Ceiriog - 1

Total number of words is 4043
Total number of unique words is 1561
45.4 of words are in the 2000 most common words
64.6 of words are in the 5000 most common words
73.8 of words are in the 8000 most common words
Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.

LLANUWCHLLYN, AB OWEN.
1902.
* * * * *
ARGRAFFWYD I AB OWEN GAN MRI. HUGHES A’I FAB,
GWRECSAM.
* * * * *


Rhagymadrodd.

AR un o lethrau’r Berwyn y ganwyd ac y magwyd Ceiriog. Gadawodd ei
gartref anghysbell a mynyddig pan yn fachgen; a’i hiraeth am fynyddoedd a
bugeiliaid bro ei febyd, tra ym mŵg a thwrw Manceinion, roddodd fod i’w
gân pan ar ei thlysaf ac ar ei thyneraf.
Mab Richard a Phoebe Hughes, Pen y Bryn, Llanarmon Dyffryn Ceiriog, oedd
John Ceiriog Hughes. Ganwyd ef Medi 25ain, 1832. Aeth i’r ysgol yn Nant
y Glog, ger y llan. Yn lle aros gartref ym Mhen y Bryn i amaethu ac i
fugeila wedi gadael yr ysgol, trodd tua Chroesoswallt yn 1848, i swyddfa
argraffydd. Oddiyno, yn 1849, aeth i Fanceinion; ac yno y bu nes y daeth
ei enw yn adnabyddus trwy Gymru. Deffrowyd ei awen gan gapel, a
chyfarfod llenyddol, a chwmni rhai, fel Idris Vychan, oedd yn rhoddi pris
ar draddodiadau ac alawon Cymru.
Yn 1858 yr oedd yn adrodd rhannau o’i gân fuddugol,—“Myfanwy Fychan,”—yn
Eisteddfod Llangollen, am y mynydd a’i gartref. Yn 1860 cyhoeddwyd ei
“Oriau’r Hwyr;” daeth hwn ar unwaith yn un o’r llyfrau mwyaf poblogaidd
yng Nghymru. Yn 1861 priododd un o rianod gwlad Ceiriog. Yn 1862
cyhoeddwyd ei “Oriau’r Bore,” lle mae ei awen ar ei thlysaf ac ar ei
grymusaf. O hynny hyd ddiwedd ei oes, daliodd i ganu. Y mae dros chwe
chant o’i ganeuon wedi dod a llawenydd i galon miloedd o Gymry, ac ambell
un ddeigryn i lawer llygad.
Yn 1865, daeth Ceiriog yn orsaf feistr i Lanidloes. Aeth oddiyno i Dowyn
yn 1870, oddiyno i Drefeglwys yn 1871, ac oddiyno i Gaersws yn yr un
flwyddyu. Yno y bu farw, Ebrill 23ain, 1887. Treuliodd ei febyd, felly,
yn Nyffryn Ceiriog, rhan ganol ei oes ym Manceinion, a’r rhan olaf ym
mlaen Dyffryn yr Hafren.
Trwy’r blynyddoedd yr oedd tri pheth yn agos iawn at ei
galon,—llenyddiaeth Cymru, yr Eisteddfod, ac addysg Cymru. Yr oedd yn
hoff o Ddafydd ab Gwilym; yr oedd ganddo gariad greddfol at y naturiol
a’r cain. Yr oedd ei fryd ar ddiwygio’r Eisteddfod, ac ar ei gwneyd yn
allu cenhedlaethol. Hiraethai am ddadblygiad cyfundrefn addysg, ac
ymfalchiai yng Ngholeg Prifysgol Cymru. Un o wir feibion y mynyddoedd
oedd.
* * * * *
Wrth drefnu’r gyfrol hon, ceisiais ddewis darnau perffeithiaf Ceiriog,
gan adael allan bopeth lle na welir y bardd ar ei oreu. Y canlyniad ydyw
hyn,—dewiswn, er fy ngwaethaf, y dwys a’r tyner yn ei awen, ac nid y
digrif. I’r dwys y rhoddodd Ceiriog fwyaf o’i enaid, ac ymarllwysiad
teimlad ei oriau pruddaf yw ei ganeuon goreu.
Dymunwn ddiolch yn gynnes i’r Mri. Hughes am gyhoeddi y gyfrol hon imi.
Y mae ganddynt hwy hawl ar y rhan fwyaf o lawer o’r caneuon sydd yn y
gyfrol. Ni buaswn yn gofyn iddynt gyhoeddi y pigion hyn, oni buasai fy
mod yn gwybod y codir awydd ymysg llawer i brynnu y ddwy gyfrol brydferth
gyhoeddwyd yn ystod bywyd Ceiriog, a than ei ofal, ganddynt hwy.
Ceiriog, yn ddiameu, yw bardd telynegol mwyaf Cymru. Y mae ei
naturioldeb syml a’i gydymdemlad dwys wedi rhoi swyn anfarwol i’w gân.
Nid oes telyn yn yr un bywyd na chyffyrdda Ceiriog â rhai o’i thannau.
Tra aber yn rhedeg yn loew dros raian mân, a thra bo gwrid mwyn yn hanner
gyfaddef serch, ca’r galon ddynol fwynhad a nerth o ganeuon Ceiriog.
“Alun Mabon” yw ei gampwaith. Y mae miwsig hen alawon yn yr odlau; y mae
bywyd y bugail yma yn ei bryder a’i fwynder. Ynddo darlunia Ceiriog ei
fywyd ei hun, a bywyd pob mynyddwr.
“Ond bugeiliaid ereill sydd ar yr hen fynyddoedd hyn.” Nid teulu Ceiriog
sydd yn byw ym Mhen y Bryn yn awr. Ym mynwent Llanwnog, ger Caersws,
ymysg y bryniau hanesiol mud, y rhoddwyd y prydydd i huno. Ar groes ei
fedd y mae ysgrif syml, ac englyn o’i waith ei hun,—
ER
COF AM
JOHN CEIRIOG HUGHES,
A ANWYD MEDI 25,
1832,
A FU FARW EBRILL 23,
1887.
Carodd eiriau cerddorol,—carodd feirdd,
Carodd fyw ’n naturiol;
Carodd gerdd yn angerddol,
Dyma ’i fedd,—a dim lol.
OWEN M. EDWARDS.
_Rhydychen_,
_Mawrth_ 1, 1902.
[Picture: Decorative graphic of birds]


Cynhwysiad.
Nant y Mynydd 9
Meddyliau am y Nefoedd 10
Mae John yn mynd i Loegr 11
Bugail yr Hafod 12
Ti wyddost beth ddywed fy nghalon 13
Y fenyw fach a’r Beibl mawr 15
Dychweliad y Cymro 16
Addfwyn fiwsig 17
Y Carnadau 17
Bugeilio’r Gwenith Gwyn 18
Mae’n Gymro byth 19
Mi welaf mewf adgof 20
Dim ond unwaith 20
Y march ar gwddw brith 21
Y Ferch o’r Scer 22
Pa le mae’r hen Gymry 23
Maes Crogen 24
Tros y Garreg 25
Bardd yn ei Awen 26
Codiad yr haul 27
Llongau Madog 28
Serch Hudol 29
Breuddwyd y Bardd 30
Corn y Gad 32
Dafydd y Garreg Wen 34
Toriad y Dydd 35
Yr Eneth Ddall 36
Codiad yr Hedydd 37
Ar hyd y Nos 38
Morfa Rhuddlan 38
Dim ond dechreu 39
Difyrrwch Gwyr Harlech 40
Trot y Gaseg 41
Llances y Dyffryn 42
Yn Ynys Mon 43
Cadlef Morgannwg 45
Mwyn yw myned tua Mon 46
Hun Gwenllian 47
Ar ddôl pendefig 48
A laeswn ni ddwylaw 48
Llwybr y Pererin 49
Bedd Llywelyn 49
A ddywedaist ti fod Cymru ’n dlawd 50
Peidiwch byth a dwedyd hynny 51
Dydd trwy ’r ffenestr 52
Cerddi Cymru 52
I gadw ’r hen wlad 53
Myfi sy’n magu ’r baban 54
Tua Thegid dewch 55
Hen gwrwg fy ngwlad 56
Pob rhyw seren fechan wenai 57
Claddedigaeth Morgan Hen 58
Myfanwy 59
Gofidiau Serch 61
Wrth weld yr haul yn machlud 62
Y fodrwy briodasol 63
O weddi daer 64
Y baban diwrnod oed 65
Y fam ieuanc 67
Ceisiais drysor 68
Y fynwent yn y coed 69
Claddasom di, Elen 70
Annie Lisle 71
Y defnyn cyntaf o eira 72
Cavour 72
Y milwr na ddychwel 73
Garibaldi a charcharor Naples 76
Glogwyn anwyl 77
Ffarwel iti, Gymru fad 79
Tros un o drumiau Berwyn 80
Dychweliad yr hen filwr 81
Trwy wledydd dwyreiniol 84
Y Garreg Wen 85
Tuag adre 87
Beibl fy mam 88
Alun Mabon 89


Y Darluniau.

[Picture: Decorative graphic of cow and windmill]
J. CEIRIOG HUGHES. O’r “Oriel Gymreig.” _Wyneb-ddarlun_.
Tynnwyd y darlun hwn gan Mr. J. Thomas
(_Cambrian Gallery_), yng ngardd Ceiriog yn
Llanidloes, yn haf 1867
NANT Y MYNYDD. S. M. Jones. _I wynebu tud_ 17
“Nant y Mynydd, groew, loew,
Yn ymdroelli tua’r pant.”
CASTELL DINAS BRAN. S. M. Jones. _I wynebu tud_ 41
“Mewn derwen agenwyd gan follt
Draig-fellten wen-lachar ac erch.”
DERW’R LLWYN. S. M. Jones. _I wynebu tud_ 64
“Wyt ti’n cofio’r lloer yn codi
Dros hen dderw mawr y llwyn?”
MYNYDDOEDD CYMRU. S. M. Jones. _I wynebu tud_ 89
“Aros mae’r mynyddoedd mawr,
Rhuo trostynt mae y gwynt.”


NANT Y MYNYDD.

NANT Y MYNYDD, groew, loew,
Yn ymdroelli tua’r pant;
Rhwng y brwyu yn sisial ganu,
O na bawn i fel y nant.
Grug y Mynydd yn eu blodau,
Edrych arnynt hiraeth ddug
Am gael aros ar y bryniau
Yn yr awel efo’r grug.
Adar mân y mynydd uchel,
Godant yn yr awel iach;
O’r naill drum i’r llall yn hedeg—
O na bawn fel deryn bach.
Mab y Mynydd ydwyf innau,
Oddicartref yn gwneyd cân,
Ond mae’m calon yn y myuydd
Efo’r grug a’r adar mân.


MEDDYLIAU AM Y NEFOEDD.

Y mae y tri phennill hyn mewn rhan yn wreiddiol, ac mewn rhan yn
gyfieithiedig.
DAW meddyliau am y nefoedd
Gydag awel wan y nawn,
Gyda llanw’r môr fe ddeuant,
Gan lefaru ’n felus iawn;
Pan fo ’r mellt fel ser yn syrthio,
Yn y storm gynhyrfus, gref—
Pan fo ’r llong yn teimlo ’r creigiau,
Daw meddyliau am y nef.
Daw meddyliau am y nefoedd,
I unigedd fforest goed,
Ac i’r anial, lle nas tyfodd
Un glaswelltyn bach erioed.
Ar fynyddau ’r ia tragwyddol,
Ac ar greigiau llymion, lle
Bydd eryrod yn gorffwyso,
Daw meddyliau am y ne.
Daw meddyliau am y nefoedd
I ynysig leia ’r aig,
Lle mae ’r don yn gosod coron
Gwrel wen ar ben y graig;
Trwy holl gyfandiroedd daear,
Glynnoedd dwfn, a bryniau ban,
Pur feddyliau am y nefoedd
Ddont eu hunain i bob man.


MAE JOHN YN MYND I LOEGER.

Y mae hen dôn wladol o’r enw _Gofid Gwynan_, ac un led dlos ydyw ar y
cyfan, ond nid i gyd felly. Ysgrifennwyd y geiriau canlynol i’w canu
arni, ond nid ydynt yn ymbriodi â’r alaw mor hapus ag y dymunwn. Dymunwn
ddyweyd am y gân ganlynol, mai ychydig iawn o ddychymyg sydd ynddi, ond
fy mod yn dyweyd fy mhrofiad oreu gallwn.
MAE John yn mynd i Loeger,
A bore fory ’r a;
Mae gweddw fam y bachgen
Yn gwybod hynny ’n dda;
Wrth bacio ’i ddillad gwladaidd,
A’u plygu ar y bwrdd,
Y gist ymddengys iddi,
Fel arch ar fynd i ffwrdd.
Mae ef yn hel ei lyfrau,
I’r gist sydd ar y llawr;
Yn llon gan feddwl gweled
Gwychderau ’r trefydd mawr.
Nis gwel e ’r deigryn distaw
Ar rudd y weddw drist;
Na ’r Beibl bychan newydd
A roddwyd yn y gist.
Yn fore, bore drannoeth,
Pan gysgai ’r holl rai bach;
Wrth erchwyn y gwelyau
Mae John yn canu ’n iach.
Carasai aros gartref,
Ond nid oedd dim i’w wneyd—
Fe gawsai aros hefyd,
Pe b’asai ’n meiddio dweyd.
I gwrdd y tren boreuol,
Cyn toriad dydd yr a,—
“Ffarwel, fy mhlentyn anwyl,
O bydd yn fachgen da!
Y nef a’th amddiffynno,
Fy machgen gwyn a gwiw;
Paid byth anghofio ’th gartref,
Na ’th wlad, na ’th iaith, na’ th Dduw.”


BUGAIL YR HAFOD.

ALAW,—_Hobed o Hilion_.
PAN oeddwn i’n fugail yn Hafod y Rhyd,
A’r defaid yn dyfod i’r gwair a’r iraidd ŷd;
Tan goeden gysgodol mor ddedwydd ’own i,
Yn cysgu, yn cysgu, yn ymyl trwyn fy nghi;
Gwelaf a welaf, af fan y fynnaf,
Yno mae fy nghalon, efo hen gyfoedion
Yn mwynhau y maesydd a’r dolydd ar hafddydd ar ei hyd.
Pan oeddwn i gartref, fy mhennaf fwynhad
Oedd naddu a naddu ar aelwyd glyd fy nhad;
Tra ’m chwaer efo ’i hosan a mam efo carth,
Yn nyddu, yn nyddu, ar garreg lân y barth,
Deued a ddeuo, anian dynn yno,
Hedaf yn fy afiaeth ar adenydd hiraeth
I’r hen dŷ, glangynnes, dirodres, adewais yn fy ngwlad.
Mae’r wennol yn crwydro o’i hannedd ddilyth,
Ond dychwel wna’r wennol yn ol i’w hanwyl nyth;
A chrwydro wnawn ninnau ymhell ar ein hynt,
Gan gofio ’r hen gartref chwareuem ynddo gynt.
Pwyso mae adfyd, chwerwi mae bywyd,
Chwerwed ef a chwerwo, melus ydyw cofio
Annedd wen dan heulwen yr awen a wena arnom byth.


TI WYDDOST BETH DDYWED FY NGHALON.

Achlysurwyd y penillion hyn gan eiriau ymadawol mam yr awdwr, pan oedd hi
yn dychwelyd i Gymru, ar ol talu ymweliad iddo.
YN araf i safle ’r gerbydres gerllaw,
Y rhodiai fy mam gyda’i phlentyn;
I waelod ei chalon disgynnodd y braw,
Pan welai y fan oedd raid cychwyn.
Ymwelwodd ei gwefus—ei llygaid droi ’n syn,
Rhy floesg oedd i roddi cynghorion;
Fe’i clywais er hynny yn sibrwd fel hyn,—
“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”
Canfyddodd fy llygad mewn dagrau ’n pruddhau,
Gwir ddelw o’i llygad ei hunan;
Hyn ydoedd am ennyd fel yn ei boddhau,
Er nad fy nhristau oedd ei hamcan.
Ond er fod cyfyngder yr ennyd yn gwneyd
Atalfa ar ffrwd o gysuron,
Mudanrwydd rodd gennad i’w hanadl ddweyd,—
“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”
Nid son am gynllwynion y diafol, a’i fryd,
Er ennill ieuenctid i’w afael—
Nid son am ffolineb, a siomiant y byd,
Yr ydoedd pan oedd yn fy ngadael;
Dymunai ’n ddiameu bob lles ar fy nhaith,
Trwy fywyd i fyd yr ysbrydion;
Ond hyn oedd yr oll a ddiangodd mewn iaith,—
“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”
I eiriau dirmygus, dieithrol nid wyf,
Mi wn beth yw llymder gwatwariaeth;
Y munud diffygiwn dan loesion eu clwyf,
Yn nesaf dro’i oll, yn ddieffaith
Do, clywais hyawdledd—er teimlo ei rym,
Mewn effaith ni lŷn ei rybuddion;
Ond hyn gan dynerwch fyth erys yn llym,—
“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”
Mae ysbryd yr oes megis chwyddiad y môr,
Yn chware â chreigiau peryglon;
O’m amgylch mae dynion a wawdiant Dduw Ior,
Wyf finnau ddiferyn o’r eigion;
Fy nghamrau brysurant i ddinistr y ffol,
Ond tra ar y dibyn echryslon
Atelir fi yno gan lais o fy ol,—
“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”
Pe gwelwn yn llosgi ar ddalen y nef,
Y tanllyd lythrennau “NA PHECHA;”
Pe rhuai taranau pob oes yn uu llef—
“Cyfreithiau dy Dduw na throsedda;”
Pe mellten arafai nes aros yn fflam,
I’m hatal ar ffordd anuwiolion,
Anrhaethol rymusach yw awgrym fy mam,—
“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”


GWYN, GWYN YW MUR.

GWYN, gwyn yw mur y bwthyn ar y bryn,
O’i bared tŷf rhosynau coch a gwyn;
Tu allan, hardd a pharadwysaidd yw—
Tu fewn mae’r ferch, fy nghariad wen, yn byw.


Y FENYW FACH A’R BEIBL MAWR.

[Mae y gân hon yn un a gerir gennyf fi tra byddaf byw, am fy mod wedi
digwydd ei chyfansoddi rhwng 9 a 10 o’r gloch, boreu Ebrill y 3ydd, 1859.
Boreu trannoeth derbyniais lythyr ymylddu o Gymru, yn dwyn imi y newydd
fod fy anwyl dad wedi cau ei lygaid ar y byd hwn, _ar y dydd a’r awr
grybwylledig_.—J. C. H.]
DISGYNNAI ’r gwlaw, a gwynt y nos
A ruai yn y llwyn;
Pan oedd genethig dlawd, ddifam,
Yn dal ei chanwyll frwyn;
Wrth wely ei chystuddiol dad,
A’i gliniau ar y llawr,
Gan dynnu ’r wylo iddi’ hun,
A darllen y Beibl mawr.
Disgynnai ’r gwlaw a gwynt y nos
Gwynfanai am y dydd,
A llosgi ’r oedd y ganwyll frwyn
Uwchben y welw rudd;
A gwylio ’r oedd y fenyw fach
Ei thad o awr i awr,
Gan dorri mewn gweddiau taer,
A darllen y Beibl mawr.
Disgynnai ’r gwlaw, a gwynt y nos
Dramwyai drumiau ’r wlad,
A chwsg a ddaeth i esmwythâu
Ei chystuddiedig dad;
Ond pa fath gwsg, nis gwyddai hi,
Nes dwedai ’r oleu wawr,
Ei fod ef wedi mynd i’r nef,
Yn swn yr hen Feibl mawr.
Disgynna ’r gwlaw, ac eto ’r gwynt
A rua yn y llwyn,
Uwchben amddifad eneth dlawd,
Tra deil ei chanwyll frwyn;
Ar ol ei thad, ar ol ei mham,
Ei chysur oll yn awr
Yw plygu wrth eu gwely hwy,
A darllen y Beibl mawr.


DYCHWELIAD Y CYMRO I’W WLAD EI HUN.

O HINSAWDD i hinsawdd mi grwydrais yn hir,
O rewdir y Gogledd i Itali dlos:
Am danat ti Walia, ar fôr ac ar dir,
Hiraethais y dydd a breuddwydiais y nos.
Cyfeiriais fy nghamrau i’r ardal hoff hon,
Ar gopa Clawdd Offa gosodais fy nhraed;
Daeth awel y mynydd fel gwin i fy mron,
A golwg ar Gymru gynhesodd fy ngwaed,
A golwg ar Gymru gynhesodd ngwaed.
Ar dywod yr anial bu ôl fy nau droed,
Mi deithiais yn oerfel a phoethder yr hin;
O’r fro lle nas tyfodd glaswelltyn erioed,
I wledydd y mêl a gwinllanoedd y gwin;
Yng Nghymru parhaodd fy nghalon o hyd,
Anwylach a harddach oedd hen Walia wen;
Mi groesais y môr i eithafoedd y byd:
Ond croesais yr Hafren i orffwys fy mhen,
Yng nghartref fy nhadau gorffwysaf fy mhen.
[Picture: “Nant y Mynydd, groew, loew,
Yn ymdroelli tua’r pant.” Tud
9]


ADDFWYN FIWSIG.

ADDFWYN Fiwsig, addfwyn Fiwsig,
Gwenferch gwynfa ydwyt ti;
Pan anedli, adfywiedig
Awel haf ddaw atom ni.
Gauaf du helbulon,
Droi yn ha;
Danat rhew y galon,
Toddi wna, toddi wna.
Dafnau melus bro gogoniant,
Yn dy lafar di ddisgynnant;
Blodau Eden yn ddiri’,
Dyfant, wenant, beraroglant,
Yn dy lais a’th wyddfod ti.
Nefol ferch ysbrydoledig,
Ti sy ’n puro ’r fron lygredig,
Ti sy ’n llonni ’r cystuddiedig.
Addfwyn Fiwsig, addfwyn Fiwsig
Gwenferch gwynfa ydwyt ti.


Y CANIADAU.

Nid oes gennyf fawr o bleser gydag ysgrifennu un math o farddoniaeth
heblaw caneuon bychain o’r fath hyn. Fy mhlant fy hun ydyw’r Caniadau.
Dymuniad fy nghalon a balchder fy mynwes ydyw eu dwyn i fyny yn blant da.
Wrth adael i rai ddawnsio mewn plentynrwydd, ac i’r lleill chwerthin ac
ysmalio, caiff nifer o honynt gadw carwriaeth ac eraill ganu hen alawon
eu brodir. Caiff bechgyn weithio yn y graig, a bugeilio ar y mynydd, a
phan fydd dolefiad corn y gâd yn galw, fe’u cyfeiriaf i faes y frwydr i
amddiffyn eu cartref, ac i farw’n ddewr tros Ryddid eu mamwlad. Yn nesaf
at ofni Duw ac anrhydeddu y brenin, cant garu eu gwlad a meddwl yn dda am
eu hiaith a’u cenedl.


BUGEILIO ’R GWENITH GWYN.

ALAW,—_Bugeilio ’r gwenith gwyn_.
EISTEDDAI merch ar gamfa’r cae,
A’i phen gan flodau ’n dryfrith,
I gadw ’r adar bach ffwrdd
Rhag disgyn ar y gwenith.
Rho’i ganiatad i’r deryn to,
A’r asgell fraith gael disgyn;
Rhag ofn ei fod yn eos fach,
A dyna deimlad plentyn.
Pan welot tithau eneth wan,
Yn gofyn am dy gymorth:
Wrth gil y drws, a glywi di,
Mo ymbil chwaer am ymborth?
Os wyt am fendith ar dy faes,
Gogwydda glust i’w gweddi;
Yr oedd yr haul, a’r gwlith, a’r gwlaw,
Yn meddwl am roi iddi.
Os wyt am fedi gwenith gwyn,
Gofala beth a heui;
A wyt ti’n hau y dyddiau hyn
Yr hyn ddymunet fedi?
Tra gwelot wlith a gwlaw y nen,
A’r heulwen yn haelionus;
Wel dos i hau ar dir y tlawd,
A chofia’th frawd anghenus.


MAE’N GYMRO BYTH.

ALAW,—_O Gylch y Ford Gron_.
MAE’N Gymro byth pwy bynnag yw,
A gâr ei wlad ddinam;
Ac ni fu hwnnw ’n Gymro ’rioed,
A wado fro ei fam.
Aed un i’r gâd a’r llall i’r môr,
A’r llall i dorri mawn;
A chario Cymru ar ei gefn
A wnaiff y Cymro iawn.
_Cydgan_: Does neb yn caru Cymru ’n llai,
Er iddo grwydro ’n ffol;
Mae calon Cymro fel y trai
Yn siwr o ddod yn ol.
Er mynd ymhell o Walia Wen,
A byw o honi ’n hir,
Ac er i’r gwallt claerdduaf droi
Yn wyn mewn estron dir,
Mae ’r cof am dad a mam yn mynd
I’r bwthyn yn y ddôl,
A chlychau mebyd yn y glust
Yn galw galw ’n ol.
Enilled aur ac uchel glod,
Mewn gwlad o win a mêl;
Aed yn ei longau ar y môr,
Er maint o’r byd a wêl;
Wrth edrych ar fachludiad haul
A gwylio ser y nos,
Bydd clychau arian yn y gwynt
Yn son am Gymru dlos.


MI WELAF MEWN ADGOF.

ALAW,—_Difyrrwch Arglwyddes Owen_.
MI welaf mewn adgof hen ysgol y Llan,
A’r afon dryloew yn ymyl y fan:
O’m blaen mae pob carreg yn rhedeg yn rhes,
A’r coedydd gysgodent fy mhen rhag y gwres.
Yng nghanol eu cangau mae telyn y gwynt,
Yn eilio ’r hen alaw a ganwn i gynt;
Rwy ’n teimlo fy nhalcen dan heulwen yr haf,
A ’nghalon yng Ngwalia ple bynnag yr af.
Rwy’n gweled y defaid a’r ŵyn ar y bryn,
Rwy ’n gweled gwynebau sy ’ngwaelod y glyn;
Rwy’n clywed rhaiadrau yn adsain o draw,
Ar mawrwynt yn erlid y cenllysg ar gwlaw.
O sued yr awel, a rhued y don,
Beroriaeth adgofion yn lleddf ac yn llon,
Boed cwpan dedwyddyd yn wag neu yn llawn,
Yng Ngwalia mae ’r galon ple bynnag yr awn.


DIM OND UNWAITH YN Y FLWYDDYN.

DIM ond unwaith yn y flwyddyn,
Awn i fyny ’r cymoedd cain;
Awn i ogli ’r peraidd borwellt
Llysiau ’r mêl a blodau ’r drain.
Dim ond unwaith yn y flwyddyn
Gwena ’r ddaear oll fel gardd;
Awn aan dro, tua bryniau ’n bro
Dim ond unwaith yn y flwyddyn,
Pwy na chwery, pwy na chwardd?


Y MARCH A’R GWDDW BRITH.

ALAW,—_Y Gadlys_.
CARADOG eilw ’i ddeiliaid,
Ag udgorn ar ei fant;
Fe ruthrodd y Siluriaid,
Cwympasant yn y pant.
Enciliodd arwyr enwog,
Ond ar y march a’r gwddw brith
Fe ddaw ’r frenhines deg i’w plith
I edrych am Garadog.
Mae cynnwrf yn y ceunant,
Ar derfyn dydd y gad;
A dynion dewr orweddant,
I farw tros eu gwlad.
Yr afon foddodd fyddin,
Ond ar y march a’r gwddw brith,
Fe ddaw ’r frenhines deg i’w plith,
I edrych am y brenin.
Fe welodd y Rhufeiniaid
Y march a’r gwddw brith;
Ond gwelodd y Brythoniaid
Frenhines yn eu plith.
Mae ’r corn yn ail-udganu,
Brythoniaid yn eu holau drônt,
Rhufeiniaid yn eu holau ffônt,
O flaen cleddyfau Cymru.


Y FERCH O’R SCER.

Dywedir fod Merch y Scer yn ddarpar gwraig i’r telynor am rai blynyddau,
ond gan iddo trwy ryw ddamwain golli ei olwg, fe berswadiwyd y llances
gan ei pherthynasau a chan ei theimladau ei hun i roi pen ar y
garwriaeth. Gwnaed y dôn gwynfanus a phrydferth hon gan y telynor i
arllwys allan ei siomedigaeth a’i ofid.
ALAW,—_Y Ferch o’r Scer_.
’R wyf yn cysgu mewn dallineb
Ganol dydd a chanol nos;
Gan freuddwydio gweled gwyneb
Lleuad wen a seren dlos.
Tybio gweld fy mam fy hunan—
Gweld yr haul yn danbaid dêr;
Gweld fy hun yn rhoddi cusan
I fy chwaer a Merch y Scer.
Gwresog ydyw’r haul gwyneblon,
Oer, ond anwyl, ydyw ’r ser;
Gwres oer felly yn fy nghalon
Bâr adgofion Merch y Scer.
Mae fy mam a’m chwaer yn dirion,
Yn rhoi popeth yn fy llaw;
Merch y Scer sy ’n torri ’m calon,
Merch y Scer sy ’n cadw draw.
Cariad sydd fel pren canghennog,
Pwy na chara Dduw a dyn?
Cangen fechan orflodeuog
Ydyw cariad mab a mun.
O! ’r wy’n diolch ar fy ngliniau,
Am y cariad pur di-ball;
Cariad chwaer sy ’n cuddio beiau—
Cariad mam sy’n caru ’r dall.


PA LE MAE’ R HEN GYMRY?

Bernid unwaith, nid yn unig gan Gymru hygoel, ond gan yr holl deyrnas,
fod llwyth o Indiaid Cymreig yn preswylio parth o’r America ar gyffiniau
yr afon Missouri, ac mai y Padoucas neu y Mandanas oeddynt. Y mae yr
hanes am JOHN EVANS o’r Waunfawr, yn Arfon, yn hynod effeithiol.
Cenhadwr ieuanc, llawn o ysbryd gwladgarol ac o sêl grefyddol ydoedd ef.
Ymgymerodd â’r gorchwyl mawr o fyned i eithafoedd America, i chwilio am
ddisgynyddion Madog, ac i bregethu yr efengyl iddynt. Dilynodd John
Evans yr afon Missouri am 1,600 o filldiroedd, ond tarawyd ef â’r dwymyn,
a bu farw, ymhell o’i fro enedigol, ac mor bell ag erioed oddiwrth yr
Indiaid Cymreig. Y mae pedwar ugain mlynedd er hynny, ac y mae ein barn,
gan mwyaf, wedi cyfnewid o barth i fodolaeth bresennol disgynyddion Madog
ap Owen Gwynedd. Gweler draethawd Thomas Stephens, Ysw., Merthyr Tydfil,
ar y mater. Y mae amcan mawreddus, ynni anturiaethus, taith
aflwyddiannus, a diwedd torcalonnus y Cymro ieuanc hwn yn hynod
darawiadol.
ALAW,—_Llwyn Onn_.
MAE ’R haul wedi machlud, a’r lleuad yn codi,
A bachgen o Gymru yn flin gan ei daith;
Yn crwydro mewn breuddwyd, ar lan y Missouri,
I chwilio am lwyth a lefarent ein hiaith.
Ymdrochai y ser yn y tonnau tryloewon,
Ac yntau fel meudwy yn rhodio trwy i hun;
“Pa le mae fy mrodyr?” gofynnai i’r afon
“Pa le mae ’r hen Gymry, fy mhobol fy hun?”
Fe ruai bwystfilod, a’r nos wnai dywyllu,
Tra ’r dwfr yn ei wyneb a’r coed yn ei gefn;
Yng nghaban y coediwr fe syrthiodd i gysgu,
Ac yno breuddwydiodd ei freuddwyd drachefn.
Fe welai Frythoniaid, Cymraeg wnaent lefaru,
Adroddent eu hanes, deallai bob un.
Deffrôdd yn y dwymyn, bu farw gan ofyn,
“Pa le mae ’r hen Gymry, fy mhobol fy hun?”


MAES CROGEN BORE TRANOETH.

Ar y ffordd rhwng y Waun a Glynceiriog, y mae tŷ fferm mawr, o’r enw
Crogen Iddon. Bu brwydr dost yn yr ardal hon yn 1164, rhwng y Cymry, tan
arweiniad Owen Gwynedd, a Harri II. Y mae ôl ei wersyll mewn amryw
fannau ar yr Orsedd Wen, Bwrdd y Brenin—ac ar ran o’r mynydd perthynol
i’r amaethdy y’m ganwyd ac y’m magwyd i.
ALAW,—_Y Fwyalchen_.
Y FRWYDR aeth trosodd o’r diwedd,
A baeddwyd y gelyn yn llwyr;
A’r ser edrychasant ar Wynedd,
A’r bore ddilynodd yr hwyr.
’R oedd yno ieuenctid yn gorwedd,
Am sefyll tros Wynedd yn bur—
Yn fore daeth mamau a gwragedd,
I chwilio am feibion a gwŷr.
Fe ganai mwyalchen er hynny,
Mewn derwen ar lannerch y gâd;
Tra ’r coedydd a’r gwrychoedd yn lledu,
Eu breichiau tros filwyr ein gwlad.
Gorweddai gŵr ieuanc yn welw,
Fe drengodd bachgennyn gerllaw;
Tra i dad wrth ei ochor yn farw,
A’i gleddyf yn fyw yn ei law.
Gan frodyr, chwiorydd, a mamau,
Fe gasglwyd y meirwon ynghyd;
Agorwyd y ffos ac fe ’i cauwyd,
Ond canai ’r Fwyalchen o hyd.
Bu brwydyr Maes Crogen yn chwerw,
Gwyn fyd yr aderyn nas gŵyr
Am alar y byw am y meirw,
Y bore ddilynodd yr hwyr.


TROS Y GARREG.

You have read 1 text from Welsh literature.
Next - Ceiriog - 2
  • Parts
  • Ceiriog - 1
    Total number of words is 4043
    Total number of unique words is 1561
    45.4 of words are in the 2000 most common words
    64.6 of words are in the 5000 most common words
    73.8 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Ceiriog - 2
    Total number of words is 4388
    Total number of unique words is 1484
    46.3 of words are in the 2000 most common words
    66.1 of words are in the 5000 most common words
    74.9 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Ceiriog - 3
    Total number of words is 4334
    Total number of unique words is 1594
    44.0 of words are in the 2000 most common words
    63.0 of words are in the 5000 most common words
    71.8 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Ceiriog - 4
    Total number of words is 4206
    Total number of unique words is 1512
    45.9 of words are in the 2000 most common words
    65.5 of words are in the 5000 most common words
    74.2 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Ceiriog - 5
    Total number of words is 1903
    Total number of unique words is 772
    55.1 of words are in the 2000 most common words
    72.4 of words are in the 5000 most common words
    80.7 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.