Gwaith Samuel Roberts - 3

Total number of words is 5455
Total number of unique words is 1587
44.4 of words are in the 2000 most common words
64.1 of words are in the 5000 most common words
72.8 of words are in the 8000 most common words
Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
a helynt ei wraig a'i blant, dywedodd dan wenu yn bur foneddigaidd fod yn
hoff iawn ganddo weled Cilhaul Uchaf mewn calon ac mewn trefn mor
rhagorol; ei fod yn falch iawn o'r olwg oedd ar y tyddyn, a bod yn dda
ganddo fod y gair ar led fod y prisiau braidd yn codi; a bod y seneddwyr
aurhydeddus ac enwog Mr. B. a Mr. D. a Mr. Y. wedi hyfgyhoeddi yn eu
bareithiau diweddar o ben Assblock y farchnadfa eu bod am gymeryd i fyny
achos y ffarmwr yn y senedd newydd, a'u bod am adsefydlu treth yr yd a
phob cynnyrch tramor; ond ychwanegai y steward mewn llais mwyn, tyner,
isel, dan fan-gecian, fod cyfiawnder ag ymddiriedaeth y swydd bwysig oedd
ganddo fel steward yn ei orfodi i godi mymryn--mymryn bach ar y rhent.
Nis gallai ddweyd yn fanwl y bore hwnnw pa faint, ond ymrwymai y cai y
codiad fod yn bur deg a rhesymol--na chai ddim bod dros bymtheg ar hugain
y cant. "A gobeithio," meddai, "yr ewch rhagoch i wella eich ffarm,
oblegid yn y dyddiau goleu hyn o iawnder a diwygiad, pan y mae arglwyddi
tiroedd mor enwog o ran eu craffineb a'u tegwch a'u gofal, a phan y mae y
stewardiaid mor hynod o ofalus ac o gydwybodol ac o deimladwy am galonogi
y tenantiaid, bydd ffarmwyr ymdrechgar yn sicr o gael tal da am eu
llafur, a llog da am eu treuliau wrth wella eu tyddynod." A dyma oedd yr
ail wobr a gafodd Ffarmwr Careful am ei flynyddoedd o welliantau llafurus
a drudfawr yn Nghilhaul Uchaf.
Cyn pen teirawr ar ol i'r steward droi ei gefn, dacw bwtyn byr tew
wynebgoch pwfflyd bolfawr o ddegymwr yn dyfod drwy y nant, ac ar draws y
rhos, a thros y gwrych, a'i lyfr "counts" yn ei law, ac yn dringo i
edrych dros y wal i gyfrif y gwyddau oeddynt ar y llyn, ac yna yn estyn
ei ben drwy y twll oddiar ddrws cut yr hwch fagu i gyfrif ei thorllwyth
diweddaf; ac wedi hynny yn galw ar John Careful ato i'w holi am nifer y
defaid a'r wyn noson y cneifio diweddaf, ac i ofyn iddo amryw bethau
eraill; a rhybuddiai y degymwr y ffarmwr i fod yn bur fanwl yn ei
gyfrifon. "Oblegid," meddai, "rhaid i mi fod yn fanwl iawn y tro yma
i'ch gosod chwi i lawr yn ol eich llawn werth, oblegid y prisiad yma sydd
i fod yn sylfaen i'r drefn newydd ag y mae fy meistr parchedig a
dirprwywyr y degwm wedi cytuno i sefyll ati o hyn allan." A darfu i'r
degymwr boliog, cyn symud o'r fan honno, ledu'i gount-book ar garreg y
wal, ac a'i bwt pensil black lead ferr fawr bron ddyblu degwm Cilhaul
Uchaf: a dyna oedd trydedd wobr John Careful am ei welliantau
amaethyddol.
Ymhen llai na mis ar ol hynny, daeth tri o briswyr heinyf craffus yn enw
y plwyf, a thros y festri fach, i edrych dros ffarm Mr. John Careful. Yr
oeddynt yn siriol ac yn siaradus iawn wrth ganmol ei thriniaeth a'i
threfn; a dywedent fod Mr. Careful yn haeddu tlws arian am y cae maip
uchaf, a sylwent fod ei gnwd gwenith yn hynod o lan ac o wastad, ond ei
fod braidd yn ysgafn: ac yna, ar ol sisial ychydig o eiriau yng
nghlustiau eu gilydd, a nodio, a wincio, a hwm-hamio, cryn dipyn, darfu
iddynt gofnodi i lawr yn eu llyfr godiad o naw punt at drethoedd plwyfol
Mr. Careful, heb ofyn iddo gymaint ag un gofyniad, na cheisio ganddo un
gair o eglurhad am ddim o hanes y ffarm, nac o'r draul a gymerodd i'w
gwella; a dyna oedd ei bedwaredd wobr amer welliantau amaethyddol yn
Nghilhaul Uchaf. Yr oedd rhai o'r cymydogion cyfrwysaf a hwyaf eu pennau
yn awgrymu y dylasai John Careful fod wedi cyrchu ychydig o French Brandy
i'r ty erbyn dyfodiad bol y degymwr heibio, ac y buasai yn burion peth
fod ganddo alwyn o gwrw da wrth law pan oedd y priswyr yn gwneyd i fyny
eu cyfrif o werth ei dyddyn.
Yn lled hwyr brydnawn y dydd ar ol hynny, daeth Peggy Slwt Slow, gwraig
yr hen Ned Slow, at y drws; ac wedi gwneyd wyneb hir hyll crychiog,
dywedodd fod Ned yn methu cael dim gwaith er's llawer dydd, a'u bod heb
yr un tamaid o fwyd yn y ty; a bod yr hyn a oedd Ned wedi gardota iddynt
ddydd Sadwrn, a dydd Sul, a dydd Llun, yn y cwm draw wedi darfod; a'i bod
hi wedi cymeryd i fyned drwy y cwm yma heddyw, mewn gobaith o gael tipyn
bach i'w cadw hwy a'r plant yn fyw dan ddydd Sadwrn, pan y cai eu merch
hynaf Pol (os gallent gael ei hesgid oddiwrth y cobbler heb dalu am ei
thrwsio) neu ynte y cai ei brawd Bob fyned i lawr y dyffryn i gardota
ychwaneg iddynt: a chwanegai Peggy ei bod yn mawr obeithio y caent eu
henwau i lyfr y plwyf yn y festri nesaf, oblegid fod Squire Three X Tap
yn bur hoff o Ned ac o'r bachgen hynaf, am fod y ddau mor barod i redeg
gyda milgwn a by theuaid y Squire bob tro y byddent yn dyfod y ffordd
hynny. Ac ychwanegai Peggy fod y Squire wedi addaw troi i mewn i'r
festri cyn ei diwedd i ddweyd gair drosom, a bod ei ddull a'i lais cry
fyn sicr o fynnu gwrandawiad: ac awgrymai Peggy ymhellach i'r Squire, pan
unwaith mewn diod, edrych yn bur fant-lon ar lygaid gleision Nansi ei
merch, ac iddo sylwi ei bod yn tyfu yn lodes fawr lan gref dal dew
brydferth, ac y gwnai ef rywdro rywbeth i Nansi. Yr oedd wyneb Peggy yn
gloewi ac yn llonni pan y siaradai fel hyn am y Squire ac am Nansi, ac am
gael myned i lyfr y plwyf; ond gan ei bod yn eglur fod cwpwrdd Peggy y
noson honno yn wag, dymunodd John Careful ar ei ferch hynaf roddi iddi
gardod o flawd ceirch, digon i wneuthur swper da o uwd i'r teulu anghenus
y noson honno. A dyna oedd pumed wobr Ffarmwr Careful am wella ei
feusydd.
Yn lled hwyr y noson honno, ar ol oriau gweithio, galwodd Billy Active
gyda Mr. Careful, a chyda gwedd drist isel, dywedodd wrtho ei fod allan o
waith; fod ei hen feistr gofalus Fychan Graff o'r Ffarm Fawr wedi hollol
wneyd ei feddwl i beidio cynnyg byth mwy am ddim "gwelliantau" er elw i
bobl eraill. Yr oedd ef unwaith wedi meddwl a son llawer am sychu Dol y
Brwyn, a chlirio y Wern Ddu, ac unioni gwrych y Ddol Gam, a rhannu y
Ffridd Hir yn ddwy, a gwneyd ffordd newydd sych galed dda ar draws yr
holl ffarm. Ond y mae wedi bod yn ystyried ac yn cyfrif y tal a gawsoch
chwi am eich holl welliantau, ac y mae wedi dysgu oddiwrth y cam a'r
golled a gawsoch chwi y wers bwysig o beidio meddwl am ddim gwelliantau
byth mwy. Y mae wedi cael argyhoeddiad trwyadl mai y ffordd oreu o lawer
iddo ef ydyw gwneyd mor ychydig ag y medro, a gwneyd yr ychydig hynny yn
y ffordd rataf ag y medro, fel yr hen ffarmwr distaw llonydd hirben Owen
Dwl o'r Ffridd Groes. Ni wariodd Owen yr un chwecheiniog am na
gwelliantau nac adgyweiriadau er's dros bymtheg mlynedd ar hugain; a'i
ffarm ef y dydd heddyw ydyw y rataf yn yr holl gymydogaeth, ac wrth weled
pethau fel hyn, y mae fy hen feistr Fychan Graff yn penderfynu gwario o
hyn allan cyn lleied ag y medro ar y ffarm; ac y mae newydd fy ngollwng
i, a'r dynion eraill oedd ganddo yn gweithio wrth y dydd, i'n ffordd;--ond
yr oedd ei wyneb yn wyn, a'i lygad yn llawn, a'i wefus yn crynu, wrth ein
gollwng ymaith. Y mae wedi addaw talu i ni gyflogau y chwarter diweddaf
yn mhen pymthegnos; ac yr wyf yn deall fod amryw eraill o ffarmwyr yr
ardaloedd hyn yn debyg o ddilyn ei siampl. Nid oes gennyf ddim golwg yn
awr am gael gwaith, ac nis gallaf oddef meddwl am fyned ar y plwyf. Nid
wyf yn hoff o'r ysmocio a'r yfed, a'r gwasanaeth afiach a budr sydd yn
llawer o ardaloedd y gweithiau; ac mae fy ngwraig a minnau wedi gwneyd i
fyny ein meddyliau i ymfudo ar unwaith i America ar ol ein cefnder Tomy
Strong. Yr wyf newydd dderbyn llythyr annogaethol iawn oddiwrth Tomy.
Costiodd y llythyr swllt i mi, er nad yw yn pwyso mo'r bumed ran o owns.
Y mae Tomy, a phob un o'r bechgyn a'r merched a aethant gydag ef, yn
gwneyd yn dda iawn yn America; ac yr ydym ninnnau yn penderfynu myned yno
tra byddo gennym ddigon o fodd i fyned. Y mae gennym ddigon yn awr; o
leiaf bydd gennym, ar ol gwerthu hynny o ddodrefn sydd gennym, ddigon i'n
cario ni ein dau, a'n tri phlentyn bach, i Wisconsin. Pe baem ni yn
ymdroi ac yn oedi, ac aros yn segur yn y wlad yma nes i Betsy wella ar ol
y baban nesaf, mae'n bur debyg na byddai gennym ddim digon o fodd i
fyned; ac felly yr ydym yn gwbl benderfynol i fyned yn awr ar unwaith. Y
mae y rheilffyrdd a'r llongau yn cludo yn awr am brisiau pur resymol. Yr
ydym am barotoi barilaid dda o fara ceirch ac ymenyn a chaws, a thipyn o
gig moch, a phethau anghenrheidiol felly, yn ddioed: a byddwn yn wir yn
ddiolchgar iawn i chwi os rhoddwch fenthyg dwy bunt i ni am bymthegnos,
pan y caf fy nghyflog i dalu yn ol i chwi; ac yna ni allwn brynnu rhyw
betheuach anhebgorol at y fordaith am arian parod, a bydd Betsy a minnau,
os parhawn i gael ein hiechyd, yn sicr o wneyd yn dda yn America.
Gwyddoch ein bod bob amser yn foddlon i weithio, a'n bod yn hoff o
weithio, ac nad ydym byth yn ddedwydd os na bydd gennym ddigon o waith."
Methodd calon dyner John Careful wrthod cais Billy Active yn y fath
wasgfa. Estynnodd iddo y benthyg gofynedig dan bron wylo wrth feddwl am
golli teulu mor ddiwyd ac mor weithgar, mor garedig ac mor onest o'r
ardal: a thyna y chweched wobr a gafodd Ffarmwr Careful am ei ludded a'i
ofal a'i dreuliau wrth "wella" Cilhaul Uchaf.
[Cyflwynwyr Tysteb S. R.: sr57.jpg]
Ar ol dwys fyfyrdod yn ei galon ar y pethau hyn ddydd a nos am lawer o
wythnosau, teimlai John Careful fwyfwy, ac yn ddwysach ddwysach, ei fod
wedi cael cam, a'u bod wedi ymddwyn yn annheg iawn tuag ato. Ac un bore,
pan ydoedd ar dipyn o neges yn yr Efail wrth y dafarn, cwynodd yn lled
uchel, ac mewn iaith gref, yng nghlywedigaeth rhyw segurwyr masweddgar a
diog oedd yn ymlechian o amgylch yno, nid yn unig ar berson y plwyf, a'r
degymwr, a'r cardotwyr, ond hefyd ar y meistr tir a'r steward. A'r
diwrnod cyntaf oll ar ol hynny darfu i Bob Clep, neu Jack Cant, neu Mrs.
Gossip, neu Bessy Tattle, gario y cyfan oll a ddywedodd, a mymryn bach
dros ben hefyd, i deulu y steward; a rhoddwyd llinell ddu ar unwaith ar
gyfer ei enw yn llyfr private y steward, ac anfonwyd gair am dano fel
tenant ystyfnig a grwgnachlyd y prydnawn hwnnw at ei arglwydd tir, a
deallwyd yn fuan drwy yr holl ardal fod John Careful druan wedi llwyr
golli ffafr y steward a'i deulu.
Oddeutu yr amser hynny darfu i Mr. Jacob Highmind, yr hwn oedd newydd
gael pedwar cant o bunnau ar ol ei hen ewytthr o Lundain, briodi Miss
Jenny Lightfoot, yr hon oedd newydd gael dau gant o bunnau iddi ei hun ar
ol ei mam gu; ac yr oedd y ddeuddyn ieuainc, gan eu bod newydd briodi, yn
awyddus iawn am gael ffarm er dechreu byw; ac felly darfu i Jacob un
bore, wrth groesi moel ei gymydog, saethu dwy betrisen, a phrynnu pwys
o'r "gunpowder tea" goreu, i'w hanfon yn anrheg i wraig y steward; ac
awgrymodd yn gynnil yn ol-ysgrifen ei lythyryn boneddigaidd y byddai yn
dda iawn iawn ganddo ef a'i wraig newydd Jenny gael ffarm dan Lord
Protection. Yn bur fuan ar ol byn, yn lled hwyr ar noson marchnad,
gweithiodd Jacob ei ffordd, drwy landlord neu landlady y Queen's Head, i
ystafell y steward yno, a chafodd adeg a chyfle da iawn i ddangos ei foes
i'r steward, ac i adnewyddu ei gais am ffarm cyn gynted ag y gellid ei
chael. Crybwyllodd y steward wrtho yn bur ddistaw, ac fel secret i'w
gadw rhag pawb, fod John Careful o'r Cilhaul Uchaf yn debyg iawn o
ymadael oddiyno; ac os deuai y ffarm honno yn rhydd y gwnai y tro i'r dim
iddo ef ac i'w wraig newydd. Gwyddai Jacob yn burion fod Cilhaul Uchaf
mewn cyflwr a threfn da dros ben; a bowiodd yn foesgar ac isel iawn wrth
ddiolch i'r steward am ei awgrym caredig. Canodd y gloch yn union am
botelaid o Champagne digymysg goreu; yfodd iechyd da Lord Protection a'i
stewardiaid; ac yna ymgiliodd allan, gan fowio yn foneddigaidd iawn, a
gadawodd y Champagne wrth ddeheulaw y steward.
Ymhen llai na mis ar ol y digwyddiad bychan yma, daeth y steward i'r
gymydogaeth i gasglu ol-ddyledion; ac anfonodd i erchi am i John Careful
(er nad oedd dim ol-ddyled arno ef) i ddyfod i'w gyfarfod ef i'r Queen's
Head erbyn naw o'r gloch bore drannoeth. Brysiodd Mr Careful yno yn
brydlawn, gan obeithio cael rhyw newydd da, drwy ei fod bob amser wedi
gofalu am y rhent i'r diwrnod. Ar ol disgwyl yn bur hir oddeutu y drws,
cafodd ei alw i mewn. Edrychodd y steward yn llym wgus arno, a dywedodd
wrtho, mewn llais cryf garw, na wnai ef ddim goddef iddo gwyno ar y
codiad diweddar, fel ag yr oedd wedi gwneyd y dydd o'r blaen wrth yr
Efail; fod ei rent ef yn bur resymol yn wir,--ei bod yn llawer is na
rhenti ffermydd cymydogaethol arglwyddi eraill. Nid oedd Ffarmwr Careful
wrth gychwyn mor fore tua'r Queen's Head, ac wrth chwysu yn ei frys i
gyrraedd yno mewn pryd, ac wrth ddisgwyl yno ar ol hynny nes oeri braidd
gormod--nid oedd ddim wedi dychymygu mai myned yno i gael ei drin a'i
athrodi felly yr oedd wedi y cyfan: a darfu i drinfa front fawaidd felly,
pan yr oedd yn agor ei glustiau a'i lygaid am ryw newydd cysurus,
gynhyrfu mymryn ar ei ysbryd; ac atebodd mewn geiriau braidd cryfach nag
a fyddai yn arfer ddefnyddio ar adegau felly,--ei fod ef a'i deulu wedi
gwneyd eu goreu yn mhob ffordd i drin yn dda; ei fod ef a'i wraig a'i
blant yn cydymroi weithio eu goreu yn fore ac yn hwyr--nad oedd byth na
smocio, nac yfed, na gloddesta, na dim o'r fath beth yn eu ty; eu bod
wedi gwario i drefnu a gwella y ffarm, y cyfan oll o'r chwe' chan punt a
dderbyniodd ei wraig yn gynhysgaeth ar ol ei thad; ei fod yn gwbl foddlon
er's blynyddau i log yr arian hynny gael myned i wneyd i fyny'r talion yn
y blynyddau drwg presennol; ei fod wedi hoff-obeithio gallu cadw y 600
pounds yn gyfain i'w rhannu yn gyfartal rhwng ei ferched ufudd a diwyd ar
ddydd eu priodi; ond yn awr, fod y 600 pounds i gyd oll wedi myned, ac na
byddai y stoc ddim yn hollol rydd ganddo ar ol y talion nesaf; ac yn wir
nad oedd dim modd iddo ef dalu am y ffarm heb gael cryn ostyngiad. Wrth
glywed hyn, dywedodd y steward yn bur sychlyd wrtho,--
"Gwell i chwi ynte roddi y ffarm i fyny."
"Yn wir, syr," atebai y tenant, "rhaid i mi ei rhoddi i fyny os na cheir
rhyw gyfnewidiad yn fuan."
"Hwdiwch ynte," ebe y steward, "dyma fi yn rhoddi i chwi notice i ymadael
Gwyl Fair."
Ar hyn, gostyngodd y tenant ei ben, ac atebodd mewn llais isel toredig, y
byddai yn galed iawn i'w deimladau orfod ymadael o hen gartref ei dadau;
ei fod ef a'i wraig a'i blant yn eu hamser goreu i drin y ffarm, ac y
byddent yn foddlon i lafurio ac ymdrechu eto am flwyddyn neu ddwy mewn
gobaith am amserau gwell. Ond brysatebodd y steward yn bur sarrug,--
"Yr wyf yn deall eich bod wedi gwario yn barod yr arian cefn oedd
gennych. Gwell i chwi chwilio ar unwaith am ffarm lai. Hydiwch, dyma'r
notice i chwi ymadael. Rhaid i mi yn awr fyned at orchwylion eraill--bore
da i chwi."
Rhoddodd Mr. Careful y notice yn ei logell, a dychwelodd adref gyda
chalon drom iawn; a phan oedd yn gorffen adrodd wrth Jane ei wraig yr hyn
oedd y steward wedi ddweyd ac wedi wneyd, daeth y tri mab yn
annisgwyliadwy i'r ty. Daethant hanner awr yn gynt nag arferol, am eu
bod wedi gorffen cau y gwter fawr yng ngwaelod y braenar, a galwasant
heibio i'r ty am fara a chaws cyn cychwyn at eu gorchwylion yr ochr arall
i'r ffarm. Deallasant ar unwaith fod rhyw newydd drwg, neu ryw
amgylchiad cyfyng yn gofidio eu tad a'u mam. Bu tafodau pawb am ennyd yn
fud, ond yr oedd llygaid y plant yn dadleu fod hawl ganddynt i wybod
achos blinder eu rhieni. Penderfynodd y tad i beidio celu oddiwrth ei
blant y notice i ymadael ydoedd newydd dderbyn, ac adroddodd wrthynt yr
oll a gymerasai le. Gwrandawsant hwythau arno yn fudsynedig; ac ar ol
iddo dewi, edrychasant ar eu gilydd yn bur effeithiol, ond heb yngan
gair. O'r diwedd torrodd y tad ar y distawrwydd trwy ddweyd, megys wrtho
ei hun, mewn llais trist isel, yn cael ei hanner fygu gan gymysg
deimladau,--
"Yr oeddwn i wedi hoff-obeithio y cawswn orffen fy nyddiau yn Nghilhaul
Uchaf, ac wedi breuddwydio llawer gwaith ganol dydd a chanol nos y cawsai
fy llwch huno gyda llwch fy nhadau yn eu hen feddrod rhwng yr ywen fawr a
drws cefn y clochdy, lle y gorffwys y rhai lluddedig, ac y peidia yr
annuwiol a'i gyffro."
"Ie, ie," ebe y fam, "lle y mae John bach, fy nghyntafanedig anwyl, yn
huno yn felus ar fynwes ei dad cu tirion, a lle y mae fy anwyl, anwyl,
anw"--(ar hyn collodd y fam ei lliw--dechreuodd ei gwefusau
grynu--ymrwygodd ochenaid ddofn o gronfa ei chalon; ond nis gallodd
orffen ei dywediad). Wrth weled hynny, cododd y mab hynaf ei wyneb mawr
llydan iach gwridog; a chyda llais dwfn, cryf, caredig, effeithiol, llawn
o deimlad, naill ai teimlad o serch cynnes at ei rieni, neu ynte teimlad
o ddigllonedd brwd tuag at y gormeswyr, neu dichon y ddau deimlad yn ferw
cymysgedig, dywedodd,--
"O fy anwyl fam, na adewch iddynt ladd eich calon fel yna. Y maent wedi
gwneyd eu gwaethaf i ni. Na hidiwch mo honynt byth mwy. Na ofnwch hwy
ddim yn chwaneg. Os gwnawn ni ein dyledswydd yn y byd yma, nid yw o ddim
cymaint pwys pa le bydd ein llwch yn gorffwys. Bydd yn sicr o fod allan
o'u cyrraedd hwy; a byddwn yn sicr o ddihuno yn iach ar alwad gyntaf bore
mawr y codi, a deuwn o hyd i'n hen gyfeillion ar darawiad llygad, a
deuant hwythau hefyd o hyd i'w lle eu hun, a chesglir hwy at eu pobl, i
dderbyn yn ol yr hyn a wnaethant yma. Gwyddoch eu bod wedi creulawn
lyncu i fyny yn barod eich 600 pounds chwi. Gwyddoch ein bod ni oll wedi
gweithio yn galed iawn, haf a gaeaf, drwy wynt a gwlaw, ac oerni a gwres,
fore a nawn a hwyr, er eu helw hwy, a'n bod heb ennill rhyngom oll yr un
swllt i ni ein hunain. Yr ydym wedi cyson dalu iddynt bob parch ac ufudd-
dod yn ein gallu, ond tlawd iawn yw yr ad-dal ydym yn gael am ein holl
lafur a'n gofal. Y mae gan Tom Thrift, aradrwr y Plas Hen, 88 pounds o'i
ennill yn awr yn y Savings Bank; ond nid oes gennyf fi, er fy mod dair
blynedd yri hyn na Tom, yr un geiniog wrth gefn yn ei chadw erbyn yr
amser a ddaw. Ond yr ydym ni yn gystal ein cyflwr a Robert Frugal druan.
Y mae ef yn awr newydd golli yr oll ag oedd wedi ennill. Gwyddoch ei fod
ef wedi bod yn fugail craff, ffyddlon, a gofalus, yn y Foelfawr am dros
un mlynedd ar ddeg. Llwyddodd ei feistr i gael ganddo adael ei gyflog y
naill flwyddyn ar ol y llall yn ei law ef. Addawodd y meistr ddeng waith
drosodd y byddai Robert yn sicr o gael llog da am ei arian. Yr oedd rhai
yn ofni braidd er's amryw fisoedd nad oedd ei feistr ddim yn gwneyd yn
dda iawn yn y Foelfawr. Yr oedd yn myned yn fwyfwy shy ar ddyddiau y
talion; ond nid oedd neb o'r cymydogion yn dychmygu fod ei amgylchiadau
mor ddrwg. Yr oedd y steward yn ddyfnach yn secret ei helynt na neb
arall, ac yn awr y mae y bailiaid newydd fod yn y Foelfawr, ac y maent
wedi ysgubo ymaith i'r meistr tir bob peth oedd gan y tenant,--y stoc,
a'r offer, a'r dodrefn, a'r yd, a'r gwair, a'r cig, a'r caws, a'r cyfan
oll. Nid oes yno ddim gwerth ceiniog wedi ei adael i Robert Frugal druan
ar ol holl ludded a holl ofal ei fugeiliaeth. Y mae Lord Quicksilver, y
meistr tir, yn mynnu ac yn cael y ffyrling eithaf o'i rent arswydus ef;
ond nid yw Robert, wedi ei holl lafur am un mlynedd ar ddeg i gynorthwyo
y tenant i gasglu y rhent uchel hynny i'r lord, yn cael yr un ddimai o'i
gyflog. Ac y mae y gof hefyd ag oedd wedi gweithio am ddwy flynedd i'r
Foelfawr yn methu cael dim am ei waith na'i haiarn; a dywedir yn hyf ac
yn uchel drwy yr holl ardal fod baili uchaf Lord Quicksilver wedi prynnu
deg o ychen mwyaf y Foelfawr am hanner eu gwerth, am fod y cymydogion yn
ofni cynnyg yn ei erbyn, ac am fod y rhybudd am yr ocsiwn mor fyrr, ac
ain na roddid dim coel i'r prynnwr. Cyfraith yr ocsiwn wyllt sydyn yno
oedd talu i lawr gyda bod y morthwyl i lawr; a chan fod y lord newydd
dderbyn ei renti y diwrnod cyn hynny, nid oedd yno ddim arian parod i'w
gael drwy yr holl gymydogaeth. Yn wir y mae yn ddrwg iawn gennyf dros
Humphrey y Gof, a thros Robert Frugul druan. Cyfraith uffernol ydyw
honno sy'n yspeilio y gweithiwr tlawd o'i ennill caled, ac o fwyd a
dillad ei blant, er llenwi coffrau a seleri y gormeswyr goludog.
Peidiwch, da mam, ag edrych yn ddu fel yna arnaf am anturio siarad fel
hyn am y gormeswyr goludog. Gwn eich bod wedi ein dysgu o'r cryd i
siarad yn wylaidd, ac i feddwl yn barchus am fawrion ein gwlad; ond y
gwir ydyw y gwir, a dylid ei ddweyd ar amgylchiad fel hwn. Ac nid oes
dim ond rhyw bum mis, fel y gwyddoch, er pan ddarfu i'r hen Nansi Jones,
ar ol bod yn dairymaid ragorol o fedrus ac o ffyddlon yn y Ddol Hir am
dros ugain mlynedd, golli pob ceiniog a enillasai yn yr un modd, pan y
mynnodd yr hen Lady Marigold o Blas y Dyffryn, bob dimai o'i rhent
afresymol hi. Beth ydyw pethau fel hyn ond lladrad noeth? Ac yr oedd y
drefn lunio cyfraith dros beth fel hyn, a'i darllen dair gwaith drosodd
mewn dau lys seneddol, cyn gosod sel y goron wrthi, yn rogni mor
gythreulig ag a ddyfeisiodd Turpin Wyld a'i gymdeithion erioed yn nyfnder
y nos, yn seler dywyllafllys cyngor ei ogof. Druan o'r hen Nansi Jones,
wedi colli drwy hyn y cyfan o holl ennill ei bywyd, wedi colli drwy hyn y
cyfan ydoedd wedi ofalus gynilo i'w chynnal yn ei hen ddyddiau. Ydyw,
mam, y mae peth fel hyn yn orthrymder anoddefadwy. Y mae yn farbariaeth
o'r fath greulonaf; ac y mae y rhai sydd yn gweinyddu y fath gyfraith yn
lladron o'r dosbarth hyllaf; y maent yn lladron hyfion wyneb-haul: ac y
maent yn digywilydd ymogoneddu yn nerth trais eu lladradaeth. Gellwch
chwi, fy nhad, ysgwyd pen, a gwenu a synnu bob yn ail, at hyfdra fy
ymadroddion; ond nid wyf yn dywedyd dim ond y gwir. Yr wyf yn dywedyd
gwirionedd eglur, mewn geiriau eglur; ac y mae yn llawn bryd i rai ddweyd
y gwir am bethau fel hyn yn y mannau mwyaf cyhoedd, ac yn y geiriau mwyaf
eglur. Y mae synwyr cyffredin y wlad wedi bod yn rhy wylaidd o lawer, a
gonestrwydd cyffredin y wlad wedi bod yn rhy ddistaw o lawer yn nghylch
pethau fel hyn."
"Ond," ebe'r tad a'r fam, eu dau ar unwaith, "er mwyn popeth, John anwyl,
gad yna bobl fawrion y senedd a'r gyfraith; gad i ni ystyried beth sydd i
ni wneyd yn awr?"
"Beth sydd i ni wneyd?" ebe John. "Nid oes dim i ni ei wneyd ond MYNED I
AMERICA. Nid ydyw yn awr ddim hanner mor dreulfawr, na hanner mor
dywyll, na hanner mor beryglus, i fyned yno ag ydoedd pan aeth fy nau
ewythr, a'm dwy fodryb, yno ddeugain mlynedd yn ol; a gwyddoch yn dda fel
y maent hwy a'u plant wedi llwyddo. Gallwn gyhoeddi ocsiwn yn ddioed; ac
ar ol talu i bawb bob ffryling o'u gofyn, bydd gennym dros ddwy ran o
dair o'r cynnyrch tuag at ddechreu byw o newydd yn nyffryn bras y
Missouri. Trwy drugeredd, ni raid i ni ddim eto gladael i'r ocsiwn ar
ein pethau fod dan fawd y bailiaid. Cawn werthu pan y mynnom, ac fel y
mynnom. Codwch eich calon, fy anwyl dad a mam; y mae grennych chwech o
blant cryfion fyddant yn ffyddlon i chwi hyd angeu. Yr ydym oll gyda
chwi yn awr, ac yn gwbl ryddion i ddyfod gyda chwi i America. Yr ydym yn
nyddiau goreu ein nerth, wedi ein hyfforddi i lafurio. Y mae pob golwg a
gobaith y gallwn wneyd yn dda yn America. Codwch eich calonnau, cawn
drigo yno eto yn llawen ac yn ddiogel bob un dan ei olewydden a'i
ffigysbren ei hun; ac ni chaiff yr un o honoch chwi ddioddef dim eisieu
tra y bydd dim modd gennym ni i'ch cynorthwyo."
"Ond," ebe y fam, a'i llygaid yn llawn, "a wyt ti ddim yn meddwl, John, y
medrem ni gael ffarm oddeutu yma, dan ryw arglwydd tir arall, yn hen wlad
anwyl ein genedigaeth?"
"Nac ellir yn wir, fy anwyl fam; y mae bron yn amhosibl cael cynnyg ar
ffarm o unrhyw werth, dan unrhyw feistr tir ag sy'n deall y ffordd i
gefnogi ei denantiaid. Nid llawer o'r arglwyddi tir hynny sydd i'w cael
yn ein gwlad ni yn awr; ac am y lleill oll, nid oes dim llawer o ddewis
rhyngddynt. Ni waeth ganddynt yn y byd pwy a wasgant, na pha faint a
wasgant ar y sawl a gant dan eu hawdurdod, am y cant hwy y geiniog uchaf
rywfodd. Y mae llaweroedd o honynt, drwy eu dylni, a'u gwastraff, a'u
gorthrymder, wedi bron andwyo eu hetifeddiaethau, ac wedi rhedeg i ddyled
dros eu pennau; ac y maent, er gwasgu a chribddeilio, bron yn methu cael
dau pen y llinyn yn nghyd. Y mae eraill o honynt yn ddigon cyfoethog;
ond nid oes ganddynt na chalon na challineb i ddim ond i wasgu a gor
thrymu. Dyna yr hen Lady V. o Garth Tafwys. Y mae yn graig o arian, ond
y mae yn ddraig o greulondeb tuag at ei thenantiaid. Bu ganddi yn fy
nghof i saith o denantiaid ar y ffarm fwyaf sydd ganddi; a darfu iddi
bron andwyo eu teuluoedd. A gwyddoch fod amryw o ffermydd goreu y
General Malden yn awr ar ei law. Bu amryw amaethwyr craffus, cryfion, yn
eu golwg; ond y mae yr hen General, er ei fod yn colli cannoedd arnynt
bob blwyddyn, yn rhy gyndyn i'w gosod am renti, ac ar amodau ag y gellir
byw arnynt, a thalu am danynt. A dyna ein hen gymydogion H. H., a B. W.,
a D. D. E., y rhai a gydnabyddir fel y ffarmwyr goreu yn yr holl wlad,
wedi llwyr benderfynu rhoddi eu ffermydd i fyny Wyl Fair nesaf; ac y mae
eu meistr hwy yn cael ei ystyried yn un lled deg a rhesymol: a rhywbeth
tebyg ydyw bron yn mhobman. Y gwir yw, dyrysodd rhwysg rhyfel dyddiau
gogoniant yr hen Boni wyr mawr ein gwlad; cawsant flas y pryd hynny ar
renti uchel, ac ymchwyddasant i fyw yn wastraffus ar y rhenti hynny; ac y
maent hyd heddyw heb ddysgu, neu yn hytrach heb geisio dysgu, cael pethau
i'w lle. Amserau caled iawn gafodd y ffarmwyr bron o hyd o hynny hyd
heddyw. Llai nag a feddyliech chwi o'r tenantiaid goreu sydd wedi gallu
cael dim cyflog am eu llafur, chwaethach llog am eu heiddo. Y mae
miloedd obonynt wedi rhoddi nerth eu dyddiau goreu i'w meistradoedd am
flynyddoedd lawer am ddim ond eu bwyd; ie, y maent yn dlotach o lawer yn
awr ar ol eu holl ofal, a'u holl lafur, nag oeddynt ddeng mlynedd at
hugain yn ol. Y mae yr arglwyddi tiroedd yn eu diraddio ac yn eu trin
fel caethion. Y maent yn meddwl ei bod yn fraint iddynt lafurio am ddim
er eu cynnal hwy; ac y maent yn cydymgyngreirio i gadw i fyny renti hen
ddyddiau Boni er cynnal i fyny rwysg a rhysedd gwallgofrwydd y dyddiau
hynny. Goreu i ni, yn wir, po gyntaf yr awn i'r America. Nid oes dim
golwg am ddyddiau gwell yma. Yr ydych chwi yn lled adnabyddus o
amgylchiadau y rhan fwyaf o ffarmwyr yr ardaloedd hyn. Yr wyf fi yn
barnu, yn ol pob hanes, fod y serfs yn Russia, er caethed ydynt, wedi
ennill mwy yn y deugain mlynedd diweddaf nag a enillodd y rhan fwyaf o
denantiaid ucheldiroedd Cymru. Onid ydych chwi wedi cyfaddef lawer
gwaith mai gwanychu yn raddol y maent o hyd, er eu holl ymdrech, er's
dros ddeunaw mlynedd ar hugain. Os ydyw gwersi hanesion byrion fy hen
lyfr ysgol i yn gywir, y maent yn trin tenantiaid y wlad yma yn awr yn yr
un modd yn union ag y dywedir fod barwniaid Russia yn trin eu
caeth-denantiaid. Y mae llawer o etifeddiaethau llydain yn cael eu trin
yng Nghymru yn awr yn yr un dull yn union ag yr oedd arglwyddi
gloddestgar Rhufain yn trin eu hetifeddiaethau yn mlynyddoedd olaf
adfeiliad eu hymerodraeth. Gwyddoch yn burion fel y mae y meistri
tiroedd a'u stewardiaid wedi bod yn anialeiddio yr Iwerddon drwy y
blynyddoedd, nes ydynt o'r diwedd wedi torri eu tenantiaid, ac wedi torri
eu hunain hefyd, ac wedi achosi tlodi mawr drwy rannau helaeth o'r wlad
werdd honno. Y mae rhai parthau o Gymru wedi cael eu gwasgu i gyflwr
lled Iwerddonaidd. Y mae y ffyrdd a'r adeiladau yn warth i'r oes. Y mae
yn drwm iawn fod arglwyddi tiroedd mor ddiwladgarwch, mor ddiddyniolaeth,
ac mor gibddall i'w lles eu hunain. Yn lle ymhyfrydu yn ffyniant ac yn
nedwyddwch eu tenantiaid, y maent yn llawenychu yn ysbryd ac yn moesau
gwasaidd eu caethiwed a'u tlodi. Gwyddoch yn eithaf da ein bod ni bob
amser wedi byw mor gynnil ag oedd bosibl i ni. Gwnaeth hen gyfrwy fy
nhad cu y tro i ni rhyngom oll tan y Gwanwyn diweddaf, pan y cawsom
gyfrwy newydd cryf a rhadlawn; ac yr ydych yn cofio yn burion ddanodion y
man-squires spardynawg, meibion y steward, pan yr aeth fy mrawd ieuangaf
i ffair Galanmai ar gefn y cyfrwy newydd am y tro cyntaf. Rhaid i bob
cyfrwy gael ei daith gyntaf rywbryd. Yr oedd fy mrawd, ar ebol du a'r
cyfrwy newydd, yn edrych yn bur dda y bore hwnnw. Gwn nad anghofiwch
byth mo edrychiad na geiriati ladies ieuainc drawing-room y steward pan
yr aeth fy chwaer dal wridog Betsy, dair blynedd yn ol, heibio i'w
ffenestr fawr yn ei shawl wlanen newydd i edrych am ei chyfnitheroedd o'r
Dyffryn: ac yr ydys yn dweyd fod yr hen ffarmwr cloff diwyd Edward
Sparing i lawr yn llyfr private y steward am ei fod wedi prynnu dog-cart
gref dda gan ei gymydog cywrain Wheelwright Davies i'w gario ef a'i ferch
wylaidd lan lanwaith Elen i farchnad yr yd a'r ymenyn. Cewch chwi weled
na bydd neb yn fuan i drin y tir yn yr hen wlad lethedig yma ond
You have read 1 text from Welsh literature.
Next - Gwaith Samuel Roberts - 4
  • Parts
  • Gwaith Samuel Roberts - 1
    Total number of words is 4531
    Total number of unique words is 1776
    39.9 of words are in the 2000 most common words
    60.5 of words are in the 5000 most common words
    69.8 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Samuel Roberts - 2
    Total number of words is 4704
    Total number of unique words is 1977
    34.4 of words are in the 2000 most common words
    53.6 of words are in the 5000 most common words
    63.3 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Samuel Roberts - 3
    Total number of words is 5455
    Total number of unique words is 1587
    44.4 of words are in the 2000 most common words
    64.1 of words are in the 5000 most common words
    72.8 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Samuel Roberts - 4
    Total number of words is 5307
    Total number of unique words is 1534
    41.5 of words are in the 2000 most common words
    59.3 of words are in the 5000 most common words
    69.6 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Samuel Roberts - 5
    Total number of words is 5407
    Total number of unique words is 1466
    45.0 of words are in the 2000 most common words
    62.9 of words are in the 5000 most common words
    72.6 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Samuel Roberts - 6
    Total number of words is 2023
    Total number of unique words is 857
    48.3 of words are in the 2000 most common words
    67.6 of words are in the 5000 most common words
    75.1 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.