Gwaith Samuel Roberts - 6

Total number of words is 2023
Total number of unique words is 857
48.3 of words are in the 2000 most common words
67.6 of words are in the 5000 most common words
75.1 of words are in the 8000 most common words
Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
yr hen guineas, ar ol unwaith glywed cymaint am dani, yn eu gwneyd yn
beevish ofnadwy, ac yr oeddynt dros bob mesur o wenwynllyd wrth y baili.
Aethant o'r diwedd mor gas wrtho nes y gwylltiodd yntau i'w natur ddrwg,
a dyna fe a'i galon yn berwi, a'i wefusau mawrion yn crynnu, yn torri
allan i ddweyd yn wyneb y steward a'i deulu,--
"Ni safaf fi mo hyn ddim yn hwy. Yr wyf fi wedi gwneyd fy ngoreu i chwi
bob amser, a gwyddoch chwithau hynny yn bur dda. Y mae Cilhaul wedi
costio i mi lawer iawn o ludded ac o ofid. Nid fy nghynllun i oedd
cyrchu yr Herefords a'r Southdowns yma. Cyflawnais eich eirchion yn mhob
dim yn y dull llawnaf a manylaf. Aethum yr holl ffordd i Hafod Hwntw fel
yr oeddych wedi ceisio gennyf. Collais fy ffordd yn y niwl, a bu agos
iawn i mi golli fy mywyd ar y mynydd wrth groesi Rhyd du Cors Rheidol. Yr
oedd llif y nant yn bur wyllt, ac yn bur ddwfn, ar ol y gwlawogydd.
Llwyddais i gael yr hen ddyn i lawr yn ol eich dymuniad. Gwyddech yn
burion yr amser yr oeddym i fod wrth y Cross Keys, a buasai yn hawdd iawn
i chwi neu un o'ch meibion fod yno, neu wrth Gilhaul, i gyfarfod yr hen
wr. Buasai yn rhyw foddhad i chwi eich bod wedi cael ei weled, er na
buasai hynny o ddim lles yn y byd. Yr oedd yn ddigon eglur o'r foment
gyntaf y daeth yr hen wr i olwg Cilhaul na wnai ymdroi dim yn ei gylch,
ond y dychwelai yn unionsyth ar draws y bryniau cyn gynted ag y medrai
tua'i hen Hafod Hwntw. Y mae yr hen wr, er ei fod yn gwisgo gwasgod
gron, a byclau dyddiau Bess, yn bur graff a hirben, ac yr wyf yn gwbl
sicr na buasai dau ddwsin o stewardiaid byth yn ei droi hanner chwarter
modfedd o'i lwybr; a byddai yn hollol wallgofrwydd i ddisgwyl i un dyn yn
ei bwyll, os bydd ganddo hanner gronyn o'r synwyr mwyaf cyffredin,
gymeryd Cilhaul dan ei beichiau presennol."
"Wel, beth wnawn ni?" meddai'r steward, dan ollwng hir ochenaid allan o
waelod ei galon. "Yr ydym ni wedi gwneyd cam trwm cas brwnt iawn a'r
Carefuls. Yr wyf yn clywed eu bod hwy yn awr wedi prynnu section hyfryd
o dir bras ffrwythlawn ar lan y Missouri."
"Ydynt, syr, y maent yn gwneyd yn rhagorol yno. Y mae ganddynt ffarm
fawr ardderchog heb ddim beichiau i'w llwytho. Y maent yn cael yno y
cnydau mwyaf godidog, heb brynnu na guano na dim arall, ac y maent yn awr
ar brynnu y sections cysylltiedig a hi. Y maent i'w cael, a theitl y
llywodraeth iddynt, am lai na chwe swllt y cyfair; ac y mae un o
railffyrdd mawrion y gorllewin yn rhedeg yn awr drwy gwrr isaf eu
tiroedd.'
"Yr wyf yn ofni felly nad oes dim gobaith i ni eu cael hwy byth yn ol, ac
y bydd Cilhaul ar ein llaw am flwyddyn eto."
"Bydd, syr, bydd Cilhaul ar eich llaw hyd ddydd brawd, os na wnewch chwi
gynnyg rhyw gyfnewidiad."
"Pa fodd y gallaf fi gynnyg unrhyw gyfnewidiad yn awr ar ol i ni ymddwyn
fel y gwnaethom tuag at y Carefuls? Pa fodd byth y wynebaf yr Audit
nesaf? Pa fodd y meiddiaf ddangos fy wyneb i'm lord? Pa beth a wnaf,
neu a ddywedaf, nis gwn yn y byd. Yn boeth ulw y bo yr hen Gilhaul yna.
Pe medrid ei gwthio i rywle o'r golwg, byddai yn drugaredd i mi. Gwynfyd
pe ceid rhyw wrach i'w rheibio."
"Yr ydych chwi wedi gwneyd hynny yn barod," ebe y baili. "Byddai yn
eithaf peth i chwi gyflogi llong fawr fawr i'w chludo draw ymhell i'r
gorllewin dros y tonnau ar ol y Carefuls. Dichon y gwnaent hwy rywbeth o
honi. Neu pe digwyddai i'r llong a hithau suddo ar fanciau tywod
Newfoundland, byddai hynny yn well fyth. Yr wyf yn gwybod y byddai yn
llawer gwell i chwi ac i'r meistr tir ei hanfon felly dros y mor nag i
chwi ei chadw ymlaen ar eich llaw i'w thrin. Costiai ei phacio i fyny
dipyn o drafferth i chwi, a byddai ei mudiad ymaith yn dipyn bach o
golled i'r Frenhines ac i'r Eglwys, i'r person ac i'r cardotyn; ond
byddai yn fendith fawr i chwi, os nad ellwch ei gosod."
"O dangio di, baili, y rascal dwbl pan; paid di a cracio dy jokes
creulawn fel yna i'm diraddio i."
"Wel, syr, mi beidiaf fi yn rhwydd iawn; ond yr ydych chwi a'ch teulu yn
ddiweddar wedi cracio pethau bryntach na jokes yn fy erbyn i, ac ni
chymeraf fi ddim yn chwaneg o'r pethau hynny oddiwrth neb o honoch. Y
mae yn gwaedu fy nghalon y funud yma i gofio am y triniaethau creulawn a
gwarthus a gafodd y Carefuls pan dan eich stewardiaeth chwi. Yr wyf fi
wedi gwneyd i fyny fy meddwl i fyned ar eu hol i America y gwanwyn nesaf.
Y mae yn ofid mawr gennyf yn awr na buaswn wedi myned gyda hwy.
Cymydogion teg, caredig, a boneddigaidd oeddynt. Os oeddynt yn cwyno
weithiau yn erbyn gorthrymder, cawsant ddigon o achos i gwyno; ac heblaw
bod yn foddlon i bawb gael eu hawliau gwladol a chrefyddol, yr oeddynt yn
bur barod eu cymwynasau a'u helusenau. Yr wyf yn benderfynol i fyned ar
eu hol yn ddioed. Y mae lle ardderchog yn America i failiaid ffermydd
ymdrechgar a medrus. Gellwch chwilio am baili newydd yn fy lle pan y
mynnoch; ac yr wyf yn gobeithio y caiff hwnnw fwy o gysur, a gwell lwc,
yn Nghilhaul nag a gefais i."
Dyna ychydig o hanes helyntion diweddar Cilhaul Uchaf. Ni cheisiaf ar
hyn o bryd mo'u holrhain ddim pellach. Yr oedd helbul a gofidiau y
steward wrth fethu gosod Cilhaul, a rhai ffermydd eraill a ddaethant ar
ei law, yn ei boeni ddydd a nos. Yr oedd yr adgofion o'i ymddygiad at
rai o'r tenantiaid ffyddlonaf i'w meistr a welwyd erioed yn llosgi
ddyfnach ddyfnach yn ei fynwes. Yr oedd ei ddanodion ef a'i deulu i'w
gilydd o'u barbareidddra dirmygus tuag at y Carefuls yn ennyn yn bur
fynych fwy na llonaid y ty o fflamau annedwyddwch a chynnen. Yr oedd
croes-esboniadau y steward wrth ei lord yn ddamniol i'w gymeriad fel
goruchwyliwr. Glyn yr anfri wrth ei enw tra bydd byw, a glyn wrth ei
goffadwriaeth am oesoedd ar ol iddo farw. Byddai darlunio y cynhennau fu
yn ei deulu, a danodion ei gydoruchwylwyr, a'r modd y bu rhyngddo a'i
arglwydd, a'r sport fyddai rhai o'i hen gyfeillion yn wneyd o hono o
gylch bar y Cross Keys, yn bethau rhy anhawdd i mi eu llawn ddarlunio. Y
mae y rhan fwyaf o'r pethau hynny wedi cael eu cadw yn secrets. Gellir
dychmygu, a dychmygu yn bur gywir, ond nid doeth adrodd dim heb fod sail
eglur a diamheuol iddo.
Yr wyf yn clywed fod fy nghefnder awenyddol Twm Edward o'r Nant wedi
rhoddi ei ffarm i fyny, a'i fod a'i fryd ar ymfudo i ryw Canterbury
Settlement yn ynysoedd y de; a'i fod wedi parotoi hanesion manylaidd am
stewardiaeth y Green, a thenantiaeth y cwr uchaf o estate Lord
Protection, i'w cyhoeddi yn llyfr go fawr cyn iddo ymadael o'r wlad. Y
mae Twm wedi cael y cyfleusderau mwyaf manteisiol i sylwi a deall fel y
mae pethau wedi myned yn mlaen er's llawer blwyddyn yn y Green, ac yn yr
Hall, ac ar hyd yr holl estate; ac yr wyf yn sicr y bydd hanesion ac
adroddiadau Twm yn rhai cryfion ac addysgiadol, yn enwedig ei adroddiadau
o gyfrwys ddichellion y steward a'i deulu i lunio a derbyn a thraethu
clep ac athrod, ac i chwythu cynnen rhwng cymydogion, er mwyn i'r steward
drwy hynny gael achlysur i feirniadu yn yr Hall, yn nghlyw y lord a'i
gymdeithion, ar dymherau y tenantiaid, a chael achlysur hefyd i ddifrio a
gwthio ymaith y tenant ymdrechgar fydd yn rhy onest i werthu ei gydwybod
am bris dirmygol tylwyth y steward. Bydd llyfr Twm o hanes teulu y
steward yn werth ei gael, a gwnaiff les.
Yr wyf finnau yn bwriadu, pan gaf hamdden i grynhoi at eu gilydd, gyda
thipyn o ofal a manylder, fy adgofion o hanes Nant y Dderwen, a'r Clawdd
Melyn, a'r Caeau Llwydion, a'r Ffos Fach, a'r Bryn Tew, a Than yr Wtra,
a'r Berth Lwyd, a'r Gro Arw, a Glyn Carfan, a'r Coed Crin, a Llwyn y
Pryfaid, a Maes y Brwyn, a'r Gelli Lwyd, a Bryndu, a'r Bryniau Mawr, a
Thal y Bont, a'r Ty Uchel, a Garth y Drain, a Math y Dafarn; ac amryw o
ffermydd eraill oddeutu y gymydogaeth. Yn y rhan fwyaf o'r mannau a
nodwyd, cyflawnwyd anghyfiawnderau o'r fath greulonaf tuag at hen
denantiaid o'r cymeriad mwyaf ymdrechgar a ffyddlon; a dangoswyd at rai o
honynt, yn enwedig tuag at weddwon a phlant amddifaid, fath o
flagardiaeth ag y buasai yn gywilydd gan grach-stewardiaid Novogorod
feddwl am ei gyflawni.
Yr wyf fi yn gwresog garu hen wlad fy ngenedigaeth, a gwn fod y rhan
fwyaf o'm cymydogion yn hoff iawn fel finnau o'u gwlad, er tloted ydyw,
a'u bod wedi gwneuthur ymdrechion anghredadwy i geisio byw ynddi: ond pan
feddyliwyf am yr addewidion anogaethol o dal sicr am eu llafur i
amaethwyr a llafurwyr diwyd a gofalus sy'n cael eu dal allan iddynt gan
ddyffrynoedd llydain breision cyfoethog taleithiau gorllewin America, a
holl wastadedd y ddwy Canada, a phorfeydd gwelltog anherfynol
Australasia, a gwastad-diroedd iachus rhai o wledydd hyfryd Asia Leiaf a
gororau Affrica, a deniadau y Canterbury Settlements, a'r Sydney Herbert
Settlements, a hyd yn nod rai o dywysogaethau yr Ynys Werdd yn ein
hymyl;--pan feddyliwyf, meddaf, am y deniadau a'r gwahoddiadau taerion
cryfion ac anogaethol sy'n cyrraedd y ffarmwyr a'r gweithwyr o'r holl
fannau hyn; a phan gofiwyf am luosogiad cyflym y cyfleusderau i deithio
ar bob llaw, ac am y niferoedd sydd wedi ymfudo yn barod o'n gwlad fach
dlawd lethedig; a phan feddyliwyf am y dull barbaraidd yr ydys yn baeddu,
ac yn beichio, ac yn athrodi, ac yn hustyngio, ac yn diraddio, ac yn
mathru dan draed y ffarmwyr mwyaf diwyd ac ymdrechgar a welodd ein hen
gymoedd erioed,--yr wyf yn ofni yn wir yr ymfuda pob rhinwedd a
diwydrwydd ymaith ym mhell oddiyma, a hynny yn bur fuan, os na bydd i
arglwyddi tiroedd a'u crach-stewardiaid, ynghyda'u ceraint eglwysig,
ymddwyn yn decach ac yn foneddigeiddiach tuag at denantiaid cydwybodol a
llafurus


BYWYDAU DISTADL.

DONAWR 18, 1850. MARY WILLIAMS, Garsiwn. Bu yn dra diwyd yn holl
gynhulliadau yr eglwys drwy hir dymor ei haelodaeth; ac yr oedd yn hyfryd
sylwi ar ei llygaid llawn pan y byddai yn gwrando "yr ymadrodd am y
groes." Un o dlodion y tir ydoedd; ac wrth ei gweled weithiau yn y tes,
ac weithiau yn y tywydd, yn cerdded o amgylch i geisio elusen, bu yn alar
gennym lawer tro na buasai hyfforddiad boreuol wedi ei roddi i un o lygad
mor graff i drin gardd lysiau gryno wrth ymyl ei bwthyn. Buasai yn
hyfryd ei gweled yn gwrteithio, ac yn chwynnu, ac yn priddo ei gryniau;
ac yn cynhaeafu camamil, chwerwlys lwyd, troed y dryw, cwmffre, dant y
llew, cribau Sant Ffraid, y gemi goch, a llysiau rhinweddol eraill.
Buasai rhyw wasanaeth bychan felly, nid yn unig yn elw i gymdeithas, ond
yn ddifyrrwch i'w mheddwl, ac yn gymorth i'w myfyrdod a'i gweddi, drwy ei
chadw o gymaedd lludded a phrofedigaethau rhodianna aflesol. Y mae
llawer-oedd wedi treulio rhan fawr o'u dyddiau i gerdded o dy i dy, pan y
gallasent, ond rhoddi eu dyfais ar waith, gael rhyw oruchwylion difyrrus
a buddiol i'w cyflawni gartref. Y mae rhy fach yn cael ei wneyd gan
flaenoriaid cymydogaethau i hyfforddi a gwobrwyo diwydrwydd ac ymdrech
mewn pethau bychain.
Chwefror 1, 1850. THOMAS EVANS, Aber. Un isel "hawdd ei drin" ydoedd;
distaw yn y teuluoedd lle y gweinyddai; o ymadrodd byrr sylweddol yn y
gymdeithas grefyddol; ac o nerth taerineb anarferol mewn gweddi.
You have read 1 text from Welsh literature.
  • Parts
  • Gwaith Samuel Roberts - 1
    Total number of words is 4531
    Total number of unique words is 1776
    39.9 of words are in the 2000 most common words
    60.5 of words are in the 5000 most common words
    69.8 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Samuel Roberts - 2
    Total number of words is 4704
    Total number of unique words is 1977
    34.4 of words are in the 2000 most common words
    53.6 of words are in the 5000 most common words
    63.3 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Samuel Roberts - 3
    Total number of words is 5455
    Total number of unique words is 1587
    44.4 of words are in the 2000 most common words
    64.1 of words are in the 5000 most common words
    72.8 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Samuel Roberts - 4
    Total number of words is 5307
    Total number of unique words is 1534
    41.5 of words are in the 2000 most common words
    59.3 of words are in the 5000 most common words
    69.6 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Samuel Roberts - 5
    Total number of words is 5407
    Total number of unique words is 1466
    45.0 of words are in the 2000 most common words
    62.9 of words are in the 5000 most common words
    72.6 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Samuel Roberts - 6
    Total number of words is 2023
    Total number of unique words is 857
    48.3 of words are in the 2000 most common words
    67.6 of words are in the 5000 most common words
    75.1 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.