Gwaith Twm o'r Nant - 4

Total number of words is 4130
Total number of unique words is 1853
35.0 of words are in the 2000 most common words
53.7 of words are in the 5000 most common words
64.0 of words are in the 8000 most common words
Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
[_Diflanna Tafarnwr_.
_Arth_. Diolch i tithe, chwilgi tôst,
Am fwgwth cost mor wisgi.
Nage, glywsoch chwi, bobl glysion,
Goeced oedd yr hangmon:
Mi glywswn arnaf, pan oedd e’n flin,
Roi cic yn ei din e, ’r dynion.
A welwch chwi, dyma’r peth geiff dyn truan,
Ar ol colli’i gôf, a gwario’i arian;
Tafod drwg, a’i alw’n fochyn bo lol,
A’i bacio’n hollol allan.
A phe gyrrwn y wraig neu rywun o’m cartre
I geisio llwyed o’u burum hwy fory’r bore;
Er maint a waries yma’n llym,
Ni chawn i ddim heb ddime.
Ac a weriwch chwi, ffylied garw,
Eich arian i garpie chwerw?
Bydde’n well gennyf o syched farw’n syth,
Nag y carwn i byth mo’u cwrw.
O! yr oedd diawl i’m dilyn,
Aros yma i hurtio ’nghoryn,
’Ngholledu fy hun, a gwneud niwed caeth,
A ’muchedd yn waeth na mochyn.
Nis gwn i pa sut yr a’i adre,
Gan g’wilydd liw dydd gole;
Mae’r wraig er’s meityn, wrantaf fi,
Yn rhyw gyrion yn rhegu’i gore.
[_Diflanna Arthur_.
[_Ymddengys Rhywun_.
_Rhywun_. Dyma finne, Rhywun, mawr ei drueni,
’Does neb yn cael mwy cam na myfi;
’Rwy’n gysgod esgus celwydd llydan,
Fwy o’r hanner na’r diawl ei hunan.
Ar ol i rai wneuthur clwt o stori,
A chodi rhwng cymdogion ddrwg aneiri,
Ni bydd gan gelwyddwr ddim i’w wneyd
Ond rhuo mai Rhywun a glywodd e’n dweyd.
Ac weithie geilw rhai fi’n frân,
Ac a godant yn fy nghysgod gelwydd glân,
Fe dyngiff y llall ynte’r mawr lw,
Mi glywes rywbeth gyda Nhw.
Ac felly’n gysgod celwydde coegfall,
Y Nhw fyddai weithie, Bran waith arall,
Weithie’n Hen-wr gan bawb ohonyn,
Gwaetha rhuad, ac weithie Rhywun.
Ac nid yw’r henwe hyn i gyd,
Ond esgus celwydd ’rhyd y byd,
Abwyd cnawdol am fach Satan,
I safio’r drwg i amlygu ei hunan.
O, chwi wragedd y tê a’r ffortun,
Nid oes ond y celwydd yn eich canlyn;
Ow! beth a wneir, pan ddel mewn pwyll
I’r gwyneb y twyll a’r gwenwyn?
A gwragedd y piseri sy’n rhai o’r siwra,
A’r gof a’r melinydd ddylase fod ymlaena,
A’r holl bobl gerdded sy’u dwad gerllaw,
Drwy gamwedd draw ac yma.
A’r gweinidogion ffals eu dygied
Fydd yn achwyn chwedle i’w meistried,
A’r holl rodreswyr fydd yn dwad ar dro,
I ofalus weneithio am folied.
Ac felly trwy’ch cennad, y gynlleidfa,
Os rhynga’ch bodd i wrando arna’,
Mi ganaf gerdd i ddeisyt yn ddygyn
Na roddoch ormod ar gefn Rhywun,—
(_Alaw_—“SPANISH HAVEN.”)
“Pob rhyw ddyfeisgar feddylgar ddyn,
A phob ystraeol wagffol un,
A wnelo hyn ohono ei hun,
I daenu gwŷn a gwenwyn;
A phan ddelo ar ffrwst ryw drwst i droi,
Gwneiff pawb esgusion am le i ’sgoi,
Ac felly’r anair a gaiff ei roi
Ar Rywun.
“Mae’n natur hon yn glynu’n rhwydd,
Pan bechodd Adda sertha swydd,
Rhodd yntau ar Efa, llesga llwydd,
Y bai a’r digwydd dygyn;
Ac ar y sarff y rhoddes hi,
A hyn yw’r nod o’n hanwir ni,
Hoff gennym fyth roi’r euog fry
Ar Rywun.
“Gan hynny gwelwn wraidd ein gwall,
Na byddir nes trwy ddyfes ddall.
Er taflu’r llwyth o’r naill i’r llall,
Mewn coegfall oerwall erwin;
Ni chafodd Adda un lle i ffoi,
Fe ddaeth y drwg heb hir ymdroi,
I’w ben ei hun er ceisio ei roi
Ar Rywun.
“Ac felly ninne, f’alle’n wir,
Drwy’r deyrnas hon ymhob rhyw sir,
Ansiriol siarad holiad hir,
A fftydir gan gyffredin;
Mae’r gair dew lid mewn gwir di lai
Fod ar benaethied amryw fai,
Fel hyn mae barn gan bob rhyw rai
Ar Rywun.
“Ond wedi’r cwbl drwbl drud,
O’r chwyrnu a’r barnu sy’n y byd,
Daw’r amser pan grynhoir ynghyd
Bob dirfawr fryd i derfyn;
Pan fo’r gydwybod flin yn cnoi,
’Cheiff esgus ffals un lle i ffoi,
Sait pawb i’w tam, ni wiw ei roi
Ar Rywun.
“Gan hynny holed pawb ei hun,
Mae barn, rhag barn, yn dda i bob un,
Cydwybod oleu, ei llwybre a’i llun,
Sydd oreu i ddyn ei ddilyn;
Gwae lwytho arno ei hun glai tew,
Ni all llewpart newid lliw ei flew,
Pan d’wyno’r haul fe dodda rhew
Dydd Rhywun.”
Ni chana’i chwaneg, nosdawch heno,
Dyma gysgod y celwydd yn awr yn cilio,
Rhaid i bawb syfell dan ei faich ei hun,
Ni wiw am Rywun ruo.
[_Ymddengys Arthur_, _yn glaf_.
_Arthur_. Hai, how, heno, ’r cwmni eglur,
Dyma finne dan erthwch, yr hen Arthur,
Yn edrych am le i eistedd i lawr,
Gan ty ngwaew mawr a ’ngwewyr.
Fe’m trawodd rhyw glefyd chwerw,
Yr wy’n ofni y bydda’i marw,
Ow! bobl, bobl, ’does help yn y byd,
I’m tynnu o’r ergyd hwnnw?
’Rwy’n gweled o ben bwy gilydd,
Fy mhechod, a nod annedwydd,
Cydwybod sydd i mi’n traethu ’nawr,
Fy nghastie, mae’n fawr fy nghystudd.
Dacw’r defed a ddyges, mi wn tros ddeugen,
Yn rhedeg ’rhyd y llethr, a dacw’r pec a’r llathen,
Dacw’r ŷd budr yng ngwaelod y sach,
Dacw’r pwyse bach aflawen.
Dacw’r llaeth tene, O! ’r felldith donnog,
Werthasom ganweth ddau chwart am geiniog;
A’r mân-yd yn y brith-yd, sy’n brathu fy nghalon;
Mi wnes gam diawledig â phobl dlodion.
’Rwy’n gweled ar gyfer mewn gofid a chyffro,
Y gweithwyr a’m gweinidogion yn fy melldigo,
Mae’r ofn arna’i bydda’i ar ol mynd o’r byd,
Am bechod o hyd yn beichio.
Ow! oes yma neb a fedr weddio?
Na phregethwr, na doctor, yn hynod actio,
O! nid oes i’m hoedl i fawr o _drust_,
Ow! _physic_, ’rwy’i _just_ a phasio.
[_Ymddengys y Doctor_.
_Doctor_. _O dear heart_, _you are sick_, ’rwy’n cweled!
_Arth_. O meistr anwyl, ni fu hi erioed cyn erwined!
’Rydwy’i bron marw’n ddigon siwr,
Coeliwch, mewn cyflwr caled!
_Doct_. _Let’s feel your wrist_, mae pyls chwi cweithio?
_Arth_. Oes rhywbeth yn ateb bydda’i fyw dipyn eto?
_Doct_. _Yes_, _yes_, _I hope you’ll come_ o’r core.
_Arth_. Iechyd i’r galon, os ca’i fyw tan y gwylie.
_Doct_. _Here’s drops for you_ i lonyddu’ch ysbrydoedd.
_Arth_. Os bydda’i marw fel ’nifel, ’da’i byth i’r nefoedd.
_Doct_. _Don’t be afraid_, mae Duw’n trugarog.
_Arth_. Ni waeth i chwi p’run, ’rwy’n ddiffeth gynddeiriog.
_Doct_. _I’ll warrant you_’n burion, mi ddof yma’r bore,
_To bleed you and bring some more_ cyffirie,
Cym’rwch a cadwch ddeiet dda,
Yn ddiddychryn hyn yna i ddechre.
[_Diflanna’r Doctor_.
_Arth_. Wel, bendith eich mam i chwi, meistr anwyl,
Ond a ddaethum yn well nag oeddwn yn ddisgwyl;
Rhaid gyru at y person i ddwyn ar go’,
Am roi gweddi, os bydd eisio, ddywsul.
Os fi geiff hoedl eto’n weddedd,
Mi feddyliaf lawer am fy niwedd,
Ni choelia’i nad ymadawa’i ar frys,
A’m holl afiachus fuchedd.
Mi af i bob cymanfa, lle byddo rhai duwiola,
A rhof elusen i’r tlawd, heb eiriach blawd na bara;
O! hoedl, hoedl eto, i ddarllen a gweddio!
Ow’r amser gwerthfawr rois yn gas, heb geisio gras yn groeso!
Duwioldeb, Duwioldeb, wyneb anwyl!
Tyred i’m dysgu! yr wy’n disgwyl
Y gwnei di fy ’fforddi, mae f’ ewyllys yn bur,
’Nol dy archiad, i wneuthur dy orchwyl.
[_Ymddengys Madam Duwioldeb Crefydd_.
_Duwioldeb_. Pwy sydd yma, caetha’ cwyn,
Yn galw ar dwyn am dana’?
_Arth_. Hen bechadur heb fod yn iach,
Sydd a’i galon bach yn gwla.
[Picture: Marwolaeth y Cybydd. Darlun gan A. E. Elias]
_Duwi_. Fel hyn bydd llawer hen bechadur,
Pan ddelo clwy’ neu ddolur,
Er iddynt son am grefydd sant,
Hwy ant eto wrth chwant eu natur.
_Arth_. O! Duwioldeb, ’da’i byth i ildio,
Mi ddof i dy ddilyn, pwy bynnag a ddelo;
Ac a wnaf bob rhyw beth a f’och di’n bur,
Drwy gysur, yn ei geisio.
Mi adawaf arian i’r tylodion,
’Rwy’n meddwl fod hynny’n weithred raslon;
Ac mi dderbynia’r pregethwyr gore i’r tŷ,
’Rwy’n bwrw fod hynny’n burion.
Ac mi wna’r peth a fynnir byth yn fwynedd,
Ym mhob rhyw gariad, os ca’i drugaredd;
Gweddied pawb gyda fi hyn o dro
Am iechyd i ymendio ’muchedd.
_Duwi_. Duw roes glefyd i’th rybuddio,
A barodd i’th gydwybod ddeffro;
Ac yn rhoddi it’ dduwiol ras,
Hoff addas i’th hyfforddio.
_Arth_. Iechyd i’th galon di, Grefydd dyner
’Rwy’n teimlo fy hun wedi gwella llawer.
_Duwi_. Deui eto’n iachach nag yr wyd,
Am hynny cwyd o’th gader.
_Arth_. Wel, dyma fi ar fy nhraed yn rhodio.
Y cwmni mwyndeg, ’rwy’n ame gwna’i mendio;
Ni welsoch chwi ’rioed un mor ddi-fai,
Yn ddi ddowt ag fydda’i eto.
_Duwi_. Gwylia’n odieth ar dy fynediad,
A chymer ofal mawr trwy brofiad;
Os dy ddwylo ar yr aradr a roi fel Paul,
Ni wiw i ti edrych ar dy ol.
Cofia Gain a’i aberth cyndyn
A gwraig Lot a ddarfu gychwyn;
Balam gynt a garodd wobre.
Pob un o’r rhai’n aeth dros y llwybre.
Cofia swydde Saul a Suddas,
Yn rhybudd cymer dymer Demas,
A chofia Agrippa, frenin oerddig,
A ddaeth yn Gristion o fewn ’chydig.
_Arth_. ’Does dim sy gryfach na duwiol grefydd,
Pe dysgit ti Gaenor, fy ngwraig i, ar gynnydd;
’Rwy’i er’s deugen mlynedd ’mynd i ’ngwely ’mlaena’,
Ac ni ddywedodd hi weddi erioed, mi dynga.
Mae hi am fynd yn gyfoethog wrth ofalu a gweithio,
Ond ni ddysgodd hi ’rioed na phader na chredo;
Mae gen i fy hun, oni bydda’i’n ddig,
Ryw grap diawledig arno.
Mi fyddwn i erioed yn gweddio rhyw ’chydig,
Wrth fynd trwy ddwr neu ryw ffordd ddychrynedig,
Neu ar fellt a tharane y cofiwn i am Dduw,
Ond bellach byddaf byw’n o bwyllig.
Felly, Duwioldeb, mae gen i rwan
Ryw chwant ac ’wyllys i roi tro tuag allan.
_Duwi_. Cerddwch, a rhoddwch dro drwy gred,
Cofiwch eich adduned cyfan.
Meddyliwch wrth rodio draw ac yma
Ym mhlith eich pwer mai Duw a’i pia;
Gwyliwch roi’ch calon i garu’ch golud.
Rhag ofn i chwi golli ffordd y bywyd.
[_Diflanna Arthur_.
Yn ddrych i bechaduried byd
Cadd hwn ei adel am ryw hyd;
Yn awr mi ganaf bennill dygyn,
I hynod ystyr hyn o destyn,—
(_Alaw_—“SUNSELIA.”)
“Pwy heno’n wahanol, dduli dynol, all ddweyd,
Na ddarfu Duw gynuyg yn unig ei wneyd
Yn ddawnus feddiannol o reol ei ras,
Ond ein bod ni drwy bechod yn gwrthod yn gas;
Trwy glefyd a gloes, a llawer byd croes,
Trwy amryw rybuddion, arwyddion a roes;
Mae’n cynnyg oes gwiw i’r gwaetha sy’n fyw,
Rhyfeddwn ei foddion, mor dirion yw Duw.
“Mae’n cynnyg ymwared er trymed ein trwyth,
Rhag torri neu gospi’r ffigysbren di ffrwyth,
Mae’n erfyn caei blwyddyn er sugyn i’w sail,
Gan gloddio i’w adfywio, ac anturio rhoi tail;
Ac yna os dmwg wawr a fydd, er poen mawr,
Y farn a’r gair taeredd yw, Torr ef i lawr!
A hon yw’r farn ffri. O! crynwn mewn cri,
Rhag ofn mai rhai diffrwyth mewn adwyth y’m ni.”
[_Ymddengys Arthur wedi myned yn iach_.
_Arthur_. O! nid wyf ddim am gynnwys yma dduwiol ganu.
Llawer brafiach clywed lloie’n brefu,
Ac yn lle darllen a gweddio’r nos ar led
Mwyneiddiach gen i weled nyddu.
_Duwi_. Ow, ddyn truenus, gresynus anian,
Mae’n drist yr awel, a dro’ist ti rwan?
_Arth_. Beth bynnag a drois, ni chewch chwi’n drwch,
Mo’ch ’wyllys, cerddwch allan.
_Duwi_. Onid i mi mae’r addewid hynod,
O’r byd sy ’nawr, a’r byd sy i ddyfod?
_Arth_. Ni ches i o fantes wrth dy drin,
Un difyn, dal dy dafod.
_Duwi_. Wel, beth a ddarfu i chwi gynne addo?
_Arth_. Trymder fy nolur bâr im’ siarad dan fy nwylo.
_Duwi_. I b’le ’r eiff eich ened, meddyliwch hynny?
_Arth_. Mi gaf amser i fyfyrio ar ol y fory.
_Duwi_. Och! beth a wnei di, ddyn anraslon,
Pan ddel dy ddiwedd, gwannedd gwynion?
_Arth_. Beth a ga’i? Ond boddloni heb goll
I’r un digwydd a’r holl gymdogion.
_Duwi_. Gwae, gwae di, bechadur chwerw,
Unweth yn fyw, a dwyweth yn farw;
Ymroi i gysgu ar dy sorod,
’Nol deffro unweth dy gydwybod.
Ti addunedest ger bron Duw,
Gwellhait dy fuchedd os cait fyw,
Yn awr troi ’nol i’th hen ffieidd-dra,
Fel hwch i’r dom, neu’r ci i’w chwydfa.
Y gŵr a gerydder yn fynychol,
Ac a g’leda ei watt annuwiol,
A ddryllir yn ddisymwth ymeth,
Fel na byddo meddyginieth.
[_Diflanna Duwioldeb_.
_Arth_. Wel, hawdd ganddi hi brablan a breblian,
Ni wiw i mi wrando pawb yn lolian,
Rhaid i mi bellach flaenllymu’r ddwy big,
A chodi yn o hyllig allan.
Nid oedd ond ffoledd a gofid calon
I mi fynd yn dduwiol ymysg rhyw Iddewon!
Yr ydwy’n meddwl nad oes gan neb fel fi
Gasach llancesi a gweision.
Nhw’ dyngan’ ac a regan, gan guro ac ymrwygo,
A ddryllio’r gêr o’u cwmpas, yn dawnsio ac yn campio,
A gwych gan eu calonne chware ambell wers,
O cric mi hers a horsio.
O! ’roedd acw helynt drwg anaele,
Tra fum i yn sal er’s dyddie,
Hwy wnaethon’ hefyd enbyd ŵg,
Mynn Elian, i mi ddrwg anaele.
Fe aeth dau lo bach i ollwng trwyddyn’,
Ddim byd ond o ddiogi edrych atyn’,
Ac ni choeliech chwi byth, y cwmni ffraeth,
Mor wachel yr aeth un mochyn.
A bu farw un hesbwrn, yr ydwy’n hysbys,
Mewn mieri yng nghaue Morys,
Ac ni fu wiw ’rwy’n siwr gan Gaenor na Sian
Fynd yno i ymg’leddu na chroen na gwlan.
’Roedd y gweision a’r gweithwyr oll am y gwaetha,
Heb ronyn o fater ond cysgu neu fwyta;
Fe aeth y coffor a’r blawd, Och fi, cyn waced,
A dacw gasgen o ymenyn dest wedi myned.
’Rwy’n ame’n ddigysur y rhoison’ hwy gosyn
I’r hen awff hurtedd a fydde’n dweyd ffortun,
Mi a’u clywes yn siarad ac yn cadw syrwrw,
Fod honno’n ymleferydd y byddwn i farw.
Ac nid ydwy’n ame llai mewn difri’,
Nad oeddynt hwy’n erfyn i mi farw i ’nghrogi;
Roedd fy nghlocs gan un o’r llancie’n y domen,
A’r llall yn dechre glynu yn yr hen wasgod wlanen.
Ac felly ni choeliech chwi, ’r cwmni enwog,
Hynny o greulon golledion llidiog,
A gefes i tra fum yn sâl,
Fe gostiodd imi dâl cynddeiriog.
Ac mi fum cyn ddyled ag addoli,
A hel pregethwyr acw i floeddio ac i goethi;
A garw’r cwrw a’r bara gwyn cann
A aeth yn rhan y rheiny.
Ac ’roedd gennyf botel frandi,
Fe lyncwyd hwnnw i’w grogi,
A cheirch i’w ceffyle hwy, hyn a hyn,
Onid oeddwn i’n cryn greuloni.
Hwy fwytason’ beth anaele,
Rhwng bacwn, biff, ac wŷe;
Siawns ond hynny don’ nhw i’n tŷ ni,
I goethi mo’u pregethe.
Yr holl gwmffwrdd calon ges i oddiwrthyn’
Oedd dangos fy nhŷ, a’m stoc, a’m tyddyn,
A llawnder fy ydlan, wiwlan wedd,
’Roedd hynny’n rhyw rinwedd ronyn
Ond ar draws yr holl rinwedde,
’Roedd diawl yn y tylwyth gartre’;
Ni choeliech chwi byth, am nonsens ffô!
Hynny ddaeth ar f’ol i o filie.
Fe ddaeth acw fil oddiwrth y siopwr,
Am friws a sena, nutmeg a siwgr,
A bara gwyn, a _biscuits_, pan oeddwn yn wan.
A gafwyd gan y pobwr.
Ac fe ddaeth acw gyfrif gerwin,
Rhwng _raisins_, _wine_, a _white-wine_,
A phob rhyw licier, a syber saig,
Fydde wrth fwriad y wraig a’r forwyn.
Hwy garieut acw’n gywren,
Yn f’enw i’r peth a fynnen’;
Hwy’m cym’rent i’n esgus dilys dw’,
Ac a lyncent hwnnw’u hunen.
Ni ddyfethes i yn ty nghlefyd,
Erioed gyment ag maent hwy’n ddywedyd;
Ond mi deles lawer yn mhob lle
O achos eu bolie bawlyd.
Ond mae’n debyg fod arnua’i eto gyfri’,
Gwmpas hanner coron i’r apoticeri,—
’Rwy’n foddlon i dalu hynny fy hun,
Fe wnaeth y dyn beth d’ioni.
[_Ymddengys Doctor_.
_Doctor_. _How do_, ’rhen corff, daru’ch mendio’n clyfar?
_Arth_. Yr ydwy’n abl grymusdeg, bendith Huw i chwi, mistar.
_Doct_. Mae’n ta gen’ i’ch cweled ch’i mor _hearty_.
_Arth_. Mi fyddwn yn iachach pe cawn dalu ichwi.
_Doct_. _Here’s a bill for the whole cost_.
_Arth_. Wel, gobeithio nad ydych chwi ddim yn dôst.
_Doct_. _The total sum one guinea and a half_.
_Arth_. Aroswch, gadewch i mi edrych yn graff!
Y gini a hanner am gyn lleied a hynny?
Ai diawl a welodd etifedd y fagddu!
Dos oddiyma, leidar, gyda dy ledieth,
Onide, mi dala’ i ti am dy hudolieth.
_Doct_. Wel, mae ceny’ ffordd i godi’m cyflog,
Mi fynna’i cael nhw ar fyr bob ceiniog.
[_Diflanna Doctor_.
_Arth_. Ni chei m’onynt o’m bodd i,
Wyneb ci cynddeiriog.
Nagê, glywsoch chwi ’rioed, fy eneidie,
Y ffasiwn ddigywilydd gole?
Gofyn gini a hanner, â’i safn ar led,
Yn grôg y bo! am gan lleied siwrne.
Ni chefes i o’i _ddrugs_ a’i gelfi dygyn,
Erioed werth deunaw, pe ba’i fo wrth dennyn;
Mi feddylies y buase yn hyn o le,
Hanner cofon o’r gore i’r ceryn.
Yn lle hynny dyma gini a hanner,
Fydd raid imi dalu ar fyrder,
Er i mi wylltio a mynd o’m co’,
Mi wranta mynn e’ eto’i fater.
Ond ni choelia’i nad â’i tuag adre’ bellach,
Mi fydda’ o hyn allan am y byd yma’n hyllach;
Mi wna i bawb ganlyn ar eu gwaith,
Mi lainia, ac mi â’n saith greulonach.
[_Ymddengys Angau_.
_Angau_. _Stop you_, _old man_, _you are to be dead_.
_Arth_. Ni fedra’i fawr Saesneg, beth ddywed e’, Ned?
_Ang_. _You’ve refused to take warning_, _but now you shall see_.
_Arth_. Wel, mae ganddo ryw drwbwl, ’rwy’n meddwl, i mi.
_Ang_. _Now it is too late to prepare yourself_.
_Arth_. ’Rwy’n ofni mai baili mewn difri ydyw’r delff.
_Ang_. _Now in short time to death you are debtor_.
_Arth_. Mi waria ddegpunt cyn talu i’r Doctor.
_Ang_. _Thou shall soon go to eternal life_.
_Arth_. Fydde’n well i’r gwaich coeglyd gym’ryd hynny geiff.
_Ang_. _I’ll stay no more to keep you company_.
_Arth_. Wel, garw ydyw’r Saeson am siarad yn sosi.
_Ang_. _I have put my hand through my heart and breast_.
_Arth_. Beth sy fynno’r rôg â fi mwy na’r rest?
O! mae diawl yn ei ’winedd, fe daflodd ei wenwyn,
’Rwy’n clywed fy hun yn crynu bob gronyn.
Ow! dyma fi ’n awr yn fy rhyfyg annuwiol,
Fel wedi cael fy nharo’n farwol!
Ow! Ow! pobl Dduw a ddarfum i ddibrisio,
Ni haeddwn i ond diawlied i fod tan eu dwylo.
O! meddyliwch, ddynion, am eich hir artre,
Fe fu rhai ohonoch chwi mewn clefyd fel finne,
Ac ar ol codi allan, yn pechu’n syth,
Heb deimlo byth mo’r pethe.
Ow’r hen bobl! os yw rhai ieuenc heb wybod,
Fe ddylech chwi feddwl fod eich oes bron a darfod,
Ac fealle lawer gwaith wedi bod yn sâl,
Dyma heno i chwi siampal hynod.
Felly ffarwel i chwi i gyd ar unweth,
Chwi wyddoch nad yw hyn ond rhyw _act_ neu chwar’yddieth:
Ond ni bydd gan Ange ond chware prudd,
Chwi welwch, ddydd marwoleth.
[_Diflanna Arthur_.
[_Ymddengys Rhys_.
_Rhys_. Wel, rhwydd-deb i bawb lle rhodio,
Os bydd meddwl gonest ganddo,
Ni ŵyr llawer un gychwyno’n ddi-rôl,
A ddaw e yn ol ai peidio.
Mae oferedd ymhob rhyw fwriad,
Sydd yn y byd mewn treigliad,
Gwagedd ac oferedd yw cyfoethog a thlawd,
Pan fo diwedd pob cnawd yn dwad.
Rhaid i bob llestr mawr a bychan,
Sefyll yn hynod ar ei waelod ei hunan;
Fe dderfydd y cynnwr’ a’r dwndwr dall,
Sy gan y naill ar y llall y rwan.
Er bod bai ar bawb, o frenin i gardotyn,
Ei faich ei hunan geiff pawb o honyn,
Pan fo’r gydwybod yn fyw a’r tafod yn fud,
Ni wiw treio dwedyd Rhywun.
Tyrd dithe’r cerddor, ’rwyt ti’n un corddyn,
Gwych gennyt lechu yng ngbysgod Rhywun,
Fe roed arno lawer sached swrth,
O gelwydd wrth dy ganlyn.
Wel, ni waeth i mi hyn o ffwndro,
Mae rhai wedi blino’n gwrando,
Nid oes gennyf finne, yn ol coethi cy’d,
Fater yn y byd er peidio.
Ond, begio’ch pardwn chwi beidio a chynhyrfu,
Mae eto gân ddiddan, ac yna ddiweddu,
Dymuned ar bawb sy am wrando’n glos,
Yn bresennol aros hynny,—
_Y Diwedd-glo_, _ar_ “GREECE AND TROY.”
“Pob diwyd doeth wrandawydd,
Sy’n profi’n bur bob arwydd,
Gan ddal mewn synwyr dedwydd
Yr hyn sy dda;
Mae lle i gael trwy deimlad,
Fel gwenwyn mewn gwahaniad,
O lysie gwael, heb syniad,
A leshâ!
Doethineb Duw mae’n eglur,
Sy’n dysgu pob creadur,
Yn ol natur yma i wneyd;
Pob peth sydd fel o’r dechre,
’Nghylch cadw eu hen derfyne,
Ond dyn yn ddie, gallwn ddweyd;
Fe wnaeth y doeth Greawdydd
Y byd o bedwar defnydd,
A’i hylwydd law ei hun,
A thrwy ei ragluniaethe,
Mewn rheol ddynol ddonie,
Y byd ordeinie ar bedwar dyn.
“Ac wele’r pedwar penneth,
Bu heno mewn gwahanieth,
Rhyw olwg o’u rheoleth,
Yma’n rhwydd,
Mae rhai’n yn wrthddrych eglur
O bedwar defnydd natur,
Dwfr, Daear, Tân, ac Awyr,
Gywir swydd;
Y Dwfr yw’r elfen hyfryd,
’Roedd Ysbryd Duw’n ymsymud,
O hyd ar wyneb hwn,
A theip o’r dwfr yn gymwys,
Yw gweinidogaeth eglwys
Sy’n tynnu’n hardd-ddwys,
Burddwys bwn;
Y Dwfr yw’r elfen ddiddig,
Sy’n llonni’r rhai sychedig
A’i fendigedig wawr;
Mae’n golchi’n budr aflwydd,
Mae’n cario o wlad bwy gilydd,
Mae’n peri budd i’r byd bob awr.
“A’r gyfraith iawnwaith unig,
Sydd deip o’r Tân llosgedig,
I buro pob llygredig
Oerddig wall,
Yn llosgadwy dân cyfiawnder,
O bob sothach, afiach, ofer,
Dylai’r gyfraith fod trwy burder,
Yn ddi ball;
A’r Brenin llaw alluog,
Sydd deip o’r Awyr wyntog,
Mewn arfog lidiog lef,
Mae’n chwythu tymhestlau heibio,
Mae’n gostwng dynion dano,
A Duw a’i nertho dan y nef!
“Wel, dyma’r ddull oddiallan,
Mae’r pedwar penneth anian
Fel peder elfen gyfan,
Yn eu gwaith;
Yr un gyffelyb arwydd,
Yw’r dyfnion bedwar defnydd,
Yn ngrym Crist’nogol grefydd,
Ufudd iaith’;
Corff dyn yw’r Ddaear ddiwad,
A’r Awyr yw’r anadliad.
Cynhyrfiad bywiol nerth.
A’r Tân yw’r gyfraith hynod
Sy’n argyhoeddi o bechod,
A’r Dwfr yw’r Efengyl wiwnod werth;
Gan hynny mae’r gair yn dywedyd,—
‘Dewch bawb i’r dyfroedd hyfryd,’
Mae’r bywyd yma ar ben;
Er son am bob helyntion,
Adnabod ffyrdd ein calon,
Sydd reitia’ moddion i ni, Amen.”


CYFFES Y BARDD.

WRTH edrych, aruthr adrodd,
Fy ystum, fel bum o’m bodd,
O hyd fy oes, di-foes daith,
Fyw yn ben-rhydd, fab arnhaith
Ymledu ’n annheimladwy
I fynnu ’mâr, fwy na mwy,
Dilynais, a diawl ynnwyf,
Bob cnawdol annuwiol nwyf,—
Nid oedd un o du ei ddiawl,
Am a allai, mwy hollawl,
Nag odid mewn rbyddid rhwydd,
Mwy’n fedrus am ynfydrwydd.
O! mor hylithr y llithrwn
I bob gwagedd serthedd swn
Ymhlith meddwon aflonydd,
A naws i’w dal, nos a dydd.
Fy chwedlau fu fach hudlawn,
Yn abwyd, neu rwyd yr awn;
Hualau, ar hyd heolydd,
Garw ei sain, o’m geiriau sydd;
Cig a physgod, i’m nodi,
Am foddio’ nwyf fyddwn i;
Mynych y bum ddymunol,
Am wneyd ffair menywod ffol;
Gweniaith a phob drygioni
Fu fy mhleser ofer i.
Och feddwl afiach foddion,
Ffieiddrwydd hynt y ffordd hon;
Mi ledais fel malwoden,
Lŷsg o’m hol i lesghau ’mhen;
A’m calon pan f’wi’n coelio,
Fy llysg drwg fydd yn llesg dro:
Nyth ydwyf, annoeth adail,
Deml y fall, nid aml ty ail;
Daear afluniaidd dywyll,
A llyn du, yn llawn o dwyll:
Tŵr annedd pob trueni
Yw ty nghalon eigion i.
A pha mwyaf gaf heb gudd,
O fwriad eu llaferydd,
Mwy-fwy mawr-ddrwg amlwg wŷn,
A swn dialedd sy’n dilyn;
Cyfyd cof, amryw brofiad,
O’m heuog, afrywiog frad;
Gan mor drwm yn y clwm clau
A chadarn fy mhechodau.
Och edrych eglur-ddrych glau
Helyntion y talentau;
Fy nhalent erbyn holi,
Gwaedd yw son, a guddiais i,
Tan fy llygraidd ffiaidd ffol,
Yn fy naear annuwiol.
Duw a roes, da yw ei rad,
Fy awenydd, fyw Ynad;
Minnau troes, mewn enaid rhydd,
I’r gelyn, er oer g’wilydd.
’Mroddais, eisteddais yn stol
Gwatwarwyr, gnawd daearol;
Yn lle bod, hynod wiw hawl,
Ar lan afon, le nefawl,
Yn dwyn ffrwyth, at esmwythder,
Fel y pren plan, purlan pêr.
Ond Och! Ydwyf bechadur,
Fel llwyn sarff, neu ’fallen sur:
Ffigys-bren, neu wernen wyf,
Ddi-ffrwyth, hyd oni ddeffr’wyf;
Chwith yw’r farn, fy chwythu fydd,
Fel mân ûs ar fol mynydd,
Oni chaf, iawn awch ufydd,
Rym i ffoi trwy rwymau ffydd,
A chalon gwir ddychweliad,
I’m troi at faddeuant rhad.
I’r hyn Duw, o’m rhan dywyll
Rhwymau barn, rho i mi bwyll
I gydnabod mewn tlodi,
’Th ras haeddianuol doniol Di,
Yn troi’r hadl, rai afradlon,
At weli, er mor bell y b’on.
Duw i’th ras yn urddas ne’,
Er mwyn fy enaid myn finne’,
Yn ollawl, gyflawn allan,
Fel pentewyn, tynn o’r tân,
Wael bechadur dolur dig,
A llesg adyn llosgedig.
Trywana fi o’m trueni,
Gwel dy fab gwael ydwy’ fi;
Dwg f’ enaid i’th drigfanne,
O fy Nuw, er ei fwyn E’.


HANES HENAINT. 1799.

GLYWCH gwynfan clychawg anferth
Gan Brydydd annedwydd nerth:
Daeth henaint oed wth ynnwyf,
Dirfawr nych, a darfu’r nwyf.
I’m henaint ymwahanodd
Alar a meth lawer modd.
Methiant ar ffrwythiant ftraeth
Cry’ hoff helynt corftfolaeth,
O’m traed i’m pen daeth gwendid,
Cymysgrwydd, llesgrwydd, a llid:
Llid na bawn mor llydan bum,
A mynwesdeg mewn ystum,
Yn gallu canu cynneddf,
Liosog rym, lais a greddf.
Hwyl hyf oedd gennyf i gân,
Arwydd utgorn ar ddatgan;
Ond weithian, myned waethwaeth,
Bref braint, f’ysgyfaint sy gaeth;
Pesychu, mewn pwys uchel,
Fy ngrudd ei chystudd ni chêl;
Torri ’nghrib at fy niben
You have read 1 text from Welsh literature.
Next - Gwaith Twm o'r Nant - 5
  • Parts
  • Gwaith Twm o'r Nant - 1
    Total number of words is 3993
    Total number of unique words is 1873
    35.8 of words are in the 2000 most common words
    53.2 of words are in the 5000 most common words
    63.8 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Twm o'r Nant - 2
    Total number of words is 4233
    Total number of unique words is 1712
    34.5 of words are in the 2000 most common words
    52.3 of words are in the 5000 most common words
    61.4 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Twm o'r Nant - 3
    Total number of words is 4150
    Total number of unique words is 1772
    36.5 of words are in the 2000 most common words
    54.8 of words are in the 5000 most common words
    63.5 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Twm o'r Nant - 4
    Total number of words is 4130
    Total number of unique words is 1853
    35.0 of words are in the 2000 most common words
    53.7 of words are in the 5000 most common words
    64.0 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Twm o'r Nant - 5
    Total number of words is 850
    Total number of unique words is 584
    46.5 of words are in the 2000 most common words
    61.2 of words are in the 5000 most common words
    68.0 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.