Gwaith Samuel Roberts - 4

Total number of words is 5307
Total number of unique words is 1534
41.5 of words are in the 2000 most common words
59.3 of words are in the 5000 most common words
69.6 of words are in the 8000 most common words
Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
personiaid a beggeriaid, a man-squires a demireps, ac uwch-stewardiaid ac
is-stewardiaid, a chlepgwn a thurncoats, a gamekeepers a bailiaid; a
ffarmio ardderchog arswydus fydd yn bod yma y pryd hynny. Caiff
arglwyddi tiroedd weled eu camgymeriad, a theimlo eu colled y pryd hynny,
ond bydd yn rhy ddiweddar iddynt edifarhau. Ni bydd dim gobaith iddynt
hwy weled diwygiad cyn eu marw. Dichon y caiff y to ar ol y nesaf weled
dyddiau gwell yn hen wlad wyllt Gwalia."
"Ond," ebe'r tad, "a fyddai ddim yn well i ni ymfudo i ryw dalaeth
Brydeinisg? Dywedir fod yn awyr iachus deheubarth Affrica filiynau ar
filiynau o gyfeiriau o wastad-dir bras ffrwythlawn heb neb i'w trin. A
fyddai ddim yn well i ni geisio prynnu ffarm fawr dda mewn lle felly?"
"Yr wyf yn meddwl, fy nhad, na byddai. Yr wyf yn credu y buasai yn hawdd
iawn prynnu ffermydd ardderchog yno pe buasid o'r dechreu yn ymddwyn yn
agos i deg a boneddigaidd tuag at y cynfrodorion. Ond yn awr y mae Syr
Hero Harri Aliwal a'i gydswyddwyr mawrfrydig a gwronaidd, drwy
gyfarwyddyd a than awdurdod swyddfa llys uchel y taleithiau tramor, wedi
poeni a dirmygu a gormesu cynfrodorion y parthau dymunol hynny nes eu
gyrru yn wallgof gynddeiriog; ac yr ydys yn benderfynol i'w llwyr
ddiwreiddio o'r tir, a'u hymlid i ddinistr bythol cyn gynted ag y byddo
bosibl; ac y mae swyddwyr Prydain wedi chwythu un o wageni mwyaf y
brodorion yn yfflon gyrbibion er dangos fod ganddynt ddigon o bowdr i
ddryllio pob peth yno o'u blaen."
"Wel," ebe'r tad eilwaith, "pe bai ni yn gwneyd i fyny ein meddyliau i
fyned i America, a fyddai ddim yn well i ni aros ychydig i edrych beth a
ddaw?"
"Na, yn wir, yr wyf yn meddwl mai colled fyddai hynny; ac y byddai yn
llawer gwell i ni baratoi i fyned ar unwaith. Y mae yn wir y gallem ni
droi yn union y weirglodd fawr dan y ty, a'r borfa hir dan y 'sgubor
bellaf, i wenith; ond gwnai hynny lawer mwy o ddrwg i'r tenant newydd nag
a wnai o les i ni; a byddai yn well i ni ymadael heb fod dim lle ganddynt
i ddweyd ein bod ni wedi cymeryd mantais oddiwrth unrhyw gytundeb llac
penagored i wneyd dim tebyg i dro bach felly. Yr ydym ni wedi eu
gwasanaethu am dymor hir yn onest ac yn anrhydeddus, ac ni hoffwn mewn un
modd i'r un tro bach felly lychwino ein hymddygiad wrth ymadael a hwy."
"Yr wyt yn hollol right, John," ebe y tad; "ni fynnwn innau er dim redeg
y ffarm, na'i drygu mewn un modd, fel ag i golledu ein dilynwr, pwy bynag
fyddo,--oblegid" * * * * *
Ar ganol yr ymddiddan yma, daeth Foulk Edward, yr under-steward, i'r ty i
ofyn i John a'i frodyr ddyfod gydag ef yn union deg a'u harfau cau a'u
menyg i drwsio gwrych y nursery.
* * * * *
Ymhen rhyw dair wythnos ar ol hyn, pan ydoedd Squire Speedwell yn gyrru
yn lled fore ar draws Ffridd Hir Cihaul Uchaf, goddiweddwyd ef gan ruthr
trwm o eirlaw, a charlamodd ei oreu am gysgod at ysgubor uchaf Ffarmwr
Careful. Yr oedd y ffarmwr yn digwydd bod yno y pryd hynny yn trwsio ei
og fawr, ag oedd wedi cael ei thorri wrth gael ei llusgo yn erbyn
dannedd, neu ar draws asennau, y graig ddu oedd yn ngbanol ei faes
gwenith uchaf. Brysiodd y ffarmwr yn bur garedig a boneddigaidd i gael y
Squire a'i farch i ddiddosfan; ac wrth ddiolch am ei garedigrwydd,
sylwodd y Squire fod mwy na thair blynedd er pan oedd ef wedi bod y
ffordd honno o'r blaen; fod yn hoff iawn ganddo weled, wrth ddyfod i fyny
y Ffridd, fel yr oedd hen ffarm Cilhaul Uchaf wedi cael ei threfnu a'i
gwella yn y blynyddoedd diweddaf, a'i fod yn gobeithio y cai y tenant oes
hir i fwynhau tal am ei lafur. Cydnabyddodd John Careful, mewn llais
trist isel, ei fod ef a'i deulu wedi myned i lawer iawn o lafur ac o
draul er gwella y ffarm, ond eu bod yn colli y cyfan,--ei fod newydd
dderbyn notice i ymadael.
"Nac ydych, 'does bosibl," ebe'r Squire yn bur sydyn.
"Ydym yn wir," meddai y tenant. "A ydyw eich meistr tir yn gwybod eich
bod yn ymadael?"
"Yn wir, syr, nid wyf yn gwybod hynny." "Wel, yr wyf fi yn disgwyl cael
gweled eich meistr tir yfory, neu drenydd, ac mi siaradaf ag ef yn
nghylch y mater."
"Yr wyf yn rhwymedig ac yn ddiolchgar iawn i chwi yn wir, syr; ond yr wyf
yn ofni na byddai hynny o ddim lles i ni nac i neb arall. Y mae yn awr
yn rhy ddiweddar. Gwasanaethodd y steward fi a'r notice a'i law ei hun,
a hynny mewn dull pur benderfynol. Y mae fy meibion yn teimlo ein bod
wedi cael cam creulon, ac y maent yn gofidio yn ddwys o'r herwydd; ac y
maent yn hollol benderfynol i fyned i America, ac y maent yn daer iawn ar
i'w rhieni fyned gyda hwy."
"Yr anwyl mawr, gwarchod ni, gobeithio nad yw Mrs. Careful a chwithau
ddim yn meddwl myned dros y mor i'r America yn eich oed chwi."
"Ydym, yn wir, syr, ac ni awn hefyd os bydd ein plant yn myned."
"Na, na, Mr. Careful bach, ail ystyriwch y peth--gwyliwch rhag y fath
helbul, a pherswadiwch eich meibion i beidio gadael gwlad eu genedigaeth.
Goddefwch i mi gael cyfle i siarad a'ch meistr tir yn nghylch y peth. Caf
adeg yn bur fuan. Aroswch chwi--; gadewch i ni weled--; gwrandewch yn
awr--. Y mae eich meistr tir i fod yn Hunt Fawr C * * * yr wythnos
nesaf. Deuwch yno; a byddwch yn sicr o ddyfod yno; a deuwch yno yn fore:
mynnaf fi gyfle i chwi gael ei weled a siarad ag ef, a chawn glywed beth
a ddywed."
"Yr wyf yn ddiolchgar iawn i chwi yn wir, syr, am eich ewyllys da, a'ch
cyngor caredig. Yr wyf yn teimlo yn bur isel a hiraethlawn wrth feddwl
am fyned o fy hen gartref a'm hen wlad, ond yr wyf yn ofni mai felly y
bydd. Y mae y plant yn dynn iawn am fyned, gan ein bod wedi cael y fath
gam a'r fath amharch--y mae yn rhy bell i feddwl am wneyd dim pen yn awr.
O'r braidd y gwrandawai y plant yn awr ar unrhyw gyngiad i aros yma. Yr
ydys wedi ymddwyn tuag atom yn groes i bob cyfiawnder. Y mae yn amlwg
fod y steward a'i fryd yn sefydlog ar gael ein lle; ac y mae ef a'i denlu
yn rhai pur gwmpasog a chyfrwys, ac yn foddlon i wneuthur pob peth et
cael eu cynllun i ben."
"Wel, wel, beth bynnag am hynny, gofalwch chwi am fod wrth Hotel C * * *
erbyn hanner awr wedi wyth fore dydd yr Hunt. Y mae rhuthr y gawod yn
awr drosodd; mi af fi, os gwelwch yn dda: yr wyf wedi addaw cyfarfod tri
o'm cyfeillion ar ben Bryn Grug y Grouse am hanner awr wedi deg."
Dydd yr Hunt a ddaeth; ac yr oedd Ffarmwr Careful wrth yr Hotel, yn ol ei
air, erbyn y funud benodedig: ac yr oedd yn edrych yn bur dda ar ol
cerdded yno ar ei draed. Ymhen pum munud ar ol iddo gyrraedd yno, gwelai
Lord Protection, ei feistr tir, yn myned heibio yn mraich Squire
Speedwell. Y funud y canfu y Squire Mr. Careful yno, cododd ei fys arno
i ddyfod yn mlaen, a dywedodd,--
"O my lord, dyma eich hen denant John Careful, yr hwn y bum yn crybwyll
wrthych am dano y nos o'r blaen."
"O, ho, bore da, Mr. Careful," ebe Lord Protection; "gwn oddiwrth fy
llyftau, ac oddiwrth yr hyn wyf yn glywed gan bawb, eich bod chwi yn un
o'r tenantiaid goreu a mwyaf ymdrechgar a feddaf. Y mae yn wir yn ddrwg
iawn gennyf eich bod yn myned i ymadael. Derbyniais air yn ddiweddar
oddiwrth fy steward yn hysbysu eich bod yn cwyno ar y rhent, ac yn
enwedig ar y codiad diweddaf. A ydyw y rhent mewn gwirionedd yn rhy
uchel, Mr. Careful? Nis mynnwn er dim i'ch ffarm chwi fod yn rhy ddrud i
chwi allu talu am dani. Nid wyf yn gallu cofio yn awr yn gywir am ei
hansawdd. Nid wyf erioed wedi cael hamdden a chyfle i edrych yn fanwl
dros Cilhaul Uchaf. Ydych chwi yn barnu yn gydwybodol ei bod hi yn rhy
ddrud?"
"Ydyw yn wir, my lord, y mae yn rhy ddrud. Yr wyf fi a'm teulu wedi
gwneuthur prawf teg o hrnny. Ffarm wlyb, oer, amlwg, lechweddog, lawn o
gerryg, ydyw--yn gofyn traul a llafur anghyffredin i'w thrin. Darfu i
ni, yn y blynyddoedd diweddaf, wario llawer mewn gwelliantau. Yr oedd y
codiad yn un trwm afresymol, ac yn un hynod o anamserol; a darfu i
briswyr eraill gymeryd achlysur a mantais oddiwrth brisiad eich
goruchwyliwr chwi i wneuthur niwaid mawr i ni. Yr ydym, yn wir, my lord,
wedi cael cam cywilyddus; a darfu i mi gwyno wrth eich steward, a dywedyd
nad oedd dim modd i mi dalu am y ffarm yn ol y rhent a'r trethoedd a'r
prisiau presennol; a rhoddodd y steward i mi notice i ymadael, ac
awgrymodd y byddai yn ddigon hawdd iddo osod y ffarm y diwrnod a fynno."
"Ac, my lord," ebe Squire Speedwell, yn bur sydyn, "y mae John Careful
a'i deulu yn penderfynu myned i America. Byddai yn resyn yn wir, my
lord, iddynt ymadael ac ymfudo felly. Gadael eich estate chwi. Gadael
hen aelwyd eu tadau; a gadael gwlad hoff eu genedigaeth. Tad cu John
oedd un o'r dynion cryfion fu'n cadeirio eich tad cu chwi drwy y ddinas
yma yn amser yr election fawr; a bu ei dad ef yn cario eich tad chwi ar
achlysur y gyffelyb fuddugoliaeth ar ol hynny; ac y mae ganddo yn awr dri
o feibion talion gwridog cryfion, nad ellid byth gael rhai mwy noble i
gario eich mab chwi yn yr election nesaf. Da chwi, my lord, er mwyn pob
peth, gwnewch rywbeth o'u tu yn yr amgylchiad a'r bwlch yma. Yn wir nid
yw ddim yn amser yn awr i daflu ymaith y fath hen denant ymdrechgar a
gofalus."
"Wel, mi wnaf yn sicr. Mynnaf siarad a'r steward ar y mater yn yr Audit
nesaf. Yr wyf fi yn credu fod fy stewardiaid i yn ceisio gwneyd eu
goreu. Nid wyf yn meddwl nad allant hwy gamgymeryd fel pobl eraill; ond
yr wyf yn credu eu bod yn bryderus ac yn awyddus ac yn llafurus ac yn
ddiwyd ac yn ystyriol i wneyd yr oll ag a allant yn y modd goreu; ac nid
wyf yn hoffi ymyrryd a'u trefniadau; ond yn wir yr wyf yn dwys deimlo
dros fy nhenantiaid tlodion ymdrechgar yn y blynyddoedd isel hyn. Y mae
dyddiau treth yr yd, dyddiau deddfau amddiffyniad eu marchnad hwy,
dyddiau prisiau adeg fyw y rhyfeloedd, wedi hen fyned heibio. Y mae'n
debyg gennyf ei bod yn bur ddrwg er's tro yn awr ar denantiaid; ac yr wyf
yn ofni yn wir, John Careful, eich bod chwi wedi cael eich gwasgu, a
gobeithio yr wyf y gwelaf fy ffordd yn oleu ac yn rhydd i mi eich
cynorthwyo chwi yn y bwlch yma. Ond dywedwch i mi, John, a ydych chwi
ddim yn meddwl y gallai rhai o'r tenantiaid wneyd mwy o'u ffermydd nag y
maent yn ei wneyd?"
"Ydwyf, my lord, yr wyf yn meddwl y gallent, ond iddynt gael cynorthwy a
chefnogiad ac addysg; ond os rhoddwch chwi bedwar can pwys ar ysgwydd dyn
nad all gario ond tri chan pwys, yr ydych yn sicr o'i wneyd bob yn dipyn
yn anewyllysgar ac yn analluog i gario dau gan pwys. Os gorfodwch chwi
ddyn i redeg triugain milldir y dydd, pan na ddylai redeg ond deugain
byddwch yn sicr cyn hir o'i redeg i'r pen. Y mae llawer o ffarmwyr yn
awr wedi eu gwasgu mor isel fel nad oes ganddynt ddim calon na nerth i
gynnyg at orchwylion ag y buasent dan amgylchiadau mwy cefnog yn sicr o'u
cyflawni. Peth eithaf priodol--ie, peth da ragorol, my lord, fyddai i'ch
stewardiaid trymion llymion chwi ysbarduno tenantiaid a gweithwyr
cysglyd, dioglyd, rhodianllyd, clebrog; ac yn wir yr wyf yn hoffi o'm
calon gweled rhai swrth a segur felly yn ei chael hi hyd adref; ond ar ol
ei rhoi hi yn ddiarbed i'r rhai afler a marwaidd, carwn yn fawr weled
eich steward mawr chwi, yn union ar ol derbyn y rhenti, yn galw y rhai
diwyd ac ymdrechgar o'i ddeutu i square yr Hotel, a charwn ei weled yn eu
canol, fel pregethwr 'Senters, yn dringo carreg yr Horse-block, i
areithio er canmol ac er cefnogi eu gofal a'u llafur. Carwn ei weled yn
sefyll yn syth ar ben hen garreg yr Horse-block; ac ar ol rhyddhau a
glanhau ei wddf, a thynnu ei gadach allan i sychu ei wyneb a'i wefus,
hoffwn ei weled yn estyn ei law am osteg a gwrandawiad, a'i glywed yn
areithio yn debyg i hyn:--
"'Fy hoff gyfeillion,--Yr wyf yn eich galw yn gyfeillion, oblegid yr wyf
fi yn gyfaill i chwi, ac yr wyf yn dymuno parhau yn gyfaill i chwi; ac y
mae o bwys mawr i ni fod yn gyfeillion. Y mae eich meistr tir urddasol a
haelfrydig wedi erchi i mi hysbysu i chwi ei fod ef yn dymuno eich
ffyniant a'ch cysur--ei fod yn dymuno i chwi wneyd yn dda, ac edrych yn
dda--ei fod yn dymuno i chwi gadw offer hwsmonaeth da, a stoc dda; a'i
fod am i chwi gael pantry llawn a phwrs llawn, a'i fod am i chwi allu
sparin arian bob blwyddyn. Y mae yn beth hollol deg a gweddus i chwi
gael rhywfaint o gyflog am eich gofal a'ch lludded, a rhywfaint o log am
yr arian sydd gennych yn nodrefniad a stociad eich ffermydd; ond ar yr
amserau drwg a dyryslyd hyn, dylech fod yn foddlon ar dalion cymedrol,
eto dylai pob un o honoch gynilo ychydig bob blwyddyn, os na bydd rhyw
dreuliau teuluaidd anarferol yn lluddias hynny. Dylech ymdrechu cynilo
ychydig bob blwyddyn erbyn angen a methiant y dyddiau a ddaw. Ewyllys
arbennig eich meistr tir ydyw i chwi gael pob anogaeth a chefnogiad.
Byddwch yn ddiwyd a gofalus. Gochelwch bob difrod a diogi. Astudiwch
eich cynlluniau yn fanylaidd. Cyn dechreu ar unrhyw orchwyl, eisteddwch
yn gyntaf i fwrw y draul. Cedwch eich cyfrifon yn llawn ac yn eglur.
Ymgedwch gartref hyd y gellwch. Telwch eich ffordd yn gyflawn yn mhob
man wrth fyned yn mlaen. Gochelwch ddechreu rhedeg i ddyled. Na
phrynnwch byth ar y coel. Gochelwch arfer benthyca arian na dim arall.
Cedwch eich buarthau yn gryno, eich cloddiau yn lan, eich cwterydd yn
agored, eich gwrychoedd yn gyfain, eich ffyrdd yn gelyd, eich llwybrau yn
sychion, eich to yn ddiddos, a'ch holl adeiladau mewn trwsiad cyfaddas.
Colled i chwi, yn gystal ag i'ch meistr, fyddai i chwi beidio gwneyd
hynny. Gwn am ddwy neu dair o ysguboriau lle y cafodd tunelli o wair ei
ddrygu y gaeaf diweddaf am fod y to yn gollwng defni. Naw mlynedd yn ol,
darfu i'ch arglwydd tir fyned i draul fawr i wneuthur ffordd newydd drwy
Glyn y Bedw Gleision. Bu bron iawn i mi gorsio mewn mwy nag un man ar y
ffordd honno yn mis Mawrth diweddaf. Nid wyf yn meddwl i neb drwsio dim
arni, nac ar ei phyllau, nac ar ei ffosydd, nac ar ei routs, nac ar y
cloddiau o'i hamgylch, er y dydd y cafodd ei gorffen. Nis gwn yn sicr ar
bwy y mae bai mwyaf yr esgeulusdod, pa un ai ar arolygwyr ffyrdd y dre
ddegwm ai ar denantiaid yr ardal; ond yr wyf yn sicr pe buasai eich
meistr tir yn dyfod ar hyd-ddi yn y Gwanwyn diweddaf, a phe buasai yn
gweled ol teyrnasiad gwlawogydd naw gaeaf ar bob rhan o honi, y buasai yn
gwylltio gymaint fel y buasai yn ysgubo tenantiaid yr ardal honno i
ffwrdd bob un oddiar ei etifeddiaeth. A gwelais hefyd wrychoedd mawr
ceimion cysgodfawr canghenog, heb gael eu torri er dyddiau y Frenhines
Ann, yn lledu eu gwraidd a'u brigau ar draws ac o amgylch rhai o'r dolydd
mwyaf cysgodol yn yr holl wlad. Peidiwch er dim ag aredig mwy o dir nag
a fedrwch wrteithio. Bydd hynny yn sicr o achosi colled. Yr wyf yn
meddwl y gwnai gwisg go dda yn awr ac eilwaith o bridd a chalch, neu o
bridd a thail, i'ch porfeydd a'ch gweirgloddiau dalu yn well O lawer yn y
wlad oer fas wleb anwastad yma nag i chwi lafurio i droi gormod. Gwelais
y dydd o'r blaen, wrth fyned ar draws gyda'r cwn, hen domenydd llydain o
dywyrch ffosydd ar ganol y gweirgloddiau gwair, yn y mannau goreu arnynt;
ac yr oedd argoelion digon eglur fod y tomennau hynny wedi bod yno ar
ffordd y bladur er's degau o flynyddoedd. A gwelais hefyd y cloddiau a'r
ffosydd oddeutu amryw gaeau gwlybion wedi llawn gau, a'r man-ffrydiau sly
yn ymlithro yn ddistaw drwy'r dydd a thrwy'r nos o'r clawdd i'r cae i
andwyo y tir. Yr oeddwn bron gwylltio wrth weled hynny, eisiau fod y
cloddiau a'r ffosydd yn cael eu hagor, a'r tywyrch yn cael eu cymysgu a'r
hen domenydd gorsychion, a'r cyfan yn ol hynny yn cael eu cymysgu a
chalch neu a thail i'w daenu dros y caeau. Gellid dyblu cynnyrch rhosydd
a chaeau gwlybion yn y dull hynny. Y mae rhai yn meddwl y gellid gwneyd
defnydd da o glai drwy ei olosgi. Er mwyn pob peth ymdrechwch ddyfeisio
rhyw foddion er atal egriad, a llifiad ymaith yr ammonia o'ch tomennydd:
neu, mewn geiriau eraill, er atal colli nodd y rhinwedd o'r tail, yr hyn
yw ei nerth fel gwrtaith. Gwelais ddoe, wrth fyned heibio, amryw
domennydd yn bur wasgarog, ar dapiau moelion, llechweddog, digysgod, heb
fod yn agos mor gryno ac mor amddiffynedig ag y buasai yn hawdd iddynt
fod. Yr oedd holl domennydd yr hen Farmwr Clout ar lethr craig, ar fin y
nant; ac yr oedd eu brasder goreu yn llifo ymaith i nychu y brithylliaid
oedd yn y llyn du oddidanynt: ac yr oedd pistyll trystfawr Ffarmwr
Careless yn gwyllt-ffrydio ar draws buarth y ty, a thrwy fuarth yr
ysgubor, a thros ochr yr ydlan, ac i lawr dros y ffordd i'r afon. Y mae
y fferyllwyr craffaf yn dysgu i ni fod llawer iawn o nerth gwrteithiau
cartrefol ein gwlad ni yn cael ei golli trwy fod y tomennydd yn cael eu
gadael yn agored i'r tes ac i'r tymhestloedd. Dyfal astudiwch bob
cynllun a osodir ger eich bron er ysgoi y colledion hynny. Y mae yr hen
dai, a'r hen ysguboriau, ar lawer tyddyn wedi cael eu hadeiladu yn y
mannau mwyaf anfanteisiol. Nid eich bai chwi oedd hynny. Gwn fod lle a
dull adeiladau rhai ffermydd go fychain yn achosi colled o dros ugain
punt yn y flwyddyn. Er pob peth astudiwch a chwiliwch am ryw foddion er
atal i rinwedd eich tomennydd gael ei sugno gan y tes i'r wybren, na
chael ei olchi gan y tywydd i'r mor. Gwn am amryw hen ffarmwyr a
wnaethant lawer o arian yn eu dydd, ac nid wyf yn gwybod eu bod yn enwog
am ddim ond am ruglo y buarthau, a chludo y cyfan i'r domen er ei mwyhau,
ac am ei chadw yn gryno er ei hamddiffyn. Gwnewch eich goreu ymhob modd
i frashau a chynyddu eich gwrtaith cartrefol. Cedwch oriau rheolaidd, yn
enwedig wrth godi ac wrth noswylio, a chyda'ch prydiau bwyd. Dysgwch
eich gweinidogion i fod yn ddiwyd, ac yn gynnil, ac yn onest. Erfyniwch
arnynt er pob peth i fod yn eirwir, ac yn ffyddlon yn eich absenoldeb.
Gwnewch eich goreu ar i bawb drwy'r ardal gael digon o waith. Peth
ofnadwy ydyw meddwl am fechgyn neu ferched ieuainc mawrion cryfion iachus
yn ymsegura mewn syrthni heb ddim i'w wneyd. Y mae llaweroedd drwy
seguryd felly wedi cael eu handwyo am byth. Rhoddwch gymaint o ysgol ag
a fedrwch i'ch plant. Ni fynnwn i er dim, ac yr wyf yn sicr nas mynnai
eich meistr tir er dim, eich rhwymo na'ch gorfodi mewn un modd gyda golwg
ar eich Sabbathau. Y mae yr addoli i fod yn hollol yn ol barn eich deall
a theimlad eich calon eich hun; ond goddefwch i mi ddweyd na welais i
ddim daioni yn dyfod erioed o'r bobl sy'n treulio eu Sabbathau i gysgu a
dylyfu gen a rhodianna a hel cleber. Os byddwch chwi am ryw welliantau
ag y dylai eich meistr tir eich cynorthwyo i'w gyflawni, ystyriwch eich
cynlluniati gyda manylrwydd, a gadewch imi wybod eich cynygion. Yr oedd
yn dda iawn gennyf eich gweled yma mor brydlawn bore heddyw. Y mae eich
cinio yn awr yn barod; ac y mae gennyf i'w hysbysu i chwi y bydd eich
arglwydd tir caredig yn eich dysgnyl oll i giniawa gydag ef yn y Castell
Wyl Fair nesaf. Bydd yno y pryd hynny amryw foneddigion profiadol
dysgedig i esbonio i chwi ryw egwyddorion newyddion gyda golwg ar ansawdd
gwahanol briddoedd, a gwahanol wrteithiau, a gwahanol lysiau, yn nghydag
amryw bethau eraill cysylltiedig a llwyddiant amaethyddiaeth. Gadewch i
ni fyned oddiyma yn awr i'r ystafell ginio. Ni gawn ar ol cinio yfed
iechyd da ein brenhines a'ch meistr tir; ac yna ymwasgarwn bob un i'w
gartref."
"Aros, John, aros; yr wyt ti yn awr yn pregethu dyledswydd i dy uwchradd,
a hynny mewn dull pur gyfrwys. Yr wyf wrth dy wrando wedi colli adeg i
weled cychwyniad y llwynog; yr wyf eisus yn rhy ddiweddar, ac mi gollaf
hynny o sport."
"Yr wyf yn deisyf eich pardwn, my lord; yr oeddwn yn rhy ddifeddwl wrth
gymeryd eich amser chwi felly; ond yn wir, ni buaswn i byth yn dweyd
cymaint oni buasai eich bod chwi yn gwenu mor isel ac mor garedig wrth
wrando. Mi af fi adref gynted ag y gallaf bellach."
"Aros, John, aros--paid a myned yn union eto. Yr wyf fi yn hoffi clywed
hen denant fel tydi yn dweyd ei feddwl a'i brofidd yn rhydd ac yn eglur.
Ychydig iawn yn wir wyf fi yn hidio yn awr am golli rhyw dipyn o sport ac
o lafur yr hela llwynog. Nid oes gennyf fi yn awr ddim cymaint o flys at
bethau felly ag a fu gennyf unwaith; ac yn wir yr wyf yn ofni ein bod ni
ar ddyddiau hela fel hyn yn gwneyd cryn niwaid i borfeydd a gwrychoedd a
chaeau yd ein tenantiaid. Y mae ein mintai heddyw rhwng cwn a meirch a
dynion yn un bur fawr. Yr wyf yn ofni fod ein blys ni am sport yn costio
yn lled ddrud iddynt hwy. Yr ydym, yn gyntaf, yn diygu eu meusydd hwy ar
ddyddiau ein helwriaeth. Yn ail, eu gwellt a'u hegin a'u hyd hwy sydd yn
porthi ac yn pesgi ein cwningod a'n hysgyfarnogod a'n hadar tewion ni. Yn
drydydd, y maent hwy yn lled fynych yn gorfod lletya a byrddio ein milgwn
a'n bytheuaid ieuainc ni, pan y bydd tymor sport yr hela drosodd. Ac yn
bedwerydd, os digwydd iddynt hwy rywdro, yn rhyw ddull, ddyfod ar draws
petrisen, neu gyffologyn, neu gyw pheasant, neu gwningen, neu ysgyfarnog,
dyna, hwy ar unwaith wedi ymddyrysu yn rhwydau ein deddfau helwfiaeth ni;
ac wrth ymwingo i geisio dianc yn rhydd, y maent y rhan amlaf yn colli eu
tymherau, ac wedi hynny yn colli llywodraeth eu tafodau, ac bob yn dipyn
ar ol hynny yn colli eu ffermydd. Atolwg, John, a fedri di ddweyd i mi
pa faint o gost i denant ydyw cadw bytheuad neu filgi ieuanc?"
"Na fedraf, my lord, ddim dweyd hynny yn fanwl. Byddai yn drueni
creulawn hanner newynu ci ieuanc. Os caiff ei gadw yn dda, costia
gymaint a chadw mochyn; ac y mae y gofal o gadw ci ieuanc yn rhywbeth. Y
mae helgi ieuanc cryf gwresog weithiau yn bur chwareus, braidd yn rhy
chwareus ar adeg yr wyn bach; ac y mae yn anhawdd iawn gennyf feddwl am
gi ieuanc wrth ei gadwyn ddydd a nos, ac edrych arno yn neidio o'm deutu
gan ymbil arnaf a'i wen, ac a'i ddeigryn, ac a'i lygaid, ac a'i ochenaid,
am ei ollwng yn rhydd o'i gadwyn i gael rhoddi mymryn bach o dro gyda mi
drwy y coed a'r caeau."
"Ond, John, wyt ti yn golygu fod ein game ni, sef ein hadar a'n
hysgyfarnogod ni, yn peri colled i'r tenantiaid?"
"Byddai yn well gennyf, my lord, beidio ateb y gofyniad yna."
"Yn enw dyn, John, pam?"
"Am nad yw y tenant byth ar ei ennill wrthsiarad ar bwnc fel yna."
"Twt, twt, John; yr oeddwn i wedi clywed dy fod di bob amser yn barod i
ddweyd dy feddwl yn eglur a didderbynwyneb ar bob pwnc. Y mae fy
ngofyniad i yn un digon dealladwy--A ydyw ein hysgyfarnogod a'n hadar ni
yn achosi colled i'n tenantiaid?"
"Wel, ydynt, my lord, y maent; y maent yn sicr. Y mae y tenant yn cael
rhy fach yny dyddiau yma am besgi beef a mutton; ac nid yw yn cael dim am
besgi cwningod ac ysgyfarnogod, ond rhyw ychydig o wenwyn ac o ddrwg
ewyllys yn awr a phryd arall. Ni chefais i ddim cymaint o golled
oddiwrth game ag a gafodd rhai tenantiaid; ond mi wn i am rai mannau lle
y mae game yn cael brasder y porfeydd, a defnydd bara y tylwyth. Dyna'r
gwir, my lord; ond yr wyf yn ofni fy mod yn eich digio wrth ei ddweyd."
"Nac wyt yn wir, John, nac wyt yn wir. Paid a meddwl fy mod wedi
tramgwyddo o herwydd yr hyn a ddywedaist heddyw. Da iawn gennyf fy mod
wedi cael cyfle i glywed dy farn a'th deimlad am y pethau yma. Byddai yn
burion peth i ni gael adegau mynychach i glywed ein tenantiaid yn adrodd
tipyn o'u helyntion; ac yn wir yr wyf fi bron iawn a blino ar bryder a
rhwysg a rhodres bywyd uchel cyhoeddus, a rhyw ffurf-ddefodau swyddogol
diddarfod. Yr wyf yn bwriadu edrych i mewn dipyn manylach rhagllaw i
amgylchiadau fy etifeddiaeth, ac i gyfleusderau a chysuron y rhai sydd yn
byw ac yn llafurio danaf. Y mae rhyw ddyledswyddau yn perthyn i bob
meddiannau. Y mae rhyw rwymedigaethau yn nglyn a phob eiddo; ac yn wir
yr wyf fi am wneuthur mwy o hyn allan tuag at gynorthwyo fy nhenantiaid
ymdrechgar. Yr wyf yn ofni yn fawr; ac yn wir, yr wyf yn gorfod hollol
gredu ein bod ni, arglwyddi tiroedd, wedi bod yn llawer rhy esgeulus o
ddyledswyddau blaenaf cylchoedd pwysig ein sefyllfa gymdeithasol; a bod
hynny wedi bod yn golled fawr i ni ein hunain, yn gystal ag i eraill. Y
mae arglwyddi y gweithiau haearn yn gwybod maint a nerth a thraul eu
ffwrneisiau. Y mae arglwyddi y mwnau yn gwybod hanes traul a chynnyrch
eu cloddfeydd. Y mae y manufacturers yn dyfal ymgais o hyd am
berffeithio eu peiriannau. Y mae y masnachwr yn astudio yn barhaus y
dulliau goreu i drefnu cistau a shelffydd a byrddau gwerthu ei fasnachdy.
Y mae y marsiandwr yn gwybod yn dda am dunelliad ei longau:--ond nid ydym
ni, y meistri tiroedd, wedi rhoddi bron ddim o'n meddwl erioed ar
gyfansoddiad gwrtaith, nac ar drefniad lleoedd tomennau, nac ydlanau, na
chyfansoddiad cutiau, nac ysguboriau, nallaethdai, na ffyrnau, na ffyrdd,
na ffosydd, na gwrychoedd, na buarthau, na nemawr o ddim o gyfleusderau
ein ffarmdai; ac y mae yr esgeulusdra cywilyddus yma wedi bod yn achos o
golledion trymion i ni ein hunain, ac i'n tenantiaid. Ond yn wir, yr wyf
fi o hyn allan yn bwriadu talu mwy o sylw i'r pethau hyn."
"Wel, yn wir, my lord, y mae yn dda iawn genyf fi eich clywed chwi yn
dywedyd hynny, oblegid yr wyf yn gwybod y bydd eich sylw a'ch cyngor a'ch
cefnogiad chwi yn sicr o fod o les anrhaethol i'ch tenantiaid a'u
teuluoedd, ac yn elw mawr hefyd i'ch etifeddiaeth yn ei holl
gysylltiadau. Bum i yn meddwl lawer gwaith, my lord, pe buasai
perchenogion etifeddiaethau llydain fel eich un chwi, ac un Marshall
Victor, ac un Countess Southland, ac un Duke Northland, yn cyduno i dalu
i ddarlithydd dawnus, dysgedig, profiadol, am esbonio i'r tenantiaid
wahanol ganghennau amaethyddiaeth, y buasai hynny yn ateb dibenion
gwerthfawr, ond cynnal y cyfarfodydd mewn lleoedd cyfleus, ac ar adegau
priodol. Ond dylai y darlithydd fod yn ddyn ymarferol yn gystal ag yn
ddyn dysgedig; a dylai fod ganddo ddigon o dymer dda, ac o amynedd gwr
boneddig, i gymeryd ei holi a'i groesholi gan yr hen Ffarmwr Grey, a'r
ffarmwr ieuanc ymchwilgar Dicky Price, yn niwedd pob darlith, gyda golwg
ar draul a holl gysylltiadau eraill y gwelliantau a fyddai y darlithydd
am gynnyg i sylw y tenantiaid. Oblegid yr wyf fi yn credu, my lord, fod
llaweroedd o'r scriblwyr barfog Llundeinaidd fu'n ysgrifennu yn ddiweddar
i'r newyddiaduron ynghylch gwelliantau amaethyddol llechweddi a rhosydd
Cymru wedi gwneuthur cam mawr a thenantiaid craffus ac ymdrechgar. Y mae
yn ddigon hawdd gwybod mai ar ol cinio go fras, a diod go gref, yr oedd y
scriblwyr barfog hynny yn dychymygu eu cynlluniau, ac yn gwneyd i fyny eu
cyfrifon; ond nis gwn i ddim nad oedd rhyw grach-arglwydd go anghenog yn
talu am eu cinio, er cael tipyn o logic cockney y papyr newydd yn esgus
dros ei waith yn codi rhenti afresymol. Hoffwn i yn fawr iawn gael newid
lle ag un o'r scriblwyr gwalltog hynny am dair blynedd. Cai ef ffarmio
ochrau Cilhaul Uchaf, ac eisteddwn innau wrth ei ddesc yntau i gadw y
cyfrifon. Yr wyf fi yn wir awyddus, my lord, am welliantau. Y mae yr
oes yma yn oes am welliantau, a diwygiadau, a dyfeisiau. Gellir dichon
ddyfod o hyd i egwyddorion a chynlluniau ag a all fod o les mawr i
ffarmwyr. Nid oes gennyf fi ddim cydymdeimlad a'r ffarmwyr musgrell diog
llygad-gauad ag ydynt ding-dong yn yr un man o hyd, yn esgeuluso neu yn
gwrthod pob gwelliant profedig er teced y byddo yn cael ei osod ger eu
bron, ac er taered y byddo yn cael ei gymhell i'w hystyriaeth; ond yr wyf
ar yr un pryd yn protestio yn erbyn cynlluniau gwylltion, a chyfrifon
bylchog gwallus, y scriblwyr menyddboeth penfeddal sy'n ysgrifenu
llythyrau i'r newyddiaduron am geiniog y line gan y swyddfa, neu am gig
rhost a grog gan arglwydd y tyddyn: peth ofnadwy ydyw ysgrifenu am gyflog
er mwyn boddhau pobl nad ydynt am wybod y gwirionedd."
"Eh, oh, John, yr wyt ti yn dechreu twymo mymryn yrwan, ac yn myned
braidd yn ddoniol. Rhaid i mi fyned yn awr. Glywi di swn gwyllt y
bytheuaid? Y maent yn fyw ar eu full cry. Yr wyf yn gobeithio cael dy
weled yn fuan eto; ac fel y dywedais o'r blaen, byddaf yn sicr o gofio am
dy achos pan ddaw diwrnod yr Audit."
Daeth dydd yr Audit, a gofynnodd y lord i'r steward paham yr oedd John
Careful yn ymadael o'r Cilhaul Uchaf. Atebodd y steward mai o herwydd ei
fod o hyd yn achwyn ar y codiad diweddar, a'i fod wedi dywedyd drachefn a
thrachefn nad allai ddim talu y rhent presennol; ac am fod pobl ieuainc
cryfion, newydd briodi, pur gyfrifol, yn gwbl barod i gymeryd y ffarm am
y rhent presennol.
"Ond dywedir i mi," meddai'r lord, "fod John Careful wedi gwario llawer
iawn mewn gwelliantau yno, a bod ei blant oll yn rhai sobr, deallus, a
gweithgar, dros ben, a'u bod wedi llafurio llawer yno. Byddai yn dda
iawn gennyf pe medrem ddyfod i ryw gytundeb yn eu hachos. Byddai yn
You have read 1 text from Welsh literature.
Next - Gwaith Samuel Roberts - 5
  • Parts
  • Gwaith Samuel Roberts - 1
    Total number of words is 4531
    Total number of unique words is 1776
    39.9 of words are in the 2000 most common words
    60.5 of words are in the 5000 most common words
    69.8 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Samuel Roberts - 2
    Total number of words is 4704
    Total number of unique words is 1977
    34.4 of words are in the 2000 most common words
    53.6 of words are in the 5000 most common words
    63.3 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Samuel Roberts - 3
    Total number of words is 5455
    Total number of unique words is 1587
    44.4 of words are in the 2000 most common words
    64.1 of words are in the 5000 most common words
    72.8 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Samuel Roberts - 4
    Total number of words is 5307
    Total number of unique words is 1534
    41.5 of words are in the 2000 most common words
    59.3 of words are in the 5000 most common words
    69.6 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Samuel Roberts - 5
    Total number of words is 5407
    Total number of unique words is 1466
    45.0 of words are in the 2000 most common words
    62.9 of words are in the 5000 most common words
    72.6 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Samuel Roberts - 6
    Total number of words is 2023
    Total number of unique words is 857
    48.3 of words are in the 2000 most common words
    67.6 of words are in the 5000 most common words
    75.1 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.