am gael clywed pregeth yn iawn ar y testun hynny; ond yr oedd
hi mor ofnadwy o oer, fel y gwyddoch chwi, yn niwedd Ionawr, fel y buasai
yn ddigon am fywyd undyn i fyned i'n Heglwys ni y bore hwnnw. Yr wyf fi,
my lord, yn ceisio myned i'r Eglwys bob amser ag y gallaf, ond gwyddoch
ei bod yn llawer haws i'r tenantiaid fyned nag ydyw i mi fyned. Nid oes
ganddynt hwy ddim gofalon i'w rhwystro, ac y maent yn ddigon cryfion i
ddal pob tywydd; ac y maent yn medru myned i'w cyrddau eu hunain pan y
mynnant."
"Dywedasoch chwi gynnau nad oedd tadau y Careful ddim yn gapelwyr mor
dynion ag ydynt hwy."
"Do, my lord, mi ddywedais hynny, ac yr wyf fi yn credu hynny; ac y mae
eich lady chwi a gwraig y person hefyd yn dweyd ac yn meddwl yr un peth,
ac y maent am i mi arfer awdurdod fy sefyllfa i'w plygu i fyned i'r
Eglwys: ac yn wir, yr wyf fi yn credu, my lord, y dylid eu plygu --eu bod
hwy yn llawer mwy cyndyn nag oedd eu tadau."
"Nid doeth fyddai i ni fyned i ddadl ar beth fel hyn; ond yr wyf fi yn
credu eich bod chwi yn cam-gredu. Yr wyf fi yn credu fod y tadau yn
llawn mor dynned anghydffurfwyr a neb sydd i'w cael yn awr. Y mae yn
ffaith, yn ffaith ag sydd ar gof a chadw hyd heddyw, i geidwad parc fy
hen-hen-dad cu gyduno a bwtler Judge Jeffry i gasglu mob o hogiau, hogiau
mawrion; ac yr oedd rhai o honynt yn hogiau penlas, clun-gloff, a
gwargam, i luchio hen-hen-dad cu y Carefuls ag wyau gorllyd, pan oedd yr
hen wr yn myned i'w gapel bychan wrth Droed y Foel un bore Sabbath; ac yr
ydys yn gwybod hefyd i geidwad y parc a'r bwtler gael eu cymhell a'u
cynhyrfu i fynnu y sport hynny gan rywbeth a ddywedwyd ar frecwast yn nhy
y Judge y bore hwnnw; a gallaf ddywedyd i chwi yn mhellach fod capelydd y
Judge, a rector y plwyf, a'u gwragedd, yn brecwesla gyda'r Judge y bore
hwnnw: ac yr oedd y tair lady yn llawn bywyd, ac wrth eu bodd yn
cynorthwyo i dynnu cynllun sport yr wyau gorllyd; ac yr oeddynt oll ar y
pryd yn disgwyl y cerbyd i'w cario at gymun sanctaidd corff a gwaed y
Ceidwad wrth fwrdd allor yr Eglwys: ond aeth yr hen wr i'r capel drwy y
mob, a'r poeredd, a'r llaid, a'r wyau, a heibio i gerbyd y Judge, a bu
fyw a marw yn denant Cilhaul, ac yn gapelwr hefyd. Yr wyf fi yn credu
fod oes yr wyau gorllyd yn un llai creulawn tuag at anghydffurwyr nag
ydyw yr oes wengar foneddigaidd athrodaidd hon, pan y mae dynion da,
gonest, diwyd, dirodres, yn cael eu cyfrwyswthio o'u ffermydd o herwydd
eu syniadau crefyddol. Yr oedd y ceinioca gynt i brynnu wyau gorllyd yn
beth llawn mor deg ag ydyw defnyddio arian treth i rannu torthau gwynion;
ac yr wyf fi yn sicr ei fod yn dro llai bawaidd o'r hanner i luchio yr
hen-hen-dad cu ag wyau nag ydyw yn awr i wthio ymaith ei orwyr o'r ffarm.
Yr wyf yn deisyf arnoch ddyfod i ryw gytundeb a'r Carefuls. Y mae eu
tadau wedi bod yn ffyddlon i ni, ac yn ymdrechgar ar yr estate am lawer
oes. Ni fynnwn er dim golli y fath hen deulu. Er mwyn pob peth peidiwch
a gadael iddynt fyned i America."
Y newydd nesaf a glywodd teulu y Carefuls oedd fod y ffarm wedi ei gosod
i Mr. Jacob Highmind; ac felly darfu iddynt barotoi yn ddiwyd, ond yn
ddistaw, tuag at eu mordaith; a darfu i dros bymtheg ar hugain o
grefftwyr a llafurwyr goreu y gymydogaeth ymfudo ymaith gyda hwy.
Ychydig ddyddiau cyn eu hymadawiad, galwodd Mr. Careful yn swyddfa y
steward ar y Green; ond pan ydoedd yn sefyll wrth y drws, ac yn curo,
gwelodd y steward ochr ei wyneb drwy gil y ffenestr, a chyflym ymguddiodd
allan o'r swyddfa, gan roddi awgrym a'i fys ac a'i lygad i'r clercod i
ddweyd wrth John Careful ei fod ef oddicartref. Wrth glywed fod y
steward oddicartref, gofynnodd John Careful i'r clercod a oedd Mrs.
Steward gartref? Atebodd y clerc uchaf ei bod, ond ei bod wedi cael yr
influenza mor ddrwg fel nas medrai ddyfod o'i hystafell.
"Yr wyf yn meddwl eich bod yn camgymeryd," ebe'r hen ffarmwr dan ledwenu,
"oblegyd mi welais i ei gefn ef, ac mi welais ei hwyneb hithau y foment
yma i lawr yn y breakfast-room."
"Yn enw pob dyn," ebe'r clerc, "ond os ydynt hwy yn y breakfast-room,
dichon y daw ef i mewn yma bob yn dipyn: ellwch chwi aros nes y daw?"
"Nac allaf; nid oes genyf fi ddim busnes o ddim pwys ag ef yn awr. Yr
wyf fi wedi talu fy holl gyfrifon iddo, a'u talu oll yn eu diwrnod. Nid
oeddwn i ddim ond galw wrth y drws i roi fy nghompliments iddo with
ymadael. Gellwch chwi, os gwelwch yn dda, wneuthur hynny drosof fi; a
dywedwch wrtho, os pery business y stewardiaid i fyned wysg ei din, ac ar
i lawr, yn y wlad yma, fel y mae yn myned yn awr, y gwnaf fi fy ngoreu i
gael gwaith neu ffarm iddo yn America. Y mae business y stewardio wedi
gweithio ei hun allan yn hollol mewn parthau helaeth o'r Iwerddon, ac
mewn rhai conglau o Gymru a Lloegr hefyd; ac os bydd y steward, neu ei
hen weddw, neu rai o'i blant, yn dymuno i mi a'm plant chwilio am ffarm
dda iddynt yn y gorllewin pell, y gwnawn i unrhyw gymwynas felly iddynt
ag fydd yn ein gallu.
Yr oedd y steward a'i wraig yn y passage yn clywed yr ymddiddan yma; a
chydag i'r hen ffarmwr droi ei gefn o'r swyddfa, daeth y steward i mewn,
a dywedodd gyda swn gofid ei bod yn ddrwg iawn ganddo na buasai yn gofyn
i'r hen ddyn ddyfod i mewn i'r ty i gael gwydriad ffarwel. "Oblegid,"
meddai'r steward, "y mae John Careful mewn gwirionedd yn ffarmwr da, ac y
mae ei blant yn rhai pur weithgar, a'r unig beth oedd yn eu gwneyd mor
atgas yn ein ty ni, gyda Mrs. Steward, a'r plant yn enwedig, oedd eu bod
mor ystyfnig, a braidd yn dafodog, os tybient eu bod yn cael eu gwasgu."
Gydag i'r Carefuls gymeryd llong a hwylio ymaith, gwahoddodd Mrs. Steward
y tenant newydd a'i wraig i ddyfod i'r Green i de. Yr amcan o hynny,
mewn enw, oedd i'r steward a'i deulu gael cyfle i roddi cyfarwyddiadau i
Mr. a Mrs. Highmind gyda golwg ar driniad dyfodol Cilhaul Uchaf; ond yr
amcan mewn gwirionedd oedd i deulu y steward gael gwybod teimladau a
syniadau a dywediadau y cymydogion gyda golwg ar wthiad ymaith y Carefuls
o'u ffarm. Adroddodd Mr. a Mrs. Highmind wrthynt bob peth oeddynt wedi
glywed gan bawb; a threuliwyd dwy awr a hanner felly yn bur ddifyr i
redeg dros holl helynt yr holl gymydogion. Gwyddai Jacob Highmind yn bur
dda am ragfarn teulu y steward yn erbyn rhyw bump neu chwech o'r
cymydogion, a gwyddent hefyd yn eithaf da pa fodd i borthi y rhagfarn
hwnnw; a buont yn bur llwyddianus i goginio i'r stewart a'i deulu wledd o
athrod o'r fath a garent; a phan oeddynt ar gychwyn adref o'r Green,
crybwyllodd y steward yn bur siriol wrthynt ei fod ef am ailwneyd aelwyd
y parlwr a phapuro y muriau, a'i fod am seilio y lofft wely oreu, a
helaethu ei ffenestr; a'i fod am wneuthur back-kitchen newydd iddynt, a
symud y grisiau o ochr y kitchen i dalcen uchaf y back-kitchen; a'i fod
am wneyd ffwrn a chodi boiler yn nhalcen isaf y back-kitchen; ac y mynnai
fflagio y seler; ac y caent dy bach mawr y tuhwnt i'r twyn ffebrins
pellaf yn yr ardd; ac y mynnai droi y pistyll o'r tu wyneb i'r tu cefn
i'r ty, heibio i ddrws y back-kitchen; a'i fod heblaw hynny yn cynllunio
amryw gyfleusderau eraill iddynt; ac ychwanegodd gyda wyneb pur siriol ei
fod yn disgwyl y gwnaent yn dda yn Nghilhaul Uchaf. "Oblegid," meddai
ef, "y mae yn ffarm bur helaeth; ac, a dweyd y gwir i chwi yn ddistaw, y
mae y Carefuls wedi ei gadael yn y drefn oreu, ac yn y galon oreu. Mewn
un gair, yr oedd yn amhosibl iddynt ei gadael mewn cyflwr gwell."
Ymadawodd Mr. a Mrs. Highmind o'r Green mewn ysbrydoedd pur uchel, a
chydymroisant yn egniol i ddechreu ffarmio; ond buont dipyn yn anlwcus yn
newisiad eu gwasanaeth-ddynion. Nid oedd y bugail ddim yn un rhy graff,
na rhy gyflym, na rhy ofalus; ac nid rhyw law wastad iawn oedd gan yr
aradrwr--byddai ei gwlltwr yn bur fynych ar wyneb y tir, wedi cael ei
wthio allan gan garreg--neu ynte byddai yn glynu ac yn plygu ar y graig
ddu ag oedd yn waelod i dros hanner tyddyn Cilhaul; ac yr oedd yn hoff
iawn hefyd o we hir y pum ceffyl, ac o'r hwshings, a'r martingals, a'r
mwng ribanawg, a'r cynffonau plethedig. Ac yr oedd y cow-man a'r laeth-
forwyn yn bur hoff o fod gyda'u gilydd yn mhob man y gallent; a deallwyd
bob yn dipyn ei bod hi yn colli gryn lawer o'r llaeth os digwyddai ef fod
yn agos. A'r hyn oedd yn waeth na'r cyfan, dechreuodd Mrs. Highmind gael
ei blino yn fawr yn y boreuau gan anhwylderau y cylla: a chafodd anwyd
trwm iawn un bore wrth hebrwng y buchod o'r fuches i'w porfa, drwy fod ei
hesgidiau braidd yn deneuon, a'r gwlith heb godi, a dichon iddi gael
ychydig o gnau yn y gwrych wrth ddyfod adref. Beth hynnag, gorfu iddynt
gyflogi nurse o gryn fedr ac o gryn brofiad, ac yr oedd galwad hefyd ar
Mr. Highman i fod yn y ty y rhan fwyaf o'i amser ymhell cyn, ac ymhell
wedi, gorweddiad i mewn Mrs. Highmind; a phan y daeth rhybudd am y
diwrnod rhent, deallodd ei fod yn fyr o ddeg punt ar hugain, a galwodd yn
union gyda'i hen ewythr Thomas ap Owen i ddweyd ei gwyn wrtho--ei fod
wedi myned i gryn draul yn y chwe mis diweddaf i ddodrefnu y ty a phethau
eraill; fod y steward wedi adnewyddu a chrynhoi llawer iawn ar y ty, a'i
fod yntau wedi prynnu soffa, a bwrdd mahogani, a chadeiriau mahogani, i'r
parlwr, a drych mawr uwchben y tan; a'i fod hefyd wedi cael gwely
mahogani, a dodrefn gwely i gyfateb i'r ystafell uwchben y parlwr; a'u
bod wedi cael gwely newydd, a chist-ddillad fawr dda iawn, i'w hystafell
ei hunain, a llawer o bethau newyddion eraill. Gofynnodd ei hen ewythr
iddo braidd yn sydyn a oedd efe wedi prynnu y pertiant torri gwellt, a'r
peiriant chwalu clapiau, ag oedd ef wedi son am brynnu. Atebodd yntau
nad oedd--nad oedd yn wir ddim wedi gallu eu prynnu, fod treuliau
meddygol a theuluaidd wedi chwyddo i fyny i fwy nag oedd efe wedi allu
rag gyfrif; a'i fod o herwydd hynny wedi methu prynnu amryw bethau ag yr
oedd eu mawr eisiau tuag at wasanaeth y ffarm. Dywedodd ei hen ewythr
wrtho y gallai roddi benthyg pum punt ar hugain iddo am bum mis, ond nad
allai roddi dim ychwaneg iddo; ei fod ef yn fynych mewn prinder ei hun;
ei fod yn gorfod rhoddi llog hynny o arian oedd ganddo wrth gefn i wneyd
i fyny y rhent; a bod yn rhaid iddo gael y pum punt ar hugain yn ol cyn
Gwyl Fair. Yr oedd Mr. Highmind yn ddiolchgar iawn i'w hen ewythr am ei
gymwynas, a sicrhaodd wrtho y gofalai am dalu yn ol mewn amser prydlawn.
Trwy gael benthyg fel hyn gan ei ewythr, casglodd ddigon rywfodd i dalu
ei rent Gwyl Fihangel. A thoc, toc, toc, bion fel breuddwyd, dyma ddydd
rhent Gwyl Fair yn dyfod ar ei warthaf, ac yr oedd Mr. Jacob Highmind
druan yn gwbl amharod i dalu yn ol i'w ewythr, nac i dalu i'w arglwydd
tir nac i'r gweision. Yr oedd wedi talu ei dreth tlodion, a'r degwm, a'r
dreth Eglwys, a threth y gig a'r cwn, a dyna y cyfan; ac felly aeth
eilwaith at ei hen ewythr, ac eglurodd ei amgylchiad iddo, ac erfyniodd
arno fyned gydag ef i'r banc i fod yn feichiau yno drosto am bedwar ugain
punt. Yr oedd yn bur anhawdd gan yr hen ewythr fyned gydag ef i'r banc,
ond aeth o'i led anfodd; oblegid yr oedd yn gweled mai dyna oedd yr unig
ffordd iddo gael ei bum punt ar hugain yn ol y pryd hynny. Pan oeddynt
ill dau yn y banc, rhoddodd Highmind rywfodd na'i gilydd awgrym distaw
i'r bancer i dynnu y draft am gant a deg, yn lle am bedwar ugain; a chyn
pen yr hanner blwyddyn, yr oedd tymhor rhediad y drafft hwnnw ar ben, a'r
trydydd dydd rhent wrth y drws; a gorfu Highmind druan werthu y pigion
o'i stoc er ad-dalu y drafft hwnnw a'i logau yn y banc, ac er cyfarfod
talion eraill yr hanner blwyddyn hynny. Daethstori y banc, a gwerthiad
anamserol colledfawr cymaint o stoc Cilhaul, bob yn dipyn i glustiau y
steward, a bu geiriau go uchel a go gas rhyngddo ef a Highmind; a than
ddylanwad gofid a gwenwyn yn wyneb ei golledion, ac wrth gael ei drin,
cynhyrfodd a sorrodd Highmind gymaint fel ag y dywedodd nad allai byth
byth dalu am y ffarm yn ol y prisiau a'r talion presennol, a'i fod wedi
hollol wneuthur i fyny ei feddwl i fyned o Gilhaul gynted byth ag y
medrai; a'i bod yn ddrwg iawn ganddo fod y diwrnod iddo roddi notice am y
flwyddyn honno wedi myned heibio: ei fod yn gallu rhagweled yn ddigon
amlwg y byddai yn sicr o golli y 300 pounds goreu o'i 600 pounds cyn y
medrai gael Cilhaul oddiar ei ddwylaw. A bu yn ol ei rag-gyfrif. Wrth
arwerthu y stoc a'r offer ar derfyn y tair blynedd, cafodd ei fod wedi
colli ymhell dros dri chant o bunnau.
Deallwyd erbyn hyn mai cryn orchwyl i denant newydd--i'r mwyaf lwcus a
llafurus--fyddai gwneyd y gofynion o Gilhaul; a thaenwyd y farn am hynny
ar ol dydd ocsiwn Highmind ymhell ac agos. Gwyddai pawb nad oedd
triniaethau tair blynedd Highmind wedi gwneuthur dim lles i'r ffarm; a bu
ei henw, a "to be let," ar ei ol, am wythnosau lawer mewn llythyrenau
mawrion yn y newyddiaduron, ac uwch y tan yn yr offices, a'r news-rooms
a'r tap-rooms, ac ar byst y tollbyrth, ac ar dalcen y farchnadfa, a holl
furiau y dref. "CILHAUL AR OSOD" oedd o flaen y llygaid pa le bynnag yr
elid. Daeth pump neu chwech o ddynion dyeithr o bell i'w golwg, ond
trodd pob un o honynt adref heb wneuthur unrhyw gynhygiad. O'r diwedd
galwodd y steward y baili ato, a dywedodd,
"Yr wyf yn ofni y rhaid i ni sefyll at Cilhaul am y flwyddyn yma; a rhaid
i ni ymroi i ffarmio gystal ag y medrwn ni. Ni geisiwn borfau mwy o
honi, ac aredig llai o honi, nag oedd Jacob Highmind yn wneyd. Rhai pur
dibrofiad a diofal oedd Jacob a'i wraig. Mi ofynnaf fi i'm cyfaill
craffus W. Wilful, Yswain, o Severn-mead, am fyned i lawr gyda chwi i
ffair Midland i brynnu Herefords a Southdowns i ni; ac yr wyf yn bur
hyderus y gwnawn yn dda iawn o'r ffarm."
Tua diwedd yr haf gofynnodd y steward i'r baili pa fodd yi oedd yr
Herefords a'r Southdowns yn troi allan.
"Drwg iawn yn wir, syr; y mae y rhosydd a'r gweunydd yn rhy wlybion ac yn
rhy frwynog iddynt, ac y mae y moelydd yn rhy oerion iddynt: dichon fod y
tymor wedi bod yn fwy anfanteisiol nag arferol; ond beth bynnag am hynny,
y maent yn edrych lawer gwaeth nag oeddynt pan ddaethant yma, ac y mae y
prisiau yn awr yn bur isel; nid allwn ni ddim cael cymaint am danynt ag
ydym ni wedi roddi, er eu bod wedi cael holl borfa llaeth ac ymenyn y
ffarm i gyd."
"Beth, baili, wyt ti yn dweyd nad allwn ni gael dim cymaint am danynt ag
a roisom?"
"Ydwyf, syr, yr wyf yn ofni hynny."
"Wel, beth gawn i wneyd, baili? Y mae hyn yn beth braidd profoclyd. O
dangio y free-traders yna
"Y mae yn rhy ddiweddar i chwi eu dangio hwy yn awr, o leiaf am eleni.
Nid oes gennym ni ddim arian mewn gafael tuag at y talion nesaf."
"Wel, gwell i ni adael cyfrifon yr hanner blwyddyn yma heb eu talu, a
chwilio am y cyfle goreu fedrir gael o hyn i ddiwedd y flwyddyn i werthu
y cyfan gyda'u gilydd, a chawn weled y pryd hynny pa fodd y bydd y
cyfrifon yn sefyll."
Ar ddiwedd y flwyddyn dygodd y baili ei gyfrifon at y steward yn ol y
gorchymyn.
"Wel, baili," meddai'r steward "ydyw'r tenantiaid yn dal i gwyno?"
"Ydynt yn wir, syr; ac y maent yn edrych yn bur ddigalon."
"A fedri di ddweyd i mi pa rai o honynt sy'n cwyno fwyaf yn erbyn y
prisiad a'r codiad diweddaf, a phrisiad y degwm; oblegid, yn wir, rhaid i
mi wneyd rhyw sylw bellach o'r rhai sy'n tuchan o hyd. O ie, ydyw
cyfrifon Cilhaul genyt ti?"
"Ydynt, syr."
"Wyt ti wedi gwneyd y balance i fyny i ni gael gweled pa fodd y maent yn
sefyll."
"Nac ydwyf, syr, ond gallaf wneyd mewn munud."
"Aros, gad i mi gael gweled y prif bennau. O, dyma ddalen ein
dyledion--gad weled beth ydynt?--1. Degwm. 2. Trethoedd. 3 Cyflogau.
4. Casglu y cynhaeaf. 5. Calch. 6. Tanwydd. 7. Gof. 8. Seiri. 9.
Porfa gaeaf. Aros di, pa le y mae'r hyn a dalasom am aredig a hau a
llyfnu yn y gwanwyn? Nid yw y talion hynny ddim yma."
"Nac ydynt, syr; darfu i ni, os ydych yn cofio, alw ar y tenantiaid
cymydogaethol i aredig a hau a llyfnu i ni; a gwnaethant bob un ei ran yn
bur rwydd i chwi, a hynny am ddim.
"Gwir iawn, baili--gwir iawn yr wyf yn cofio hynny yn awr, ac y mae hynny
erbyn heddyw yn gryn lwc i ni; ac eto mi welaf fod y balance yma yn ein
herbyn."
"Ydyw, syr, y mae."
"Beth, oes genyt ti ddim arian mewn llaw tuagat rent y flwyddyn?"
"Nac oes yn wir, syr, ac y mae y dreth dlodion, a rhai gofynion eraill,
heb eu talu."
"Dam it--rhaid fod rhyw dalion uchel cywilyddus yn dy gyfrif di."
"Nac oes yn wir, syr: cefais wneuthur pob peth i chwi am y prisiau isaf;
ond darfu i ni golli cryn dipyn o arian ar rai o'r ychen mwyaf, a rhai
o'r defaid mawrion mwyaf: nid oeddynt ddim yn gweddu yma, ac y mae wedi
bod yn dymor anfanteisiol o ran y tywydd a'r prisiau."
"Wel, cawr gwyllt a'n cato ni, oes gennyt ti ddim tuag at y rhent?"
"Nac oes yn wir, syr."
"Wel, yn enw pob rheswm, pa fodd y mae yn bod felly?"
Wel, syr, y mae'r ffarmwyr yn methu talu cyflogau, ac y mae llaweroedd o
lafurwyr tlodion o ganlyniad allan o waith; ac y mae y trethoedd o
herwydd hynny yn myned yn bur uchel, a'r tir ar yr un pryd yn gwaelu. Ac
yn wir, y mae degwm Cilhaul yn bur uchel--yn ymyl pymtheg punt."
"Beth! ydyw degwm Cilhaul yn bymtheg punt?"
"Ydyw, syr, o fewn ychydig sylltau."
"O dangio y personiaid a'u Heglwys; y maent hwy yn gallu dyfeisio i
ennill ac i elwa drwy bob prisiad, a than bob trefn."
"Atolwg, syr, peidiwch a dangio y personiaid fel yna, er eich mwyn eich
hun, ac er mwyn eich ceraint sy' mewn urddau eglwysig hefyd. Ydych chwi
yn cofio fel y darfu i chwi fwgwth troi Jonathan Noncony druan o'i ffarm
am iddo ddigwydd dweyd dan ryw hanner cellwair yr hyn a ddywedasoch chwi
yn awr--nad oedd y person byth yn colli dim drwy unrhyw gyfnewidiad."
"Ydwyf, baili, yr wyf yn cofio fel y darfu i mi drin Jonathan, ac fel y
darfu i mi yrru Jonathan a'r warden benben, fel y cawn i achlysur
oddiwrth hynny i achwyn ar Jonathan wrth ei feistr tir:--ond dangio
Jonathan a'r warden a'r person; ni wiw i ni syrthio allan a myned i
gynhennu. Ein pwnc ni yn awr yw, beth gawn i wneyd o Gilhaul? Oes dim
modd i ni gael neb i'w chymeryd oddiar ein llaw?"
"Nac oes yn wir, syr, am y rhent ac yn ol y prisiau presennol; o leiaf,
yr wyf yn ofni hynny. Y mae yn Hafod Hwntw, mhell bell tudraw i
fynyddoedd Plumlimon, deulu mawr pur ddigrif. Y mae ganddynt lawer iawn
iawn o ddefaid, ac o ddyniewyd ac o geffylau bach y mynydd; ac y mae rhyw
air fod eu deadelloedd yn lluosogi weithiau mewn modd braidd dirgelaidd a
gwyrthiol. Y mae yno ryw ddwsin o blant tewion, geirwon, pengrychion,
llygadfawr; ac nid ydynt hwy na'r hen bobl byth yn myned i na llan na
chapel; ond y maent yn rhyw ffordd, trwy eu bugeiliaeth rhyfeddol, wedi
sparin llawer iawn o arian. A dywedir fod rhai o'r merched am ddyfod i
fyw dipyn yn is i lawr er mwyn cael gweled tipyn mwy o'r byd; a'u bod ar
brydiau yn bur daer am i'w tad chwilio am ffarm yn rhywle yn is i lawr."
"Ond, wyt yn sicr, baili, fod yno arian? Dylai fod sicrwydd am hynny,
oblegid dyna ein pwnc ni."
"O oes, syr, y mae yno ddigon o arian. Ni raid dim ofni am hyny. Y mae
ganddynt, heblaw y stoc fawr drom sydd yno, ddwy fil a hanner yn mortgage
ar dyddyn Gwaun y Bwlch; a dywedir fod ganddynt fil a haner o hen guineas
mewn darn o hen bridden yn y ddaear dan y fflagsen wrth draed gwely yr
hen bobl yn y siamber bellaf."
"Djail innau i, yr hen bridden honno fyddai y peth i ni yn awr, baili. Pe
medrem ni unwaith gael teulu Hafod Hwntw i Gilhaul Uchaf, ni byddem ni
ddim yn hir cyn cael adgyfodiad disglaer i'r hen guineas o'u bedd tywyll.
Mynnem ni rai ohonynt yn bur doc i gael fresh air yngoleu'r dydd, yn lle
bod yn llwydo ac yn magu y gout yn yr hen bridden."
"Ond, syr, pe baent hwy yn dyfod i fyw yn agos yma, byddai plant y
pentref yn sicr o redeg ar ol yr hen ddyn ar ddiwrnod rhent, ac ar bob
diwrnod arall, i lygadu arno, ac i estyn bysedd ar ei ol. Y mae ganddo
wasgod gron gwta gwta o wlan du y ddafad, a honno yn glytiau o bob lliw a
llun; ac y mae dwy led llaw rhwng gwaelod honno a thop ei glos lledr,
oblegid nid oes ganddo byth ddim straps i ddal ei glos i fyny. Wrth ei
weled unwaith yn didol y defaid wrth y gorlan, yr oeddwn yn disgwyl bob
munud gweled ei hen glos yn llithro i lawr dros ei grwper. Y mae ganddo
fyclau pres mawrion wrth ben ei luniau, ac ar gefnau ei esgidiau. Nid
oes ganddo ddim byd am ei wddf. Un od iawn ydyw o, ac y mae ei wraig yn
odiach nag yntau; ac yn wir, y mae bechgyn a merched Hafod Hwntw yn bur
debyg i'w tad a'u mam."
"Pw, pw, baili, paid a phoeni dim ynghylch eu gwedd a'u gwisg a'u
hymddangosiad. Pe caem ni unwaith olwg ar bridden yr hen guineas, dyna'r
peth i ni. Yr oedd amryw briddenod o hen guineas yn y gymdogaeth yma
ddeugain mlynedd yn ol, ond yr ydym ni wedi eu hadgyfodi oll o'u beddau.
Da di, dyfeisia ryw ffordd i gael hen wr Hafod Hwntw i olwg Gilhaul.
Gelli gychwyn ddiwrnod yn gynt wrth fyned i ffair Rhos. Galw heibio i
Hafod Hwntw wrth fyned. Bydd yr hen wr yn sicr o fyned i'r ffair. Ceisia
ganddo ddyfod i'r golwg wrth ddychwelyd adref; a throwch i orphwyso i'r
Cross Keys, a dyro iddo iugaid cynnes o gwrw wedi ei speisio yn bur neis
cyn ei gymeryd i edrych y ffarm. Gelli ddangos iddo fod yr adeiladau oll
yn bur gryno ac yn bur gyfleus, a bod y mynydd defaid yn bur helaeth. Ni
bydd dim eisiau crybwyll wrtho y nifer o ddefaid sydd gennym ni yno yn
awr, na dim am fethiant ein cynnyg am y Southdowns. Cymer et ar draws y
ddwy weirglodd, a'r ddol wenith y tuhwnt iddynt. Ni byddai waeth heb ei
gymeryd dros Rhos y Waun; ond gellil grybwyll wrtho fod y ffriddoedd oll
yn rhai sychion a gwelltog, a da ragorol i wartheg hespion a merlod.
Astudia ryw gynllun i gael yr hen wr drosodd i olwg y ffarm."
Galwodd y baili heibio i Hafod Hwntw fel yr addysgwyd ef: a thrwy lawer o
gymell ac o daerni a son gryn dipyn am degwch haelfrydig Lord Protection,
a gwerth ffafraeth teulu y Green, a chroesawder y gymdogaeth, ac eangder
y ffarm; a thrwy i rai o ferched Hafod Hwntw gefnogi ei a raeth,
llwyddodd y baili i gael gan yr hen wr ddyfod gydag ef heibio i Gilhaul
wrth ddychwelyd adref o'r ffair. Ond erbyn eu dyfod at y Cross Keys nid
oedd ar yr hen wr eisiau na bwyd na diod. Nid oedd ond newydd orffen
bwyta y bara a'r cig oedd ganddo yn ei boced, ac yr oedd newydd drachtio
yn o ddwfn o ffynnon y Graigwen wrth ddyfod heibio. Rhoddodd gwart o
flawd ceirch a dwfr i'w ferlyn, a gyrrodd i fynu ar unwaith tua Chilhaul;
a thaflodd ei olwg o'i amgylch ryw ddwywaith wrth yrru i fynu tua'r ty,
ac aeth yn bur syth drwy y buarth, ac i fyny tua'r ffriddoedd, a
gofynnodd ryw ddau neu dri o gwestiynau i'r baili yn nghylch y rhent a'r
trethoedd, a'r tenant diweddaf a'r un a fuasai yno o'i flaen. Dywedodd y
baili y cai yr holl hanes i gyd gan deulu y steward, ac erfyniodd yn daer
iawn arno alw yn y Green.
"Na," meddai'r hen ddyn, "byddai yn beth hollol ddiles i mi fyned cyn
belled a'r Green. Yr wyf yn gwybod yn barod gymaint ag sydd arnaf eisieu
wybod am hanes ac am ragorion Cilhaul. Y mae yn ddrwg genyf i mi deithio
cyn belled o'm ffordd wrth ddyfod adref o'r ffair. Yr wyf am frysio yn
awr heb golli dim amser pellach i mi gael cyrraedd adref cyn nos."
Dywedodd y baili wrtho y byddai yn hollol anmhosibl iddo gyrraedd adref
erbyn nos; a thaer erfyniodd arno drachefn a thrachefn i alw yn y Green i
gael ychydig luniaeth a feed i'w ferlyn; a lletya y noson honno yn y
Green neu yn Nhgilhaul; ac y cai gychwyn adref gyda'r wawr bore
drannoeth.
"Na thanci," meddai'r hen wr, "mi af fi adref yn burion heno. Gallaf
gyrraedd adref dros y mynyddau yn lled agos erbyn nos. Bydd tipyn o
leuad yn y dechreunos. Yr wyf fi mor gyfarwydd a llwybrau y mynyddoedd
ag ydwyf a ffyrdd y gwaelodion. Y mae aderyn yn y llaw yn Hafod Hwntw yn
werth dau yn y llwyn yn Nghilhaul." Ac ar hynny, trodd yr hen wr ben ei
ferlyn broc caled tua'i gartref, a gyrrodd yn bur fywiog dros y
ffriddoedd, ac ni welodd y baili mo'i wyneb caled sych garw byth mwyach.
Ymboenodd y steward a'i deulu lawer am i'r hen wr ddychwelyd felly heb
iddynt gael ei weled; a danghosent eu nwydau drwg tuag at bawb o'u deutu
mewn edrychiad, gair, a gweithred. Yr oedd colli pob gobaith am bridden
You have read 1 text from Welsh literature.
Next - Gwaith Samuel Roberts - 6
  • Parts
  • Gwaith Samuel Roberts - 1
    Total number of words is 4531
    Total number of unique words is 1776
    39.9 of words are in the 2000 most common words
    60.5 of words are in the 5000 most common words
    69.8 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Samuel Roberts - 2
    Total number of words is 4704
    Total number of unique words is 1977
    34.4 of words are in the 2000 most common words
    53.6 of words are in the 5000 most common words
    63.3 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Samuel Roberts - 3
    Total number of words is 5455
    Total number of unique words is 1587
    44.4 of words are in the 2000 most common words
    64.1 of words are in the 5000 most common words
    72.8 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Samuel Roberts - 4
    Total number of words is 5307
    Total number of unique words is 1534
    41.5 of words are in the 2000 most common words
    59.3 of words are in the 5000 most common words
    69.6 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Samuel Roberts - 5
    Total number of words is 5407
    Total number of unique words is 1466
    45.0 of words are in the 2000 most common words
    62.9 of words are in the 5000 most common words
    72.6 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Samuel Roberts - 6
    Total number of words is 2023
    Total number of unique words is 857
    48.3 of words are in the 2000 most common words
    67.6 of words are in the 5000 most common words
    75.1 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.