Gwaith Twm o'r Nant - 3

Total number of words is 4150
Total number of unique words is 1772
36.5 of words are in the 2000 most common words
54.8 of words are in the 5000 most common words
63.5 of words are in the 8000 most common words
Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
Sy’n mynd ar hyd y byd ’ran diogi a bâr.
Yn _fortune-teller_ talog.
[_Diflanna_.
[_Ymddengys Esgob_.
_Esgob_. Mi ddois o’ch blaen, y cwmni hylwydd,
Dan enw tad yr holl eglwysydd;
Myfi yw swcwr, dyddiwr da,
Sylfaene cryfa crefydd.
[Picture: Yr Esgob. Darlun gan A. E. Elias]
Sant Paul gynt a roddodd urdda
I Timotheus, yr esgob cynta,
I oruwchlywodraethu’n siwr,
Yr Ephesied, yn wr hoffusa.
A Thitus hefyd, wynfyd iawnfodd,
Efe yn ddewisol a’i hurddasodd,
Ar y Cretiod yn esgob cryf,
Ei ddonie dwysgu ddysgodd.
Yr wyf finne’n deip o’r alwad honno,
Dan enw’r esgob mewn gwir osgo,
Yn dad eglwysydd odidog liw,
Hoff urddus, i’w hyfforddio.
[_Ymddengys Rhys_.
_Rhys_. Wele! Dafydd y Joci, a Thomas, a Jacob,
A Modryb Elin Ty’n ’r Ysgol, edr’wch lle mae’r esgob!
Da geny’n gymhwys gael lle â chwi ymgomio,
A wariwch eich ceiniog os darfu chwi’ch cinio?
_Esg_. Ewch, rôg _impudent_, oddiyma,
Gwrando’ch ynfydrwydd chwi ni fedra.
_Rhys_. Maddeuwch, f’arnglwydd, y tramgwydd trwch,
Yn rhodd na ddigiwch wrtha.
Mae gen i ewyllys yn fy nghalon,
Gael lle i fynd yn berson;
’Rwy’n gweled y rhei’ny mewn gwlad a thre’
Yn o glos yn eu cobe gleision.
_Esg_. Taw, lolyn ynfyd lledffol,
A’th siarad ansynwyrol.
_Rhys_. Wel, mi wnawn, os oes gen i rhy fach stad,
Ficar neu gurad gwrol.
Mi ddarllena Gymraeg ar redeg,
A thipyn bach o Saesneg;
A pheth, fy meistr, ellwch chwi ddweyd,
Neu chwenych i mi wneyd ychwaneg?
_Esg_. A gai gennyt ti dewi, dywed,
A swnio dy ffol gamsynied.
_Rhys_. Wel, mi allaf wnenthur yn ddi lai,
’Run synwyr a rhai personied.
Beth sydd i’w wneyd ond darllen ambell Sulgweth,
A thendio bedydd a chladdedigeth?
Mae’r llane bach yma, lawer pryd,
Heb rigwm yn y byd o bregeth.
Ac os pregethir weithie,
Nid rhaid mo’r poeni ac astudio’r penne;
Fe bryn dyn ddigon at iws y plwy’
Yn hawddgar am ddwy geinioge.
A pheth a nad imi fedru tendio,
A chodi ar y degwm pwy bynnag fo’n digio,
Ac oni thalant hwy bob peth,
Gwneyd iddynt trwy gyfreth gwafro.
Felly mi leiciwn yn fy nghalon,
Gael mynd yn ŵr eglwysig, i wisgo dillad gleision;
Pe t’rawech chwi gyda fi am le da,
Mi fyddwn mewn bara purion.
_Esg_. Ni fuost ti erioed, un ffol ei ledpen,
O fewn i Cambridge na Rhydychen.
_Rhys_. Ni chadd y rhai fu yno fawr wellhad,
Ni waeth i ni’n gwlad ein hunen.
_Esg_. Nid a neb i’r cyfryw swydde,
Heb fod yno’n profi eu donie.
_Rhys_. Mae’n hawdd medru rheol ddynol ddysg,
Sy’n gyffredin ym mysg yr offeiniade,—
Flowlio a hela, a chware cardie,
Ymladd ceiliogod, a thrin merchede,
Darllen papur newydd, fel y byddan’ nhw,
Ac yfed cwrw am y gore.
Mi fedra fyned trwy ddichellion,
’Rhyd plase gwŷr bonddigion;
Dyna’r fan lle ca’i’n ddi feth,
Mewn barieth fywolieth burion.
Mi gaf ddweyd fy helynt a welwyf wrth ffowlio,
Pa fodd y bydd y tenantied yn contreifio;
Pa’r un fo’n dda ei lun, a pha’r un fo’n ddi les,
Fel caffwyf mewn gwres fy nghroeso.
Lle bo denant cryf i’w ganfod,
Rhaid dweyd gellir codi ar hwnnw hylldod;
A lle bo un gwan, eu hwylio ’nhw’
I orffen hwnnw yn hynod.
_Esg_. Mae’n hawdd gweled, pe cai ti gyfle,
Y gwneit ti’n hwylus ddrwg annele.
_Rhys_. Pe bawn i yn berson, a fydde bai
Am wneuthur fel y gwnelent hwythe?
_Esg_. Dos oddiyma i ofer ddwndro.
_Rhys_. Gobeithio nad ydych chwi ddim yn digio,
Rhag ofn, fy meistr, mewn trawsder trwch,
Y mynnwch fy ysgymuno.
_Esg_. Hawdd y galla’i wneuthur felly.
_Rhys_. Wel, beth os bydde arain i dalu?
Pe bai fastardied lond y fro,
Cai fy ’menydd ei safio am hyany.
Mae yn nghyfreth esgob ryw arfaeth osgo,
Bron mwy diawledig na chyfreth Llandeilo,
Mae ganddo gynffonne a blaene blin,
A llawer tin sydd tano.
Hwy ddaliant ychydig bach o fater
O gwrt i gwrt, ac o chwarter i chwarter;
Nid oes un blewyn yn eich plith
O fendith na chyfiawnder.
Ond yr arian sy’n gwneyd pob gwyrthie,
Er bod rhai dynion yn bostio eu donie;
Yr arian sy’n gyrru’r ysgolheigion rhydd,
I gyrredd y llefydd gore.
Ni bydd mab i boblach wladedd lwydion,
Ond ficer neu gurad gwaredd ei foddion;
Nid oes, wedi dysgu pob disgwrs,
Ond y gore ei bwrs am berson.
_Esg_. Paham y rhoddi di yma’n ddibaid,
Y cyfryw g’wilydd ar fugeiliaid?
_Rhys_. Ond am eu bod, gwybyddwch pam,
Yn wŷr diofal am eu defed.
Yr wyf fi’n cyff’lebu’n barod
Y rhai drwg i’r hyslau a’r drogod,
Heb hidio’n defed, doed a ddêl,
Nes cant hwy afel yn y cnyfod.
Mae un ysgub ddegwm gan ambell berson,
Yn werthfawrocach nag eneidie’r holl blwyfolion,
’Ran os cant hwy ddim colled yn y degwm cu,
Hwy ant i gwerylu’n greulon.
Ac er iddynt weld y plwyfolion yn anaele,
Yn rhedeg yn chwidir ymhob rhyw bechode;
Ac yn mynd tuag uffern o’u blaene yn syth,
Ni chynhyrfant hwy byth mo’r pethe.
_Esg_. Pa beth all nac esgob na pherson gwisgi,
Aruthr yw’r hanes, wrth y rhei’ny?
_Rhys_. Beth yw gwaith bugail ond cadw, os gall,
Yr un fo mewn gwall rhag colli.
_Esg_. Onid ydys yn darllen ac yn gweddio,
Y modd y mae’r eglwys wedi apwyntio?
_Rhys_. Ni wnaiff gwas cyflog, mi wn yn dda,
Dan gellwer, ond lleia’ gallo.
Mae’r ffurfie hen ffasiwn mewn hoffusrwydd,
I borthi’r eneidie, onid aeth hynny’n annedwydd;
Ac fe godwyd llawer ymhob lle
Yn awr o ddegyme newydd.
Mae hynny’n arwydd union
I’r golwg, pa le mae’r galon;
A pha un ai degwm ai eneidie’r praidd
Sy’n gafaelu yng ngwraidd ei galon.
Ond wrth ffrwyth yr adwaenir pob pren a’i dyniad,
A farno a fernir, ni waeth hyn o lar’nad,
Onibai fod rhai’n cael gras Duw yn glir,
I dderbyn y gwir trwy gariad.
_Esg_. Och! Och druenus boenus bennod,
O feddwl hyn anfuddiol hynod,
Fod cyment llygredd trwy’r ddull hon,
Gall pob rhyw ddynion ddannod.
Mae’r fuchedd ddrwg yn amlwg ymlid,
Fel nod yw’r hyllfarn i ni trwy’r hollfyd,
Drygioni’n gwlad anurdda’n glir
Yr eglwys gywir oglud.
Mae achos mawr trwy deimlad
I ganu prudd alarnad,
Am weinidoglon Eglwys Dduw,
Mor hagar yw ei rhwygiad,—
(_Alaw_—“AMOR ELIS,” neu “IANTO’R COED.”)
“Clyw, Eglwys Loeger, ffraethber ffri,
Hap lwyra ’stad, pa le ’reist ti,
Yng nghanol d’urddol frawdol fri,
I’r fath drueni anian.
’Nol dwediad Gildas atgas wawr,
Y gwyfaist awr yn gyfan;
Cans dy weinidogion sydd dan sêr,
Yn haeddu eger ogan.
“Trwm achos ofni’n enbyd sy,
Beth wneiff y wlad gyffredin lu,
Tra bo’r blaenoriaid harddblaid hy’,
Wedi’u dallu gan dywyllwch;
A’r dall truenus warthus wall,
Yn t’wyso’r dall, dyellwch
Mai yn y ffos, anniddos nerth,
Mewn galar serth, y syrthiwch.
“O! chwi rai deillion llyrfion llawn,
Sy’n sôn am Grist a’i ddidrist ddawn,
Ac heb adnabod eto’n iawn,
Mo’i hollol gyfiawn allu;
Pa fodd y byddwch, tristwch trwm,
Pan ddarfo swm rhesymu?
Ni feddwch geidwad yn eich plith,
Ond melldith, rhagrith rhygry’.
“Gan hynny profwn bawb ger bron,
Beth dâl rhyw enw llanw llon,
Am ffurfiau’r Eglwys hardd-ddwys hon,
Dyst oerion heb ystyried;
Na chael erioed iach oleu-ryw,
Gwirionedd Duw i’r ened,
A chym’ryd ffalster yn lle ffydd,
Bydd prudd y dydd diweddied.”
Ffarwel yn awr, yr wy’n mynd ymeth,
Gweddied pawb am wir wybodeth,
Dallineb ysbryd enbyd wawr,
Sy heddyw’n fawr ysyweth.
[_Diflanna_.
[_Ymddengys Ustus_.
_Ustus_. Mi ddes o’ch blaene,’r cwmni gweddus,
Yn awr ar osteg dan enw’r Ustus;
Gen i mae’r pen awdurdod ffraeth,
I wneyd llywodraeth fedrus.
Mae’r byd mor llawned o elynion,
Sef dynion gwresog o natur groesion,
Yn fawr eu brys mewn tref a bro,
Am yrngyfreithio yn frithion.
Yn ol eu holl gynddaredd erchyll,
A’u naws wenwynig, ni sy n ennill;
Oherwydd hynny mi alla’ yn hy,
Hap hynod, ganu pennill,—
(_Alaw_—“GONSET GRUFFYDD AP CYNAN.”)
“Chwychwi gyfreithwyr, barnwyr byd,
Dewch ynghyd, braf yw’n bryd,
Yma ar hyd, mewn mawr anrhydedd.
I ni mae’r mawredd ymhob man,
I ni yma’n awr mae’n fawr y fael,
Gwych a gwael a raid ein cael,
O, mor ddiffael yw mawrdra ffylied!
I ni mewn rhediad yn ein rhan,
Er bod y gyfraith rwyddfaith rad
Yn dda’n ei lle trwy ddawn wellhad;
Nyni’n mhob gwlad sy’n chwanog ledio,
Ffordd bo ni’n leicio, am eiddo a mael,
Wrth fedru chwareu mewn awch hy’,
Y gath ddwy gynffon yma’n gu,
’Ry’m ni ymhob llu yn medru moedro
Dan gyfryw gwafro i gogio’r gwael.
“Tan rith cyfiawnder llawnder llwydd,
Yr y’m ni’n rhwydd yn trin ein swydd,
Rhaid in’ o’n gŵydd trwy guddio’n dyfes,
Os mynwn fantes yma i fyw,
Wrth ddweyd yn deg a thido’n dost,
O ddelio’n rhydost mae’r mawrhydi,
I gadarn godi, a llonni ein lliw.
Er teced cyfraith ffraethwaith ffri,
Ag arian hardd ni a’i gwyrwn hi,
I brynnu bri neu dorri’r dyrus,
Y wobr drefnus a wna’r tro,
I ni mae’r braint, i ni mae’r bryd,
I ni mae’r parch, i ni mae’r byd,
I ni o hyd mae hyder cywaeth,
Tra dalio cyfraith yn ein co’.”
[_Ymddengys Arthur_.
_Arthur_. A glywch, onid ydych chwi yn llafan lysti,
Ac yn gene pur lodog, i ganu baledi?
Bydde cwilydd gan lawer ddangos ei lun,
Y ffasiwn ddyn ddi-dd’ioni.
_Ust_. Ond y fi yw’r pen cyfreithiwr eglur,
’Nol rhwym a rheol presennol synwyr,
Sydd yn trefnu i fynnu’n faith
Hynotaf gyfraith natur.
_Arth_. Os chwi yw’r cyfreithiwr, ’delw’i byth Lanfrothen,
Oni row’n i chwi agos dair a chweigen,
Pe dysgech chwi fine’n dwrne tost,
I ymgred a rhoi côst yn gywren.
’Rwy’n ame pe bawn yn wr o gyfreth,
Y mynnwn diroedd beth didoreth;
Siawns am fod yn gnafus mewn dyrus daith,
Ac ystwrdio, na chawn waith stiwardieth.
_Ust_. Digon i bawb un busnes parod,
Nid iawn i neb ymgyrredd gormod.
_Arth_. Wel, dyma’r diawl ei hunan, hai, hwi, hai,
Yn bwrw’r bai ar bechod.
’Does neb fwy’u rhaib a’u barieth,
Na phersonied a gwŷr y gyfreth,
Mi wn y cym’rech pe cae’ch chwi’ch bryd
I’ch rhan yr holl fyd ar unweth.
Dyma chwi â’ch cyfreithie a’ch papure parod,
Wedi dwyn yma’n erwin feddianne mân aerod,
Ac yspeilio llawer gŵr bonheddig da,
Drwy’ch dewrder a’ch awdurdod.
A pheth yw’r ymrysone sy rhwng personied,
Am y degwm a’r eglwysi, nid oes neb mor glosied,
Tri lle neu bedwar gan ambell un sydd,
Fel y mae’n gywilydd gweled.
_Ust_. Wel, beth am danoch chwithe’r hwsmyn,
Onid y’ch dueddol i fwy nag un tyddyn;
Mae trachwant Adda, trecha’ tro,
Ym mhawb, ’rwy’n coelio,’n canlyn.
_Arth_. Wel, dyma ni heb fedru,
Ond hau, a chau, a phlannu,
A chwi a’ch bath yn hel tir pob man,
I ddwyn ein rhan er hynny.
Y cyfreithwyr a’r personied,
A r siopwyr a’r apothecaried,
Yn dwyn hynny allont o diroedd cu,
I’w gwinedd, gael gwasgu’r gweinied.
Ac os bydd gŵr mawr a chanddo fater,
Fe’i caiff ef mewn gafel ar ei gyfer;
Ond am ddyn tlawd, O! sa’ di’n ol,
Mae hwnnw’n rhy ffol o’r hanner.
Och! faint o diroedd sydd wedi myned
Yn union i’r un sianel a thir yr hen Sioned:
Ond ni chuddir Dyffryn Clwyd â mŵg y dre’,
Daw melldith i’r gole i’w gweled.
_Ust_. Pechaduried y’m ni o’r taera,
Bob swyddog er oes Adda,
Nid oes di fai a sai’ yn dêg
I daflu carreg gynta’.
[_Diflanna_.
_Arth_. O, cais fynd mewn cyffro,
At y gyfreth ’rwyt ti’n gwefrio,
Am ysbio mantes a chael gwall
Ar ryw ddyn dall i’w dwyllo.
Chwi a glywsoch yma ar gyfer
Yr esgob a’r ustus yn ffrostio’u gwychder,
Mai nhw sy’n trefnu ac yn plannu i’n plith
Y fendith a’r cyfiawnder.
’Roedd un yn bostio’i weddi a’i bregeth,
A’r llall mor gyfrwys yn bostio ’i gyfreth;
Ond y fi raid weithio a ffwndro’n ffest,
Gael talu am eu gorchest heleth.
Er eu bod hwy yn ymddyrchafu,
Bob un yn hollawl yn ei swydd a’i allu;
Gwaith yr hwsmyn sydd ar dwyn
Yn eu dal hwy’n fwyn i fyny.
Beth bynnag a fyddo beunydd
O g’ledi arnynt hwy trwy’r gwledydd,
Yr hwsmon truan ym mhob tre’
Raid ddiodde’r coste a’r cystudd.
Os digwydd bod rhyw helyntion,
Neu ymddigwd rhwng boneddigion;
Hwy daflant y cwbwl drwbwl drefn,
Mor esmwyth, ar gefn yn hwsmon.
[_Ymddengys Rhys_.
_Rhys_. Pwy sydd yma mor ddigysur,
Yn erthwch, ai chwi yr hen Arthur?
_Arth_. O! dos oddiyma, a thaw a son,
Mae’n swga gen i ddynion segur.
_Rhys_. Och fi! wr, pa beth a’ch cynhyrfodd?
Mae rhywbeth yn eich moedro chwi yn eich ymadrodd.
_Arth_. O! gofid y byd ac amryw beth,
Yn lanweth a’m creulonodd.
Och! pe clywsit ti gan daclused,
’Roedd yr esgob a’r ustus yn ymffrostio’u gweithred,
Ac yn dweyd mai nhw, trwy’r byd yn glau,
Sy’n ethol, y ddau benaethied.
Ond y fi’r hwsmon gwirion goryn
Sydd ddydd a nos mewn gofid dygyn,
Yn gorfod, er maint eu braint a’u bri,
A’u trawsder hwy, dalu trostyn’.
_Rhys_. Wel, nid wrth ei phig mae prynnu cyffylog,
Ac ni wiw gyrru buwch i ddal ysgyfarnog;
Gwell i bawb y drwg a wypo’n llwyr
Na’r drwg nis gŵyr yn wasgarog.
Gan hynny, ’r hen wr hoew,
Gadewch gael chwart o gwrw;
Ni gawn ymgomio a swnio heb sen
Yn hynod uwch ben hwnnw.
_Arth_. Nid ydyw’r byd yn fforddio
Yr awrhon i mi fawr wario;
Ond nid a’i am beintyn sydyn syth
Yn ddigalon byth i gilio.
_Rhys_. Ni phrisiwn i ddraen fy hunan
Er eich tretio o werth un rotan.
_Arth_. ’Does dim i’w ddweyd, ’rwyt ti’n ddi feth,
Rhaid adde, ’n gydymeth diddan.
_Rhys_. Dyma at eich iechyd da chwi a minne.
_Arth_. Diolch yn fawr, mi yfa’ ’ngore;
Fel y gallwy’ ddisgwyl rhwydd-deb cry,’
Yn rhwyddach i werthu’r heiddie.
Mae gennyf dros gan’ hobed
O haidd wedi rhuddo, nid eiff byth cyn rhwydded:
Oni fedra’i’n rhywle gael cyfle cu
I lechian, a’i werthu’n wlychied.
_Rhys_. Hawyr bach! ni fu ’rioed beth hawsach,
Cym’ryd llafur da’n batrwm, pe b’ai’r llall butrach.
_Arth_. O, mi wn y cast er’s meityn byd,
I ymadel âg yd afiach.
’Ran felly y gwela’i mewn tywyll a gole,
Bawb ag a allo’n twyllo’n mhob tylle;
Maent hwy’n gweled hynny’n fusnes da,
Ar f’einioes, mi gogiaf finne.
_Rhys_. O! tric nêt iawn i gogio’r ecseismon,
Rhoi’r sache a’r haidd wrth raffe yn yr afon,
Nid ydyw gwyr y _North_ am dwyllo’n wir
Wrth y Deheudir ond rhyw hedion.
Mae nhw yno ddydd Sul mor berffeth,
O gwrdd i gwrdd, o bregeth i bregeth;
Ar fore ddydd Llun, nid oes dim a’u gwellha,
Hwy fyddant yn gafra am gyfreth.
Mae rhai yn dwyn defed, a’r lleill yn bragu,
Rhai erill yn infformio, ac yn swnio achos hynny;
’Does dim o’r fath ladron croesion crach
A gwyr Mynydd Bach am bechu.
_Arth_. Maen’ nhw’n ymhob man, ’rwy’n coelio,
A’u hewyllys bawb ’nol a allo;
Anfynych y ffeindir un glân di-feth,
Wrth ddirnad, heb rywbeth arno.
_Rhys_. Wel, yfwch i gadw’ch calon,
At iechyd da pob hwsmon.
_Arth_. Onibai’n bywyd a’n hiechyd ni,
Mi wn, byddech chwi’n o feinion.
_Rhys_. Gadewch heb rwystr eiste,
Mae digon o godiad ar gatal ac yde;
Chwychwi a’ch ffasiwn, hyn o dro,
All fforddio gwario o’r gore.
_Arth_. O, rhaid i mi edrych beth a wnelw’,
Pe gwydde ’meistr tir ’mod i yn cadw twrw,
Fealle y code fo bum punt yn y man
Ar fy nhyddyn o ran heddyw.
_Rhys_. Ha fab, rhag c’wilydd, ’dwy’i ddim yn coelio,
Mae amser i alaru ac amser i ddawnsio.
_Arth_. Oes, amser i bob amcan, mi wn fy hun,
Ond doeth ydyw’r dyn a’i hadwaeno.
_Rhys_. A oes ini amser beth yn ngweddill,
Y gallem ni heb anair ganu yma bennill?
_Arth_. Neb a wnelo heb anair un ffafr yn ffest,
Fe fydd iddo orchest erchyll.
_Rhys_. Wel, canwch chai gerdd i ddechre,
Ac yna’n fwynedd mi ganaf inne.
_Arth_. Dyna ben, mi ganaf gerdd fy hun,
Ni wn i fawr, fe ŵyr dyn, ar danne.
_Rhys_. Wrth gofio, dewch ac yfwch,
Ac yna’n well chwi genwch.
_Arth_. Dyma at ein hiechyd ni bob un,
Yr hwsmyn dygyn degwch.
Mi ganaf yma bennill cryno,
O glod i ni’n hunen heno,
Nyni yw’r dynion dewrion dw’,
Er maint maen’ nhw’n ei frolio,—
(_Alaw_—“PRINCE RUPERT.”)
“Yr hwsmon mwyn rhadlon hyfrydlon ei fryd,
Sy’n haeddu’i ddyrchafu a’i barchu trwy’r byd,
Er bod i’r brenin barch a braint,
A’r esgob enwog swyddog saint,
Mewn pwer foddus pwy ŵyr faint, pur fantes eu byd;
A’r ustus mawr ei ystyr,
A’r cownslors a’r cyfreithwyr, sy’n brysur eu bryd,
Trwy’r hwsmon a’i drafel mae’u gafel nhwy i gyd.
“Ond llafur yr hwsmon, wr esmwyth ei ryw,
Sy’n cynnal y brenin a’i fyddin yn fyw,
Efe sy’n llanw eu dannedd dig,
A’r bara, a’r caws, a’r bir a’r cig,
Pob lleidr balch â’n llwyd ei big, heb aredig i’r ŷd,
Gan yr hwsmon mae trinogeth,
Llin, gwlân, a holl raglunieth bywiolieth y byd,
Trwy’r hwsmon a’i drafel mae’u gafel nhwy i gyd.
“Yr esgob a rwysgant a’i ogoniant i’w gôt,
Rown i, onibai’r degwm, am ei reswm ef rôt,
Ac yntau’r deon fwynlon fant,
A’r offeiriadon chwerwon chwant,
Ar gefn y plwyf maen’ hwy a’u plant, a’u holiant o hyd,
Mae’n rhaid i’r gweilch bon’ddigedd,
Gael bara dan eu dannedd o rinwedd yr ŷd,
Trwy’r hwsmon a’i drafel mae’u gafel nhwy i gyd.
“Efe yw tad-bedydd pob gwledydd yn glir,
A phen pob celfyddyd rhai diwyd ar dir,
Rhaid i bob crefftwr gweithiwr gwan,
Ymofyn yr hwsmon iddo’n rhan,
Ni all neb fyw mewn tref neu lan, heb lunieth mewn pryd,
Digonedd o haidd a gwenith,
Sy’n porthi pob athrylith â bendith mewn pryd,
Trwy’r hwsmon a’i drafel mae’u gafel nhwy i gyd.”
_Rhys_. Wele, moliant i hwch Bryn Mulan,
Oni thawodd y gŵr a geran,
Pwy fuase’n disgwyl ei fod o,
Mor hynod am ei frolio’i hunan?
_Arth_. Wel, brolied pawb ei ore,
Mi ddywedes i’r gwir bob geirie.
_Rhys_. Os oes i bawb ganmol ei waith ei hun,
Rhaid i minne’n ddiddychryn ddechre,—
(_Alaw_—“SPAIN WENDDYDD.”)
“Wel, teimled a barned pob un,
’Rwy’n chwennych gwneyd heddwch cytun,
Pa fodd y gall hwsmon gael lles,
Er cymaint ei rinwedd a’i wres,
Beth fydd e’n nes wrth feddu’n wir
Anrhydedd teg o ffrwythau tir,
Onibae fod gwlad faith râd a thref
Yn treulio’i foddion unicn ef?
A pheth a wnai’r hwsmon dan ’rhod,
Heb frenin a byddin yn bod,
Dysgawdwyr a sawdwyr i’w swydd,
Rhag blinion elynion di lwydd?
Y rhei’ny’n rhwydd wnai aflwydd noeth,
Yn neutu’r byd â’u natur boeth,
Onibai penaethied nerthol glau,
Ni fydde un heddwch î’w fwynhau.
“A’r ustus, ŵr trefnus bob tro,
Sydd berffeth a’i gyfreth i’w go’,
Yn taeru, ac yn rhannu ’mhob rhith,
Gyfiawnder, mewn plainder i’n plith:
Neu bydde melldith ym mhob man,
Lledrata a lladd trwy dref a llan,
Oni bai fod cyfraith araith wir,
Hi ai’n anrhaith hwyl ar fôr a thir.
“Mae pob galwedigeth ar dwyn,
Wedi’i threfnu a’i sefydllu’n bur fwyn
Fel cerrig mewn adail hwy wnan’,
Yn y murie rai mawrion a mân,
Pob un yn lân a geidw le,
I glod a thrinieth gwlad a thre’,
Pob swydd, pob sail, pob dail, pob dyn
Sy’n dda’n ei hardd sefyllfa’i hun.
“Mae’r deyrnas mewn urddas a nerth,
Gwedi’i rhol fel un corff lanw certh,
Yn y pen y mae’r synwyr a’r pwyll,
A’r galon yw’r golwg ar dwyll;
Y pen yw canwyll, cynnydd maeth,
Aelodau’r corff a’u lediwr caeth,
Mae’r dwylo a’r traed mewn daliad drud,
A’r bysedd bach tan bwyse’r byd.
“Nid alliff, deallwch, un dyn,
Fyw’n gryno yma heno arno’i hun,
Rhai’n barchus, neu drefnus iawn draw,
Rhai’n weinied yslafied islaw,
Pob un a ddaw a’i ben i’r ddôl,
Yn ol sefyllfa rhedfa rhol,
Fel cocys melin wedi rhoi
Rhwng ffyn y droell i’w phwnio i droi.
“Gan hynny ’rwy’n deisyf ar bob dyn,
Na ymffrostied yn ei alwad ei hun,
Ni ellir byw’n ddifyr ddi-wall
Mewn llwyddiant, y naill heb y llall;
Ow! barna’n gall, pwy bynnag wyd,
Fod rhaid i’r adar mân gael bwyd,
Mae pob sefyllfa a’i gyrfa’n gaeth,
I ogoneddu’r Hwn a’i gwnaeth.”
_Arth_. Wel, iechyd i’th goryn gwrol,
On’d oedd gennyt ti gerdd ryfeddol?
Ni wn i, pe buase hi yn ilawer lle,
Na wnaethe o’r gore yn garol.
_Rhys_. Wel, barned pawb o’r ddeutu,
Na chures i chwr ar ganu.
_Arth_. Ie, canmol dy waith wnei di yn dy wŷn
Nis gwn i fy hun mo hynny.
_Rhys_. Dyma at eich iechyd da chwi a minne,
Ni a yfwn gwrw, pwy bynnag oedd y gore.
_Arth_. Yn wir, mae arna i syched glân
Wrth wrando ar dy gân di gynne.
_Rhys_. Yfwch ddracht yn harti,
Hi wneiff i chwi ddinam dd’ioni.
_Arth_. Pe’r yfwn i gwrw cryf y King’s Head,
’Wnai damed o niwed imi.
_Rhys_. ’Wnai gwrw yn y byd i chwi mo’r meddwi,
A chwithe’n wr â chorff cry’ lysti.
_Arth_. Wel, ni phrisiwn i byth yma flewyn pen,
Pe gwariwn heb gynnen gini.
_Rhys_. Pam y rhaid i chwi mo’r hidio,
A chennych ar eich tyddyn gyment eiddo?
_Arth_. Oes, mae gen i stoc dda, ac aur yn fy nghod.
Moes i mi ddiod eto!
Och! Beth fyddis nes er rhyw ddyferyn,
Dewch a dau chwart ar unweth, ni phery hyn ronyn;
Beth, codi i dendio’r ydych chwi,
Mae Cadi neu Fari’r forwyn?
Gan ddarfod i mi fynd i’m hafieth,
Mi fynna’ wneyd yma ryw lywodreth,
Yr awr geir yn llawen, ’cheir mo honno’n brudd,
Mi fynnaf inne lawenydd unweth.
Beth glywes i ddweyd wrth gofio,
Ond fyddi di weithie yn dawnsio?
’Rwy’n ame dy weld gyda Neli’r Clôs
Ryw gyda’r nos yn hasio.
A ga’i gennyt roi yma dro go fychan,
Mi a fum yn ddawnsiwr glew fy hunan,
Ond mae’r byd yma’n sobri dyn ym mhob swydd,
Fe ddarfu’r awydd rwan.
_Rhys_. Wel, i’ch plesio chwi, mi ddawnsia i ngore,
Tyred y cerddor, hwylia dithe.
_Arth_. O! iechyd i’r galon, dyna wych o step,
Ow! tewch â’ch clep, f’ eneidie.
Bendith dy fam i ti, ’r Cymro hoew,
Gwaed y garreg! hwde gwrw,
Ac yfa’r cwbwl, y Cymro cu,
Ran ’rwyt yn ei haeddu heddyw.
_Rhys_. Oni fydde’n ffeind i chwithe’n fwyngu,
Ddawnsio tro, a chwithe’n medru?
_Arth_. Yr ydw’i am dani hi yn union dul,
Dechreued e’n gynnil ganu.
Dewch â’r hors peip i’ch ewythr Arthur,
A pheidiwch a’i chware hi’n rhy brysur.
_Rhys_. Dyna i chwi ddyn, awch wydyn chwant,
Yn canlyn y tant yn gywir.
O! iechyd i galon yr hen geiliog,
Dyna step yn c’lymu’n gynddeiriog.
_Arth_. Ni chlywai’n iawn gan faint y swn,
Mo’r tanne gan y clepgwn tonnog.
* * * * *
_Yn dangos ei fod yn feddw_, _yn_
_cysgu_, _a thoc yn siarad drwy ei hun_.
_Rhys_. Gorweddwch ar lawr y parlwr,
Dyna wely llawer oferwr.
_Arth_. Wel, cysgu yn y funud a wnaf fi,
Dondia nhw’i dewi â’u dwndwr.
_Rhys_. Ust! tewch, fy ’neidie, a nadu,
’Dewch lonydd i’r gwr gael cysgu;
O! na wrandewch beth ddwed e’, gŵyr dyn,
Mae fe’n siarad trwy’i hun, mi wn hynny.
Wel, ni weles i erioed, mi allaf dyngu,
Un mor afreolus yn ei wely.
_Arth_. Hai, Robin, dilyn y da yn glos,
Dacw’r eidion yn mynd dros yr adwy.
_Rhys_. Wel, gan fod yr hen froliwr mor anodd ei riwlio,
Mi a’i gadawaf ar gyfer, boed rhyngddynt âg efo,
Ac a ddiangaf yn siwr heb dalu dim siot,
Fe geiff yr hen got ymgytio.
[_Diflanna Rhys_.
_Arth_. Wel, mae gen i feddwl, os byw fydda’,
Ddygyd caue Sion Ty Nesa’;
Mi gaf yno ddigonedd o frig ŷd,
Fe eiff y farchnad yn ddrud, mi wranta.
Mi gadwa’r ddas lafur hyd Wyl Ifan
Heb ei thorri, mae hi’n gryn werth arian,
Ac mae llofft yr ŷd cyn llawned a dalio;
I ddiawl, oni chasgla’i gan’punt eto.
Holo! gwaed canmil o gythreulied,
Dacw ddrws yr ysgubor yn llydan agored,
A’r moch a’r gwydde’n y llafur glân,
Hai, soch, hwy lyncan sached,
Gaenor, Cadi, Susan,
Dyma helynt hyllig, ceisiwch ddod allan.
[_Ymddengys Tafarnwr_.
_Taf_. _Hold_, ’rhoswch, peidiwch a thorri’r bwrdd,
Ydych yn chwenych mynd i ffwrdd ttw’ch hunan?
_Arth_. O! bendith fy mam am fy stopio’i dipyn,
Yr oeddwn i wedi gwylltio’n erwin.
_Taf_. Yr oeddych yu llywio’n ddrwg eich llun,
Ac yn siarad trwy’ch hun er’s meityn;
Fe ddarfu i chwi daflu a thorri cadeirie,
Dowch, ceisiwch hwylio i gychwyn adre.
_Arth_. O, dweyd y gwir i ti sy’n ffrynd,
Mae bwriad gen i fynd y bore.
_Taf_. Cawsoch bymtheg chwart yn gyson
O gwrw, mae hynny’u goron,
A’ch bwyd hefyd yn costio swllt,
Dyna chwe’ swllt yn union.
Talwch y siot heb hir ymdaeru.
_Arth_. Aroswch, gadewch imi edrych o’m deutu:
Mae’r dyn oedd gyda fi yn hyn o le?
Bydde yn deilwng iddo ynte dalu.
_Taf_. Os daftu hwnnw ddiauc allan,
Y chwi geiff ateb am y cyfan.
_Arth_. Dyna esiampl i bawb lle bynnag y bo,
I edrych ato’i hunan.
_Taf_. Dewch, oni thelwch chwi yn y funud,
Cewch dalu rhagor ar fyrr ennyd.
‘Da’i ddim i ddadle â chwychwi,
Ond diolch i chwi am eich coegni.
You have read 1 text from Welsh literature.
Next - Gwaith Twm o'r Nant - 4
  • Parts
  • Gwaith Twm o'r Nant - 1
    Total number of words is 3993
    Total number of unique words is 1873
    35.8 of words are in the 2000 most common words
    53.2 of words are in the 5000 most common words
    63.8 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Twm o'r Nant - 2
    Total number of words is 4233
    Total number of unique words is 1712
    34.5 of words are in the 2000 most common words
    52.3 of words are in the 5000 most common words
    61.4 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Twm o'r Nant - 3
    Total number of words is 4150
    Total number of unique words is 1772
    36.5 of words are in the 2000 most common words
    54.8 of words are in the 5000 most common words
    63.5 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Twm o'r Nant - 4
    Total number of words is 4130
    Total number of unique words is 1853
    35.0 of words are in the 2000 most common words
    53.7 of words are in the 5000 most common words
    64.0 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Twm o'r Nant - 5
    Total number of words is 850
    Total number of unique words is 584
    46.5 of words are in the 2000 most common words
    61.2 of words are in the 5000 most common words
    68.0 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.