Ceiriog - 2

Total number of words is 4388
Total number of unique words is 1484
46.3 of words are in the 2000 most common words
66.1 of words are in the 5000 most common words
74.9 of words are in the 8000 most common words
Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
Pan y bydd llanciau a merched sir Feirionnydd mewn llefydd rhwng Bwlch
Llandrillo a Chlawdd Offa, soniant yn fynych am fyned am dro i sir
Feirionnydd, tros Garreg Ferwyn a thros y Bwlch. Awgrymwyd y gân hon gan
lodes oedd yn myned ag arian i helpu ei mam dalu y rhent am y tŷ bychan
lle y ganwyd ac y bu farw ei thad.
ALAW,—_Tros y Garreg_.
FE ddaw wythnos yn yr haf,
Gweled hen gyfeillion gaf;
Tros y mynydd
I Feirionnydd,
Tros y Garreg acw ’r af.
Ar y mynydd wele hi,
Draw yn pwyntio ataf fi;
Fyny ’r bryn o gam i gam,
Gyda ’m troed fy nghalon lam;
Af ag anrheg
Tros y Garreg
I fy unig anwyl fam.
Fe gaf chware ar y ddôl,
Fe gaf eistedd ar y ’stol,
Wrth y pentan,
Diddan, diddan,
Tros y Garreg af yn ol.
Pan ddaw ’r wythnos yn yr haf,
O fel codaf ac yr af,
Fyny ’r bryn o gam i gam,
Gyda ’m troed fy nghalon lam;
Af ag anrheg
Tros y Garreg
I fy unig anwyl fam.


BARDD YN EI AWEN.

Mae llawer eraill o ddulliau yn bod ar y mesur hwn, ond nid wyf yn
alluog, oddiwrth yr engreifftiau sydd gennyf, i roi barn nac opiniwn pa
un o’r amryw fathau yw y mwyaf dewisol. Y mae y dôn yn ddigon ystwyth ac
ufudd, modd bynnag, i addasu ei hun at y cyfan. Efallai
Nad oes faws na dwys fesur
O un baich i hen dôn bur,
mwy nag i awen.
ALAW,—_Bardd yn ei Awen_.
MAE Bardd i ddod ryw ddydd,
A brenin-fardd ein bryniau fydd,
Fe ddaw i Gymru lân;
Ei wlad a glyw ei lef,
A ni a phawb a’i hoffwn ef,
Pan gwyd pen gawr y gân;
Fe aiff i ddwyfol fan,
Yn nghiliau dwfn hen galon dyn:
Am Hedd fe gân o hyd,
Fod angel Hedd yn hel ynghyd,
Enwadau ’r byd yn un.
Fe ddaw y Bardd i’r byd,
A’i gân i ben, O! gwyn eu byd
Y dorf a wêl y dydd;
Pwy wêl y bore gwyn,
Ac heulwen deg cyflawniad hyn,
Y fath gyfundeb fydd!
Daw bardd i fysg ein plant,
I daro tant yn natur dyn;
Am Hedd fe gân o hyd,
Fod angel Hedd yn hel ynghyd
Enwadau ’r byd yn un.


CODIAD YR HAUL.

Mae yr alaw hon yn fwy addas feallai i’w chanu ar offeryn na chyda llais,
oblegid ei bod mor gyflym, nes y mae synwyr, barddoniaeth geiriau, ac
odlau yn cael llithro trostynt o’r bron heb eu cyffwrdd. Yr oedd Handel
yn gydnabyddus iawn gyda’r hen donau Cymreig, ac fe ddefnyddiodd hon yn
ei _Acis and Galatea_. Yr oedd cyfaill o Sais un tro yn chware yr alaw o
dan fy nghronglwyd, ac wedi myned unwaith neu ddwy tros y dôn, pan
waeddodd allan tros ei ysgwydd, “Ai tôn Gymreig y galwch chwi hon? Tôn o
waith Handel yn dôn Gymreig!” Yr oedd yn dda gennyf gael cyfleustra i
esbonio iddo.
ALAW,—_Codiad yr Haul_.
GWEL, gwel! wyneb y wawr,
Gwenu mae y bore-gwyn mawr:
Ac wele’r Haul trwy gwmwl rhudd,
Yn hollti ei daith gan dywallt Dydd!
I’w ŵydd adar a ddônt,
Dreigiau ’r Nos o’i olwg a ffônt.
Pwy ddwed hardded ei rudd,
Wyched yw gwynfreichiau Dydd!
Try y môr yn gochfor gwaed,
A’r ddaear dry o dan ei draed,
A’r ddaear dry o dan ei draed.
Haul, Haul! hyfryd yw Haul,
Gwyneb Hedd yw gwyneb yr Haul:
I fyrdd y dysg fawredded yw
Y gwynwedd dân gyneuodd Duw!
I’w daith’ fyny y daw,
Llygaid dydd a’i gwelant ef draw;
Egyr pob blaguryn byw,
Ar rôs a gwaun yn rhesi gwiw—
Gwel pob peth wyn haul y nen,
E’ gŵyd y byd pan gŵyd ei ben,
E’ gŵyd y byd pan gŵyd ei ben.


LLONGAU MADOG.

ALAW,—Difyrrwch y Brenin.
WELE’N cychwyn dair ar ddeg,
O longau bach ar fore teg;
Wele Madog ddewr ei fron,
Yn gapten ar y llynges hon.
Mynd y mae i roi ei droed,
Ar le na welodd dyn erioed:
Antur enbyd ydyw hon,
Ond Duw a’i dal o don i don.
Ser y nos a haul y dydd,
O gwmpas oll yn gwmpawd sydd;
Codai corwynt yn y De,
A chodai ’r tonnau hyd y ne;
Aeth y llongau ar eu hynt,
I grwydro ’r môr ym mraich y gwynt;
Dodwyd hwy ar dramor draeth,
I fyw a bod er gwell er gwaeth.
Wele’n glanio dair ar ddeg,
O longau bach ar fore teg:
Llais y morwyr glywn yn glir,
’R ol blwydd o daith yn bloeddio “_Tir_!”
Canent newydd gân ynghyd,
Ar newydd draeth y newydd fyd—
Wele heddwch i bob dyn,
A phawb yn frenin arno ’i hun.


SERCH HUDOL.

ALAW,—Serch Hudol.
SERCH Hudol swyn,
Sy’n llanw ’r llwyn,
Pan fo myrdd o adar mwyn,
Yn canu yn y coed.
Mae anian oll yn canu ’nghyd,
’D oes dim yn fyddar nac yn fud,
Mae mwy o fiwsig yn y byd
Na thybiodd dyn erioed.
Corau ’r Wynfa wen,
A ganant byth heb ddod i ben,
Maer delyn aur gan deulu ’r nen,
Yng ngwyddfod Duw ei hun.
Mae cân yn hedeg ar ei hynt,
Yn swn y môr a llais y gwynt,
Bu ser y bore ’n canu gynt,
Paham na chana dyn?
Serch hudol yw,
Pob peth sy’n byw,
Yn y nef a daear Duw;
O’r haul sy’n llosgi fry—
I’r pryfyn tân yr hwn a roed,
I rodio ’r clawdd a gwraidd y coed,
I oleu ar y llwybyr troed
Sy’n arwain i dy dŷ.
Hardd yw llun a lliw,
Pob peth a ddaeth o ddwylaw Duw,
I ble ’r a llygad dyn nad yw,
Yng ngŵydd y tlws a’r cain?
Prydferthwch sydd yn llanw ’r nef,
A phob creadur greodd Ef,
O’r eryr ar ei aden gref,
I’r dryw sydd yn y drain.


BREUDDWYD Y BARDD.

Nis gwn am un engraifft o bennill ar y mesur hwn, ac nis gwn am neb sydd
yn gallu yr hen alaw odidog heblaw y cyfaill Idris Vychan. Y mae
seibiant yn y dôn ar ddiwedd y chweched llinell, a’r llinell olaf yn
llwythog o ofid a siomedigaeth. Ymdrechais yn y geiriau gadw at gymeriad
neilltuol y llinell olaf. Mae hi fel moeseb oddiwrth, neu eglurhad ar, y
chwe llinell flaenorol.
ALAW,—_Breuddwyd y Bardd_.
[Picture: Music]
EISTEDDAI hen fardd yn ei gadair,
Yn wargrwm a’i wallt fel y gwlan;
A’i feddwl a hedodd i’r amser
Y gwelid ei blant wrth y tân.
Ei amrant a gauodd, ac yna breuddwydiodd
Yn weddw ac unig heb neb iw wahardd—
Yng ngwynfyd ei galon breuddwydiodd y bardd.
Fe welodd ei hun yn priodi,
Genethig anwylaf y wlad;
Fe glywodd ei gyntaf anedig
Gan wenu ’n ei alw fe ’n “_dad_!”
Ni welodd ef gladdu ei briod a’i deulu,
Na deilen wywedig yn disgyn i’r ardd—
Na, breuddwyd ei febyd freuddwydiodd y bardd.
Fe glywai hen glychau Llanarmon,
Yn fachgen fe deimlodd ei hun,
Breuddwydiodd hen deimlad y galon,
Sef hiraeth am ddyfod yn ddyn.
Ni chofiodd ef helynt y dyddiau’r aeth trwyddynt,
Ond tybiodd fod popeth yn hyfryd a hardd—
Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd.
Er na bu un linell mewn argraff
O waith y breuddwydiwr erioed;
Fe wel ef ei waith yn gyfrolau,
A dynion yn rhodio fel coed,
A bechgyn yn darllen cynyrchion ei awen,
Fe wel anfarwoldeb trwy gwsg, ac fe chwardd—
Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd.


CORN Y GAD.

ALAW,—_Rhyfelgan Ap Ivan Bennaeth_.
[Picture: Music]
AR y mynydd rhodiai bugail,
Gwelai ’r gelyn ac yn uchel,
Bloeddiodd allan—“Llongau Rhyfel!”
Yna clywai gorn y gâd.
Corn y gâd!
Dyna ganiad corn arswydion,
Traidd ei ddolef trwy Blunlumon,
Cawdor sydd yn galw ’i ddynion.
Corn y rhyfel hollta ’r nefoedd,
Tery arswyd trwy ’r mynyddoedd,
Etyb creigiau pell y cymoedd
Gorn y gâd.
Fel mae Draig hen Gymru ’n deffro
Tan y amynydd yn ei hogo’,
Cerrig ateb sydd yn bloeddio,
Chwythu ’n uwch wna corn y gâd;
Corn y gâd!
Meibion Berwyn ydynt barod,
Llifant o’r mynyddoedd uchod,
Duant y gwastadedd isod;
Meirch i’r frwydyr gydgarlamant,
Holl gleddyfau Cymru fflamiant,
Mewn urdduniant, cydatebant
Gorn y gâd!


CORN Y GAD.

Meddaf y pleser o ysgrifennu geiriau am y waith gyntaf i hen ryfelgan
Gymreig o radd uchel; o leiaf nid wyf yn gwybod fod neb o’m blaen wedi
cyfansoddi cân ar yr alaw. Ni bu y gerddoriaeth ychwaith yn argraffedig.
Fe ddichon fod y dôn wedi ei chyhoeddi, ac fe ddichon fod rhai o’m
cyfeillion yn gwybod am eiriau hefyd llawer rhagorach na’m heiddo i. Fe
ddywedaf ar fyr eiriau pa fodd y daeth-um ar ei thraws. Fel yr oedd
Idris a minnau un noswaith yn hwmian hen donau i’n gilydd, fe ofynnodd ef
braidd yn sydyn, “A glywsoch chwi Ivan ap Ivan Bennoeth erioed?”
Dywedais, os darfum ei chlywed, na chlywais hi ar yr enw hwnnw. “O,”
ebai yntau, “hen dôn anwyl, nad oes ei gwell gan ein cenedl. Mae
tebygrwydd ynddi, fel yn amryw alawon eraill, i ‘Difyrrwch Gwŷr Harlech,’
ac nid oes llawer lai o nerth a mawredd ynddi.” Digwyddodd fod ei lais
yn well nag arferol, a’m ystafell innau yn fechan, ac allan â hi nes oedd
y bwrdd yn crynnu, a phlant a phobl ar yr heol yn sefyll i wrando wrth y
tŷ. Dywedai iddo ei chlywed, er yn blentyn, yn cael ei chware gan
seindorf Dolgellau.


DAFYDD Y GARREG WEN.

Tyddyn yw y Garreg Wen, ger Porthmadog. Yno yn y flwydd 1720 y ganwyd
Dafydd, i’r hwn y priodolir cyfan-soddiaeth y dôn sydd ar ei enw.
Dywedir hefyd, ond ar ba sail nis gwyddom, mai efe ydyw awdwr Codiad yr
Hedydd, Difyrrwch Gwyr Cricieth, ac alawon eraill. Y mae y dôn yn un o’r
rhai prydferthaf sydd gennym, ac yn nodedig o alarus a dwys. Bu y
cerddor gobeithiol hwn farw yn 1749, yn 29 oed, a chladdwyd ef ym mynwent
Ynys Cynhaiarn, lle mae cofadail i’w goffadwriaeth, a llun ei delyn yn
gerfiedig arni ynghyd â’r geiriau,—“BEDD DAVID OWEN, neu DAFYDD Y GARREG
WEN.”
’R OEDD Dyfydd yn marw, pan safem yn fud
I wylio datodiad rhwng bywyd a byd;
“Ffarwel i ti ’mhriod, fy Ngwen,” ebai ef,
“Fe ddaeth y gwahanu, cawn gwrdd yn y nef.”
Fe gododd ei ddwylaw, ac anadl ddaeth
I chwyddo ’r tro olaf trwy ’i fynwes oer, gaeth;
“Hyd yma ’r adduned, anwylyd, ond moes
Im’ gyffwrdd fy nhelyn yn niwedd fy oes.”
Estynwyd y delyn, yr hon yn ddioed
Ollyngodd alawon na chlywsid erioed;
’R oedd pob tant yn canu ’i ffarweliad ei hun,
A Dafydd yn marw wrth gyffwrdd pob un.
“O! cleddwch fi gartref yn hen Ynys Fôn,
Yn llwch y Derwyddon, a hon fyddo ’r dôn,
Y dydd y’m gosodir fi ’n isel fy mhen,”—
A’i fysedd chwareuant yr “_Hen Garreg Wen_.”
#R oedd Dafydd yn marw, pan safem yn fud
I wylio datodiad rhwng bywyd a byd;
Yn swn yr hen delyn gogwyddodd ei ben,
Ac angau rodd fywyd i’r “_Hen Garreg Wen_.”


TORIAD Y DYDD.

ALAW,—_Toriad y Dydd_.
FE welid cant o honom
Yng ngoleu ’r lleuad brudd,
Yn dringo fyny ’r Wyddfa fawr
I weled Toriad Dydd.
Edrychem ar y nefoedd,
Wrth fynd o fryn i fryn;
Edrychem ar y llynoedd dŵr,
A phwysem ar ein ffyn.
A gwelem y Saith Seren
Oedd yn y gogledd draw,
Yn gwenu ar Saith Seren wen
Oedd yn y llyn gerllaw.
Ond nid oedd amser sefyll,
Nid oedd ond hanner awr,
Na byddai Toriad Dydd yn dod
Ar ben y Wyddfa fawr.
O’r diwedd cyrhaeddasom
At ffynnon ger ei phen,
Gan ddiolch am gael gwin y graig
Mor agos at y nen.
Dringasom ris i fyny,
A threm fawreddus gaed,—
Yr holl ddwyreiniol fyd yn goch,
Yn fflamio wrth ein traed;
Ataliodd pawb ei anadl,
A phlethodd pawb ei law,
Wrth weld y goelcerth goch yn dod,
A’r nos yn treiglo draw.
Galwasom am y delyn,
Ac yng ngoleuni ’r wawr,
Canasom dôn ar “Doriad Dydd”
Ar ben y Wyddfa fawr.


YR ENETH DDALL.

ALAW, _Toriad y Dydd_.
MAE llawer un yn cofio
Yr eneth fechan ddall;
Ni welodd neb un fach mor fwyn,
Mor brydferth, ac mor gall;
Fe gerddodd am flynyddau
I ysgol Dewi Sant,
Ar hyd y ffordd o gam i gam,
Yn nwylaw rhai o’r plant.
’R oedd gofal pawb am dani,
A phawb yn hoffi ’r gwaith
O helpu ’r eneth fach ymlaen,
Trwy holl drofeydd y daith;
Siaradai ’r plant am gaeau,
A llwybrau ger y lli,
Ac am y blodau tan eu traed,
Ond plentyn dall oedd hi.
Fe glywai felus fiwsig
Yr adar yn y dail;
Fe deimlai ar ei gwyneb bach
Belydrau serch yr haul;
Aroglai flodau ’r ddaear;
Ond nis adwaenai ’r fûn
Mo wên yr haul, a mwy na ’r oll
Mo wên ei mam ei hun.
Mae ’r plentyn wedi marw,—
Ar wely angau prudd
Fe wenodd ar ei mam gan ddweyd,
“Mi welaf doriad dydd!”
Ehedodd mewn goleuni
Oddiwrth ei phoen a’i phall,
A gweled golygfeydd y nef
Y mae yr ENETH DDALL.


CODIAD YR HEDYDD.

Dywedir fod D. Owen wedi mynd i noson-lawen i Blas y Borth, Porthmadog,
ac fe arosodd y telynor yn rhialtwch yr arwest, tan ddau neu dri o’r
gloch yn y bore. Fe ddaeth dydd ar warthaf Dafydd a’i delyn pan oedd y
ddau ar y ffordd adref. Eisteddodd y llanc ar garreg sydd i’w chanfod
eto yn yr ardal, i sylwi ar ehedydd uweh ei ben yn taro cyweirnod ei
galon ar doriad dydd. Dyna’r fan a’r pryd y cyfansoddwyd y dôn _Codiad
yr Hedydd_.
ALAW,—_Codiad yr Hedydd_.
CLYWCH, clywch foreuol glod,
O fwyned yw ’r defnynnau ’n dod
O wynfa lân i lawr.
Ai mân ddefnynnau cân
Aneirif lu ryw dyrfa lân
Ddiangodd gyda ’r wawr?
Mud yw ’r awel ar y waun,
Brig y grug yn esmwyth gryn;
Gwrando mae yr aber gain,
Yn y brwyn ymguddia ’i hun.
Mor nefol swynol ydyw ’r sain
Sy ’n dod i ddeffro dyn.
Cwyd, cwyd ehedydd, cwyd,
O le i le ar aden lwyd,
Yn uwch, yn uwch o hyd;
Cân, cân dy ddernyn cu,
A dos yn nes at lawen lu
Adawodd boen y byd,—
Canu mae a’r byd a glyw,
Ei alaw lon o uchel le;
Cyfyd hiraeth dynol ryw
Ar ei ol i froydd ne:
Yn nes at Ddydd, yn nes at Dduw,
I fyny fel efe.


AR HYD Y NOS.

ALAW,—_Ar hyd y Nos_.
HOLL amrantau ’r ser ddywedant,
Ar hyd y nos,
Dyma ’r ffordd i fro gogoniant,
Ar hyd y nos.
Goleu arall yw tywyllwch,
I arddangos gwir brydferthwch
Teulu ’r nefoedd mewn tawelwch,
Ar hyd y nos.
O mor siriol gwena seren
Ar hyd y nos;
I oleuo ’i chwaer-ddaearen
Ar hyd y nos.
Nos yw henaint pan ddaw cystudd,
Ond i harddu dyn a’i hwyrddydd,
Rhown ein goleu gwan i’n gilydd
Ar hyd y nos.


MORFA RHUDDLAN.

ALAW,—_Morfa Rhuddlan_.
GWGODD y nefoedd ar achos y cyfion,
Trechodd Caethiwed fyddinoedd y Rhydd;
Methodd gweddiau fel methodd breuddwydion,
Cleddyf y gelyn a gariodd y dydd;
Cuddied y Morfa tan eira tragwyddol,
Rhewed yr eigion am byth tros y fan;
Arglwydd trugarog, O! tyred i ganol
Achos y cyfiawn a chartref y gwan.
Brenin y gelyn fydd pen ein gwladwriaeth,
Lleiddiad Caradog a gymer ei le;
Cwymped y delyn ar gwympiad Caradog,
Syrthied i’r ddaear fel syrthiodd efe.
Eto, edrychaf ar draeth y gyflafan,
Wadwyd mo Ryddid, a chablwyd mo ’r Iôr;
Gwell ydoedd marw ar Hen Forfa Rhuddlan,
Gwell ydoedd suddo i Ryddid y môr.


’DOES DIM OND EISIEU DECHREU.

ALAW,—_Y Gadlys_.
’DOES dim ond eisieu dechreu,
Mae dechreu ’n hanner gwaith,
I ddysgu pob gwybodau
A deall unrhyw iaith.
Nac ofnwch anhawsderau,
’Does un gelfyddyd dan y rhôd
Nad all y meddwl diwyd ddod,
I’w deall wedi dechreu.
“Fe hoffwn innau sengyd
Ar ben y Wyddfa draw,”
Medd hen foneddwr gwanllyd
A phastwn yn ei law.
Cychwynnodd yn y boreu,
Ac erbyn hanner dydd yr oedd
Ar ben y mynydd yn rhoi bloedd,
“’Doedd dim ond eisieu dechreu.”
I fesur y planedau
Sy’n hongian er erioed;
I ddarllen tudalennau
Y ddaear tan dy droed—
Y bachgen efo ’i lyfrau
Ymlaen yr a, ymlaen yr a
I wneuthur drwg neu wneuthur da,
’Does dim ond eisieu dechreu.
Wel, deuparth gwaith ei ddechreu,
’Does un ddihareb well;
Cychwynnwch yn y boreu,
Fe ellwch fynd ymhell.
Edrychwch rhwng y bryniau
Ffynhonnau bach sy’n llifo ’i lawr,
Ond ânt i’r môr yn genllif mawr,
’Does dim ond eisieu dechreu.


DIFYRRWCH GWYR HARLECH.

ALAW,—_Difyrrwch Gwŷr Harlech_.
WELE goelcerth wen yn fflamio,
A thafodau tân yn bloeddio,
Ar i’r dewrion ddod i daro
Unwaith eto ’n un;
Gan fanllefau ’r tywysogion,
Llais gelynion, trwst arfogion,
A charlamiad y marchogion,
Craig ar graig a gryn.
Cwympa llawer llywydd,
Arfon byth ni orfudd;
Cyrff y gelyn wrth y cant
Orffwysant yn y ffosydd;
Yng ngoleuni ’r goeleerth acw,
Tros wefusau Cymro ’n marw,
Anibyniaeth sydd yn galw
Am ei dewraf dyn.
Ni chaiff gelyn ladd ac ymlid
Harlech! Harlech; cwyd i’w herlid;
Y mae Rhoddwr mawr ein Rhyddid,
Yn rhoi nerth i ni;
Wele Gymru a’i byddinoedd
Yn ymdywallt o’r mynyddoedd!
Rhuthrant fel rhaiadrau dyfroedd
Llamant fel y lli.
Llwyddiant i’n lluyddion,
Rwystro bâr yr estron,
Gwybod yn ei galon gaiff
Fel bratha cleddyf Brython.
Cledd yn erbyn cledd a chwery,
Dur yn erbyn dur a dery,
Wele faner Gwalia i fyny,
Rhyddid aiff a hi.
[Picture: Castell Dinas Bran. S. M. Jones. I wynebu tud]


TROT Y GASEG.

ALAW—_Trot y Gaseg_.
RHAID imi basio heno
Tŷ geneth lana’r fro,
Dymunwn alw yno,
Ond ni wnaiff hynny ’r tro.
Tyrd ti fy merlen hoew,
I fyny ’r dyffryn acw;
Da gwyddost am y tŷ
Y trig fy ngeneth gu—
Dynesu mae yr afon,
Cynesu mae fy nghalon,
Wrth basio ’r Dolydd Gleision,
Ar gefn fy merlen ddu.
Mae miwsig hen alawon,
Yn swn dy bedwar troed:
Rwy ’n croesi tros yr afon
Mi welaf lwyn o goed.
Tra ’r afon ar y graian,
Yn hwian iddi’ hunan,
Mae seren Gwener gu
Yn crynnu uwch y tŷ,
A’m calon wirion innau
Yn crynnu am y goreu.
Wrth fynd ar loergan oleu
Ar gefn fy merlen ddu.
Yn y coedwigoedd agos,
Fy merlen lo’wddu lefn,
Y clywais lais yr eos
Wrth deithio ar dy gefn.
Pan oeddit ti yn trotian,
Yr oeddwn innau ’n dotian,
Wrth wrando ’r eos gu
Ac edrych ar y tŷ.
Pan dderfydd y gostegion,
Bydd Merch y Dolydd Gleision,
Mewn cannaid ddillad gwynion,
Ar gefn fy merlen ddu.


LLANCES Y DYFFRYN.

ALAW,—_Llances y Dyffryn_.
LLANCES y Dyffryn wnaeth bopeth yn iawn,
Llanwodd lawenydd fy nghalon yn llawn;
Glanach yw ’r defaid ar ochr y bryn,
Gwynnach yw ’r alarch ar ddwfr y llyn:
Clysach yw ’r blodau, a glasach yw ’r coed;
Harddach, prydferthach y byd nag erioed.
Gwnaed fi yn ddedwydd foreuddydd a nawn,
Llances y Dyffryn wnaeth bopeth yn iawn.
Llances y Dyffryn oleuodd y fro,
Gloewach yw ’r afon a glanach yw ’r gro;
Purach fy meddwl a hoewach fy nhroed,
Hoenach yr awen na bu erioed.
Hoffach yw ’r Dyffryn a llonnach pob lle,
Mwynach yw ’r awel o’r dwyrain a’r dê;
Trom fu fy nghalon, ond ’rwan distawn,
Llances y dyffryn wnaeth bopeth yn iawn.


YN YNYS MON FE SAFAI GWR.

ALAW—“_Ymdaith y Mwnc_.”
YN Ynys Môn fe safai gŵr
Ym min y nos ar fin y traeth;
Fe welai long draw ar y dŵr,
A’i hannerch ar yr eigion wnaeth:—
Dos a gwel fy machgen gwiw,
Dos a sibrwd yn ei glyw
Yn iaith ddinam
Ei anwyl fam,
A dywed fod ei dad yn fyw.
Ymwêl gyda ’m plentyn, a dwed fod ei dad,
Yn edrych yn fynych dros wyneb y lli.
O! chwydder dy hwyliau gan chwaon o’th wlad,
A thyner bo’r awel lle bynnag ’r ei di.
Dos tros y don,
Cei henffych well,
Dwed yno’n llon
Wrth fachgen sydd bell,
Fod Gwalia flodeuog yn moli’r un Duw,
Ac iaith ei gyndadau yn iach ac yn fyw.
Fod ywen ddu yn hardd uwchben
Y garreg lâs lle cwsg ei fam,
Ac fod ei dad a’i farf yn wen,
Yn grwm ei war, a byr ei gam;
Fod y pistyll eto ’n gry,
Fod yr afon fel y bu,
Ar wely glân
O raian mân,
Yn sisial tôn wrth ddrws y tŷ.
Ymwêl gyda ’m plentyn, a dwed fod ei dad,
Yn edrych yn fynych dros wyneb y lli.
O! chwydder dy hwyliau gan chwaon o’th wlad,
A thyner bo’r awel lle bynnag ’r ei di.
Dos tros y don,
Cei henffych well,
Dwed yno ’n llon
Wrth fachgen sydd bell,
Fod Gwalia flodeuog yn moli ’r un Duw,
Ac iaith ei gyndadau yn iach ac yn fyw.
Fod ganddo chwaer ar ddelw ’i fam,
Sydd yn parhau i’w garu ef,
Sy ’n llawenhau wrth feddwl am
Gael eto gwrdd yn nef y nef.
Fod ei wlad heb weld ei hail
Am glysni teg a glesni dail;
A dal wrth ben
Ei Gymru wen
Mae awel nef a melyn haul.
Ymwêl gyda ’m plentyn, a dwed fod ei dad,
Yn edrych yn fynych dros wyneb y lli.
O! chwydder dy hwyliau gan chwaon o’th wlad
A thyner bo ’r awel lle bynnag ’r ei di.
Dos tros y don,
Cei henffych well,
Dwed yno ’n llon
Wrth fachgen sydd bell,
Fod Gwalia flodeuog yn moli ’r un Duw,
Ac iaith ei gyndadau yn iach ac yn fyw.


CADLEF MORGANNWG.

O “Syr Rhys ap Tomos.”
CLYWCH, clywch, hen gadlef Morgannwg,
Wele Rys a’i feirch yn y golwg,
I’w atal ymlaen
’Dyw mynydd ond maen
Adewir mewn llwch ar ei ol.
Corn y gâd ydyw miwsig yr awel,
Heddyw gwledd gydag Arthur yw rhyfel,
Yn galw ar fynydd a dôl.
Wel sefwch yn hyf gyda ’ch dreigiau,
Ac edrychwch i lawr megis creigiau,
Gawrfloeddio mae Rhyddid i ganol y gâd
I godi’r hen wlad yn ei hol.
Mae breichiau myrdd yn caledu,
A ffroenau y meirch yn lledu;
A berwi mae gwaed,
Gwŷr meirch a gwŷr traed,
I godi’r hen wlad yn ei hol.
Fry, fry, cyhwfan mae ’r faner,
Trywanu mae ’r cledd at ei hanner;
Yn uwch eto ’n uwch gyda ’r dreigiau,
Ac edrychwch i lawr megis creigiau,
Gawrfloeddio mae Rhyddid i ganol y gâd,
I godi ’r hen wlad yn ei hol!


MWYN YW MYNED TUA MON.

ALAW,—_Hufen Melyn_.
[Picture: Words and music]
A ddowch chwi’ rwyf—o ar yr
af-on, A ddowch chwi’ gan-u yn-o’n gôr?
I weld hy—naws—ed yd—yw
nos-on, A mwyn-ed murmur tònau’r môr?
A gawn ni fyn-ed ar y Fenai hen-o, I
Yn—ys Mon-a rhwyf—wn gyda’r dôn: O
dowch i gan-u, dowch i nof—io, Dowch i rwyf-o
gyda’r dôn: Mae croes—o an-wyl in—i
yn—o, O mwyn yw myn-ed tu—a Môn.
Mae ’r bad yn nofio ar yr afon,
A nos o fwyniant ydyw hon;
Mae ’r ser a’r lleuad yn dryloewon,
A’r côr yn canu ar y dòn.
Wel ar y Fenai, ar y Fenai heno,
Y llawen ganwn, rhwyfwn gyda ’r dôn,—
A dyma ’r canu, dyma ’r nofio,
Dyma ’r rhwyfo gyda ’r dôn;
Mae aelwyd lawen inni yno,
O mwyn yw myned tua Môn.


HUN GWENLLIAN.

ALAW,—_Hun Gwenllian_.
HUN Gwenllian, ferch y brenin,
Gwyn dy fyd ti tan y gŵys;
Cwsg Wenllian, dyner blentyn,
Yn y ddaear ddistaw ddwys.
Cledd y Norman wnaeth gyflafan,
Nid oes gennyt fam yn awr;
Hun Gwenllian, hun Gwenllian,
Cwsg ymhell o’r cystudd mawr.
Hun Gwenllian, i’th fendithio
Duw ’th gymerodd yn ei gôl;
Mae th frawd hynaf wedi cwympo,
Ni ddaw ’r iengaf byth yn ol.
Yn dy gartref trig y Norman,
Seren Cymru aeth i lawr;
Hun Gwenllian, hun Gwenllian,
Cwsg ymhell o’r cystudd mawr.


AR DDOL PENDEFIG.

ALAW,—_Y Gwenith Gwyn_.
AR ddol pendefig, heidden wen
Ymgrymai’ phen yn hawddgar;
’R oedd cnwd o honynt ar y cae,
Fel tonnau hyd y ddaear;
A cher y fan, ar fin rhyw lyn,
’R oedd gwenith gwyn yn gwenu;
Un gwlith, un gwlaw, oedd ar y ddau,
Y cnydau prydferth hynny.
Fe roddodd Duw mewn gwlaw a gwlith,
Ei fendith ar y maesydd;
A dyn a godai gyda ’r wawr
I dorri lawr y cynnydd.
Ond rhwng y ddeufaes trowynt ddaeth,
A rhuo wnaeth i’r nefoedd,—
“Fod un yn mynd er bendith dyn,
A’r llall i ddamnio miloedd.”


A LAESWN NI DDWYLAW?

ALAW,—_Llwyn Onn_.
A LAESWN ni ddwylaw yng nganol y rhyfel,
Tra ’r gelyn yn erlid, a fynnwn ni hedd?
Tra llidiart y fynwent a’i sgrech ar ei hechel
Wrth dderbyn y meddwon i stafell y bedd?
Mae’r blodau sy’n tyfu ar feddrod y meddwyn
Yn gollwng eu dagrau tan gysgod yr yw;
A’r gwynt wrth fynd heibio, fel taran; yn gofyn
“_Pa un ai moesoldeb ai meddwdod gaiff fyw_?”


LLWYBR Y PERERIN.

MI dybiais fod ffordd y pererin i’r nef
Yn un lefn ac hardd-esmwyth trwy ddyffryn glâs gain;
Dangosaist Di ’r ffordd—ac un gul dywell oedd,
Garegog a blin trwy fieri a drain.
Mae temlau a phlasau heb ofid na phoen,
Ond y maent tros gagendor o dir y rhai byw;
Mae afonydd o hedd, ond pa le maent i’w cael,—
Yn y nef yno maent, fry yn nefoedd fy Nuw.


BEDD LLYWELYN.

ALAW,—_Goslef Llywelyn_.
I FEDDROD Llywelyn mae ’r tir wedi suddo,
Ac arno ’r gwlawogydd arosant yn llyn;
Mae ’r lloer wrth ymgodi, a’r haul wrth fachludo,
Yn edrych gan wrido ar ysgwydd y bryn.
Fy Nghymru, fy Ngwlad, a wyddost ti hyn!
Pa le mae Gwladgarwch yn dangos ei gwedd?
Mae dagrau y cwmwl yn gwybod am dano,
A deryn y mynydd yn nabod y bedd.
Ar ddamwain mae ’r Cymro yn dyfod i weled,
Lle cwympodd yr olaf fu ddewr ar ei ran;
Yr awel a gwyna a’r ddaear a ddywed,
Fod calon hen Walia yn curo ’n lled wan;
Dieithriaid a ddônt i weled y fan
Y gorffwys Llywelyn wrth ochor ei gledd;
Wel diolch am ddeigryn o’r nefoedd i waered,
Ac am y glaswelltyn yn ymyl y bedd.


A DDWEDAIST TI FOD CYMRU ’N DLAWD.

A DDWEDAIST ti fod Cymru ’n dlawd,
Am fod ei llannau ’n llonydd,
A thithau ’th hun yn cloddio, frawd,
Ym mryniau aur Meirionnydd?
You have read 1 text from Welsh literature.
Next - Ceiriog - 3
  • Parts
  • Ceiriog - 1
    Total number of words is 4043
    Total number of unique words is 1561
    45.4 of words are in the 2000 most common words
    64.6 of words are in the 5000 most common words
    73.8 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Ceiriog - 2
    Total number of words is 4388
    Total number of unique words is 1484
    46.3 of words are in the 2000 most common words
    66.1 of words are in the 5000 most common words
    74.9 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Ceiriog - 3
    Total number of words is 4334
    Total number of unique words is 1594
    44.0 of words are in the 2000 most common words
    63.0 of words are in the 5000 most common words
    71.8 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Ceiriog - 4
    Total number of words is 4206
    Total number of unique words is 1512
    45.9 of words are in the 2000 most common words
    65.5 of words are in the 5000 most common words
    74.2 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Ceiriog - 5
    Total number of words is 1903
    Total number of unique words is 772
    55.1 of words are in the 2000 most common words
    72.4 of words are in the 5000 most common words
    80.7 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.