Ceiriog - 3

Total number of words is 4334
Total number of unique words is 1594
44.0 of words are in the 2000 most common words
63.0 of words are in the 5000 most common words
71.8 of words are in the 8000 most common words
Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
Mae mwy o gyfoeth tan dy droed,
Na ddaeth i galon dyn erioed,
Anwiredd mwy erioed ni wnawd—
Na ddywed byth fod Cymru ’n dlawd.
I ble y trown o fewn y tir,
Nas gwelir mŵn ei meini
Nad yw ’r meteloedd o’u gwelyâu
Yn edrych am oleuni,
Nad yw y prês a’r arian faen,
Yn galw ar bob Cymro ’n mlaen,
I roi ei ffydd a threio ’i ffawd
Yn holl oludoedd “Cymru dlawd?”
Estyna ’th fys pan glywot hyn,
Yn cael ei ddweyd am Gymru,
At unrhyw graig, at unrhyw fryn,
Fo ’n edrych ar i fyny.
Mae ’r nentydd oll wrth fynd i’r aig
A cherrig ateb ym mhob craig,
Yn dwedyd “Nac yw” gyda gwawd—
Na ddywed byth fod Cymru ’n dlawd.


PEIDIWCH BYTH A DWEDYD HYNNY.

[Ysgrifennwyd y geiriau i Miss Edith Wynne, yr hon a’u canodd yn
Eisteddfod Genhedlaethol Caernarfon, 1862.]

I.

D’WEDWCH fod fy ffroen yn uchel,
Fod fy malchder yn drahaus,
Fod gwamalrwydd ar fy wyneb
A mursendod yn fy llais.
Ond mae terfyn i anwiredd,
I greulondeb a sarhad.
Peidiwch byth a dwedyd hynny,
Imi golli ’m serch at Gymru,
Imi golli iaith fy ngwlad.

II.

O mor barod ydyw dynion
I drywanu at y byw;
O mor gyndyn ydynt wedyn
I roi eli ar y briw.
Dodwch garreg ar fy meddrod,
Fel y mynnoch bo ’r coffâd;
Dyna ’r pryd i dd’wedyd hynny,
Imi golli ’m serch at Gymru,
Imi golli iaith fy ngwlad.


DYDD TRWY ’R FFENESTR.

ALAW,—_Dydd Trwy ’r Ffenestr_.
MAE rhyddid i wylan y môr gael ymgodi,
Ac hedeg i’r mynydd uchelaf ei big;
Mae rhyddid i dderyn ar greigiau ’r Eryri
Ehedeg i waered i weled y wîg;
O rhowch imi delyn, gadewch imi dalu
Croesawiad i Ryddid ar doriad y dydd;
Yfory gyda ’r wawr, byddwn ninnau ’n rhydd,
Byddwn yn rhydd!
Yfory pan welir yr haul yn cyfodi,
Caf deimlo llawenydd na theimlais erioed;
Ac fel yr aderyn yng ngwlad yr Eryri
Yn ysgafn fy nghalon, ac ysgafn fy nhroed;
Pan welom oleuni yn gwynnu ’r ffenestri,
Rhown garol i Ryddid ar doriad y dydd;
Yfory gyda ’r wawr, byddwn ninnau ’n rhydd,
Byddwn yn rhydd!


CERDDI CYMRU SYDD YN BYW.

CERDDI Cymru sydd yn byw,
Trwy ’r blynyddau yn ein clyw;
Sibrwd ein halawon gynt,
Mae cwynfanau trwm y gwynt;
Dwyn yn ol lais mam a thad
Mae hen donau pur ein gwlad.
Pan sisialo dail y llwyn,
Clywir chwi yn lleddf a mwyn;
Dweyd mae ’r môr wrth ruo ’i gân
Ddarnau cerddi Cymru lân;
Ac mae clust y Cymro ’n gwneyd
I’r gre’digaeth oll eu dweyd.


I GADW ’R HEN WLAD MEWN ANRHYDEDD.

I GADW ’R hen wlad mewn anrhydedd,
A’r cenin yn fyw a difêth;
Mae rhai yn prydyddu ’n ddiddiwedd,
Ond dyma fy marn am y peth,—
Mwy gwerthfawr nag awen y beirddion,
Neu’r dalent ddisgleiriaf a roed,
Yw tafod y bachgen bach gwirion,
Na ddwedodd anwiredd erioed.
_Cydgan_: Rhown bopeth sydd hardd ac anfarwol,
Mewn miwsig, barddoniaeth, a cherdd,
I’r geirwir, a’r gonest, a’r gwrol,
Sy’n cadw’r geninen yn werdd.
Mi adwaen gribddeiliwr ariannog,
Sy’n deall bob tric i wneud pres;
Ond anhawdd anichon cael ceiniog
O’i boced at ddim a fo lês.
Pan allan, os a yn ei gerbyd,
Pan gartref os tyn yn ei gloch;
Mae ’n well i ni’r gonest a’r diwyd
Pe na bai yn werth dimeu goch.
Ym mhell y bo ’r bobol sy’n grwgnach,
Yn erbyn caledrwydd y byd,
Y rhenti a’r prisiau a’r fasnach,
Tra plethant eu dwylaw ynghyd.
Nid felly y byddai ’r hen Gymry,
Ac os yw dy waed ti yn bur,
’R wyt yn edrych yn wrol i fyny
Ac yn fachgen sy’n gweithio fel dur.


MYFI SY’N MAGU ’R BABAN.

[Cân mamaeth Gymreig wrth fagu Tywysog Seisnig cyntaf Cymru o “Cantata
Tywysog Cymru.”]
MYFI sy ’n magu ’r baban,
Myfi sy ’n siglo ’r cryd,
Myfi sy ’n hwian, hwian,
Ac yn hwian hwi o hyd.
Bu ’n crio bore heddyw,
O hanner y nos tan dri;
Ond fi sy ’n colli ’m cysgu,
Mae ’r gofal i gyd arnaf fi.
Myfi sy ’n magu ’r plentyn,
Bob bore, prydnawn a hwyr;
Y drafferth sydd ei ganlyn,
Fy hunan yn unig ŵyr.
Nis gŵyr ef air o Saesneg,
Nac un gair o’n hen hiaith ni,—
I ddysgu ’r twysog bychan,
Mae ’r gofal i gyd arnaf fi.
Ond os caf fi ei fagu,
I fyned yn llencyn iach;
Caiff iaith brenhinoedd Cymru
Fod rhwng ei ddwy wefus fach.
A phan ddaw ef yn frenin,
Os na wnaiff fy nghofio fi,
O! cofied wlad y cenin,
Y wlad sydd mor anwyl i ini.


TUA THEGID DEWCH.

CHWI feirdd y trefydd mawr
Sy ’n byw ar fwg a llwch;
Dowch gyda fi yn awr,
Dowch neidiwch i fy nghwch.
Fyny ’r hen Ddyfrdwy nofiwn,
A ffarwel i’r mŵg sydd ar ein hol,
Rhwyfwn ymlaen, a chanwn
Dan y coed a’r pynt, o ddol i ddol.
Ger tref y Bala
Mae lle pysgota,
Ar loew loew lyn;
Awn ymlaen tua ’r dyfroedd hyn,
Moriwn yng nghanol Meirion;
Tynnwn rwyf gyda rhwyd yn hoew,
Ar groew loew lyn.
Draw, draw yng nghanol gwlad,
Deg, deg fel Eden ardd;
Ceir yno adfywhad
I’r cerddor ac i’r bardd.
Bywyd sydd yn yr awel
Fel y dêl o’r coed, o’r allt, a’r rhiw,
Bywyd y Cymry ’stalwm,
Ysbryd cân a mawl sydd yno ’n byw.
Ger tref y Bala, &c.
Chwi wŷr y trefydd mawr,
Gwyn, gwyn eich gruddiau chwi,
O dowch am hanner awr
Mewn cwch ar hyd y lli;
Rhwyfwn i fyny ’r afon,##
Gyda gwrid ac iechyd dychwel gewch;
Mae môr rhwng bryniau Meirion,
Tua Thegid dewch, i Degid dewch!
Ger tref y Bala, &c.


HEN GWRWG FY NGWLAD.

HEN gwrwg fy ngwlad ar fy ysgwydd gymerwn,
Pan oeddwn yn hogyn rhwng Hafren ac Wy.
Ac yno y gleisiad ysgwyddog dryferwn
Ar hyfryd hafddyddiaut nas gwelaf byth mwy.
Pe rhwyfwn ganŵ ar y Ganges chwyddedig,
Neu donnau ’r Caveri, rhoi hynny foddhad;
Ond glannau bro Gwalia ynt fwy cysegredig,
A gwell gan fy nghalon hen gwrwg fy ngwlad.
Hen gwrwg fy ngwlad, ’rwyf fi gyda thi ’n nofio
Afonydd paradwys fy mebyd yn awr;
Hen glychau a thonau o newydd wy ’n gofio,
A glywn ar y dyfroedd pan rwyfwn i lawr.
Mi dreuliais flynyddau a’r llif yn fy erbyn,
I’m hatal rhag dyfod i gartref fy nhad;
Ond pan ddof yn ol fe fydd cant yn fy nerbyn,
I roi i’m rwyf eto yng nghwrwg fy ngwlad.
Hen gwrwg fy ngwlad, mi a’th rwyfais di ganwaith,
Hyd lynnoedd tryloewon tan goedydd a phynt;
Cymeraist fi hefyd i fynwes wen lanwaith,
Yr hon a ddisglaeriodd trwy f’ enaid i gynt.
Trwy Venice fawreddog mi fum mewn gondola,
Esgynnais y Tafwys a’r Rhein yn fy mâd;
Ond pasio hen gastell Llywelyn llyw ola,
Sydd well gan fy nghalon yng nghwrwg fy ngwlad.


POB RHYW SEREN.

[Suo-gân y Monwyson o “Cantata Tywysog Cymru.”]
POB rhyw seren fechan wenai,
Yn y nefoedd glir uwch ben;
Rhwyfai cwch i fyny ’r Fenai,
Yng ngoleuni ’r lleuad wen.
Clywid canu—sucganu,
Yn neshau o Ynys Môn,—
Canu, canu, suoganu,
Melus orfoleddus dôn.
Mewn awelon ac alawon,
At y Castell rhwyfai’r côr;
Ar y tyrau suai ’r chwaon,
Wrth eu godrau suai ’r môr.
Canent, canent, suoganent,
Ar y Fenai loew, dlos;
Dan ystafell y Frenhines,
Suoganent yn y nos.
“Fel mae ’r lloer yn hoffi sylwi
Ar ei delw yn y lli;
Drych i Rinwedd weld ei glendid
Fyddo oes dy faban di.”
Suoganu i’r Frenines,
Dan y ganlloer loew, dlos,
Felly canodd y Monwyson,
Ar yr afon yn y nos.


CLADDEDIGAETH MORGAN HEN.

HEN frenin hoff anwyl oedd Morgan Hen,
Fe ’i carwyd yng nghalon y bobloedd;
Esgynnodd i’w orsedd yn ddengmlwydd oed,
A chadwodd hi gant o flynyddoedd.
Ar ddydd ei gynhebrwng dilynwyd ei arch
Gan ddengmil o’i ddeiliaid tylodion;
A theirmil o filwyr fu ’n ymladd o’i du,
Ac wythcant o’i ddisgynyddion,
Rhai wrth eu ffyn, a’u gwallt yn wyn,
Eraill ar fronnau yn dechreu byw;
Wyrion, gorŵyrion, a phlant gorŵyrion
Gladdasant y brenin yn Ystrad Yw.
Ni welwyd un blewyn yn wyn ar ei ben,
Na rhych ar ei dalcen mawr llydan;
’R oedd deuddeg o’i feibion yn edrych yn hŷn
Na’r brenin oedrannus ei hunan.
Yn nhorf ei gynhebrwng ’roedd bachgen bach mwyn,
Yn drist a phenisel yn twyso
Y march heb ei farchog—y cyfrwy, a’r ffrwyn,
A’r cleddyf yn unig oedd yno.
Rhai wrth eu ffyn, a’u gwallt yn wyn, &c.
Fe welodd ryfeloedd, bradwriaeth, a thrais,
A gwelodd Forgannwg yn gwaedu;
Ond cadwodd ei goron, a’i orsedd yn ddewr,
A’i diroedd tan faner y Cymry.
Enillodd a chollodd mewn brwydrau dirif,
Am hynny ni chollodd un deigryn;
Ond ar gladdedigaeth ei filwyr, a’i blant,
Fe wylai, fe griai fel plentyn.
Rhai wrth eu ffyn, a’u gwallt yn wyn, &c.


MYFANWY.

[O “Myfanwy Fychan”.]
“MYFANWY! ’rwy ’n gweled dy rudd
Mewn meillion, mewn briall, a rhos;
Yng ngoleu dihalog y dydd,
A llygaid serenog y nos;
Pan gyfyd claer Wener ei phen
Yn loew rhwng awyr a lli,
Fe ’i cerir gan ddaear a nen.
I f’ enaid, Myfanwy, goleuach, O tecach wyt ti,
Mil lanach, mil mwynach i mi.
“Fe ddwedir fod beirddion y byd
Yn symud, yn byw ac yn bod,
Rhwng daear y doeth a Gwlad Hud,
Ar obaith anrhydedd a chlod;
Pe bâi anfarwoldeb yn awr
Yn cynnyg ei llawryf i mi,
Mi daflwn y lawryf i lawr—
Ddymunwn i moni, fe ’i mathrwn os na chawn i di,—
Myfanwy, os na chawn i di.
“O! na bawn yn awel o wynt
Yn crwydro trwy ardd Dinas Brân,
I suo i’th glust ar fy hynt,
A throelli dy wallt ar wahan;
Mae ’r awel yn droiog a blin—
Un gynnes ac oer ydyw hi;
Ond hi sy ’n cusanu dy fin.
O feinwen fy enaid, nid troiog fy serch atat ti,
Tragwyddol yw ’m serch atat ti.
“Mewn derwen agenwyd gan follt
Draig-fellten wen-lachar ac erch;
Gosodaf fy mraich yn yr hollt
A chuddiaf beithynen o serch.
Ni’m gwelir gan nebun, ond gan
Y wenlloer—gwyn fyd na baet hi,
Er mwyn iti ganfod y fan.
Ond coelio mae ’m calon, fod ysbryd eill sibrwd a thi—
Eill ddwedyd y cwbl i ti.”
Petrusai Myfanwy _pwy oedd_ a roisai’r beithynen yn gudd?
A dwedai,—“rhyw ffolyn o fardd,” _ond teimlodd ei gwaed yn ei grudd_;
Disgynnodd ei llygaid drachefn ar “na bawn yn awel o wynt
Yn crwydro trwy ardd Dinas Brân,”—_o churodd ei chalon yn gynt_.
“Mi droellet fy ngwallt—O mi wnaet! wyt hynod garedig,” medd hi,
“A phe bawn yn suo i’th glust, mi ddwedwn mai gwallgof wyt ti;
Mi hoffet gael cusan, mi wnaet! ond cymer di ’n araf fy ffrynd,”—
Hi geisiai ymgellwair fel hyn,—_ond O_! _’r oedd ei chalon yn mynd_!
’R oedd wedi breuddwydio dair gwaith, heb feddwl doi’r breuddwyd i
ben,
Fod un o g’lomenod ei thad, yn nythu yn agen y pren—
Heb gymar yn agen y pren.


GOFIDIAU SERCH.

WYT ti ’n cofio ’r lloer yn codi
Dros hen dderw mawr y llwyn,
Pan ddywedaist yr aberthet
Nef a daear er fy mwyn?
Wyt ti ’n cofio ’r dagrau gollaist
Wrth y ffynnon fechan draw?
Wyt ti ’n cofio ’r hen wresogrwydd,—
Wyt ti ’n cofio gwasgu ’m llaw?
“_Hyd fy marw_” oedd dy eiriau,
Y parhaet yn ffyddlon im’;
O fy ngeneth, O fy nghariad!
Nid yw poenau marw ’n ddim.
Er wrth dorri ’th addunedau,
I ti dorri ’m calon i,—
Magi anwyl, mae dy gariad
Eto ’n gariad pur i ti.
Mae ’th lythyrau yn gwneyd i mi
Lwyr anghofio mi fy hun;
Mae dy gudyn gwallt yn hongian,
Fel helygen tros dy lun.
Llun dy wyneb, Magi anwyl,
O mae ’n twynnu fel yr haul,
Nes ’r wy ’n teimlo gwae a gwynfyd
Nef ac uffern bob yn ail.
O f’ anwylyd! er mai _cyfaill_
Yw yn awr fy enw i,
Maddeu i mi am ddefnyddio
Yr _hen enw_ arnat ti;
_Cariad_ wyt ti, Magi anwyl,
Bur ddihalog fel erioed;
Troi ’st dy wyneb, cefnaist arnaf,
Minnau garaf ol dy droed.


WRTH WELD YR HAUL YN MACHLUD.

WRTH weld yr haul yn machlud,
Mewn eurog donog dân;
A mil o liwiau ’n dawnsio ’n deg,
Ar fyrdd o donnau mân.
’Rwy ’n teimlo dwyfol wyddfod—
Shecina Natur yw;
Yn datgan ei ogoniant Ef
Yr Hollalluog Dduw.
Wrth weld yr haul yn codi,
Yn loew lân ei bryd;
Rwy ’n gweld y glaer Shecina fawr,
Yn amgylchynnu ’r byd.
Os gormod gwedd yr heulwen
I lygad marwol ddyn;
Fath ydyw ei ogoniant Ef
Y Crewr Mawr ei Hun!
Ar godiad haul yng Nghymru,
Ces lawer boreu gwiw;
Pan blygai ’m tad wrth ben y bwrdd,
I ddiolch am gael byw.
Caem eistedd yn y cysgod,
Tra ’r haul yn croesi ’r nef;
Mi gofiaf byth y weddi hwyr,
Ar ei fachludiad ef.


Y FODRWY BRIODASOL.

CYMER hi Annie, o cymer hi heno,
Mae’th fys gyda ’th galon yn crynnu gan fraw;
Dy fodrwy di ydyw, ni waeth it heb grïo
Os nad wyt yn meddwl am wrthod fy llaw.
Cyn mynd at yr allor y foru gad imi,
A’th fys ei chysegru wrth fynd hyd y ddôl—
Wel dyna hi ’n gymhwys, da gwyddwn O Annie,
Na wnaet ti byth dynnu ’th addewid yn ol.
Cymer hi Annie, ’does arni ddim cerfiad,
Na gemau cywreinion i’w gweled yn awr;
Ond ceisiwn roi arni berl Rhinwedd, fy nghariad,
Mae engyl ar hwnnw yn edrych i lawr.
Mae gennym ni gariad a leinw ’n holl fywyd,
Yn hwnnw ’r ymffurfia y maen o fawr werth;
Yn hwnnw mae cyfoeth, bywoliaeth ac hawddfyd,
Yn hwnnw, fy nghariad, mae mawredd a nerth.
Cymer hi Annie, a’r nefoedd ro inni
O fewn ein haur-fodrwy fan fechan i fyw,
Yn bur ac yn ddedwydd—yn unig boed ynddi,
Heblaw ti a minnau, blant bychain a Duw.
Mae ’r bydoedd yn grynion a’r haul a’u goreura,
Gan wneuthur pob planed a lleufer yn llon;
Ond nid oes breswylfod rhwng daear a gwynfa,
Ddedwyddach, berffeithiach, a chrynach na hon.
Cymer hi, Annie, yn arwydd cyfamod,—
Dwy enfys fach ydyw a’u deuben ynglŷn;
Y gyntaf yn amod mai fi fydd dy briod,
A’r ail un yn amod mai ti fydd fy mun.
Mae’n gyfan, mae’n brydferth, heb gymorth y gemau,
Arwyddnod perffeithiach y ddaear ni fedd;
Does dim eill ei thorri ond pladur lem angau,
Na dim eill ei rhydu ond lleithder y bedd.
Cymer hi, cymer hi, ofer yw rhwystro,
Dyferwlaw ’r amrantau rhag tywallt i lawr;
Mae ’n storm gyda minnau, gad imi tra dalio,
Roi ’m pen ar dy ysgwydd—rwy’n well Annie ’n awr.
Mae’th ddeigryn fy nghariad, a’m deigryn bach innau,
Yn uno fel gwlithos neu fân arian-byw—
Ond moes imi ’r fodrwy, ti cei hi ’n y boreu
Yng ngwyddfod yr allor, y Beibl, a Duw.


O WEDDI DAER.

[O “Jona.”]
_O WEDDI daer_! gwyn fyd y fron
A fedro dy anadlu,
Yng nghalon edifeirwch gwir
Y cuddiodd Duw dy allu;
Yr isel lwch yw’th gartref di,
Ac mewn sachlian gwisgi,
Gwyn fyd y llais crynedig gwan
Dywallto ’i hun i weddi.
_O weddi daer_! tramwyfa wyt
I lu o engyl deithio
I lawr i’r dyfnder at y gwan,
I roi eu hedyn trosto,—
I wlychu gwefus oer y llesg,
A gwin a’i calonoga;
O ddyn! os tynni ŵg y nef,
Dos ar dy lin—_gweddia_.
[Picture: “Wyt ti’n cofio’r lloer yn codi
Dros hen dderw mawr y
llwyn?”]


Y BABAN DIWRNOD GED.

’R oedd swn magnelau yn y graig,
A swn tabyrddau ’n curo,
A chlywid trwst ofnadwy traed
Y Ffrancod wedi glanio,
A’r waedd i’r frwydr chwyddai ’n uwch,
Gan alw ’r dewr i daro;
Terfysgwyd y glannau
Gan rym y taranau
A ruent ar lan y môr.
I dai ’r tylodion rhuthrai gwŷr,
Gan ladd y diamddiffyn,
A flamiai palas hardd gerllaw
Gan dân o longau ’r gelyn;
Fe ffoai mamau gyda’u plant,
A chodai ’r claf mewn dychryn;
Ond ’r oedd yno ddynes,
A babi ’n ei mynwes,
Rhy waelaidd a gwan i ffoi.
Ei gŵr erfyniai wrth ei phen,—
“O cwyd! O cwyd! fy Eurfron!
Mae ’r march a’r cerbyd wrth y drws,
Tyrd iddo ar dy union!
Olwynwn ymaith fel y gwynt,—
Anwylyd, clyw ’r ergydion!
O Dduw, a ddaeth diwedd
Fy mab, fy etifedd?
Fy mhlentyn a anwyd ddoe!”
Atebai ’r wraig yn llesg ei llais,—
“Fy mhriod, clyw fy ngweddi,
O gad fi ar y gwely hwn,
Ond gad y baban imi;
Dos at y rheng i gadw ’th wlad,
Fe gadwaf finnau ’r babi.”
Y plentyn a hunai,
A’r tad a’i cusanai,
Ac yna fe ffodd i’r rheng.
’Roedd swn cleddyfau yn neshau,
Gwawchiadau ac ysgrechian;
A’r wraig weddiai ’n daer ar Dduw,
Gan edrych ar ei baban;
Ac yna holltwyd drws y tŷ
Gan filwyr oddi allan.
A hithau mewn dychryn
A wasgodd ei phlentyn
Yn nes at ei chalon wan.
Ar glicied drws ei ’stafell wag,
Hi welai fysedd llofrudd,
Ac ar y foment rhuthrodd haid,
Yn swn rhegfeydd eu gilydd;
A syllent fel gwylltfilod erch,
O amgylch ei gobennydd;
Ar wraig wan yn crynnu,
A ddaliodd i fyny
Ei babi bach diwrnod oed.
Atebwyd gweddi ’r ffyddiog fam,
A hi a’i mab achubwyd;
Mae hi yn awr ym mynwent werdd
Yr eglwys lle ’i priodwyd;
Ac erbyn heddyw mae y mab
Yn hen weinidog penllwyd,
Yn estyn ei freichiau
I ddangos y Meichiau,—
Y baban y anwyd i ni.


Y FAM IEUANC.

Yr hon a fu farw ymhen ychydig wythnosau ar ol genedigaeth ei bachgen
bychan cyntafanedig.
“CEWCH eto deimlo ’r heulwen
Yn gynnes ar eich grudd;
Cewch eto deimlo ’r awel
Am lawer hafaidd ddydd;
Peidiwch a son am farw,
Peidiwch a meddwl am
I’ch plentyn fyw heb glywed
Na’ nabod llais ei fam.
“Peidiwch a son am farw,
Daw eto haul ar fryn;
Ac iechyd ddaw i’ch codi
O’r hen gystuddiau hyn.
Yn wan ei llais atebodd,
Peidiwch a son am fyw!
’Rwy ’n rhoi fy machgen anwyl
I’ch gofal chwi a Duw.”
Gadawyd yr ystafell
Am ddim ond ennyd fach,
A chlywid llais yn sibrwd,—
“Fy anwyl fachgen bach!
Fy machgen, O! fy machgen!
O na b’ai ’th fam yn iach;
Fy nghyntaf, olaf blentyn,
Fy anwyl fachgen bach!
“Fy nghyfaill bychan _newydd_
’R wyf fi yn mynd i’r nef;
’R wy ’n myned at yr Iesu,
_Hen_ gyfaill ydyw Ef!”
Bu farw, ac hi wywodd
Fel blodyn ar y dail,
Gan ddyweyd,—“Fy machgen anwyl!”
Ac “Iesu!” bob yn ail.


CEISIAIS DRYSOR.

CEISIAIS drysor yn y byd
Mi geisiais ac mi gefais un,
Oedd fwy o werth na’r byd ei hun,
Fy anwyl Ann, fy nhrysor drud
Yn yr arch mae ’r oll yn awr,
Oddigerth y blodeuyn llon
Adawodd angau ar ei bron
I wenu ar y storom fawr.
Pan suddai ’m llong, tan rym y lli,
O’i hystlys daeth rhyw nerth i’m dwyn
Yn ol i’r lan. Fy mhlentyn mwyn
Bywydfâd bychan oeddyt _ti_.
Mi hoffwn innau fynd i lawr.
Ond er dy fwyn fy mhlentyn llon,
Mi geisiaf fyw o don i don
Ar wyneb môr fy ngofid mawr


Y FYNWENT YN Y COED.

YN araf y cerddasom,
I’r fynwent yn y coed;
Ac yno y claddasom
Chwaer fechan bedair oed;
Gan bedair o’i chyfeillion iach,
Mewn dillad gwynion claer,
Yng ngwŷdd ei thad a’i brodyr bach,
I huno rhoed ein chwaer.
Ar waelod bedd y fechan,
Cyn gollwng corff ein chwaer;
Canfyddem arch wen newydd
Fel daeth o ddwylaw ’r saer.
Ein hanwyl fam oedd yno ’n fud,
Heb fawr o feddwl am
I’r plentyn _olaf_ yn y cryd
Ddod _gyntaf_ at ei fam.
Pan gaffom ninnau ’n gollwng,
Mae gennym weddi daer,—
O boed ein llwch yn deilwng
O lwch ein mam a’n chwaer.
Fe awn yn fynych dros y cae
I’r fynwent yn y coed;
Y fan mae mam, a’r fan y mae
Chwaer fechan bedair oed.


CLADDASOM DI, ELEN.

CLADDASOM di, Elen, ac wrth roi dy ben
I orwedd lle fory down ni,
Dihangodd ochenaid i fyny i’r nen,
A deigryn i lawr atat ti.
Claddasom di, Elen, a chanwyd dy fedd,
Pe hefyd bâi bosibl ei gau;
Mae llygad yn edrych o hyd ar dy wedd,
Ac ni fedr angau nacau.
Cyflawnwyd dy freuddwyd, ond ni ddarfu ’r gro,
Ar gauad yr arch dy ddeffroi;
Ond udgorn a gân, ac o’r dywell fro,
Yn wen a dihalog y doi.
Ai “tywell” ddywedasom? Nid tywyll i ti
Fu pyrth tragwyddoldeb a hedd,
Dy lamp oedd wenoleu;—nid ti, ond nyni,
Sy ’n dwedyd mai du ydyw ’r bedd.
I ninnau mae breuddwyd i ddyfod i ben,—
Canfyddem di mhell oddi draw
Ar furiau Caersalem, a’th wisg yn glaer-wen,
Yn gwenu gan estyn dy law,—
I’n derbyn yn ninas dragwyddol dy Dduw;
A thybiem ein bod wedi dod,
I gyffwrdd â’th law, ond deffroisom yn fyw,
Ymhell oddiwrth gyrraedd y nod.
Claddasom di, Elen, ond rhyngot a ni,
Nis erys gagendor yn hir;
O fewn y bedd yna lle rhoisom dydi,
Claddasom ein hunain yn wir.
Na, na, nis ffarweliwn, mae ’r Iesu yn fyw,
I’n dwyn ato ’i hun a thydi;
Mae ’r ffordd yn agored o’r ddaear at Dduw,
A’r nef mewn addewid i ni.


ANNIE LISLE.

(Lledgyfieithiad.)
AR fin yr afon araf yn y goedwig gain,
Fan mae ’r dŵr yn gwneud arluniau gwiail melyn main,
Fan mae ’r adar haf yn canu yn eu temlau dail,
Yma ’r ydoedd am ryw adeg annedd Annie Lisle.
_Cydgan_: Doed gwanwyn, sued dyfroedd,
Gwened hyfryd haul
Ar y dyffryn, ond nis deffry
Anwyl Annie Lisle.
Mwyn, mwyn yw ’r awel beraidd, gana fel y dêl,
Trwy ryw fyrdd o erddi gwyrddion, lifant laeth a mel,
Ond ar wely wedi marw gorwedd Annie Lisle,
Hi ni egyr ei du lygad, Angau ’n dyn a’i deil.
Doed gwanwyn, sued dyfroedd,
Gwened hyfryd haul
Ar y dyffryn, ond nis deffry
Anwyl Annie Lisle.
“Cwyd fi, fy mam anwylaf, gad i’m weld y plant,
Yn y brwyn a’r melyn helyg draw ar fin y nant;
Hust! mi glywaf fiwsig nefol, miwsig Iesu ’r nef,
Mam anwylaf, mi anelaf at ei fynwes Ef.”
Doed gwanwyn, sued dyfroedd,
Gwened hyfryd haul
Ar y dyffryn, ond nis deffry
Anwyl Annie Lisle.


Y DEFNYN CYNTAF O EIRA.

YR ôd, yr ôd! mae ’r eira ’n dod!
Rhwng y simneiau dacw fe,
Y defnyn cyntaf yn dod or ne;
Yn chware fel aderyn gwyn,
Trwy fŵg a chaddug y melinau hyn.
Mae ’n ofni disgyn, ac fel pe bae
Yn ail-ymgodi, ond disgyn mae.
Mae yn bwrw golwg tros y ddinas fawr,
Ac yn mesur y ffordd wrth ddod i lawr;
Gan edrych trwy ’r ffenestri ban,
Fry gyda ’r awel o fan i fan.
Mae ’n ymddyrchafu ac yn ymgrynhoi,
Ac yn dal i ddisgyn, ac yn dal i droi—
Ond gwel ei lengoedd! Mil myrddiwn mân
O angylion gwynion y gauaf glân,
Sy ’n dod ag amdo a chistfeddau iâ,
I gladdu meirwon flodau ’r ha.
Y nef sy ’n galw ’r blodyn hardd
I fyw a gwenu o lwch yr ardd.
A phan fydd farw, nis anghofia ’r nef
Mo dyrfa wen ei angladd ef.


CAVOUR.

I FYNY ’r mynydd dringai ef
Wrth ochor Garibaldi,
I weld yr haul yn dringo ’r nef—
Haul Rhyddid Itali.
Ond cyn i’r haul ymddangos ar ben y mynydd mawr
Fe gloddiwyd bedd i Cavour, yng ngoleu gwyn y wawr.


Y MILWR NA DDYCHWEL.

“NI syrthiodd neb erioed i’r bedd,
Na welwyd rhywun prudd ei wedd,
Yn gollwng deigryn arno;
Ond wrth i filwr fynd i lawr,
Mae gwlad yn dod i’w arwyl fawr,
A chenedl oll yn wylo.”
A thithau, gyfaill, i dy fedd
Gollyngwyd ti,
Yn filwr ieuanc teg ei wedd—
Yn ei filwrol fri.
Pan wyliem dy febyd darllennem dy lygaid,
A gwelem wrhydri cynhennid dy enaid,
A gwreichion dy ysbryd yn cynneu dy rudd;
Pan droet orchestion dy gyfoed yn wegi,
A phob anhawsderau o’th flaen yn cyd-doddi,
Coronwyd ti ’n arwr ym more dy ddydd.
Mae cofio’th rinweddau fel milwr a Christion,
Yn hafaidd belydru trwy brudd-der ein calon,
Yn taflu goleuni tros len dy goffhad.
Fe’th ddysgwyd yn fore am Dduw dy rieni—
Ond cyffiwyd y gliniau fu ’n plygu mewn gweddi,
Yn haiarn i elyn dy Dduw a dy wlad.
Pan wyliem ormesiaeth a’i duon adenydd
Fel nos yn ymledu tros wyneb y gwledydd,
E rwygwyd yr awyr gan udgorn y gâd;
Dyrchafwyd y grechwen,—“Cychwynnwn, cychwynnwn,
Yn ysbryd ein tadau arfogwn, ymruthrwn,”
Nes galwyd i’r frwydr holl gedyrn y wlad.
Arfau ’n tadyrddu a swn oedd yn dilyn,
Aem ninnau i’r porthladd i’w gweled yn cychwyn,
Ond cadwem yn ymyl ein cyfaill ohyd.
Pan welai ’r fath bryder, ac ofn yn ein calon,
Gorchfygwyd ei lygad gan ddagrau tryloewon,
Ond ffarwel obeithion oleuodd ei bryd.
Fel gwennol yn dilyn y llong tros yr eigion,
Felly ’r dychymyg ddilynodd ein gwron,
Nes glaniwyd yn llawen heb arf o nacâd—
Gwersyllwyd am ennyd, ond ber fu’r orffwysfa,
Nes sangwyd ar fryniau bythgofiol yi Alma,
Uwchben amchwareufa ddychrynllyd y gâd.
Edrych gyferbyn ar lengoedd y gelyn
Fel dirif locustiaid yn gwneuthur y dyffryn
Mal affwys echryslon y fall—
A mil o fagnelau yn agor eu gyddfau,
I chwythu tymestloedd ac eirias gawodau,
I gladdu holl rengoedd y llall.
Ond megis iâ llithrol
Yr Alpau tragwyddol,
Tros greigiau anhygyrch yn ceisio ’r gwrthentyrch islaw:
Trwy danllyd ryferthwy
Gwneir rhuthur ofnadwy,
Trwy ’r afon i’r llechwedd gerllaw.
Mae rhai yn ymestyn at ystlys y gelyn,
A’r lleill fel taranfollt yn hyrddio i’w erbyn,
I loches y fagnel a’r tân;
Ond llamwyd i’r gloddfa, gorchfygwyd yn Alma,
A’r meirwon led-glywsant y gân.
Pwy welais yn arwain hen gatrawd fy ngwlad,
Yn flaenaf, yn nesaf i’r gelyn?
Pwy gwympodd ar fynydd llosgfalog y gad,
Gan godi o’i waed i oresgyn?
Pwy oedd yr un hwnnw a ddaliodd fel tŵr,
Yr ufel raiadrau diri?
You have read 1 text from Welsh literature.
Next - Ceiriog - 4
  • Parts
  • Ceiriog - 1
    Total number of words is 4043
    Total number of unique words is 1561
    45.4 of words are in the 2000 most common words
    64.6 of words are in the 5000 most common words
    73.8 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Ceiriog - 2
    Total number of words is 4388
    Total number of unique words is 1484
    46.3 of words are in the 2000 most common words
    66.1 of words are in the 5000 most common words
    74.9 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Ceiriog - 3
    Total number of words is 4334
    Total number of unique words is 1594
    44.0 of words are in the 2000 most common words
    63.0 of words are in the 5000 most common words
    71.8 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Ceiriog - 4
    Total number of words is 4206
    Total number of unique words is 1512
    45.9 of words are in the 2000 most common words
    65.5 of words are in the 5000 most common words
    74.2 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Ceiriog - 5
    Total number of words is 1903
    Total number of unique words is 772
    55.1 of words are in the 2000 most common words
    72.4 of words are in the 5000 most common words
    80.7 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.