Cerddi'r Mynydd Du - 1

Total number of words is 4317
Total number of unique words is 1688
38.5 of words are in the 2000 most common words
56.5 of words are in the 5000 most common words
64.6 of words are in the 8000 most common words
Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.

Adgof dedwydd am a fu
Wna Fynydd Gwyn o'r Mynydd Du.

CERDDI'R MYNYDD DU
sef
CANEUON HEN A DIWEDDAR
WEDI EU CASGLU A'U TREFNU GAN Y
PARCH. W. GRIFFITHS
(G. AP LLEISION), YSTRADGYNLAIS.
GYDA DARLUNIAU GAN
MR. LLEW MORGAN.



ABERHONDDU:
Argraffwyd gan ROBT. READ,
yn Swyddfa'r "Brecon & Radnor Express," Y Bulwark.
1913.


CYNWYSIAD.

Cyflwyniad
With Droed y Mynydd Du
Adgofion Mebyd
Llynau'r Giedd
Shon Wil Khys
Pen y Cribarth
Yn y Mawn ar ben y Mynydd
Bugail y Mynydd Du
Hela'r Twrch Trwyth
Afon Giedd
Ffaldau Moel Feity
Y Llynfell
Llyga d y Dydd ar Waen Ddolgam
O'r Niwl i'r Nef
Gwilym Shon
Llyn y Fan (Gwatwargerdd)
Ffrydiau Twrch
Angladd ar y Mynydd Du
Y Gof Bach
Ffynon y Brandi
Dafydd y Neuadd Las
Cyw
Llyn y Fan
Ar y Banau
Breuddwyd Adgof
Cân y Dwyfundodiaid


Illustrations

G. Davies, Ysw., Seattle, U.D., I'r hwn y cyflwynir y gyfrol hon, a
thrwyddo ef i'r holl frodorion ar wasgar. . . . . . _Frontispiece_
Cerfiad mewn trawst perthynol i hen amaethdy Brynygroes, yn dynodi adeg
ei adeiladu, ac enw ei breswylydd. Mae y lle wedi ei ddal gan yr un
llinach am dros 400 0 flynyddoedd.
Bryn-Y-Groes.
Mynwent Cwmgiedd.
Gored Y Giedd.
Trem I'r Mynydd Du.
Cwmgiedd (Rhan Isaf).
Ffynon-Y-Cwar.
Pont-Ynys-Twlc.
Penparc.
Llocior'r Defaid.
Maen Derwyddol Ger LLaw Llyn-Y-Fan Fawr.
LLyn-Y-Fan.


[Illustration: Cerfiad mewn trawst perthynol i hen amaethdy Brynygroes,
yn dynodi adeg ei adeiladu, ac ewn ei breswylydd. Mae y lle wedi ei
ddal gan yr un llinach am dros 400 o flynyddoedd.]

[Illustration: Bryn-Y-Groes.]


CYFLWYNEDIG
1
GRIFFITH DAVIES, Ysw.,
SEATTLE, WASHINGTON, AMERICA.

At foneddwr--brodor glân,
Lyfr bychan, dos a'th gân,
Nid oes genyf anrheg well
Iddo ar Gyfandir pell
Na'r caneuon syml hyn--
Cerddi bro ei faboed gwyn.
Yma gwelodd gynta'r byd,
Giedd suai gwsg ei gryd,
Yn ei dyfroedd laslanc llon
Dysgodd gyntaf nofio'r don,
Ar ei glanau yfai ddysg,
Yn ei llynau daliai'r pysg.
Am flynyddau wedi hyn
Cerddai'r fro, a dringai'r bryn.
Anturiaethus fu ei daith
I'r pellderoedd lawer gwaith;
A chyfrinach anian gu
Glywodd ar y Mynydd Du.
Myn brodorion yr Hen Wlad
Adrodd beunydd mewn mwynhad
Am ei deithiau yma a thraw
Gyda'i lyfr yn ei law;
Hoffai wybod meddwl dyn,
Meddwl Duw yn fwy na'r un.
Haf a gauaf, tes a gwynt,
Carai fyn'd i'r Capel gynt,
Rhoes ei ddawn yn offrwm byw
Ar allorau sanctaidd Duw;
Casglodd yma fanna bras,
Canodd yma gerddi gras.
I'r cwrdd gweddi ffyddlawn bu,
Yn yr Ysgol, athraw cu;
Ei ddisgyblion dros y byd
Dystiant am ei wersi drud,
Hauodd ef ar lawer dol,
Tyf cynhauaf gwyn o'i ol.
Diwrnod yn y cwmwl trwm
Ydoedd hwnw yn y Cwm
Aeth a'r delfryd lanc di-ail
Tua gwlad machludiad haul;
Yn y cwmwl nid oedd gwên,
Wylai'r ieuanc, wylai'r hen.
Mae blynyddau maith er hyn,
Newid sydd ar fro a bryn;
Hen gyfoedion wedi myn'd,
Nid oes mwy ond _ambell_ ffrynd,
Yntau fry ar dyrau llwydd
Gafodd fyd a Duw yn rhwydd.
Daw hanesion dros y dón,
Hanes glân fel ewyn hon,
Hanes calon eang, hael,
Fedra roi mor llon a chael,
Hanes bywyd sydd a'i fryd
Beunydd i brydferthu byd.
Frodor anwyl, hoff yn awr
Ganddo gofio llwybrau'r wawr,
Mae y Mynydd Du o hyd
Iddo'n gyfrinachau'i gyd,
Salmau'r neint sydd ar ei glyw--
Mynydd ei Wynfydau yw.
Lyfr bychan, dos a'th gân
Drosodd i'r boneddwr glân;
Nid oes genyf anrheg well
Iddo ar Gyfandir pell
Na'r caneuon syml hyn--
Cerddi gwlad ei faboed gwyn.
G. AP LLEISION.


Wrth Droed y Mynydd Du.
'Roedd blodau ar y dyffryn,
A Mai o dan y coed,
Yn chwareu gyda'r awel
Yn lion ac ysgafn droed:
Fe ganai y fwyalchen
Ar gangen las uwchben,
Heb wrando cyfrinachau serch
Y ddau oedd dan y pren.
Fe welsant flodau'n tyfu
Ar bedwar-ugain Mai,
Ond welodd neb er hynny,
Eu serch yn myn'd yn llai;
Adroddant wrth en gilydd
Adgofion blwyddi fu,
Pan rodient dan oleuni'r lloer
Hyd llethrau'r Mynydd Du.
"'Rwy'n cofio'r noson gyntaf
I'th welais, f'anwyl un,
Pan deimlais yn fy nghalon
Fod mellt yn llygad mun;
'Rwy'n cofio'th wylio'n rhedeg
Fel ewig dros yr allt,
A'r nos oedd yn dy lygad, Gwen,
A'r aur oedd yn dy wallt."
"Ond dofi wnaeth y fellten
Oedd yn dy lygad, Gwen,
Ac yn lle aur daeth eira
I aros ar dy ben:
Mi garaf eto'th lygad,
Fy nghariad, clyw fy ngair,
A charaf eto'r eira, Gwen,
Fel cerais gynt yr aur."
"'Rwy'n cofio gofyn iti,
O dan y bedw bren,
A wnaethet fy mhriodi,
Addewaist tithau, Gwen:
Ysbio rhwng y cangau
'Roedd goleu llwyd y lloer,
A ninnau rhwng ei llewyrch, Gwen,
Heb deimlo'r gwynt yn oer."
"'Rwy'n cofio'r boreu dedwydd,
A'r nef yn las uwchben,
Pan unwyd ein calonnau,
Fe gofi dithau, Gwen:
Ti wridaist wrth yr allor
Fel cwmwl cynta'r wawr;
A chrynu wnai fy nghalon, Gwen,
Fel gweli'm dwylaw'n awr."
"Fe gododd llawer storom,
Fe'n curwyd gan y dón,
Bu llawer pryder chwerw
Yn llechu dan ein bron;
Cyn hir â'r storom olaf
I blith y stormydd fu,
Ac huno gawn yn dawel, Gwen,
Wrth odreu'r Mynydd Du."
_Abercrave._
R. BEYNOK, B.A.

[Illustration: MYNWENT CWMGIEDD.]


Adgofion Mebyd.
Heda meddwl i'r gorphenol,
I baradwys bore oes,
Pan oedd bywyd yn ddymunol,
Pryd na chwythai awel groes;
Cysegredig oedd y twyni
Lle chwareuem amser gynt,
Nid oedd gofid wedi'i eni,
Nid oedd brad yn swn y gwynt.
Yr oedd engyl ar y llwybrau,
'N syllu arnom hyd y ffyrdd,
Eden ydoedd "Penyffaldau,"
Lle treuliasom oriau fyrdd;
Oriau glân heb wag oferedd
I lychwino'r tymhor gwyn;
Darn o'r nef yn ein hedmygedd
Oedd y llecyn prydferth hyn.
Cynal oedfa wedi'r oedfa
Wnelem ni ar ben y Bryn,
Nid oedd neb yn gwag-rodiana
Y nos Suliau sanctaidd hyn;
Pobi ieuainc yn finteioedd
Dyrent yma wedi'r cwrdd,
Gan orfoledd naws y nefoedd,
O! mor anhawdd oedd myn'd ffwrdd.
Cofio'r adeg pan neillduem
I ryw gonglau unig iawn,
Yno'n fynych yr arferem,
Heb un "dorf," berffeithio'n dawn;
Adrodd darnau y "Pen Chwarter,"
Er eu gloewi, wnelem 'nawr,
Yna wedyn gan ein hyder,
Nid oedd neb yn tori lawr.
Ambell noson deg o'r wythnos
Gwelid ni dan lwyni heirdd,
Fel "derwyddon" yr hen oesau
Yn cael orig gyda'r beirdd;
"Oriau'r Hwyr" ac "Oriau'r Bore,"
"Oriau Ereill" Ceiriog Hughes,
A ddarllenem am y gore,
Cyn bod son am _football news_.
Dysgu nyddu'r "cynghaneddion,"
A llinellu yn ddiball,
A chael ffrwd o grechwen iachus
Wrth ddarganfod ambell wall;
Hyn yw'r rheswm fod fy ardal
Wedi codi beirdd o nod,
Wrth fyfyrio pethau ofer
Ellir byth gyrhaeddyd clod.
Wrth ymlwybro tua'r Capel
Dros y bryn, y waun, a'r ddol,
Nid oedd calon un addolydd
Yn dychmygu pethau ffol;
Gwelem Dduw yn mrig y perthi
'N llosgi, megys Moses gynt,
Caem ein dwyfol ysbrydoli,
A'n gweddnewid ar ein hynt.
Seiniau adar bach y llwyni
Dorai'n fiwsig ar ein clyw,
Yr oedd natur yn ein tywys
Tuag allor cysegr Duw;
Megys Enoch gynt yn rhodio
Rhodiai tadau dros bob rhiw;
Dal cymundeb â'r ysbrydol
Ydyw rhodio gyda Duw.
GWILYM WYN.


Llynau'r Giedd.
Hen afon hoff! dy ganmol wnaf,
A chanaf i dy Lynau,
Cyrchleoedd difyr, llon, di-loes,
Fu rhai'n ar hyd yr oesau;
Bum innau'n chwareu lawer tro,
A nofio yn eu dyfroedd,
A hel eu pysg, ddydd mebyd ter,
Oedd imi'n haner nefoedd.
Llyn "dysgu nofio" oedd "Llyn Scwd,"
A brwd oedd plant am dano,
Nid oedd ei debyg yn y wlad
I chware' tra'd a dwylo';
Ei waelod welodd llawer un,
A blin fu'r ymdrech droion
I ffrwyno'r lli', a dysgu'n llon
I farchog ton yr afon.
"Llyn Gored" sydd fel gwydr-ddrych
Pan fyddo sych yr afon,
A'r graig uwchben wrth wel'd ei llun
Addolai'i hun yn gyson;
Ond pan ddaw llif i lawr drwy'r llyn
Yn ewyn gwyn cynddaredd,
Yn synu pawb bydd dyfroedd iach
Niagra fach Cwmgiedd.
Nid yw "Llyn Cwar" yn fawr ei faint,
Er cymaint son am dano,
Gogoniant hwn yw'r ffynnon lon
Sy'n llifo'n gyson iddo;
Rhyw gawg yw ef i ddal ei gwin
Yn mhoethder hin yr hafau,
Pan sych yr afon yn mhob man,
Llyn Cwar ddiwalla'n heisiau.
"Llyn Dafydd Morgan," dyma fe,
Mewn creigle mae ei wely,
A physg yr afon dd'ont yn llon
O dan ei don i gysgu;
Mae Dafydd Morgan yn ei fedd,
A Giedd eto'n llifo,
Ond aros mae y llyn o hyd,
A'r byd yn myned heibio.
"Llyn Felin Fach" ar lawr y Cwm,
Mae heddyw'n llwm ei gylchoedd,
Mae'r felin gynt oedd wrth ei lif
Yn adfail er's canrifoedd;
Bu llawer rhod o dan ei don
Yn gyson ei throadau,
A holi'n segur mae o hyd--
Pa le mae yd y tadau?
Llyn dwfn yr "Olchfa," du ei liw,
Cymydog yw i'r mynydd,
A'r miloedd defaid yn yr ha'
A olchir yma'n ddedwydd;
Os du ei don, daw'r praidd yn wyn
I'r cnaif o'r llyn yn gyson,
A thra bo'r Mynydd Du, parhâ
Yr "Olchfa" yn yr afon.
Mae eto Lynau'n uwch i'r lan,
Ar ffordd y Fan a'r Carnau,
Y Cefn Mawr a'r Gareg Goch,
A glyw y croch raiadrau,
Dyfnder yn galw dyfnder sy'
Yn gry' ar hyd y mynydd,
A Giedd lama'n ewyn gwyn
O lyn i lyn i'r Werydd.
_Cwmgiedd._
RHYS POWEL (_Yorath_).


Shon Wil Rhys.
'Rwyf yn awr mewn gwth o oedran,
Ac yn gwisgo'r blewyn brith,
Hen gymeriad hynod ydwyf,
Wedi'i fagu yn eich plith;
Nid oes neb sydd yn trigianu
Yn nghyffiniau afon Gwys
Wedi cerfio'i enw'n ddyfnach
Yn y wlad na Shon Wil Rhys.
Caled i mi a fu bywyd,
O'i gychwyniad hyd yn hyn,
Megys myrtwydd heb wên heulwen
Dan gysgodau dwfn y glyn;
Rhwyfo wyf mewn dyfroedd dyfnion,
Cyn ac wedi cym'ryd gwraig,
Ond 'rwyf fi a'r llong heb suddo,
Ac heb daro'n erbyn craig.
Os mai gwael yw'm gwedd yn fynych,
Os mai llwydaidd yw fy ngwisg,
Nid yw'n deg i neb i farnu
Gwerth y cnewllyn wrth y plisg;
Haera rhai na ches fy nghrasu'n
Ddigon caled, medde'n nhw,
Ond ni fu y rhai'n yn ngenau'r
Ffwrn o gwbl gwnaf fy llw.
Llawer coegyn sydd am wneuthur
Ffwl o honwyf lawer pryd,
Peidiwch chwi er hyn camsynied,
Y mae Shoni yma'i gyd;
Os yr ydwyf yn ddiniwed,
Nid wyf fi i gyd yn ffol,
Nid y fi yw'r unig berson
Fu fel Dafydd yn nillad Saul.
Pan yn nghryfder nerth ac iechyd
Teithiais lawer ar fy hynt,
Trwy gul gymoedd a thros fryniau
I gyrddau mawr yr amser gynt;
Yno wylo, neidio, a moli,
A rhoi proc i'r hen Amen,
Rhoddais _oil_ ar _wheel_ y bregeth
Ganwaith cyn y doi i'r pen.
Mae'r pregethwyr doniol hyny
Bron i gyd yn llwch y llawr,
Yn adgofio am eu haeledd
Y mae llawer hen got fawr;
Nid oedd un pregethwr enwog
Yn y de na'r gogledd draw
Na fum i ryw dro yn rhywle
Gyda'r brawd yn ysgwyd llaw.
Hen bregethwyr tanllyd Cymru,
Yn y wlad ac yn y dref,
Oedd y dyddiau gwlithog hyny
Yn gynefin iawn am llef;
Os pregethwyr mwy dysgedig
A gyfodwyd yn ein plith,
Hen bregethwyr cynt, er hyny,
I Shon Rhys am fêl a blith.
'Rwyf yn awr yn Rhosydd Moab,
Bron a chyrhaedd pen fy nhaith,
Os yw'r llwybr yn gerygog,
Nid yw'r siwrnai ddim yn faith;
Os yw cefnfor f'oes yn arw,
Yn ddiangol af i'r lan,
Daw y porthladd clyd, dymunol,
I fy ngolwg yn y man.
Parch. D. ONLLWYN BRACE.


Pen y Cribarth.
Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth,
I ben y Cribarth uchel?
I deg fwynhau prydnawn-ddydd mwyn,
Ar war y clogwyn tawel,
Ac yfed iechyd dros ei fin,
O gwpan gwin yr awel.
Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth,
I ben y Cribarth Talfrig?
I edrych ar y fywiog fro
Sydd dano yn weledig,
Ardaloedd eang hyd y môr
Yw'r oror estynedig.
Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth,
I ben y Cribarth eto?
I dremio draw i ben y Fan,
'Does dim ond anian yno--
Yn fynydd mawr, a defaid mân,
A nentydd glân yn llifo.
Pwy, pwy a ddaw ar hyd y Garth,
I ben y Cribarth golau?
Mae hedd yn awr lle bu cyn hyn
Ddaeargryn yu y creigiau,
Cawn ddarllen ar bob careg bron
Hanesion o'r hen oesau.
Mae'n hyfryd myn'd ar hyd y Garth,
I ben y Cribarth beunydd,
Ac uno ym mheroriaeth lon
Alawon yr ehedydd;
Tra'r byd yn mhell, a'r nef gerllaw,
Pwy na ddaw yn addolydd?
_Maesyderi, Abercrave._
T. J. DAVIES (_Iscoed_).


Yn y Mawn ar ben y Mynydd.
Ar y mynydd yr emynaf,
Ar faen sedd mewn hedd mwyneiddiaf;
Rhoddaf alaw ar ddu foelydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Awel bur a haul y boreu,
Yma geir fel am y goreu,
Yn rhoi yni i'r awenydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ond, er hyny, nid yr anial
Mawnog hwn yw'r man i gynal
Hwyl y gwanwyn hael ei gynydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ar y bryniau mawr wybrenol
Mae dystawrwydd mud, ystyriol,
Yn sobreiddio naws boreu-ddydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ni cheir cor yn chwareu carol
Yn y llwyn yn llu awenol;
Mae cor mwyn y llwyn yn llonydd
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Chwery _un_ â chywir anian,
Ei grwth unig wrtho'i hunan;
Cu iawn ydyw cân ehedydd
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ef yw cerddor dor y daran,
Difraw troedia fro y trydan;
Bwria'i unawd o'r wybrenydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
[Illustration: GORED Y GIEDD.]
[Illustration: TREM I'R MYNYDD DU.]
O bell clywir y gog dirion,
Gyda'r awel o'r godreuon,
Efo moliant haf ymwelydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Draw ac yma drwy y cymoedd,
Cri a glywir o'r creigleoedd,
Bywiog alaw y bugeilydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Truman cribog, muriog, mawrion,
A'u hesgeiriau yn ysgyrion,
Yma wyliant uwch y moelydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Metha'r haf a'i fwynaf wenau,
Wyrddu llen i ben y banau;
Oeda'r gauaf yn dragywydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ymherodraeth y mawr wywdra,
Heb eginyn bywiog wena;
Lle ni chawn na llwyn na chynydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ac ar fynwes cwr y fawnog
Torwyd lluniau traed y llwynog,
Heibio hwylia yn ysbeilydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Ar y clogwyn mawr cilwgus
Haf awelon sydd yn felus,
A chael enyd fach o lonydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
Mwynhau heddwch y mynyddoedd,
A mwynderau y mawndiroedd,
Sy'n baradwys iawn i brydydd,
Yn y mawn ar ben y mynydd.
GWYDDERIG.


Bugail y Mynydd Du.
Rhys oedd bugail y Mynydd Du,
A theilwng fab y wawrddydd,
Yn nghwmni Toss, ei hanes fu
Fel chwedl ar y mynydd.
Arferai godi gyda'r haul,
Pan ddelai 'r wawr i'r Bannau,
A mynai yn ei belydr glân
Gael bedydd tan bob borau.
Hyd Fawnen Gwys a'r Esgair Ddu
Fe ddeadellai'r defaid,
A Toss yn barod, wrth ei law,
I wneud ei arch a'i amnaid.
Y gauaf fel yr haf o hyd
Bu ef yn ffyddlon iddynt,
Wynebai storm Bwlch-adwy'r-gwynt,
A dryccin eira, drostynt.
A chalon ysgafn oedai'n hir
Yn awyr iach y bryniau,
Tra'r awel bur a'i phwyntyl llon
Yn lliwio'n goch ei ruddiau.
Fe garodd edrych dros y ddôl
Draw i bellderau'r mynydd,
A gwrando swn y nentydd byw
Yn galw ar eu gilydd.
Fe godai'i lais mewn hapus gân
O ddiolchiadau calon,
A chododd allor lawer gwaith
Ar ben y Cerrig Coegion.
Ar ben y mynydd--pell o'r dref,
Nef oedd agosaf iddo,
Newyddion byd a aent yn hen
Wrth deithio tuag ato.
Felused iddo yn yr hwyr
Oedd cysgod clyd ei fwthyn,
A Men ei briod wrth y tan
Ar aelwyd y Twyn Melyn.
Aeth llawer gauaf dros ei ben
Yn stormydd ar y bryniau,
Cyn iddo groesi dros y glyn
I wlad yr hafddydd golau.
Mae Men ac yntau yn y bedd,
Ac adfail yw y bwthyn,
Ond gwena'r haul a brefa'r praidd
O hyd ar ben Twyn Melyn.
_Abercrave._
RHYS DAVIES (_Ap Brychan_).


Hela'r Twrch Trwyth.
(Addawodd Olwen briodi Cilhwoh os'y llwyddai i ddwyn y gwellaif a'r
ellyn arian oedd yn nhalcen Twrch Trwyth iddi. Aeth Cilhwch at Arthur
i geisio cymhorth. Galwodd Arthur ei dywysogion ynghyd i'r helfa.
Llwyddwyd ar ol ymdrech galed a chyfnod hir o hela o'r Iwerddon drwy
Gymru i Cernyw i sierhau a geisiai Olwen. Ond diangodd y Twrch a'i
fywyd ganddo.--MABINOGION.)
Croesodd yr helfa y Mynydd Du, ac oddiwrth hyn y deillia yr enw
Cwmtwrch.
Udganodd yr helgorn ar fynydd a bryn,
A'i swn dros y moroedd adseiniodd yn syn,
A chododd y gwledydd yn llwyth ar ol llwyth,
Ar alwad ein Harthur i hela'r Twrch Trwyth.
Daeth gwyr Ynys Prydain ynghyd o'r tair cainc,
A dewrion gwyr Llydaw, a Norman a Ffrainc,
A'u helgwn a'u gwaedgwn yn naw cant ac wyth,
Yn blysio'n angerddol am waed y Twrch Trwyth.
Marchogion a groesent y tonau yn awr
Mewn rhwysg i'r Iwerddon a'r haf ar y llawr,
A bloeddiai'r Gwyddelod--"Daeth dydd talu'r pwyth,
Ac Arthur i'n gwared o law y Twrch Trwyth."
Yn nghraig Esgair oerfel rhoi helsain wnai'r cwn,
A'r Twrch a'i saith berchyll a glywent y swn.
A chnoi a thraflyncu y ddaear wnai'r wyth,
A chrynodd yr Ynys dan rhoch y Twrch Trwyth.
Dechreuodd yr helfa a hela fu'n awr
O foreu hyd nos ac o'r nos hyd y wawr.
A deuparth yr Ynys a wnaed yn ddi-ffrwyth,
Gan wenwyn llysnafedd o enau Twrch Trwyth.
Trwy'r mor o'r Iwerddon i Gymru ar hynt
Troes Twrch ei gyfeiriad a'i wrych yn y gwynt,
A'r helwyr yn dilvn--ni fu y fath lwyth
O wyn ar y tonau ag ewyn Twrch Trwyth.
Yn Aberdaugleddyf pan glaniodd y baedd,
Bu dychryn drwy'r dalaeth ac alaeth a gwaedd.
A dyn ac anifail, ac egin a ffrwyth,
Ddifrodwyd o'r ddaear dan ddanedd Twrch Trwyth.
O Benfro i Llwchwr y brysiodd 'rol hyn,
Ac helwyr a helgwn yn dilyn yn dyn.
Pum perchyll wrth Aman a laddwyd o'r wyth,
A ffroeni'n ffyrnicach a wnai y Twrch Trwyth.
Medd ef wrth ei berchyll, "awn heibio Ddolgam,
Llwynmoch a Chwmclyd a dialwn ein cam,
A thaflwn holl greigiau'r Gellie'n un llwyth,
Yn garnedd marwolaeth ar helwyr Twrch Trwyth."
Ofnadwy fu'r ymdrech yn nghwmwd Sarnfan,
Drwy'r erchyll ddyfnderau hyd fro Craig-y-Fran.
Dattodai y creigiau yn bwyth ar ol pwyth
Dan wellaif mawr miniog yn nhalcen Twrch Trwyth.
[Illustration: CWMGIEDD (RHAN ISAF).]
Y bryniau ysgythrog faluriwyd i lawr,
(Mae'r cread yn deilchion fan hono yn awr).
Marchogion a helgwn a grynent gan fwyth
Yn swn dirgryniadau o'chneidiau Twrch Trwyth.
Yn nghraig Tyle Garw bu'r Twrch ar fin tranc,
A rhanwyd ei berchyll, ond ef yn ei wanc
A groesodd i'r Tywi--yr olaf o'r wyth,
A'r awyr yn wefr o hela'r Twrch Trwyth.
A misoedd a biwyddi o hela a wnaed
Yr ellyn a'r gwellaif o'i dalcen a gaed,
Ond Arthur ddilynodd a gwaddill ei lwyth,
O'r Hafren i Cernyw ar ol y Twrch Trwyth.
Y Twrch a ddiflanodd 'does neb wyr i ble,
Ac Arthur yn Nghernyw mewn cwsg byth mae e'.
Ond tystio drwy'r oesoedd wna pob iaith a llwyth
Mai helfa ddychrynllyd oedd helfa Twrch Trwyth.
G. AP LLEISION.


Afon Giedd.
Mae afon chwyrn y Giedd
Yn tarddu yn y mawn,
Daw ar ei phen i waered
Dros greigydd enbyd iawn;
Ar gefn ei chroch raiadrau,
Ddiwrnod mawr ei lli,
Daw darn ar ddaro o'r creigiau
Yn 'sglyfaeth gyda hi.
Hi dwmla bobls mawrion,
Dynelli o bob rhyw,
A chaiff ei hadgyfnerthu
Gan afon rymus Cyw;
Mae'n myn'd dan wraidd y coedydd,
A charia'r rhai'n drachefn,
A diorsedda'r pontydd,
Nes gwneud y lle'n ddidrefn.
Un boreu yn Gorphenaf,
Mi gofiaf yn ddilai,
Pan ddaeth ei llif dychrynllyd
I gym'ryd wyth o dai;
Y Cwm sy'n ofni'r afon
Byth wedyn ar y gwlaw,
A'r nos ni feiddia gysgu
Rhag arswyd llif a ddaw.
Ofnadwy ar ein clustiau
Yw swn ei chenllif hi,
A'r cerrig mawrion fflachiant
Yn wreichion yn ei lli';
Ei tharth a gwyd i fyny
Yn gwmwl tua'r nen,
A gwaedda yn gynddeiriog,
'Mi fynaf fod yn ben.'
Mae pawb yn cyfreithloni
Yr enw gafodd hi,
A chiaidd, ciaidd ydyw
O fewn ein dyddiau ni;
Ond Ef sy'n dal y wyntyll,
A'r dyfroedd yn Ei law,
Ostega ei chynddaredd
A'r gair bach hwnw, 'Taw.'
Os rhuo mae y Giedd
Am gael ei ffordd ei hun,
Da genym fod ei Harglwydd
Yn noddfa byth i ddyn;
Mae'r plant sydd ar ei glanau
Yn anwyl ganddo Ef,
A diogel yn mhob dryccin
Yw etholedig nef.
Wrth wel'd y gwyllt lifeiriant
Yn pasio drws fy nhy,
Mae'r wers o flaen fy llygaid,
'Mod inau fel ei lli',
Yn myn'd i'r goriwaered,
I'r tragwyddoldeb pell;
O! Arglwydd, pan gaf orphwys,
Rho imi wlad sydd well.
_Cwmgiedd._
HOWELL POWELL.


Ffaldau Moel Feity.
Wrth droed y Foel arddunol,
Ger murmur Tawe fwyn,
Mae'r Ffaldau llwyd, henafol,
Rhwng meini braf a brwyn;
O'u cylch mae'r bryniau uchel
Yn gwenu uwch eu pen,
A'r Fan yn spio arnynt
Drwy gymyl yn y nen.
Mor swynol ydyw canfod,
Ar foreu hafddydd gwyn,
Y defaid dirifedi
Yn britho'r bryniau hyn;
Y'mysg y cerrig garw
Sy'n gestyll rhag y gwynt,
Llochesant rhag ystormydd
Dramwyant ar eu hynt.
Amaethwyr Crai a Llywel,
Ar ddydd 'crynhoi' y Fo'l,
A foreugyrchant yma,
Mi welir neb yn ol;
Daw hefyd wyr Llanddeusant
Ar eu ceffylau bach
I geisio'r defaid crwydrol,
A'u dwyn hwy adre'n iach.
Ceir gweled gwyr Glyntawe
A'u gyroedd yma'n dod,
Ni fu y fath brysurdeb
Mewn unrhyw fan erio'd:
Pob un a'i gi a welir
Yn casglu'r praidd o'r bron,
A'u dwyn i fewn i'r Ffaldau,
Rhwng muriau cedyrn hon.
Ar ol eu dwyn i'r Ffaldau,
Bydd pawb yn brysur iawn,
Pob un yn dal ei eiddo
I'w Ffald ei hun a gawn;
Os digwydd ambell ddafad
Estronol yma ddod,
Bydd llawer llygad arni
Yn ceisio gwneud ei 'nhod.'
Wrth droi a thrafod llawer
Fe welir ambell un
O'r defaid, dros y muriau,
Yn cym'ryd ffordd ei hun;
Ac ar eu hol yn sydyn
Bydd tyrfa fawr o gwn,
A'r lle yn haleliwia
Byddarol gan y swn.
Doethineb cenedlaethau
O ffermwyr yma fu,
Yn traethu am hanesion
Helyntion Mynydd Du;
Adroddent am wrhydri
Yr hen fugeiliaid gynt,
Ac enwau'r cwn a glywir
O hyd yn myn'd drwy'r gwynt.
Mor ddedwydd ydyw bywyd
Cyffredin gwyr y wlad,
Yn heddwch y mynyddoedd
Mae iddynt wir fwynhad;
Fe gollir y bugeiliaid,
Rhai newydd ddaw o hyd,
Ond erys y mynyddoedd
Heb newid oesau'r byd.
_Ystradgynlais._
LLEWELYN JONES.


Y Llynfell.
Afonig a dardd yn ffrwd gref o'r ogof gerllaw
Castell Craig-y-nos.
Fuoch chwi wrth Danyrogof?
Welsoch chwi y temlau cain?
Glywsoch chwi gynghanedd Llynfell
Fel organ gref yn llanw rhain?
Welsoch chwi wrth droed y clogwyn
Fel y rhuthra ffrwd mor falch
I oleuni o dywyllwch
Llwybrau cudd y cerrig calch?
Bu yn hir yn nwfn gysgodion
Bro y gwyll--heb wawr na rhos;
Feiddia neb fyn'd hyd ei llwybrau
Unig yn rodfeydd y nos.
Carwn wybod peth o hanes
Gwlad heb flodyn ynddi hi,
Heb un deryn bach yn canu;
Heb un ganghen uwch ei lli.
Ond fe geidw ei chyfrinach,
Ni fyn son am ddim sy'n ol;
'Myn'd y'mlaen' yw hanes afon;
'Aros' ydyw hanes dol.
Dywedir fod ei dyfroedd gloew
Yn newid lliw cyn delo gwlaw;
Dyma broffwyd llwyd y Blaenau--
Wêl y ddrycin cyn y daw.
Ni wyr hi ddim am dymhorau,
Welodd hi erioed mor ha';
Ni fu gauaf yn ei rhwymo
Yng nghadwynau oer yr ia.
Y mae rhamant yn ei hanes,
Cuddio wna rhag gwawrddydd dlos,
Dim ond ym mhrydnawn ei bywyd
Gwel yr haul wrth Graig-y-nos.
Afon fechan, megis tithau,
Minau garwn deithio'n rydd,
Drwy gysgodion, i oleuni
Pen y daith yng Ngwlad y dydd.
_Corrig Haffes._
MYFYR MAI.


Llygad y Dydd ar Waen Ddolgam.
Gem y ddôl yw'r tlws flodeuyn,
Wisga'n fore ar ei bron,
Mae'n gwresawu pob pelydryn
Ddaw o'r haul i'w fynwes lon,
Natur fu yn paentio'i aeliau
Gyda phluen awel rydd,
Wrth ymolchi mewn pelydrau
Gwyna amrant llygad dydd.
Lygad siriol lawn cyfaredd
Yn agored o fy mlaen;
Ei fychander yw ei fawredd,
A'i holl rwysg yw bod yn blaen;
Try i ffurf a lliw yr huan
Wrth gwmnia gydag ef,
Er dadblygu'u lygad gloew-lan,
Aros wna yn nhês y nef.
Lygad effro, nad yw'n hepian
Nes yr huna anian dlos,
Yn ei wynder, wrtho'i hunan,
Gwena'r dydd a chysga'r nos;
Dysgwn wers y glân flodeuyn,
Yn y gwlith ei lygad ylch,
Fel na chenfydd un brycheuyn
Yn y llygaid sydd o'i gylch.
Lygad dydd, a chanwyll eurliw
Yn ei ganol, megis tân,
Ai nid heulrod glaswellt ydyw
Egyr ag ymylwe mân?
Er ei fod yn nghanol tyrfa
O'i wyn-frodyr ar y waen,
Wrth yr un ni chenfigena,
Mae ei burdeb yn ddi-staen.
Flodyn gwylaidd, byth ni ddringa
Ben y clawdd am sylw'r byd,
Mewn dinodedd y cartrefa,
Gyda'r blodau lleia'i gyd;
Hwn wrth fyw mewn gostyngeiddrwydd
Ddysga wersi i lawer un,
A ddisgynodd i ddinodedd
Wrth wneud duw o hono'i hun.
Dena lygad rhyw forwynig,
Sycha'i sendyl yn y gwlith,
Wrth dramwyo'r llwybr unig
Gyda'r wawr i gyrchu'r blith;
Plyga'n wylaidd i anwylo
Blodyn siriol 'gwaen Ddolgam,'
Am fod arall yn blodeuo
Ar hoff fedd ei thad a'i mam.
Anwyl flodyn, anhawdd cefnu,
Gan ei adael ar y ddôl,
Wrth fiarwelio, 'rwyf yn credu
Ei fod yn syllu ar fy ol;
O! am fyw ei fywyd gloew,
Gyda chalon onest, rydd,
Fel y gallwn, cyn fy marw,
Ddod yn wyn fel Llygad Dydd.
GWILYM WYN.


O'r Niwl i'r Nef.
[Achlysurwyd y gân dyner hon gan farwolaeth llanc ieuanc o Abercraf ar
ei flordd yn ol o Lyn-y-Fan. Darfu iddo ef a dau lanc arall golli eu
ffordd yn y niwl. Cyrhaeddodd ei gyfeillion adref yn fyw, ond ar ol
tridian o ymchwil deuwyd o hyd i'w gorph et yn ymyl afon Twrch. Yr
oedd ar ei berson ar y pryd Destament Cymraeg a nifer o draethodau
crefyddol.]
Rwy'n mynd, fy nhad a mam,
You have read 1 text from Welsh literature.
Next - Cerddi'r Mynydd Du - 2
  • Parts
  • Cerddi'r Mynydd Du - 1
    Total number of words is 4317
    Total number of unique words is 1688
    38.5 of words are in the 2000 most common words
    56.5 of words are in the 5000 most common words
    64.6 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Cerddi'r Mynydd Du - 2
    Total number of words is 4393
    Total number of unique words is 1709
    40.6 of words are in the 2000 most common words
    58.5 of words are in the 5000 most common words
    67.3 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Cerddi'r Mynydd Du - 3
    Total number of words is 445
    Total number of unique words is 272
    56.1 of words are in the 2000 most common words
    69.6 of words are in the 5000 most common words
    80.5 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.