Ceiriog - 5

Total number of words is 1903
Total number of unique words is 772
55.1 of words are in the 2000 most common words
72.4 of words are in the 5000 most common words
80.7 of words are in the 8000 most common words
Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
ALAW,—_Clychau Aberdyfi_.
Wrth feddwl am y gangen gyll
Ddanfonodd Menna imi;
Draw ’n y pellder clywwn swn
Hen glychau Aberdyfi—
“Menna eto fydd dy fun,
Gâd y pruddglwyf iddo ’i hun,
Cwyd dy galon, bydd yn ddyn,”
Meddai clychau Aberdyfi.
“Un-dau-tri-pedwar-pump-chwech
Cwyd dy galon, bydd yn ddyn,”
Meddai clychau Aberdyfi.
Hawdd gan glychau ganu ’n llon,
Tra na bo dim i’w poeni:
Hawdd yw cael gweniadau merch,
Ond mil mwy hawdd en colli.
“Menna eto fydd dy fun,” &c.
Pe bai etifedd i ŵr mawr
Yfory ’n cael ei eni;
I ganu cainc dechreuech chwi,
Hen glychau Aberdyfi.
“Menna eto fydd dy fun,” &c.
Pe bai rhyw ddeuddyn yn y wlad,
Yfory ’n mynd i’w priodi,
I ganu cainc dechreuech chwi,
Hen glychau Aberdyfi,
“Menna eto fydd dy fun,” &c.
Pe bawn i fory ’n mynd i’r bedd,
A’m calon wedi torri;
I ganu cainc dechreuech chwi,
Hen glychau Aberdyfi.
“Menna eto fydd dy fun,
Gad y pruddglwyf iddo ’i hun,
Cwyd dy galon, bydd yn ddyn,”
Meddai clychau Aberdyfi.
“Un-dau-tri-pedwar-pump-chwech
Cwyd dy galon, bydd yn ddyn”
Meddai clychau Aberdyfi.

XV.

’R wyf wedi canu llawer
O gerddi Cymru lân,
Ond dyma ’r darn prydferthaf
Sydd gennyf yn fy nghân;
Ymhen rhyw flwyddyn wedyn,
At Menna Rhen daeth brys,
Nes aeth yn Menna Mabon
A modrwy am ei bŷs.
Yn mhen rhyw flwyddyn arall,
A dyma ddernyn cain;
Pan oedd y gôg yn canu
A’r blodau ar y drain,
Yr ŵyn ar ben y mynydd
Yn chware naid a llam,
Fe wenai Mabon bychan
Ar freichiau gwyn ei fam.

XVI.

Ar ysgwydd y gwan fe ddaeth pwys
Trafferthion a helbul y byd,
Fy nheulu gynyddodd, a daeth
Gofynion am ’chwaneg o ŷd;
Ychwaneg o fwyd i’r rhai bach,
Ychwaneg o lafur a thraul;
Er hynny yn nghwmni fy Men,
Yr oedd imi gysur i’w gael.
Un gweryl a gawsom erioed,
A chweryl dra chwerw oedd hon;
Fe yrrwyd fy hunan a’m gwraig,
Ar tŷ’n bendramwnwgl bron.—
Yr oedd hi ’n bur hoff o roi tro
I weled ei mam tros y bryn;
Ac wrth imi ddwedyd gair croes,
Dechreuodd areithio fel hyn:—
“Cymeryd fy hel a fy nhrin,
Fy maeddu heb ddarfod na phen:
Cymeryd pob tafod a rhenc,
Fel pe bawn yn ddernyn o bren!
Ai dioddef fel carreg a raid,
Heb deimlad—na llygad—na chlyw!
O! na wnaf, os gwelwch chwi ’n dda,
Wnaf fi ddim er undyn byw!
“A chymer di fi ar fy ngair,
Fe ’i cedwais erioed hyd yn hyn;
Cyn cei di fy ngwddf tan dy droed,
Bydd dy ben yn eitha gwyn.—
Cymeryd diflasdod a chas,
A galw fy modryb yn ‘sgriw.’—
O! na wnaf, os gwelwch chwi ’n dda,
Wnaf fi ddim er undyn byw!
“Ni flasa i fynd allan o’r tŷ,
I weled fy chwaer na fy mam,
Nad codi ’r gloch fawr byddi di,
Heb reswm, nag achos, na pham.—
Wna i mono fo, Alun, er neb,
Mi gadwaf anrhydedd fy rhyw;
O! na wnaf os gwelwch chwi ’n dda,
Wnaf fi ddim er undyn byw!
“’Does gen’ ti ’r un galon o’th fewn,
A phwyll yn dy goryn ni ’roed;
A gwae fi o’r diwrnod a’r awr [_yn crio_.]
Y gwelais dy wyneb erioed!
Mi âf tros y bryn at fy nhad,
I’m hatal ’does undyn a wiw;
Ac aros yn hŵy efo ’th di—
Wnaf fi ddim—wnaf fi ddim!
Wnaf fi ddim er undyn byw!”
Ac i ffwrdd yr aeth hi, ac i ffwidd y bu hi, ac i ffwrdd yr arosodd, am
nas gwn i pa hyd. Ond tra yr oedd hi efo ’i mam a’i theulu, a minnau yn
fy helbul efo fy mhlant bach, mi genais gerdd i ysgafnhau fy nghalon, ac
fel hyn y cenais,—

XVII.

Mae ’r lloer yn codi tros yr aig
Ac ogof Craig Eryri;
Ond beth yw cartref heb fy ngwraig,
Ond ogof ddioleuní?
Y mae pob munud megis awr,
Ac awr, O! Menna, ’n flwyddyn.
Pe bawn i heno ’n dderyn to,
Caet heno weled Alun.
O na bai cadair Morgan Mud,
Neu un o’r hen freindlysau,
Yn mynd a fi, fy ngeneth wen,
Tros ben y coed a’r caeau.
Mi rown fy ngwefus wrth dy glust,
A gwnawn i ti freuddwydio;
Nes codet trwy dy gwsg i ddod,
Yn ol at Alun eto.
Ond i fy nghadair wellt yr af,
A cheisiaf huno, Menna;
Ac mewn breuddwydion cyn bo hir
Mi ddeuaf innau yna.
Yn awr ’rwy ’n cau fy amrant swrth
Wrth gychwyn i dy wyddfod;
Breuddwydia dithau, felly hed,
A thyred i’m cyfarfod.

XVIII.

Mi dreuliais wythnos gyfan,
A Menna bach i ffwrdd;
A’r tŷ yn llanast tryblith,
A’r llestri hyd y bwrdd.
’R oedd gennyf was a hogyn
Yn cynhauafa mawn:
Ac eisiau pobi bara
A daeth yn fuan iawn.
’R oedd godro un o’r gwartheg
Yn gasach na phob peth,
Oherwydd Menna ’n unig
Gai gydied yn ei theth.
A throi yn hesp wnaeth pedair
O’r gwartheg mwyaf blith;
A llaeth y lleill a surodd,
A’r byd a drodd o chwith.
Ac am y gegin, druan,
’R oedd hi heb drefn na llun:
Y plant ddechreuent grïo,
A chrïais innau f’ hun.
Mi flinais ar fy einioes,
Aeth bywyd imi ’n bwn:
A gyrrais efo ’r hogyn
I Menna ’r llythyr hwn:—

XIX.

ALAW,—_Bugail Aberdyfi_.
Mi geisiaf eto ganu cân,
I’th gael di ’n ol, fy ngeneth lân,
I’r gadair siglo ger y tân,
Ar fynydd Aberdyfi;
Paham, fy ngeneth hoff, paham,
Gadewaist fi a’th blant dinam?
Mae Arthur bach yn galw ’i fam,
A’i galon bron a thorri;
Mae ’r ddau oen llawaeth yn y llwyn,
A’r plant yn chware efo ’r ŵyn;
O tyrd yn ol, fy ngeneth fwyn,
I fynydd Aberdyfi.
Nosweithiau hirion mwliog du
Sydd o fy mlaen, fy ngeneth gu:
O! agor eto ddrws y tŷ,
Ar fynydd Aberdyfi.
O! na chaet glywed gweddi dlos
Dy Arthur bach cyn cysgu ’r nos,
A’i ruddiau bychain fel y rhos,
Yn wylo am ei fami;
Gormesaist lawer arnaf, Men,
Gormesais innau—dyna ben:
O tyrd yn ol, fy ngeneth wen,
I fynydd Aberdyfi.
Fel hyn y ceisiaf ganu cân
I’th gael di ’n ol, fy ngeneth lân,
I eistedd eto ger y tân,
Ar fynydd Aberdyfi;
’Rwy ’n cofio’th lais yn canu ’n iach—
Ond ’fedri di, na neb o’th âch,
Ddiystyrru gweddi plentyn bach
Sydd eisieu gweld ei fami.
Rhyw chware plant oedd d’weyd ffarwel,
Cyd-faddeu wnawn, a dyna ’r fel,
Tyrd tithau ’n ol, fy ngeneth ddel,
I fynydd Aberdyfi.

XX.

Fe ddaeth yr hogyn adref,
A rhoddodd sicrhad,
Fod Menna ’n mynd i aros
Yn nhy ei mam a’i thad.
Os oeddem wedi priodi,
Yn bendant dwedai hi
Nad oedd dim modd cymodi
A dyn o’m tymer i.
Fod i’r holl fechgyn fyned
I’w magu ganddi hi:
Ac i’r genethod ddyfod
O dan fy ngofal i.
’R oedd hi yn ymwahanu,
Ac felly ’n canu ’n iach;
Ond hoffai roddi cusan
Ar wefus Enid fach.
A thrannoeth hi ddychwelodd
I ddwyn y rhwyg i ben:
Ond O! fe dorrodd dagrau
O eigion calon Men;
Cymerodd Arthur afael
Am wddf ei fam a fi,
Ac fel rhyw angel bychan,
Fe ’n hailgymododd ni.

XXI.

Wyddoch chwi beth, mae ffraeo
Yn ateb diben da;
Pe na bai oerni ’r gauaf
Ni theimlem wrês yr ha;
Pe na bai ymrafaelio,
Ni byddai ’r byd ddim nes,
Yn wir mae tipyn ffraeo
’N gwneyd llawer iawn o les.

XXII.

Awel groes ar fy oes godai ’n gryf wedyn,
Daeth i mi adwyth mawr, clefyd, a thwymyn:
Rhoddai mhlant ddwylaw’n mhleth, ogylch fy ngwely,
Minnau ’n fud welwn fyd arall yn nesu.
Is fy mhen, ias fy medd deimlais yn dyfod,
A daeth ofn, afon ddofn, ddu i’m cyfarfod;
Ond ’roedd grudd ar fy ngrudd, ar yr awr ddua,
A rhoi gwin ar fy min ddarfu fy Menna.
O! os bu ias y bedd, allan o’r briddell,
Hi a fu ennyd fer yn fy hen babell;
Yn fy nhraed teimlais waed, dyn wedi huno,
Ond fe drodd angau draw wedi fy nharo.
Fel y graig safai ’m gwraig anwyl yn ëon,
Ac i’r nef, gweddi gref yrrodd o’i chalon:
Rhoi ei grudd ar fy ngrudd, ar yr awr ddua,
A rhoi gwin ar fy min, ddarfu fy Menna.

XXIII.

Ar ol fy hir gystudd,
’Rwy ’n cofio ’r boreuddydd
Y’m cariwyd mewn cader dros riniog fy nôr:
Ac ar fy ngwyn dalcen
Disgynnodd yr heulwen,
Ac awel o’r mynydd ac awel o’r môr.
Ar ol imi nychu
Yn gaeth ar fy ngwely
Am fisoedd o gystudd, o glefyd a phoen;
Fy nghalon lawenodd
Wrth weld ar y weirglodd
Y gaseg a’r ebol, y ddafad a’r oen.
Trwy wenlas ffurfafen
Fe wenai yr heulwen,
Ac mi a’i gwynebais, ac yfais y gwynt;
A’r adar a ddeuent
I’m hymyl, a chanent,
Nes teimlais fy nghalon yn curo fel cynt.
Fy ngeneth ieuengaf
Ac Arthur ddaeth ataf,
A gwenu mewn dagrau wnai Menna gerllaw;
A daeth fy nghi gwirion,
Gan ysgwyd ei gynffon,
A neidiodd i fyny a llyfodd fy llaw.

XXIV.

Ond O! mae llawer blynedd,
Er pan own gynt yn eistedd,
O flaen fy nrws tan wenau ’r haul;
’Rol gadael gwely gwaeledd.
A llawer tywydd garw
Sydd er yr amser hwnnw,
Mae ’m plant yn wragedd ac yn wŷr,
A Menna wedi marw.
Claddasom fachgen bychan,
Ac yna faban gwiwlan,
Ond chododd Menna byth mo’i phen
’Rol ini gladdu ’r baban.
’Rwy ’n cofio ’r Sul y Blodau
Yr aeth i weld eu beddau,
Pan welais arwydd ar ei gwedd,
Mai mynd i’r bedd ’roedd hithau.
Penliniodd dan yr ywen,
A phlannodd aur-fanadlen,
Mieri Mair, a chanri ’r coed,
A brig o droed y glomen.
Y blodau gwyllt a dyfent
Ar ddau fedd yn y fynwent;
Ond gywo ’r oedd y rhosyn coch
Ar foch y fam a’i gwylient.
Ac er pan gladdwyd Menna,
Un fynwent yw ’r byd yma:
Y fodrwy hon sydd ar fy mys
Yw’ r unig drysor fedda.
Y fodrwy hon a gadwaf,
Y fodrwy hon a garaf,
A dyma destun olaf cerdd,
Gwreichionen awen, olaf.

XXV.

Mae Menna ’n y fynwent yn isel ei phen,
A thi ydyw ’r fodrwy fu ar ei llaw wen:
Ar law fy anwylyd rwy ’m cofio dy roi,
Ac wrth imi gofio, mae ni calon yn troi—
Fy llygaid dywyllant, a chau mae fy nghlyw,
’Rwyf fel pe bawn farw, ac fel pe bawn fyw:
Ond megis fy mhriod wrth adael y byd,
Mae modrwy ’r adduned yn oer ac yn fud.
Pan roddwyd ti gyntaf ar law Menna Rhen,
’R oedd coedydd yn ddeiliog, a natur mewn gwen,
Y clychau yn canu, a’r byd fel yn ffol,—
Ond cnul oedd yn canu pan ges i di ’n ol.
Mewn gwenwisg briodas y dodais i di,
O wenwisg yr amdo dychwelaist i mi;
O! fodrwy ’r adduned, nes gwywo ’r llaw hon,
Fe’th gadwaf di ’n loew, fe’th gadwaf di’n gron.

XXVI.

Aros mae ’r mynyddau mawr,
Rhuo trostynt mae y gwynt;
Clywir eto gyda ’r wawr,
Gân bugeiliaid megis cynt.
Eto tyfa ’r llygad dydd,
Ogylch traed y graig a’r bryn;
Ond bugeiliaid newydd sydd
Ar yr hen fynyddoedd hyn.
Ar arferion Cymru gynt,
Newid ddaeth o rod i rod;
Mae cenedlaeth wedi mynd,
A chenedlaeth wedi dod.
Wedi oes dymestlog hir,
Alun Mabon mwy nid yw;
Ond mae ’r heniaith yn y tir,
A’r alawon hen yn fyw.
You have read 1 text from Welsh literature.
  • Parts
  • Ceiriog - 1
    Total number of words is 4043
    Total number of unique words is 1561
    45.4 of words are in the 2000 most common words
    64.6 of words are in the 5000 most common words
    73.8 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Ceiriog - 2
    Total number of words is 4388
    Total number of unique words is 1484
    46.3 of words are in the 2000 most common words
    66.1 of words are in the 5000 most common words
    74.9 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Ceiriog - 3
    Total number of words is 4334
    Total number of unique words is 1594
    44.0 of words are in the 2000 most common words
    63.0 of words are in the 5000 most common words
    71.8 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Ceiriog - 4
    Total number of words is 4206
    Total number of unique words is 1512
    45.9 of words are in the 2000 most common words
    65.5 of words are in the 5000 most common words
    74.2 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Ceiriog - 5
    Total number of words is 1903
    Total number of unique words is 772
    55.1 of words are in the 2000 most common words
    72.4 of words are in the 5000 most common words
    80.7 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.