Gwaith Mynyddog. Cyfrol II - 1

Total number of words is 4676
Total number of unique words is 1689
44.6 of words are in the 2000 most common words
65.5 of words are in the 5000 most common words
72.3 of words are in the 8000 most common words
Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.

GWAITH MYNYDDOG. CYFROL II.

RHAGAIR.

Ail gyfrol yw hon o'r caneuon ganai Mynyddog heb feddwl eu cyhoeddi
hwyrach. Canodd hwy fel y can aderyn. Y maent yn aros yng nghof pawb
a'u clywodd, er hynny. Ac oni ddylai pobl ieuainc na chlywsant Fynyddog
eu cael? Oni ddylent redeg drwy fywyd ein cenedl fel y rhed aber y
mynydd trwy'n cymoedd?
Oherwydd, yn un peth, y maent yn ganeuon cyfeillgarwch a chymdeithas
fwyn. Y mae i gwmniaeth, yn gystal ag unigedd, ei le ym mywyd ein
henaid. O'r aelwyd i'r Eisteddfod hoffai Mynyddog ei bobl,--
"Rwy'n caru hen wlad fy nhadau
Gyda'i thelyn, ei henglyn, a'i hwyl,
Rwy'n caru cael bechgyn y bryniau
Gyda than yn y gan yn eu gwyl."
Cadwant, hefyd, naturioldeb ieuenctid gyda doethineb profiad. Dyna nerth
Mynyddog.
Y mae gwythien o synwyr cyffredin cryf yn rhedeg trwy ei holl ganeuon. Y
mae hon yn rhoi gwerth arhosol ar y gan ysgafnaf fedd. Hyd yn oed wrth
ddarlunio carwriaeth rhydd ergyd na roddodd yr un pulpud ei grymusach.
Y mae'r synwyr cyffredin hwn yn gwneud ei hynawsedd mor ddoeth, ei
ddigrifwch mor naturiol, ei bartiaeth mor henffel, fel y tybiwn ei fod yn
codi uwchlaw ymrysonau ei ddydd, ac yn aros gyda'i genedl, gan dyfu gyda
hi. A hawdd i genedl hoffus ddarllen ei meddwl i ganeuon Mynyddog, fel y
derllyn tad ei feddyliau dyfnaf i afiaith parablus ei blentyn.
Nid direidi a mwyniant yn unig sydd yng nghan Mynyddog. Y mae islais o
brudd-der ynddi, oherwydd fod hynny yn y natur ddynol hefyd.
Y mae ei wladgarwch, hefyd, yn ddoeth ac yn angerddol ar yr un pryd.
Carodd fynyddoedd a nentydd ei wlad heb eu hysbrydoli fel Islwyn, carodd
hwynt er eu mwyn eu hunain.
Ac uwchlaw popeth, canodd mor glir oherwydd ei fod mor anhunanol. Canodd,
nid gan feddwl am dano ei hun, ei gelfyddyd a'i ddelfrydau, ei uchelgais
a'i anfarwoldeb, ond am y bobl yr oedd yn canu iddynt. Angylion
gwasanaethgar iddo ef oedd ffurf ac athroniaeth. Ac nid oes yng Nghymru
heddyw fardd a'i arddull mor gain, a'i feddwl mor ddwfn, na wna les iddo
efrydu symlder Mynyddog, ac achos y symlder hwnnw.
OWEN M. EDWARDS.
Llanuwchllyn.


DARLUNIAU.

Y mae y darluniau oll, ond y darlun o of Dinas Mawddwy, o waith y
diweddar John Thomas, Cambrian Gallery, Liverpool.
MYNYDDOG
PEN Y MYNYDD
"O dewch tua'r moelydd,
Lle mae grug y mynydd
Yn gwenu yn ei ddillad newydd grai."
Y MELINYDD.
"'Rwy'n caru swn yr olwyn ddwr
A droir gan ffrwd y nant."
MYNWENT EGLWYS LLANBRYNMAIR.
Y GOF.
"Yng nghanol haearn, mwg, a than,
Mae'r gof yn gwneud ei waith,
Ar hyd y dydd, gan ganu can
O fawl i'w wlad a'i iaith."
AWEL Y BORE.
"A charu 'r wyf yr awel wynt
A hed dros Gymru gu."
HEN GAPEL LLANBRYNMAIR.
"Bydd llygaid engyl gyda llygaid mam
Draw'n gwylio dros dy hun rhag it' gael cam."


MYNYDDOG.

[Pen y Mynydd. "Ac yma nid oes dim a ddaw
Cydrhwng y dyn a Duw."]

HEN ADGOFION.

O na chawn fynd yn ol ar hynt
Drwy'r adeg ddedwydd, iach,
I brofi y breuddwydion gynt
Pan oeddwn blentyn bach;
Cawn syllu eilwaith oriau hir
Ar flodau gwanwyn oes,
Ac ail fwynhau ei awyr glir
Heb gwmwl du na loes.
O na chawn dreulio eto'n llawn
Yr adeg lon, ddi-gur,
Pan gylch fy llwybrau fore a nawn
'Roedd blodau cariad pur;
Nid yw ond megis ddoe o'r bron
Im gofio ienctid ffol;
Ond dyma sydd yn rhwygo 'mron,
Ddaw'r adeg byth yn ol.

CHWI FEIBION DEWRION.

(Geiriau i'r "Marseillaise.")
Chwi feibion dewrion gwlad y bryniau,
Clywch, clywch yr udgorn croch o draw,
Llywelyn sydd yn chwifio'i ddreigiau
A'i gleddyf gloew yn ei law;
Mae dagrau baban gwan a'r weddw
Yn gwaeddi'n uwch na chorn y gad,
Fod rhyddid hoff ein hanwyl wlad
O dan ei chlwyf ymron a marw;
Ymlaen! ymlaen i'r gad,
Dadweinied pawb ei gledd,
Ni awn, ni awn dros freiniau'n gwlad
I ryddid neu i'r bedd!
Ystormydd rhyfel sy'n ymruo,
Yr holl awyrgylch sydd yn ddu,
Mae cledd dialedd wedi deffro,
Gwae, gwae i'r holl elynol lu;
Ni allwn edrych ar gelanedd
Estroniaid yn arteithio'n gwlad,
Gan ddwyn aneddau'n mam a'n tad
A gwneud ein gwlad i gyd yn garnedd;
Ymlaen!
Deffroed ysbryd hyf ein teidiau
I danio mynwes ddewr pob dyn,
Mae'r ddraig yn edrych lawr o'r bryniau
Gan ddisgwyl gweled Cymru'n un;
Bu'n gwlad am oesau'n araf waedu,
Ond sych dy ddagrau, Walia Wen,
Mae seren gobaith uwch dy ben,
Daeth cledd Llywelyn i'th waredu.
Ymlaen!

CYMRU, GWLAD Y GAN.

Pa beth sy'n Nghymru, gwlad y gan,--
Ai diliau glwys, ai dolydd glan,
Ai gwastad diroedd heb eu hail,
Yn dwyn eu blodau teg a'u dail?
Na, na, nid dyna'r harddwch sydd
Yn teg addurno Gwalia rydd.
Pa beth sy'n Nghymru, gwlad y gan?
Rhaeadrau gwyllt a nentydd glan,
Clogwyni serth a chreigiau ban,
A harddwch. Eden ym mhob man!
Ac O! mae yno fwthyn cu
Sy'n werth palasau'r byd i mi.
Mae tyrrau cestyll Gwalia Wen
Yn pwyntio i fyny tua'r nen,
Gan ddweyd mai anfarwoldeb sydd
Yn eiddo dewrion Cymru rydd;
O boed i mi gael byw yn hon,
A beddrod yn ei thyner fron.
Mae adsain bloedd y dewrion fu,
Heb farw rhwng ein bryniau cu,
Ac ysbryd ym mhob awel wynt
Yn adrodd hanes Cymru gynt;
O boed i mi gael byw yn hon,
A beddrod yn ei thyner fron.

SIOM SERCH.

Daeth ef i geisio denu'r ferch,
A phlannu'i galon yn ei bron;
Cyn iddi ddysgu pwyso serch,
Fe ddysgodd garu'r llencyn llon;
Aeth ef a'r lili dyner, wen,
Oedd ar ei bron, angyles ne,
A phlannai'n ol ar galon Gwen
Hardd rosyn cariad yn ei lle.
Rhodd iddo'r cyfan feddai'n awr,
Ei geiriau mel a'i gwenau drud,
Rhodd iddo hefyd galon fawr
Yn llawn o gariad byw i gyd;
Cydwylai hi fel gwlith y nef
Pan wylai ef o dan ryw gur,
A chwarddai pan y chwarddai ef,
A'r cyfan er mwyn cariad pur.
Ond oerodd bron y llanc cyn hir,
Ac ymaith aeth gan adael hon,
Heb feddwl fawr fel treiddiai cur
Fel saeth i lawr i'w gwaedlyd fron;
Diangai gobaith teg ei wawr
'Run fath a'r lili oddiar y ferch,
Gan adael iddi hi yn awr
Wywedig ros twyllodrus serch.

TARO YR HOEL AR EI PHEN.

Mae ambell i saer gyda'i forthwyl
Yn taro yr hoelen yn gam,
Ac ambell i un sydd mor drwsgwl
A phe bai'n rhoi'r morthwyl i'w fam;
Ond hyn sydd yn iawn a dymunol,
Pan godi dy forthwyl i'r nen,
Gofala wrth daro, 'n wastadol,
I daro yr hoel ar ei phen.
Mae llawer areithiwr go ddoniol,
'Nol dodi y testyn i lawr,
Yn dwedyd pob peth amgylchiadol,
Heb son am ei destyn am awr;
Siarada mor ddiflas a phlentyn,
A thry wyn ei lygaid i'r nen,
Paham nad ai'r dyn at ei destyn,
A tharo yr hoel ar ei phen?
Aeth bardd i wneud pryddest anghomon,
A'r testyn oedd ci Ty'n y March,
Dechreuodd yng nghwymp yr angylion,
A'r cwn aeth at Noah i'r arch;
'Rol canu pum mil o linellau,
Gwnaeth bennill i'r ci yn y pen;
Paham na bae beirdd y pryddestau
Yn taro yr hoel ar ei phen?
Aeth llencyn am dro gyda'i gariad,
A soniai mor braf oedd yr hin,
A'i bod hi mor bethma yn wastad
Os na fyddai'r tywydd yn flin;
Pam na fuasai'r llelo anghelfydd
Yn gofyn addewid gan Gwen,
A siarad am fodrwy lle'r tywydd,
A tharo yr hoel ar ei phen?
Ebrill 19, '75.

CYMRU FU, A CHYMRU FYDD.

"I'r gad!" "I'r gad!" ddaw gyda'r gwynt
O faesydd gwaedlyd Cymru gynt,
I'r gad i gyd, i'r gad ar goedd,
Ar creigiau'n clecian gan y floedd;
Er treiglo am fil o oesau chwith,
Mae'r floedd "I'r gad" heb farw byth;
Mae fel yn adsain nos a dydd,
Mai "Cymru fu a Chymru fydd."
Ar faesydd gwaedlyd Cymru fu
Fe dyfa blodau cariad cu;
"I'r gad" yn awr heb saeth na chledd,
"I'r gad" dan faner glaerwen hedd;
Mae'r cleddyf dur mewn hun di-fraw,
Ac arfau rhinwedd ar bob llaw;
Pelydra heulwen hanner dydd
Ar Gymru fu a Chymru fydd.

PERTHYNASAU'R WRAIG.

Mi wnes beth unwaith yn fy oes
Na wnaf mo hono mwy,
Priodais gyda geneth lan,
Y lanaf yn y plwy;
Mi wyddwn eisoes fod gan hon
Berthnasau yn y byd,
Ond chydig a feddyliais am
Briodi'r rhain i gyd;
Dyna'i hewyrth, dyna'i modryb, &c., &c.
Pan b'wyf yn gofyn i ryw ffrynd
I droi i mewn i'r ty,
I gael ymgom am hanner awr
O hanes dyddiau fu,
Cyn dechreu siarad gylch y tan,
Na phrofi unrhyw saig,
Fe gymer imi hanner awr
I introdiwsio'r wraig.
Dyna'i hewyrth, &c.
Mi eis i'r dref yn fore ddoe
Yng nghwmni Sion y Graig,
A dyma'm hunig neges i
Oedd prynnu watch i'r wraig;
Pan rois yr oriawr yn ei llaw,
Dywedai 'mhen rhyw hyd,--
"A brynsoch chwi ddim pob 'i watch
I'm perthynasau i gyd?"
Prynnu watch i'r lot i gyd?
Wrth weld fod pethau'n troi fel hyn,
Dechreuais fynd o 'ngho',
A dywedais yn fy natur ddrwg
Na wnai hi byth mo'r tro;
Dechreuai 'i thafod hithau fynd
I drin a hel o hyd,
Ac nid yn unig hi ei hun,
Ond unai'r lleill i gyd.
"Peidiwch byth rhoi y goreu iddo," meddai ei thad, &c., &c.
Medi 13, '75.

GORNANT FECHAN.

(Goethe).
Gornant fechan, loew, dlos,
Treiglo'r wyt y dydd a'r nos;
Beth yw'th neges? Beth yw'th nod?
I ble yn mynd?--O ble yn dod?
"'Rwy'n dod dros greigiau erchyll draw,
'Rwy'n gadael dolydd ar bob llaw,
Gan dynnu darlun ar fy mron
O'r cwmwl gwyn a'r nefoedd lon.
"Yn llawn plentynaidd ffydd 'rwy'n mynd,
Ond i ba le, nis gwn, fy ffrynd;
Yr Hwn rodd fod i'm dafnau llaith
Yw'r Hwn a'm harwain hyd fy nhaith.
Mai 18, 1877.

Y DERYN YSGAFNAF YN UCHAF.

Mae ambell aderyn lled fychan,
Mae ambell aderyn lled fawr,
Mae rhai yn ehedeg yn uchel,
Ac ereill yn ymyl y llawr;
Ceir rhai ddigon ysgafn i hedeg
I ymyl y lleuad mor llon,
A'r lleill sydd yn llawer rhy drymion
I hedeg 'run dwylath o'r bron;
Ond dyma'r gwirionedd yn hanes y byd,
Mai'r deryn ysgafnaf yw'r uchaf o hyd.
Os gwelwch ysgogyn go wyntog
Yn chwyddo'n anferthol o fawr,
O'r braidd y mae gan ei ysgafnder
Yn cyffwrdd ei draed yn y llawr;
'Does ryfedd ei fod yn ymgodi
I fyny fel pluen i'r nen,
'Does ganddo ddim pwysau'n ei boced,
Na gronyn o bwysau'n ei ben.
Ond dyma'r gwirionedd, &c.
Ceir ambell i eneth benchwiban
Yn gwerthu gwyleidd-dra a moes,
Ysgafnder yw nodwedd ei meddwl,
Ysgafnder yw nodwedd ei hoes;
Nid rhaid iddi bluo ei bonnet,
Na llenwi ei gwallt gyda charth,
Mae digon o bluf yn ei henaid
I'w chario i amharch a gwarth.
Ond dyma'r gwirionedd, &c.
Edrychwch i'r ffair ac i'r farchnad,
Ysgafnder sydd yno'n mhob man,
Ynghanol brefiadau y lloiau
Mae'n codi yr uchaf i'r lan;
Mae Satan yn pluo adenydd
Rhai dynion i'w codi am awr;
Ond cofiwch mai eu codi mae Satan
Er mwyn cael eu taro i lawr.
Ond dyma'r gwirionedd, &c.
Medi 24, '75.

PURDEB.

(Arddull T. Carew).
Y sawl a fynn y rudd sydd goch
A gwefus gwrel, llygad du,
Y gwddw gwyn, y rhosawg foch
I gynneu fflam ei gariad cu,--
Daw amser hen i wywo'r gruddiau,
A diffydd fflam ei lygad yntau.
Ond y meddwl tawel, pur,
Gyda ffyddlon dwyfron lan,
Calon gara fel y dur,
Hyn sy'n cynneu bythol dan;
Lle na cheir hyn, peth eithaf annghall
Yw caru llygad, boch, na grudd, nac arall.

DDAW HI DDIM.

Yr o'wn i 'n hogyn gwirion gynt,
Yn destyn gwawd y plwy,
Awn gyda phawb yn llon fy hyttt,
Pwy bynnag fyddent hwy;
Ond os ceisia dyn fy nhwyllo'n awr,
'Rwy'n edrych llawn mor llym,
A rhoddaf daw ar fach a mawr
Wrth ateb,--"Ddaw hi ddim."
'Rwy'n adwaen ffrynd, a'i arfer yw
Benthyca pres yn ffol;
Ond dyna'r drwg, 'dyw'r llencyn gwiw
Ddim byth yn talu'n ol;
Ryw dridiau'n ol, mi cwrddais ef
Wrth fyned tua'r ffair,
Gofynnodd im' cyn mynd i'r dref
Am fenthyg tri a thair.
Ond os ceisia dyn, &c.
Fe ddwedodd cyfaill wrthyf fi
Y gwyddai hanes merch,
A wnaethai'r tro i'r dim i mi
I fod yn wrthrych serch;
Gwraig weddw oedd, yn berchen stor
O bopeth, heb ddim plant,
A chanddi arian lond dwy dror,
Ac yn ddim ond hanner cant.
Ond os ceisia dyn, &c.
Bum i ryw dro ers blwydd neu ddwy,
Ar bwynt priodi un;
Cyn mynd at allor llan y plwy,
Fel hyn gofynnai'r fun,--
"Mae gennyf fam a phedair chwaer
Sy'n anwyl iawn gen i,
A gaiff y rhain, wrth fegio'n daer,
I gyd fyw gyda ni?"
Ond os ceisia dyn, &c.

AWN, AWN I'R GAD.

(Canig gan Gwilym Gwent).
Awn, awn i'r gad,
Awn, awn yn awr;
Awn dros ein gwlad,
Awn, awn yn awr;
Calon y dewr
Gura yn gynt,
Baner a chledd
Sy'n chwyfio yn y gwynt;
Blaenor y llu
Sy'n arwain i glod,
A geiriau o dan
O'i enau yn dod.
Seren y goncwest sy'n gwenu fry
Dros ein hanwyl wlad;
Cael tynnu'r cledd sydd wledd i ni.

EISTEDD MEWN BERFA.

Tra'r oeddwn yn rhodio un diwrnod,
A'r haul yn tywynnu mor llon,
Mi ddaethum 'nol hir bererindod
I bentref ar ochr y fron;
A gwelwn ryw hogyn segurllyd
Yn eistedd mewn berfa fel dyn,
Gan wneud pob ymdrechion a allai
Ar ferfa i yrru ei hun;
Fel hwnnw yn union mae ambell i ddyn
Yn eistedd mewn berfa i yrru ei hun.
Os gwelwch chwi grefftwr go gywrain
Yn gadael ei fwyall neu'i ordd,
I sefyll tu allan i'w weithdy
I siarad a phawb ar y ffordd;
Neu holi am weithdai'r gymdogaeth
A hanes y gweithwyr bob un,
Heb feddwl am weithio ei hunan
Y gwaith sy'n ei weithdy ei hun;
Mae hwnnw'n lled debyg bob amser i ddyn
Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun.
Ceir ambell amaethwr dioglyd
Na welwyd erioed arno frys,
Mae'n well ganddo orwedd pythefnos
Na cholli dyferyn o chwys;
Ni chreda mewn cael ei gynhaeaf
Tra'r haul yn tywynnu ar fryn,
Ond creda mewn gadael ei feusydd
I ofal y gweision a'r chwyn;
Mae ffarmwr fel yna bob amser yn ddyn
Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun.
Pan welir masnachydd neu siopwr
Yn gadael eu masnach trwy'r dydd,
I ofal prentisiaid a chlercod,
Nid 'chydig y difrod a fydd;
Ond odid na chlywir yn fuan
Am feili yn dod i roi stop,
A'r writ mae'n ei roi i'r perchennog
Sy'n dweyd, "Aeth yr hwch trwy y siop;"
Mae siopwr fel yna bob amser yn ddyn
Sy'n eistedd mewn berfa i yrru ei hun.
Mawrth 2, '76.

Y FRWYDR.

Clywch, clywch
Y fyddin yn dod i'r gad,
Uwch, uwch
Y cenir i gledd ein gwlad;
Calon a chleddyf i gyd yn ddur,
Rhyddid yn rhoi
Gelynion i ffoi
O flaen ein gwyr.
Clywch y tabwrdd yn awr
Yn adseinio sydd,
Clywch floedd fychan a mawr
Wedi cael y dydd;
Mae gwawr eto'n dod yn y dwyrain dir,
Daw haul ar ein gwlad
Mewn hwyl a mwynhad,
Cawn heddwch cyn hir.

ENWAU.

Mi ganaf gan mewn cywair llon,
Os gwrendy pawb yr un,
Rhyw gan ar enwau ydyw hon,
Ond heb gael enw ei hun;
Mae rhai'n rhoi enwau mawrion, hir,
Ar hogiau bychain, man,
Ond dyma'r enwau sy'n mhob sir
Trwy Gymru yw Sion a Sian,--
Sian Jones, &c.
Mae'r Sais yn chwerthin am ein pen
Fod Taffy i'r back bones,
Am alw plant hen Gymru wen
Yn John a Jenny Jones;
Mae Smith a Brown a John a Jane
Yn Lloegr bron mor llawn,
Ac O! mae enwau'r Saeson glan
Ag ystyr ryfedd iawn.
'Roedd Mr. Woodside gynt yn byw
Yn High Street Number Ten,
Cyfieithwch hynny i'r Gymraeg
Mae'n Meistar Ochor Pren;
'Roedd Squiar Woodall gynt yn byw
Ym mhalas Glan y Rhyd,
Os trowch chwi hynny i'r Gymraeg,
Mae'n Sgwiar Pren i Gyd.
'Dwy'n hoffi dim o'r arfer hon
A geir yng Nghymru iach,
Rhoi'r taid yn Sion a'r tad yn John,
A'r wyr yn Johnny bach;
A galw mam y wraig yn Sian,
A'r wraig yn Jeanny ni,
A galw'r wyres fechan, lan,
Yn Jeanny No. 3.
Sian Jones, &c.
Chwef 10, '74.

YR HEULWEN.

(Y Gerddoriaeth gan D. Emlyn Evans).
Daw yr heulwen a'i gusanau,
Iechyd chwardda yn y gwynt,
Cymyl sydd fel heirdd lumanau
Bron a sefyll ar eu hynt;
Gawn ni fynd a'r haf o'r gweunydd,
Dwyn cusanau'r haul yn llu,
Ar ein bochau gwridog beunydd,
I addurno cartref cu?
Dringwn fry i gartre'r hedydd,
Chwarddwn, neidiwn megis plant,
Lle mae'r cwmwl yn cael bedydd
Yng ngrisialaidd ddwfr y nant;
Canwn gerddi a dyriau,
Casglwn flodau gwyllt y wlad,
Ac mi gadwn y pwysiau
Harddaf oll i'n mam a'n tad.

FFUGENWAU.

Ceir llawer i glefyd ar hyd ein hen wlad,
Rhai'n berygl ryfeddol a hir eu parhad;
Mae clefyd Eisteddfod yn dod yn ei dro,
A chlefyd excursions a chanu Soh, Doh;
Ond clefyd ffugenwau yw'r gwaethaf a gaed,
Mae'n drymach na chlefyd y genau a'r traed.
Mae Eos y Weirglodd ac Eos y Bryn,
Ac Eos yr Afon, ac Eos y Llyn,
A llewod ac arthod, eryrod a brain,
Ac ambell i fwnci ynghanol y rhain.
Os digwydd i hogyn wneud pennill o gan,
A'i anfon i'r print ac oddiyno i'r tan,
Dechreua droi gwyn ei ddau lygad i'r nen,
A'i fam yn ochneidio dan ysgwyd ei phen;
Rhaid ei gipio i'r orsedd pe bai yn ei glocs,
A'i blastro ag enw fel label ar focs.
Mae Eos y Weirglodd, &c.
Rhaid gwneud dyn yn bencerdd os gwelodd o don,
Mae Pencerdd Sir Benfro a Phencerdd Sir Fon,
Os delir i urddo fel hyn ym mhob sir,
Cawn afael ar Bencerdd Caergwydion cyn hir;
'Rwy'n cynnyg cael urddo hen geiliog fy nhad,
A'i alw yn bencerdd ceiliogod y wlad.
Mae Eos y Weirglodd, &c.
Y ffasiwn ddiweddaf a ddaeth fel mae son,
Dweyd enw a ffugenw a'r surname yn y bon,
Dweyd John Arfon Jones a dweyd Rhys Meirion Rhys,
A Lloyd Maldwyn Lloyd, gyda Prys Teifi Prys,
A chyda'r rhai yna daw Morris--
Llanfairmathafarn eithaf
Rhosllanerchrugog,
Llanrhaiadr Mochnant,
Hugh,
A William Carey Williams a Dafydd--
Llanfairpwllgwyngyll gogerychwyrndrobwll
Dysilio gogo goch
Pugh.
Ebrill 29, '76.

FY NGHALON FACH.

Fy nghalon fach, paham mae'r wawr
I'w gweld fel hwyr y dydd,
A'r hedydd llon uwchben y llawr,
A'i gan mewn sain mor brudd?
Ateba fy chwyddedig fron,--
Mae rhywun ffwrdd tudraw i'r donn.
Fy nghalon lawn, mae'r rhod yn troi,
A'r rhew a'r eira'n dod,
Er hyn mae gwg y gaea'n ffoi
Er oered yw yr od;
Mae'r gwynt yn sibrwd dros y ddol
Fod rhywun hoff yn dod yn ol.

TYSTEBAU.

Fu 'rioed y fath oes yn yr oesau,
A'r oes 'rydym ynddi yn byw,
Fe'i gelwir yn oes y peiriannau,
Ac oes rhoddi'r mellt dan y sgriw;
Mae'n oes i roi tanllyd gerbydau
I chwiban dan fynydd a bryn,
'Rwy'n meddwl mai oes y tystebau
Y dylid ei galw er hyn.
Os bydd dyn yn myned o'i ardal,
Rhaid rhoi iddo dysteb lled fawr,
Neu'n aros,--rhaid gwneud un llawn cystal
I rwymo ei draed wrth y llawr;
Rhoir tysteb am waith ac am ddiogi,
Rhoir tysteb i'r du ac i'r gwyn,
Ceir tysteb am gysgu'n y gwely,
Os pery tystebau fel hyn.
Gwneud tysteb o nod genedlaethol
A wneir i bob crwtyn yn awr,
Argreffir colofnau i'w ganmol,
A'i godi'n anferthol o fawr;
Mae'r gair cenedlaethol yn barod,--
A helpo y genedl, a'r gair,
Er mwyn cael cyfodi corachod
A llenwi eu llogell ag aur.
Mae mul yn hen felin Llanodol,
'Rwy'n cynnyg cael tysteb i hwn,
A honno'n un wir genedlaethol,
Am gario ar ei gefn lawer pwn;
Paham na chai dysteb ragorol
I'w rwystro am byth gadw nad?
Mae'r mul yn hen ful cenedlaethol,
A haedda ei weld gan y wlad.
Mae'n cario yr yd mor ddigyffro
Dros fynydd, a dyffryn, a dol,
Ac wedyn caiff eisin i'w ginio
I aros i'r blawd fynd yn ol;
Rhag c'wilydd i genedl y Cymry
Am fod eu syniadau mor gul,
Fe ddylid gwneud ymdrech o ddifri
I gychwyn y dysteb i'r mul.
Mae'i glustiau'n mynd lawr dros ei lygaid,
O! clywch ef yn codi ei gri,
Mae'n g'wilydd fod tad y ffyddloniaid
Heb dysteb pryd hyn ddyliwn i;
Oferedd im' fyddai ei ganmol,
Mae gweithio i'w wlad bron a'i ladd,
Rhowch dysteb i'r mul cenedlaethol,--
Nid ef fydd y cyntaf a'i ca'dd.
Ebrill 29, '76.

RHOWCH BROC I'R TAN.

Ar ol bod trwy'r dydd yn llafurio
A'r morthwyl, y trosol, neu'r rhaw,
A dioddef eich gwlychu a'ch curo
Gan genllysg a gwyntoedd a gwlaw;
'Rol cyrraedd eich bwthyn eich hunan,
Mor ddifyr fydd cau'r drws yn hy,
A'r oerfel a'r t'w'llwch tu allan,
A'r cariad a'r tan yn y ty;
Rhowch broc i'r tan,
A chanwch gan,
I gadw cwerylon o'r aelwyd lan.
Pan fyddo y gwr wedi monni,
A'i weflau'n lled lipa i lawr,
A'i lygaid gan dan yn gwreichioni,
A'i drwyn braidd yn hir ac yn fawr;
Edryched y gwragedd dan wenu,
A pheidiwch dweyd gair wrtho fe,
Daw amser a'r gwr at ei ganu,
A'r gweflau a'r llygaid i'w lle.
Rhowch, &c.
Os bydd rhai o'r gwragedd ar brydiau
Yn edrych yn sarrug a sur,
A'u llygaid fel cwmwl taranau
Yn lluchio y mellt at y gwyr;
Mae cariad yn well yn y diwedd
Ar ol bod mewn helbul ei hun,
'Dyw'r mellt sydd yn llygaid y gwragedd
Erioed wedi lladd yr un dyn.
Rhowch, &c.
Pan fyddo yr aelwyd yn oeri,
A'r anwyd yn dyfod i'r gwaed,
Pan fyddo y trwyn wedi rhewi,
A'r winrhew ar fysedd y traed,
Pan fo Catherine Anne wedi briwo,
A Dafydd y gwas ddim yn iach,
A'r babi yn nadu a chrio,
A'r gath wedi crafu John bach,
Rhowch, &c.
Ion. 3, '73.

MI SAETHAIS GAN.

(O Longfellow).
Mi saethais gan i fyny i'r ne',
A disgyn wnaeth nas gwyddwn ple,
Can's ni fu 'rioed un llygad llym
All ddilyn saeth ar hediad chwim.
Anadlais gan i wynt y ne',
Aeth gyda'r gwynt nas gwyddwn ple,
Oblegid nid oes llygad glan
All ddilyn llwybrau adlais can.
'Mhen blwyddau hir mewn calon pren
Y saeth a gefais ar ei phen,
A'r gan a gefais wedi mynd
A glynu i gyd mewn calon ffrynd.

WELWCH CHWI FI?

Mi glywsoch y testyn a welwch chwi V,
A chan arno hefyd cyn clywed f'un i;
Os ydyw y pwnc yn un diflas a thrist,
Rhoed pawb sy'n diflasu ei fys yn ei glust;
Os na fydd y gan o un diben i chwi,
Trowch yma a sylwch a welwch chwi V.
A welwch, &c.
Mae ambell i sgogyn yn tramwy trwy'r fro,
A balchder a hunan yn byw arno fo,
Mae starch yn ei gefn, a rhew yn ei warr,
A chuddia ei hunan yn mwg ei sigar;
Ysgydwa'i ffon geiniog wrth gerdded mewn bri,
A thala am fwg i ddweyd welwch chwi V.
A welwch chwi V,
Uchelgais ei fywyd yw "Welwch chwi fi?"
Mae hithau'r ferch ieuanc yn gwneud gwallt ei phen
Fel math o ryw golofn fry fry yn y nen,
A het ar ben hynny, a rhosyn ar hon,
A phluen ar hynny i fyny fel ffon;
Prin gwelir y top heb gael telescop cry',
Ond gwelir mai'r diben yw "Welwch chwi fi?"
A welwch chwi fi?
Arwyddair y ffasiwn yw "Welwch chwi fi?"
"A welwch chwi fi?" meddai llawer gwr mawr,
"A welwch chwi finnau?" medd y bychan ar lawr;
Mae hynny yn dangos yn amlwg, wrth gwrs,
Mai nid yn y dillad ac nid yn y pwrs
Mae gwreiddyn y drwg am gael dringo i fri,
Ond calon y dyn sy'n dweyd "Welwch chwi V?"
A welwch chwi V?
Y galon yw cartref y "Welwch chwi V,"
Gocheled y galon rhag "Welwch chwi V."
Awst 24, '72.

"WILLIAM."

" * * * Her lover died, and she wept a song over his grave."
Ddoi di yn ol ataf, William, William,
Gyda'r sirioldeb oedd gynt gennyt ti?
Mi fyddwn am byth iti'n berffaith ffyddlon,
William, William,--anwyl i mi.
Byth ni ro'wn air i dy ddigio, William,
Gwenwn fel angel o'r nef arnat ti;
Fel yr oe't ti pan yn gwenu yn hawddgar,
William, William,--anwyl i mi.
Cofio yr wyf am y dyddiau hynny,
Cyn dy gymeryd i'r nefoedd fry;
A wyddost ti 'nawr fel 'rwyf fi'n dy garu?
William, William,--anwyl i mi.
Nid oeddwn yn deilwng o honot, William,
Oer oedd fy nghalon yn ymyl d'un di;
Ond wedi dy golli, mae'r byd fel cysgod,
William, William,--anwyl i mi.
Estyn dy law i mi, William, William,--
Dyfera faddeuant fel gwlith oddi fry,
Mae nghalon yn gorwedd ym medd fy William;
William, William,--anwyl i mi.
[Y Melinydd. "'Roedd hen felinydd llawen iawn yn byw ar fin y nant,
Yn malu yd o fore i nawn i fagu gwraig a phlant."]

GEIRIAU LLANW.

Mae llawer o hen eiriau llanw
I'w cael ym mhob Llan a phob lle,
Yn debyg i bethma a hwnnw,
Fel tau ac fel tase, yn te,
Yn te meddai'r dyn sydd yn holi,
Fel tase, yn te, meddai'r llall,
Yn ddigon a gwneud dyn i daeru
'Dyw hanner y byd ddim yn gall.
Fel tau, fel tase, yn te,
Ofnatsen gynddeirus, yn te,
Peth hwnnw yw gweled rhai'n bethma
Fel tase, fel tau, yn te.
Ym Mon chwi gewch glywed miawn mynyd,
A llawer o siarad a stwr,
A phawb fel pe tae yn dywedyd
Cymraeg o'r "sort oreu reit siwr."
Pan ddeuwch chwi drosodd i Arfon,
Cewch "firi di-wedd" ym mhob lle,
A'r enw roir yno ar feddwon
Yw "chwil ulw beipan" yn te.
Fel tau, &c.
Os ewch tua Meirion a morol,
Cewch giasag i fynd ar ei thraws,
A ciariad, a ciarag, a cianol,
A ciamu, a ciamfa, a ciaws;
Ac yno fel pobman trwy'r gogledd,
Mae'r pla wedi taenu'n mhob lle,
Yn te ydyw'r dechreu a'r diwedd,
Yn te ydyw'r bethma yn te.
Fel tau, &c.
Os ewch chwi i lawr tua'r Deheu,
'Run siwt mae hi obry yn awr,
Mae pawb gan ta pun ar ei oreu
Yn dishgwl yn ffamws i lawr;
Mae pawb yno'n grwt neu yn grotan,
Yn whleia a'u giddil o hyd,
Wy'n sposo taw dyna y bachan
Sy'n cwnni yn awr yn y byd.
Fel tau, &c.
Chwef., '73.

GWRANDO'N RASOL AR EIN CRI.

(EMYN).
Groesaw'n awr! I Iesu'n brawd,
Ar liniau Mair mewn natur dyn,
Ac ar y groes cymerai'n gwawd
A'n beiau trymion arno'i hun;
Clyw ein gweddi, Geidwad cu,
Gwrando'n rasol ar ein cri.
Dros bechadur, rhedai'n lli
Waed a dwfr, o'i anwyl fron.
Dyma'r ffynnon! Boed i ni
Olchi'n beiau i ffwrdd yn hon;
Clyw ein gweddi, Geidwad cu,
Gwrando'n rasol ar ein cri.

Y MEDLEY CYMRAEG.

Fel 'roeddwn yn rhodio ar doriad y wawrddydd,
Pan ganai yr adar yn felus a llon,
Pan dyfai'r blodionos ar gloddiau y dolydd,
A'r gwlith ar eu gruddiau o amgylch Llwyn Onn,
'Roedd geneth yn godro yn ddifyr tan ganu,
A nesais i weled pwy ydoedd y ferch,
A gwelwn
Ferch Megan ei hun
Mor iached a'r rhosyn,
A'i llygaid yn dan o fywyd a serch;
'Roedd adar y llwyn
Yn tewi i wrando
Er clywed y gan a ganai fel
Hen ferch yn gwau ei hosan,
Ar hyd y nos,
A'i gweill bach glic glic yn clecian
Ar hyd y nos,
Canai'r gath ar ben y pentan,
Canai hithau ganig ddiddan,
Tra y canai'r gwynt tu allan
Ar hyd y nos;
Rhedai'i meddwl tra yn canu
At wroldeb yr hen Gymry
Pan oedd gwaedlyd y gyflafan,
Gan wyr Harlech ruthrent allan
Nes adseiniai bryniau anian
Floedd y rhain i'r gad;
Benyr grogent ar hen greigiau,
A neuaddoedd y mynyddau
Ail ddywedent y bloeddiadau
Dros ein hanwyl wlad;
Rhuthrent tua'r dyffryn,
Gledd yng nghledd a'r gelyn,
Gwyr mewn gwaedd oedd gylch eu traed
Ynghanol braw a dychryn,
Nes y
Gelyn giliai ar Nos Galan,
Fa la la, &c.,
You have read 1 text from Welsh literature.
Next - Gwaith Mynyddog. Cyfrol II - 2
  • Parts
  • Gwaith Mynyddog. Cyfrol II - 1
    Total number of words is 4676
    Total number of unique words is 1689
    44.6 of words are in the 2000 most common words
    65.5 of words are in the 5000 most common words
    72.3 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Mynyddog. Cyfrol II - 2
    Total number of words is 4953
    Total number of unique words is 1736
    44.0 of words are in the 2000 most common words
    64.8 of words are in the 5000 most common words
    72.4 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Mynyddog. Cyfrol II - 3
    Total number of words is 4666
    Total number of unique words is 1666
    43.7 of words are in the 2000 most common words
    66.6 of words are in the 5000 most common words
    73.5 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Gwaith Mynyddog. Cyfrol II - 4
    Total number of words is 3193
    Total number of unique words is 1281
    47.0 of words are in the 2000 most common words
    66.6 of words are in the 5000 most common words
    72.9 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.