Brethyn Cartref: Ystraeon Cymreig - 2

Total number of words is 5421
Total number of unique words is 1309
53.2 of words are in the 2000 most common words
72.8 of words are in the 5000 most common words
81.1 of words are in the 8000 most common words
Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
Meddyliodd am wneud y lle mor siriol ag y gallai ar ei gyfer erbyn y
deuai adref i gael te. Bu wrthi drwy’r prynhawn yn taclu pethau, ac
erbyn amser te, yr oedd y tŷ yn edrych yn siriolach lawer, er nad oedd y
dodrefn yn hollol wrth fodd Hannah.
Daeth Morris i nol ei de, ond yr oedd cyn ddistawed a chyn brudded ei
olwg ag o’r blaen. Ceisiodd Hannah fod yn siriol a siaradus, a gwnaeth
hynny i Morris edrych dipyn yn llonnach ei hun. Siaradodd dipyn â hi
hefyd, ond nid cymaint âg arfer. Yr oedd rhywbeth yn ddiau yn pwyso ar
ei feddwl o hyd. Aeth yn ei ol at ei waith, gan adael Hannah yn bur
ddigalon.
Ond wedi meddwl a meddwl, penderfynodd Hannah wneud un ymdrech arall.
Aeth ati i wneud y lle yn siriolach fyth, ac i ddisgwyl Morris adref i’w
swper.
Yr oedd Morris yntau wrthi gyda’i waith yn yr offis, ond yn dra
chythryblus ei feddwl o hyd am ryw reswm neu gilydd. Gofynnodd un o’i
gyd-glercod iddo yn chwareus,—
“Morris, be sydd arnat ti? ’Rwyt ti yn edrych yn ddigalon iawn. Wyt ti
yn edifaru priodi, dywed?”
Ceisiodd Morris chwerthin, ond nid atebodd air. Daeth amser cadw noswyl,
ac aeth Morris allan o’r offis. Cerddodd yn ei flaen ar hyd yr ystryd,
nid tua’i gartref, ond i’r cyfeiriad arall yn hollol.
Gwelodd y clerc y soniwyd am dano eisoes ef yn mynd, a meddyliodd am alw
ar ei ol a gofyn o ran direidi a ydoedd wedi anghofio ei fod wedi
priodi, ond meddyliodd nad oedd hynny ond peth ofer. Diau fod gan Morris
ryw neges yn rhywle, ac yr oeddynt wedi herian digon arno eisoes yn
ddiameu. Felly cafodd Morris lonydd y tro hwn, ac aeth yn ei flaen yn
araf drwy’r dref, ac allan i’r wlad. Pe buasai y clerc arall yn ei weled
yn mynd y ffordd honno, buasai yn synnu, hyd yn oed os na buasai yn
gofyn iddo i ba le yr oedd am fyned.
Yr oedd hi yn noswaith hyfryd ym mis Medi. Yr oedd y meusydd ŷd yn
wynion, a’r meusydd porfa yn wyrddion iawn. Yr oedd dail y coed eisoes
yn dechreu troi eu lliwiau, a rhyw dristwch distaw yn gorffwys ar
bopeth. Felly, o leiaf, y teimlai Morris. Cerddai yn ei flaen yn araf o
hyd, gan edrych o gwmpas yn awr ac eilwaith ac yna edrych ar lawr am yn
hir.
Daeth o’r diwedd at groesffordd, ac yno, heb betruso o gwbl, troes o’r
ffordd fawr, a cherddodd yn ei flaen yn araf fel o’r blaen hyd ryw hen
lôn las, a gwrych uchel o bobtu iddi.
Cerddodd yn ei flaen nes daeth at fwthyn bychan tô gwellt a gardd o’i
flaen.
Yr oedd penwar bychan yn agor o’r ffordd i’r ardd, a llwybr yn arwain at
ddrws y tŷ. Yr oedd yno ddigonedd o flodau tlysion o bob math yn yr
ardd, a hocys tal a blodau o bob lliw arnynt yn eu plith.
Heb sylwi ar y blodau na dim arall, agorodd Morris y penwar, aeth
drwodd, caeodd ar ei ol a cherddodd yn araf hyd y llwybr at y tŷ. Yr
oedd y drws yn agored. Aeth Morris i mewn heb guro, ac aeth ac
eisteddodd ar gadair wrth y tân, bron dan yr hen fantell fawr gysgodol.
Yr oedd y lle yn berffaith ddistaw. Nid oedd yno neb ond efô ei hun, na
neb yn agos—o leiaf, nid oedd swn neb i’w glywed nag yn y tŷ nag yn yr
ardd o gwmpas.
Dododd Morris bwys ei fraich ar y bwrdd a’i ben ar ei fraich, ac yn fuan
iawn, yr oedd yn cysgu yn drwm.
Ac eto, nid oedd neb wedi dyfod i’r tŷ, na swn neb i’w glywed o gwmpas.
Gallesid meddwl nad oedd neb yn byw yno, er fod yn y lle ddodrefn derw
da a glân, ac olion ddigon fod rhywun yn preswylio yn y bwthyn. Yr oedd
hyd yn oed y tegell yn canu ar y tân a’r gath yn canu ar yr aelwyd, y
naill a’r llall yn ddu ac yn canu yn y gwres.
Pa beth a ddaethai o’r trigolion? Yr oedd Morris yno ers awr bellach, ac
yn cysgu yn braf o hyd, gan anadlu’n drwm ac yn rheolaidd. Yr oedd y lle
wedi mynd yn dywyll erbyn hynny. Disgynnai tipyn o oleuni gwan o’r tân
ar lawr, lle’r oedd y gath yn cysgu ac yn canu, ond yr oedd Morris yn y
cysgod, fel nad allasai neb ei weled heb oleuo cannwyll neu rywbeth
arall. Ac yr oedd yn cysgu yn drwm o hyd.
Yn sydyn, daeth rhywun drwy’r penwar ac i fyny’r llwybr at y drws. A
daeth i mewn i’r tŷ heb guro ar y drws na dim arall, ỳn union fel y
gwnaeth Morris.
Dynes ieuanc ydoedd, a barnu wrth ei ffurf a’i cherdded.
Daeth i mewn i ganol y tŷ, edrychodd o’i chwmpas, yn enwedig ar y tân,
ac yna, tynnodd ei het oddi am ei phen, gan ryw fwmian canu yn isel.
Dododd yr het o’r neilldu ar y dresel dderw oedd gyferbyn â’r drws. Yr
oedd goleuni gwan y dydd wrth ddarfod yn disgyn ar y fan honno drwy’r
drws agored nes ei wneud yn ddigon goleu iddi weled pa beth yr oedd yn
ei wneud.
Yna, aeth y ddynes drwodd i’r ystafell gefn, ac yn fuan, daeth yn ei hol
a channwyll oleuedig yn ei llaw.
Yn sydyn, yng ngoleuni’r gannwyll, gwelodd y dyn oedd yn eistedd ar y
gadair a’i ben ar y bwrdd ac yn cysgu’n braf.
“Hylo,” ebr hi, “ydech chi wedi dwad yn ol yn barod, ac wedi cysgu
hefyd?”
Wrth ddywedyd, aeth yn ei blaen tua’r drws heb sylwi rhagor ar y dyn, ac
aeth drwy ddrws arall i’r siambr. Nid atebodd y dyn hi, a bu hithau am
dipyn yn y siambr. Toc, sut bynnag, daeth yn ei hol i’r gegin, a’r
gannwyll yn ei llaw.
“Cysgu’r ydech chi o hyd?” meddai hi, dipyn yn uwch nag o’r blaen.
Ar hynny, deffroes Morris, a chyfododd ei ben.
Yr oedd y ddau erbyn hyn wyneb yn wyneb a’i gilydd.
Edrychasant yn fud mewn syndod am rai eiliadau.
Y ferch a lefarodd gyntaf.
“Morris!” ebr hi, “be ydech chi yn ’i wneud yn y fan yma?”
“Elin!” ebr yntau, a’i lais yn gryg gan ryw deimlad, “be ydech chi yn ’i
wneud yma?”
“Ond yma yr ydw i yn byw, debyg iawn——.”
“Yma yr oeddech chi yn byw ers talwm, cyn i ni—cyn i chi fynd i ffwrdd,
a chyn i ni——.”
“Ie,” ebr hithau, “yma yr oeddwn i yn byw, ac yma yr ydw i yn byw eto er
pan gladded fy mam——”
“Er pan gladded ych mam? Pryd y bu hynny?”
“Yr wythnos ar ol i chi briodi a mynd i ffwrdd. Chlywsoch chi ddim? Mae
tair wythnos er hynny.”
“Ac ers pryd yr ydech chi yma?”
“Er hynny, wrth gwrs.”
“Ydech chi yn byw yma eich hun ynte?”
“Fy hun? Na, mae fy ngwr hefo fi, debyg iawn.”
“Eich gwr!”
“Ie siwr, ac mi fydd yma yn union deg, bellach!”
“Rhaid i mi fynd,” ebr Morris, gan godi ar ei draed yn frysiog.
“Maddeuwch i mi. Wn i ddim sut y dois i yma. Rhaid mod i yn breuddwydio
yn effro. Meddwl am yr hen amser, hwyrach. Ond rhaid i mi frysio adre.
Mi fydd fy ngwraig yn methu dallt lle’r ydw i! Nos dawch,—Elin!”
“Nos dawch, Morris!”
Ac aeth Morris ymaith, fel drychiolaeth. Ni ddywedodd wrth ei wraig ym
mha le y bu, ond ar ol y noswaith honno, nid oedd Morris mor ddistaw a
digalon ychwaith.


V. MAB Y MÔR.

UN o blant y môr oedd Sion Morys, a’r môr oedd ei hoffter pennaf. Nid
rhyfedd hynny ychwaith. Morwyr oedd y teulu er cyn cof. Yr oedd y môr
fel pe buasai’n galw arnynt yn blant, ac nid allent hwythau beidio âg
ufuddhau iddo. Yr oeddynt fel hwyaid am y dwfr. Yr oedd yn wybyddus fod
pum cenhedlaeth o feibion y teulu yn forwyr. Hwyrach fod rhagor. Yn wir,
mae’n dra sicr fod. Taid Sion Morys a holwyd gan y dyn hwnnw oedd yn
ofni’r môr.
“Ym mhle bu farw’ch tad?”
“Ar y môr.”
“A’ch taid?”
“Ar y môr.”
“A’ch hen daid?”
“Ar y môr hefyd, a’i hen daid ynte yr un fath.”
“Gwarchod ni!” meddai’r ofnus, “os gynnoch chithe ddim ofn marw ar y
môr?”
“Wel,” eb yr hen wr, “lle bu dy dad di farw ynte?”
“Wel, adref yn i wely, siwr.”
“A’th daid?”
“Yr un fath.”
“A’i daid ynte?”
“Ie, yr un fath.”
“Wel, ar f’engoch i, mi ddylet wneud rhywbeth! Oes arnat tithe ddim ofn
marw yn dy wely, dywed?”
Ar y môr mewn gwirionedd y bu farw y rhan fwyaf o hynafiaid Sion Morys,
ac yn y môr y claddwyd hwy. Yn wir, cyn belled ag yr oedd cof yn mynd,
un ohonynt yn unig a fu farw ar y lan ac a gladdwyd yn y ddaear, a thrwy
ddamwain y bu hynny hefyd.
Yr oedd mam Sion Morys yn ofni’r môr yn arw, ac am hynny, mynnodd fynd i
fyw yn ddigon pell oddi wrth y môr cyn geni Sion. Yr oedd hi am ddwyn
Sion i fyny i fyw ar y tir, ac yr oedd wedi gwneud cytundeb a’i gŵr cyn
ei briodi ei bod hi i gael byw ynghanol y wlad yn mhell oddi wrth y môr,
a bod y plant i gael eu dwyn i fyny i fyw ar y tir. Yr oedd yntau wedi
cytuno. Hwyrach ei fod yn teimlo yn sicr nad allai dim dorri ar yr
olyniaeth forwrol. Prun bynnag, ni bu iddo ef a’i wraig ond un mab, sef
Sion, ac yr oedd Sion yn ddeg oed cyn gweled y môr o gwbl. Gwir ei fod
er yn blentyn yn hoff iawn o’r dwfr, ac mai ei ddifyrrwch pennaf, pan
gai gefn ei fam, fyddai mynd i chware i’r llyn mynyddig oedd heb fod
ymhell oddi wrth ei gartref. Pan oedd o tua deg oed, sut bynnag, tybiodd
ei fam y gallai fentro ei gymryd gyda hi i Laneigion i gyfarfod ei dad.
Yr oedd ei dad heb fod adref ers tair blynedd, ac yr oedd y fam wedi
addo y cae Sion fynd i’w gyfarfod pan ddeuai. Daeth y llong o’r diwedd i
Laneigion, ac aeth Beti Morys a’i mab yno i’w chyfarfod.
Yr oedd Capten Morys yn awyddus iawn am weld ei fab, ond yr oedd yn
cofio yn dda fod Beti Morys yn ofni’r môr, a’i bod yn debyg o fod wedi
dwyn ei mab i fyny i’w ofni yr un fath â hi ei hun. Eto, pan welodd y
bachgen, deallodd rywfodd ar ei osgo mai mab ei dad ydoedd ac nid mab ei
fam. Nid ai Beti Morys i aros ar fwrdd y llong, ac felly yr oedd yn
rhaid cymryd lle iddi hi a’r bachgen mewn tafarn yn y dref.
Y bore ar ol glaniad y llong, yr oedd Capten Morys wedi mynd i’r dafarn
at ei wraig a’i fab. Bore Sul hyfryd ym mis Gorffennaf ydoedd, ac yr
oedd hyd yn oed Beti Morys yn teimlo y buasai tro ar lan y môr yn braf.
Aeth y tri ar y traeth, ac wedi cerdded o gwmpas nes blino braidd,
eisteddasant ar y tywod. Yn fuan iawn yr oedd y capten wedi cysgu yn yr
haul, a Beti Morys hithau yn teimlo yn bur swrth hefyd. Am Sion, yr oedd
o wedi synnu at y môr a’i ryfeddodau, ac yn gwylio’r bobl oedd yn
ymdrochi gyda dyddordeb anghyffredin.
Cysgodd y capten yn drwm, a hunodd Beti Morys hefyd, er gwaethaf ei
phryder am y bachgen. Toc, sut bynnag, deffroes Beti, a’r peth cyntaf a
wnaeth oedd edrych o’i chwmpas am Sion.
Nid oedd olwg arno yn unman.
Dychrynodd Beti Morys a deffroes ei gŵr.
“Huw!” ebr hi, “lle mae’r bachgen?”
Deffroes y capten yn araf.
“Be sydd?” meddai.
“Lle mae’r bachgen?” ebr Beti.
“Wn i ddim,” meddai’r capten, “ble’r aeth o ynte?”
“O! mae o wedi mynd i rywle. Rhaid i fod o wedi boddi! O, machgen annwyl
i, a ninne yn cysgu yn y fan yma!”
“Boddi? Choelia i fawr!” meddai’r capten. “Foddodd yr un o’r Morysiaid
erioed ond drwy i’r llong dorri arnyn nhw ynghanol y môr agored!”
“Ond ’does dim golwg am dano fo,” ebr Beti Morys, “i ble ’rae o? Rhaid i
fod o wedi boddi, Huw! Faddeua i byth i mi fy hun!”
“Gadewch i ni weld ynte,” meddai’r capten, gan godi yn araf ar ei draed
ac edrych o’i gwmpas.
Yr oedd Beti ar ei thraed eisoes, ac yn edrych yn graff yma ac acw. Toc,
dyma hi yn gweled rhywbeth ac yn rhoi ysgrech.
“Be sydd?” meddai’r capten.
“Dyma’i ddillad o!” ebr Beti.
A dyna lle yr oedd dillad Sion yn swp ar y traeth.
“O, wel, rhaid i fod o yn y dwr ynte,” ebr y capten, gan fynd ymlaen at
y dwr, a dal ei law uwchben ei lygaid ac edrych o’i gwmpas.
Yr oedd Beti wedi rhedeg ar ei ol, ac yn sefyll yn ei ymyl mewn ofn
mawr.
“Dacw fo,” meddai’r capten.
“Ym mhle?” ebr Beti.
“Ond yn y dwr.”
“Ond fuo fo ’rioed yn y dwr o’r blaen, mi foddiff yn siwr! Ewch i’w nol
o!” ebr Beti.
“Mae o’n nofio yn braf!” meddai’r capten.
“Nofio, a fynte erioed wedi gweld y môr o’r blaen?”
“Ie, siwr,” meddai’r capten, “ond oedd y Morysiaid i gyd yn medru nofio
o’u mebyd.”
Ac yr oedd Sion yn y dwfr yn nofio yn braf ers hanner awr. Pan gafodd
ddigon ar y dwfr, daeth i’r lan, a chafodd wers lem gan ei fam, a hanner
coron gan ei dad.
Ar ol y diwrnod hwnnw, ofer oedd ceisio cadw Sion o’r môr. Yr oedd yntau
wedi clywed galwad yr eigion, ac er holl ofal ei fam, yr oedd wedi
rhedeg i’r môr cyn ei fod yn ddeuddeg oed.
Ac yn y môr y bu ar hyd ei oes nes oedd yn hen ŵr trigain a phump oed.
Yr adeg honno, aeth drwy ryw anap yn rhy fusgrell i allu dilyn ei
alwedigaeth yn hwy.
Wedi’r anghaffael hwnnw, bu raid i Sion Morys roddi’r goreu i’r môr, a
chyda gofid mawr y gwnaeth hynny. Yr oedd ganddo ddigon o arian i fyw yn
gysurus o ran hynny, ond nid oedd gysur i Sion mewn byw ar y tir. Yr
oedd o erbyn hyn hefyd yn dra amddifad. Yr oedd ei wraig wedi marw ers
blynyddoedd, a’i unig fab wedi mynd i’r môr ac wedi colli yn rhywle ers
llawer o amser. Bu Sion heb wybod yr hanes am flwyddyn a hanner neu ddwy
flynedd ei hun, a phan ddaeth i dir o’r diwedd a chlywed fod llong ei
fab ar goll ers deunaw mis, edrychodd ar y môr yn hir ac yn graff,
sychodd ddeigryn o’i lygad ac yna ymostyngodd i’r dynged fel dyn, neu yn
hytrach fel morwr. Bu ar led ei hun am flynyddoedd wedi hynny, ond o’r
diwedd yr oedd yr hen forwr cadarn ar y lan, fel hen long wedi ei
dryllio a’i thaflu ar y traeth gan y tonnau i fynd yn ddarnau yn araf
deg dan bwys y tonnau a dannedd y graig.
Ac yn Llaneigion y glaniodd Sion Morys am y tro olaf. Cymerodd lety yno,
mewn tŷ ar lan y môr, lle’r oedd hen gydnabod iddo gynt yn byw. Yno yr
wyf fi yn ei gofio gyntaf, yn hen ŵr deg a thrigain oed, a’i wallt a’i
farf yn wyn fel y llin, neu yn hytrach
“Fel ewyn y donn pan fo’n creuloni,
A mawr rhuolwynt ar y môr heli.”
Yr oedd ei wyneb yn rhychau dyfnion, a’i ddwylaw yn gelyd fel haearn.
Cerddai yn araf, gan grymu tipyn ar ei gefn, a gellid ei weled bob dydd,
haf a gaeaf yr un fath, yn mynd am dro i lan y môr. Byddai yno yn
cerdded ar y traeth am oriau bob dydd, ni waeth pa fath dywydd a fyddai.
Yn wir, pan fyddai yn ystorm, byddai Sion Morys yno yn hwy na phan
fyddai yn braf, a pho ffyrnicaf yr ystorm, goreu yn y byd ganddo. Ar hyd
y blynyddoedd, ymdrochai bob bore, a nofiai o gwmpas am yn hir er
gwaethaf anystwythder ei goes a’i fraich chwith. Yn y prynhawn gwelid ef
ar y cei gyda hen forwyr ereill oedd wedi mynd yn rhy hen i ddilyn eu
galwedigaeth mwy, ond nad oeddynt mor hoff o’r môr ag ydoedd Sion Morys.
O leiaf, ni byddent hwy yn mynd i lawr i’r traeth bob dydd nag yn
ymdrochi fel y byddai ef. Llawer ysgwrs a fyddai rhyngddynt ar y cei yn
y prynhawn, a llawer son am hen gydnabod ac am bethau wedi digwydd ym
mhellter byd flynyddoedd lawer yn ol, pan oeddynt hwy yn eu pwmp.
Ond yr oedd Sion Morys yn mynd yn hŷn ac yn fusgrellach, ac o’r diwedd,
aeth i fethu ymdrochi mwy. Yr oedd hynny yn pwyso ar ei feddwl yn fawr,
ond yr oedd yn dal ati o hyd i ymlusgo i lan y môr bob dydd, ac yn aros
yno am oriau i wylio’r tonnau yn curo’n dragywydd ar y traeth. Un gaeaf,
clafychodd, a bu drwy’r gwanwyn heb fedru mynd i lan y môr. Yr oedd
hynny yn torri ei galon. Teneuodd yn arw, a chrymodd ei gefn, ac aeth
yntau yn ddistaw a hurt ei olwg. Ond fel yr oedd yr haf yn dynesu a’r
tywydd yn tyneru, dechreuodd Sion Morys godi allan drachefn, a cheisiodd
gerdded tua’r môr fel o’r blaen. Yr oedd y daith yn ormod iddo ar y
dechreu, ond o dipyn i beth medrodd un diwrnod yn nechreu haf gyrraedd y
traeth. Yr oedd y môr fel llyn a’r dwfr yn chware yn gynnes ar y traeth.
Tynnodd Sion Morys am dano, a cherddodd yn araf a musgrell i’r dwfr.
Daeth hen deimlad ei ieuenctyd yn ol iddo, ymollyngodd i’r tonnau gan
geisio nofio fel o’r blaen, ond yr oedd dyddiau nofio Sion Morys
drosodd.
Y noswaith honno cafwyd hyd iddo ar y traeth. Ac fel ei hynafiaid, bu
yntau, yr olaf o’r teulu, farw yn y môr.


VI. UN BREGETH GRUFFYDD JONES.

‟TOMOS DAFIS, gawn ni air gynnoch chi i ddechre ar achos Huw?” ebr
William Huws, y pen blaenor, ar ol i Dafydd Cae Crwn ddechre’r seiat yn
y Capel Bach.
Yr oedd yno gynhulliad mwy nag arfer, a theimlid dyddordeb anghyffredin
yn y materion oedd i ddyfod gerbron y noswaith honno.
Yr oedd Gruffydd Jones i gael dechre pregethu neu beidio, yn ol fel y
penderfynai yr eglwys, ac yr oedd Idwal Wmffre i gael ei dorri allan.
Teimlai y bobl oreu ddyddordeb mawr yn yr achos cyntaf, a’r bobl symol
a’r cnafon fwy o ddyddordeb yn yr ail.
Yr oedd Gruffydd Jones wedi cael cennad i roi pregeth o flaen y
gynulleidfa y nos Sul cynt, ac ar bwys barn y bobl am honno y dibynnai a
gai ei achos fynd ymhellach ai peidio.
Yr oedd Idwal Wmffre wedi meddwi a mynd i drwbl waeth na hynny a thynnu
un arall i’w ganlyn, ac am hynny yr oedd yn rhaid ei ddiarddel.
“Dowch, Tomos Dafis,” ebr William Huws.
Yr oedd Tomos Dafis yn hir yn dechreu.
Ond o’r diwedd, cododd ar ei draed yng nghornel y set fawr. Crydd
ydoedd. Dyn bychan ag wyneb gwastad, hir ganddo; barf wedi ei thorri yn
weddol ferr; ei wefus uchaf wedi ei heillio yn lân; llygaid gleision,
bychain; talcen mawr a choryn moel.
“Wel,” eb efô, ac yr oedd ei lais rhwng cras a pheidio, “wel, rhaid i mi
ddechre, mae’n debyg. ’Roeddwn i yn disgwyl fy somi yn Gruffydd, waeth i
mi ddeyd y gwir na pheidio. Welis i erioed ddim byd neilltuol iawn ynddo
fo, er fy mod yn gwybod i fod o yn fachgen da. Un o’r bechgyn hynny sy’n
edrych weithie yn rhy dda i ryw greadur fel fi.”
Tawodd Tomos Dafis am ennyd. Yn ei ieuenctid, bu Tomos yn dipyn o
fraddug, ond bellach nid oedd amheuaeth am ei dduwioldeb.
“Mi fydda i,” meddai yn araf, “yn meddwl y dyle pregethwr fod yn gwybod
tipyn am demtasiyne’r bobol y bydd o yn mynd i bregethu iddyn nhw. Ni
chlywis i erioed gystal pregethu â phregethu ambell i hen bechadur go
ffyrnig wedi cael gras. Ond waeth heb fynd y ffordd yna heno. ’Roeddwn i
yn disgwyl fy siomi yn Gruffydd. Ac mi ges fy somi hefyd.”
Tawodd Tomos Dafis drachefn, ac yr oedd pawb bron yn dal eu hanadl. Yr
oedd Gruffydd wedi plesio pawb. Sut yr oedd Tomos Dafis wedi ei somi?
Dyna oedd ym meddwl pob dyn a dynes yno.
“’Roeddwn i,” ebr Tomos Dafis, yn araf, “yn disgwyl rhyw bregeth dila,
fel fyddwn ni yn arfer gael gan y bechgyn yma, gan Gruffydd, ond yn lle
hynny mi gawsom bregeth addawol dros ben gynno fo.”
Anadlodd pawb yn rhydd, ac aeth Tomos Dafis yn ei flaen.
“Yr oedd yn dda dros ben gen i gael fy somi, ar yr ochor ore,” ebr efô.
“’Rydw i yn meddwl y gwneiff yr hogyn bregethwr da. Mae gynno fo feddwl
yn perthyn iddo fo’i hun, a dawn i’w ddeyd o. Waeth i mi heb ddeyd
chwaneg. ’Roedd llawer o feie yn i bregeth o, mae’n siwr. Cofia di
hynny, Gruffydd, machgen i, a phaid a mynd i feddwl gormod ohonot dy
hun. Ond ’rydw i yn deyd yn dy wyneb di mod i wedi mhlesio yn fawr yn dy
sylwade di nos Sul. O’m rhan i, mi gei fynd yn dy flaen.”
Galwodd William Huws ar un arall o’r blaenoriaid, ac ar amryw o’r
aelodau, a chafwyd gan bob un ohonynt air da iawn i bregeth Gruffydd
Jones. Yr oedd pawb wedi synnu ato, ac yn harod iawn i roi pob
cefnogaeth iddo. Yr oeddynt yn sicr y byddai yn bregethwr mawr, ac yr
oedd y meddwl am godi pregethwr mawr yn y Capel Bach wrth fodd yr eglwys
i gyd. Rhoed y peth ger bron, a chafwyd pawb yn unfryd dros roi cennad i
Gruffydd Jones fyned rhagddo yn ol rheolau y cyfundeb. Rhoes William
Huws, Tomos Dafis, John Jones, ac Edward Williams, y blaenoriaid; a John
Parry a William Ffowcs, y ddau a gredai y dylasent hwythau fod yn
flaenoriaid ers blynyddoedd, res o gynghorion buddiol iawn iddo ar
ddechreu ei yrfa. Ac yr oedd cyngor William Huws yn un nodedig, fel
arfer.
“Gruffydd, machgen i,” eb efô, “’roeddwn i yn teimlo wrth wrando arnat
ti nos Sul fod gen ti rywbeth i’w ddeyd, a’th fod ti yn i ddeyd o fel ti
dy hun, ac nid fel rhwfun arall. Wel, dal di at hynny. Dyna’r unig
ffordd onest. ’Dalla i ddim aros y bobl yma sy heb ddim i’w ddeyd eu
hunain, y rhai sy’n byw ar ryw hanner deyd meddylie pobol ereill. Cadw
atat dy hun, beth bynnag wnei di, mi fyddi yn rhywbeth felly, goelia i.”
Yr oedd Gruffydd yn wylo yn dost wrth wrando ar y cynghorion hyn. Tybiai
llawer mai ei grefyddolder oedd yn peri iddo wylo, a thybiai ereill ei
fod yn teimlo dros Idwal, oedd i gael ei dorri allan, canys yr oedd y
ddau yn hen gyfeillion, wedi chware gyda’i gilydd, ac yn cydweithio yn y
gwaith mwyn.
Bu distawrwydd, ac yna cododd William Huws ar ei draed yn sydyn.
“Mae gynnon ni ddyledswydd arall,” meddai, “ac un gas ydi hi. Ond rhaid
gwneud dyledswyddau cas. Dylem eu gwneud hwyrach yn fanylach a mwy
gofalus na rhai fel arall. Waeth heb fynd i son llawer am y peth. Yr
ydech chi i gyd yn gwybod yr hanes. Mae Idwal Wmffre, bachgen wedi ei
fagu yn y seiat yma, wedi troi yn fachgen drwg. Mae o wedi troi yn
feddwyn cyhoeddus, ac y mae o wedi tynnu un arall i’w ganlyn i drwbwl,
ond ’does a wnelo ni yma ddim â’r un honno. Yr oedden ni yn disgwyl
llawer oddiwrth Idwal. Gwyddem fod ei dad a’i fam yn dalentog, a chawsom
brofion ei fod ynte yn meddu doniau nodedig iawn. Clywais un o’n
gweinidogion sy’n fardd yn dywedyd y gwnai Idwal ei farc os ceisiai. Ond
y mae o ar y llwybr drwg. Mae’n boen i mi feddwl am i dorri fo allan, yn
boen fawr. Ond ’does dim arall i’w wneud. Rhaid i ddiarddel o.”
Cododd Tomos Dafis yn araf. Yr oedd golwg ryfedd ar ei wyneb.
“Wel,” meddai, “mewn un ffordd, mi faswn yn hoffi medru amddiffyn Idwal.
Mae o ar lawr, ac yr ydym ninnau yn mynd i’w gicio allan. ’Does mo’r
help. Rhaid gwneud hynny, Eto, cofiwn nad ydi’n dyledswydd ni ddim yn
darfod wedi i ni i droi o dros y drws. Gadewch i ni geisio i ddwyn o yn
i ol, ac os medrwn ni, mi wneiff well dyn, ’dydw i yn ame dim, na phe
base fo erioed heb lithro.”
Bu distawrwydd drachefn. Yr oedd Gruffydd yn wylo o hyd. Yr oedd Idwal
yn edrych yn graff ar Tomos Dafis, ond nid oedd ddeigryn yn ei lygad o.
Edrychai pawb arno yn eu tro, ond nid oedd Idwal yn newid ei wedd nac yn
gwingo o gwbl. Yr oedd rhai eisoes yn dechreu teimlo ei fod yn wyneb
galed, ac yn haerllug iawn, ac ereill yn rhyw gydymdeimlo âg o, ar eu
gwaethaf.
“Oes gen ti rywbeth i’w ddeyd dy hun, Idwal?” ebr William Huws.
“Oes, lawer,” ebr Idwal, “ond waeth i mi heb i ddeyd o chwaith.”
“Pam? Os oes rhywbeth ar dy feddwl di, dywed o.”
“Ie siwr,” ebr Tomos Dafis.
“Wel,” ebr Idwal, “waeth i mi heb geisio f’amddiffyn fy hun. ’Roeddwn i
ar fai. Ond nid ar gymaint o fai ag yr ydech chi yn meddwl ychwaith.
Mae’n ddrwg gen i am y meddwi, ond am yr helynt arall, wel waeth i mi
dewi.”
“Na waeth,” ebr William Huws, yn gwta. “Waeth i ni orffen. Gwnewch yr
arwydd arferol, bawb sydd o’r farn mai diarddel Idwal a ddylem.”
Cododd pawb ei law ond Gruffydd Jones.
“Gruffydd,” ebr William Huws, “mi welaf nad wyt ti ddim yn codi dy law.
Beth ydi dy reswm di?”
“Fedra i ddim!” meddai Gruffydd, a thorrodd i wylo yn chwerw iawn.
“Wel, mae’r ddau yn hen gyfeillion o’u mebyd,” ebr Tomos Dafis.
“Ydyn, ’does mo’r help,” ebr William Huws; “ond cymer di ofal,
Gruffydd!”
Mewn distawrwydd, torrwyd Idwal allan, a gorffennwyd y cyfarfod yn fyrr
gan William Huws ei hun.
Yr oedd hi wedi tywyllu erbyn i’r bobl fynd allan o’r capel. Ar ol
siarad â’r blaenoriaid a’i gael ei hun yn rhydd o’r diwedd, rhedodd
Gruffydd ar ol Idwal, a daliodd ef ar gwrr y dref yn mynd tua chartref
yn araf.
“Idwal,” eb efô, “fedri di fadde i mi, dywed?”
“Am be, Guto? Ti oedd yr unig un safodd drosta i.”
“Ie, ac mi ddylswn inne gael fy nhorri allan hefo thdi.”
“Pam, Guto?”
“Wel, mi wyddost!”
“Na wn i yn siwr. ’Dwyt ti ddim wedi meddwi na dim arall.”
“Nag ydw. Ond y bregeth!”
“O, paid a phoeni! Oni bae dy fod di mor gynhyrfus, mi wnaethet un lawer
iawn gwell dy hun.”
“Na wnaethwn byth.”
“O gwnaethet.”
“Choelia i ddim, Idwal. Ac ’rydw i wedi eu twyllo nhw i gyd! Mi
gyfaddefaf y cwbwl eto.”
“Paid a bod yn ffwl. Wnes i ddim ond taclu tipyn ar dy syniade di dy
hun, ac yr oedd yn hawdd i mi wneud hynny am fy mod i yn medru cadw fy
mhen yn oer. Taset tithe heb fod mor gynhyrfus mi faset yn medru gwneud
gwell gwaith na fi ar fy ngore.”
“Wyt ti yn siwr, Idwal?”
“O ydw, yn siwr iawn! Dal di ati hi. Wnes i ddim. Paid a bod yn ffwl
’rwan. ’Rwyt ti ar ben y llwybr.”
“Ond i ble yr ei di?”
“Wn i ddim. Hwyrach y do i yn fy ol eto. Pwy a ŵyr?”
“Ie, tyrd yn dy ol, Idwal!”
“Mi gawn weld. Hwyrach. Nos dawch, Guto.”
“Nos dawch, Idwal.”
Aeth blynyddoedd heibio, ac aeth Gruffydd yn ei flaen. Ond nid ymhell.
Siomodd bawb yn fuan. Ei bregeth gyntaf oedd ei un bregeth addawol. Cwbl
ddilewyrch oedd y lleill i gyd. Ni wnaeth argraff ar neb, a methodd a
gwneud dim ohoni yn ei arholiadau. Eto, rywfodd, cripiodd yn ei flaen
hyd ei lwybr, a daeth yn bregethwr o ryw fath er gwaethaf pob anhawster.
Ond ni byddai byth yn cael galwad, na llawer o gyhoeddiadau ychwaith.
Methiant truenus ydoedd, ac ni fedrodd neb byth egluro ei un bregeth
lwyddiannus.
Ac Idwal? Aeth o ddrwg i waeth.
Ar lan ei fedd, gweddiodd Gruffydd Jones nes oedd pawb yn wylo, ac aeth
a’i ddau blentyn bach amddifad gydag ef oddi yno i’w gartref ei hun.
“Chware teg iddo!” meddai ’r bobl.
_Vox populi, vox Dei!_


VII. YSMALDOD Y SAIS MAWR.

Y MAE llawer blwyddyn er pan ddaeth y Sais mawr i’r ardal i fyw. Pan
ddaeth, nid oedd ganddo syniad yn y byd am Gymru na dim Cymreig. Yn wir,
nid oedd ganddo y syniad lleiaf fod dim ar wyneb y ddaear yn bosibl ond
Sais a Saesneg. Os oedd ganddo ddamcaniaeth ar y pwnc o gwbl, gallem
feddwl mai Sais oedd yr hollalluog yn ol ei syniad ef, ac mai Saeson
oedd holl bobloedd y byd ar y dechreu, ond eu bod wedi dirywio a mynd yn
bechaduriaid mawr a mwy yn ol y radd yr ymbellhasant oddiwrth fod yn
Saeson. Felly, pan ddaeth i Gymru a chlywed iaith ddieithr iddo a gweled
arferion estron, deallodd ar unwaith fod y Cymry yn bechaduriaid aruthr.
Rhaid eu bod. Nid oedd dim arall yn bosibl. A hwy yn byw yn ymyl y
Saeson, eto dewisent fod yn Gymry. Yr oeddynt, y rhan fwyaf ohonynt, yn
medru rhywfaint o Saesneg, ac eto yn dewis siarad rhyw gawdel o
gydseiniaid, fel y tybiai ef, heb ystyr yn y byd iddynt, ac heb fod yn
bosibl eu swnio heb i ddyn dorri ei gorn gwddw neu roi ei dafod o’i le.
Wrth gwrs, penderfynodd y Sais ar unwaith nad oedd ystyr yn y byd i’r
geiriau a lefarai y Cymry wrth ei gilydd, ac nad oedd bosibl i neb
arall, yn enwedig Sais, fyth ddysgu arfer y geiriau diystyr hynny. Nid
oedd yno neb yn yr ardal, meddai, a allai siarad yn ddeallus ag o, am
nad oeddynt yn medru ond rhyw ychydig Saesneg, digon i son am y tywydd a
rhywbeth felly.
Daeth ar ddamwain i gyfarfod âg un neu ddau o Gymry yn medru Saesneg yn
weddol rigl, megis y doctor a’r offeiriad, ond yr oedd yn well hyd yn
oed gan y ddau hynny siarad Cymraeg, ac yr oedd hynny ynddo’i hun yn
profi fod y pechod gwreiddiol yn gryf ynddynt hwythau hefyd, er gwaethaf
y Saesneg a’r cwbl.
Ni buasai yntau yn gwneud rhyw lawer â’r ddau hynny mwy nag â’r bobl
gyffredin oni bae fod yn rhaid iddo fynd at y doctor weithiau, a bod yn
rhyw fath o raid arno yn ol ei syniadau crefyddol ymddwyn o leiaf
ychydig yn fwy cwrtais tuagat wr eglwysig. Felly ryw dro, pan oedd wedi
mynd at y doctor, aeth yn ymddiddan rhyngddynt ynghylch Cymru a
Chymraeg.
“Beth ydyw’ch enw chwi hefyd?” meddai wrth y doctor.
“Cadwaladr Gruffydd,” ebr y doctor.
“Gwared pawb!” ebr y Sais, “sut yr ydych yn medru byw gyda’r fath enw?”
“O, wel, yn eitha,” meddai’r doctor. “Pa beth yw’ch enw chwithau, syr?”
“Cuthbert Cathcart Strongbridge,” ebr y Sais.
“Felly, yn wir,” meddai’r doctor, “enw hynod beraidd a hawdd i’w
ddywedyd, yn siwr.”
“Ie,” ebr y Sais, “nid rhyw dwrr o gydseiniaid na fedr neb eu swnio.”
“Nage, ’ddyliwn,” ebr y doctor.
“Ond rhyw bobl heb ddim digrifwch nag ysmaldod yn eu natur ydych chwi, y
Cymry,” meddai’r Sais.
“Ie, mae’n debyg,” ebr y doctor.
“Ie yn siwr,” ebr y Sais, “yn siarad rhyw iaith mor ddychrynllyd fel hyn
o hyd. Fum i ’rioed mewn gwlad a’r bobl yn siarad cymaint o’u hiaith eu
hun ynddi.”
“Aie?” meddai’r doctor. “Fuoch chi ’rioed yn Lloegr?”
“’Rioed yn Lloegr? Wel do, debyg iawn. Lle’r ’rydech chi yn meddwl mod i
wedi bod, syr?”
“O, be wyddwn i,” ebr y doctor, “’roeddwn i yn meddwl—wel, wn i ddim
be, wrth gwrs. Mae arna i ofn mod inne, fel fy nghydwladwyr, yn amddifad
You have read 1 text from Welsh literature.
Next - Brethyn Cartref: Ystraeon Cymreig - 3
  • Parts
  • Brethyn Cartref: Ystraeon Cymreig - 1
    Total number of words is 5119
    Total number of unique words is 1404
    52.0 of words are in the 2000 most common words
    71.1 of words are in the 5000 most common words
    80.3 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Brethyn Cartref: Ystraeon Cymreig - 2
    Total number of words is 5421
    Total number of unique words is 1309
    53.2 of words are in the 2000 most common words
    72.8 of words are in the 5000 most common words
    81.1 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Brethyn Cartref: Ystraeon Cymreig - 3
    Total number of words is 5350
    Total number of unique words is 1350
    52.7 of words are in the 2000 most common words
    70.5 of words are in the 5000 most common words
    79.2 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Brethyn Cartref: Ystraeon Cymreig - 4
    Total number of words is 5414
    Total number of unique words is 1430
    50.4 of words are in the 2000 most common words
    70.6 of words are in the 5000 most common words
    79.9 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Brethyn Cartref: Ystraeon Cymreig - 5
    Total number of words is 5178
    Total number of unique words is 1492
    47.8 of words are in the 2000 most common words
    66.8 of words are in the 5000 most common words
    75.4 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.
  • Brethyn Cartref: Ystraeon Cymreig - 6
    Total number of words is 828
    Total number of unique words is 481
    48.5 of words are in the 2000 most common words
    67.1 of words are in the 5000 most common words
    73.6 of words are in the 8000 most common words
    Each bar represents the percentage of words per 1000 most common words.